Chwaraeon a Chymdeithasau
Gall ymuno â chymdeithas neu dîm chwaraeon eich agor chi i brofiadau newydd, sgiliau newydd ac yn bwysicaf oll, ffrindiau newydd.
Croeso i Fywyd Myfyrwyr Prifysgol Cychwyn ArniYn PDC, mae gennym ni gymuned glos o fyfyrwyr ac Undeb Myfyrwyr rhagorol a all eich helpu i fod yn rhan o gymdeithasau presennol. Os oes gennych chi ochr gystadleuol, mae gan Brifysgol De Cymru hefyd gymuned chwaraeon ffyniannus gyda dros 60 o dimau.
Clybiau a Chymdeithasau
Cwrdd â llawer o bobl newydd sydd â diddordebau cyffredin.
Datblygu sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a gallu ychwanegu at eich CV.
Clybiau a Chymdeithasau
I lawer o fyfyrwyr, mae ymuno â chymdeithas yn rhan enfawr o'u profiad ac yn gwneud eu profiad fel myfyriwr yn fythgofiadwy.
Gweld pob clwb a chymdeithas-
Cwrdd â llawer o bobl newydd sydd â diddordebau cyffredin.
-
Datblygu sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a gallu ychwanegu at eich CV.
Ffair y Glas
Gall ymuno â thîm chwaraeon, clwb neu gymdeithas yn y brifysgol fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, mwynhau eich hobïau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae gan ein timau chwaraeon, clybiau a chymdeithasau stondinau yn ein Ffair y Glas lle gallwch gofrestru ar gyfer treialon gyda'r timau chwaraeon ac ymuno â'r clybiau a chymdeithasau.