Paratoi i Ddysgu

Sgiliau Astudio

Mae gan y gwasanaeth dîm o diwtoriaid i helpu myfyrwyr gyda'u hastudiaethau. Fel myfyriwr, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar eich pen eich hun fel rhan o grŵp (mae miloedd yn gwneud hynny!)

Paratoi i Ddysgu
Students studying on a laptop and talking.

Gweithgareddau

Mae’r gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio yn darparu cymorth astudio i holl fyfyrwyr PDC. Cwblhewch bob gweithgaredd yn yr adran hon i ddarganfod pam y dylech gael cymorth sgiliau astudio, pa fathau o gymorth sydd ar gael, a sut i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael.

Mae sgiliau astudio yn ddulliau a thechnegau hanfodol sy'n cynorthwyo dysgu effeithiol ac y gellir eu caffael neu eu haddysgu. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn datblygu strategaethau i helpu i astudio yn effeithiol; weithiau mae'n ymwneud yn syml â'u hadnabod a'u datblygu i'w defnyddio'n fwy effeithiol. Mae hefyd yn helpu i wybod pa safonau sy'n dderbyniol i berfformio'n dda yn y brifysgol.   

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan Sgiliau Astudio neu e-bostiwch [email protected]. 

Trwy annog amrywiaeth, cynhwysiant, a dysgu annibynnol, rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i wella perfformiad academaidd mewn nifer o ffyrdd. 

Ewch i wefan Sgiliau Astudio i ddarganfod rhai o’r ffyrdd y gallwn eich helpu: 

  • Ymuno â gweithdy sgiliau astudio; 
  • Trefnu apwyntiad un i un; 
  • Sicrhau ateb i ymholiad cyflym; 
  • Cael gafael ar gymorth mathemateg; 
  • Derbyn cefnogaeth ar gyfer anabledd dysgu penodol; 
  • Cwrdd â mentor. 

Mae gennym rai adnoddau a chanllawiau gwych yr ydym wedi'u llunio ar eich cyfer chi. Byddant yn eich helpu i ddechrau deall y gwahanol fathau o aseiniadau ac arholiadau a allai fod gennych, a'r sgiliau sydd eu hangen i'w pasio. 

Ailedrychwch ar ein gwefan Sgiliau Astudio a dod o hyd i ganllawiau astudio a gwybodaeth am y canlynol: 

  • Arddulliau cyfeirio PDC
  • Ysgrifennu academaidd
  • Technoleg gynorthwyol
  • Camymddygiad Academaidd 

Ydych chi'n meddwl y gallai fod angen cefnogaeth mathemateg ac ystadegau arnoch i fynd trwy'ch cwrs? Efallai y byddwch chi'n synnu!  

Cymerwch gip ar ein canllaw ‘Ddylwn i’ Ni Ddylwn i’? isod, a chofiwch efallai na fydd y sgiliau hyn yn ofynion eich cwrs, ond gallant fod yn ddefnyddiol i chi ar ddewisiadau llwybr gyrfa yn y dyfodol, felly beth am fanteisio ar y mynediad at gymorth arbenigol am ddim sydd ar gael yma? 

Maes astudio/Cyfadran Ydy neu Nac ydy?
Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth Mae angen mathemateg ar ryw ffurf ar y mwyafrif o gyrsiau yn y maes hwn.
Diwydiannau Creadigol Ni fydd mwyafrif y cyrsiau'n cynnwys elfen fathemateg ffurfiol, ond byddwch yn wyliadwrus o elfennau cudd: er enghraifft, mae Busnes Cerddoriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i fathemateg sylfaenol allu cyfrifo gwariant a chostau busnes ac ati. 
Gwyddorau Bywyd ac Addysg Nyrsio - ydy, mae Meddyginiaeth Ddiogel yn gofyn am gyfradd basio 100% ac mae'n cynnwys cyfrifiadau mathemateg.

Dal ddim yn siŵr? 

Yn aml mae angen gwybodaeth am fathemateg ac ystadegau ar gyfer ymchwil mewn AU. Edrychwch ar eich disgrifiadau modiwl a'ch llawlyfr cwrs/cwricwlwm am unrhyw sôn am ymchwil annibynnol neu fodiwlau penodol ar ddulliau ymchwil. 

Ailedrychwch ar ein gwefan Sgiliau Astudio a darganfod pa ganllawiau astudio a gwybodaeth sydd gennym ar y canlynol: 

  • Paratoi ar gyfer Cyfrifiadau Cyffuriau; ac 
  • Ystadegau. 

Mae tua 5% o'r holl fyfyrwyr yn mynd i AU ag Anhawster Dysgu Penodol (SpLD), fel dyslecsia. Derbyniodd dros 50% o'r rhai a gefnogwyd ar gyfer dyslecsia eu diagnosis cyntaf tra yn y Brifysgol. 

Felly, mae'n eithaf cyffredin i fyfyrwyr ddarganfod bod angen cymorth dysgu ychwanegol arnynt yn y brifysgol. Os nad ydych yn siŵr a oes angen cymorth mwy arbenigol arnoch, rhowch gynnig ar y Sgriniwr Quickscan a all nodi arwyddion dyslecsia neu SpLDs eraill.  

I ddarganfod mwy am sgrinio a'r cymorth a gynigir, neu i drefnu apwyntiad, edrychwch ar ein tudalen Sgrinio ac Asesiadau Dyslecsia neu e-bostiwch [email protected]. 

Sori, nid pizza mohono! Ond, rydym wedi cynhyrchu llyfryn gwych sy'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar gyfer astudio ar lefel AU. Darganfyddwch yr hyn y mae myfyrwyr, mentoriaid a darlithwyr yn ei ddweud am yr hyn y mae angen i chi ei wybod wrth i chi gychwyn ar eich taith PDC: Cychwyn yn iawn! (Llyfryn) 

Ar gyfer pob porwr arall, lawrlwythwch: Cychwyn yn Iawn - Trawsgrifiadau fideo.docx 

Os ydych chi'n cael anhawster cyrchu'r llyfryn Start Right, e-bostiwch [email protected].