Ymrestru
Cyn dechrau astudio ym Mhrifysgol De Cymru, bydd angen i chi gwblhau'r broses gofrestru. Bydd y canllawiau isod yn gwneud hyn mor llyfn â phosibl.
Canllaw ymrestruMyfyrwyr y DU
Yma byddwch yn cael mynediad at eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Fformat eich cyfeiriad e-bost myfyriwr fydd rhif myfyriwr ac yna @students.southwales.ac.uk e.e. [email protected]
Unwaith y byddwch wedi sefydlu eich cyfrif TG Prifysgol, gallwch fewngofnodi i'n gwasanaeth cofrestru ar-lein. Dim ond eich rhif adnabod PDC a'ch cyfrinair sydd ei angen arnoch chi.
Mae cerdyn adnabod SMART Myfyriwr Prifysgol De Cymru yn amlbwrpas ac yn gweithredu fel eich cerdyn adnabod Prifysgol, cerdyn Llyfrgell, cerdyn Mynediad Drws ac yn caniatáu mynediad i chi at wasanaethau a chyfleusterau'r Brifysgol.
Myfyrwyr UE / Rhyngwladol
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio ym Mhrifysgol De Cymru am y tro cyntaf, neu os ydych wedi astudio gyda ni o'r blaen ac yn symud ymlaen i gwrs newydd, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau hyn cyn cofrestru ar-lein.
Dilynwch y canllaw hwn os ydych yn cyrraedd PDC fel myfyriwr newydd.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, neu'n fyfyriwr sy'n destun rheolaeth fewnfudo, yn dychwelyd i gofrestru ar flwyddyn nesaf eich cwrs ym Mhrifysgol De Cymru, neu mae'n ofynnol i chi ailadrodd elfennau o'ch cwrs, cyn y byddwch yn gallu i gofrestru ar-lein rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn.
Er mwyn cyflawni ein dyletswyddau noddi Haen 4, rhaid i Brifysgol De Cymru ymgymryd â phrosesau a gweithdrefnau penodol wrth gofrestru myfyrwyr rhyngwladol o’r tu allan i’r UE. Ewch i'n tudalen Monitro Presenoldeb i gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau monitro presenoldeb myfyrwyr Haen 4.