Paratoi am fywyd prifysgol
Gydag ychydig o baratoi ymlaen llaw, gall eich cyfnod pontio i fywyd prifysgol fod mor ddi-dor a di-straen â phosibl. Dilynwch ein cyngor i gael y gorau o'ch wythnosau cyntaf yn y brifysgol.
Croeso i Fywyd Myfyrwyr Prifysgol Cychwyn Arni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-getting-started.png)
Cyn i chi ddod
Efallai eich bod yn dechrau yn y brifysgol gyda chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes neu gyflwr iechyd hirdymor. Mae hyn yn cynnwys anableddau corfforol, synhwyraidd, iechyd meddwl neu anweledig, anawsterau dysgu penodol (e.e. dyslecsia) ac awtistiaeth. Mae gan y brifysgol wasanaethau cymorth sydd ar gael i holl fyfyrwyr PDC. Os ydych yn ansicr a allwch dderbyn cefnogaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Gwasanaeth Anabledd.
Os oes gennych hawl i Gyllid Myfyrwyr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno’ch cais i’r corff cyllido myfyrwyr perthnasol ac wedi darparu unrhyw dystiolaeth angenrheidiol. Gwnewch gais yn gynnar i roi digon o amser i Gyllid Myfyrwyr brosesu eich cais.
Efallai eich bod yn cymryd rheolaeth o’ch cyllid am y tro cyntaf yn eich bywyd a gall rheoli eich arian ymddangos yn amhosibl, ond gall creu cyllideb a dod o hyd i gyfrif myfyriwr da eich helpu i gadw ar ben eich benthyciad myfyriwr. Edrychwch ar ein cymorth costau byw am ragor o help a chyngor.
Byddwch yn derbyn ffurflen gais am lety drwy e-bost unwaith y bydd eich lle ym Mhrifysgol De Cymru yn dod yn un diamod (ac rydych yn gymwys i gofrestru ar eich cwrs).
Bydd angen cais dilys am fisa hefyd ar fyfyrwyr rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff ein llety ei ddyrannu, cliciwch yma.
Mae bod yn ymwybodol o'r holl frechiadau diweddaraf yn bwysig i bawb, ond hyd yn oed yn fwy felly os ydych yn fyfyriwr sy'n dechrau yn y brifysgol gan y byddwch yn cyfarfod, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio gyda'ch meddyg teulu cyn i chi fynd i'r brifysgol a oes angen unrhyw frechiadau arnoch.
Gadewch i ni ei wynebu, rydyn ni bob amser yn gadael rhywbeth gartref a dim ond yn sylweddoli pan mae'n rhy hwyr. Gall creu rhestr pacio eich helpu i deimlo’n fwy trefnus a (gobeithio) sicrhau nad ydych yn gadael unrhyw beth pwysig gartref! Rydyn ni wedi gwneud rhestr o beth i ddod a beth i beidio dod â chi pan fyddwch chi'n symud i mewn, felly mae croeso i chi edrych ar ein un ni am ysbrydoliaeth.
Pan Ffyddwch chi'n cyrraedd
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-preparing-for-univeristy.jpeg)
Mae gofalu amdanoch eich hun tra yn y brifysgol yn hollbwysig. Dylai pob myfyriwr PDC newydd gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC a meddyg teulu lleol.
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth am ddim i fyfyrwyr sy'n wynebu heriau yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.
Mae ein digwyddiadau croeso yn cynnwys llawer o weithgareddau pwysig a hwyliog sy'n ymroddedig i'ch helpu i ymgartrefu, dod i adnabod eich campws, cwrdd â chyd-fyfyrwyr a chael ymdeimlad o'r bywyd prifysgol sy'n eich disgwyl.
Byddwch hefyd yn gallu cael gwybod am ystod o wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr PDC, gan gynnwys Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, Gwasanaeth Caplaniaeth, y Gwasanaeth Lles, a mwy.
Ewch i un cyfeiriad a byddwch yn cerdded ar hyd traeth godidog, ewch i gyfeiriad arall a byddwch yn dringo mynydd hanesyddol.
Mae astudio ym Mhrifysgol De Cymru yn ffordd wych o archwilio rhai o ddinasoedd mwyaf De Cymru, beth am dreulio peth amser yn archwilio eich amgylchoedd newydd?
Mae eich amserlen sefydlu wedi'i chynllunio i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd ym Mhrifysgol De Cymru. Bydd yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau sy'n benodol i'ch cwrs yn ogystal â dangos y gefnogaeth sydd ar gael i chi trwy gydol eich astudiaethau.
Mae’n bosibl y bydd newidiadau bach yn cael eu gwneud i’ch amserlen, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn ôl ychydig cyn i chi ddechrau er mwyn osgoi cyrraedd yn hwyr neu golli allan ar weithgareddau.
Ymwelwch â'ch cyd-letywyr yn y gegin gymunedol neu'r ardaloedd byw a dewch i'w hadnabod. Darganfyddwch o ble maen nhw'n dod, a pha gwrs maen nhw'n ei astudio, a gofynnwch a hoffen nhw ddod gyda chi i rai o ddigwyddiadau'r wythnos groeso!
Ffordd hawdd o ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd yw gwneud eich ystafell newydd mor glyd a chysurus â phosibl.
Mae dod â rhai cysuron cartref fel gobenyddion a blancedi ac ychwanegu cyffyrddiadau addurniadol fel addurniadau a fframiau lluniau yn ychwanegu cyffyrddiad personol neis a gallai eich atgoffa o gartref.