Yn dangos 362 cwrs
Addysg AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - MA

Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y mae anawsterau dysgu neu ymddygiad yn effeithio ar eu datblygiad.


Addysg AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - PGCert

Bydd y Dystysgrif i Raddedigion mewn AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) o ddiddordeb i bobl sydd am wella a meithrin eu gwybodaeth ym maes anghenion addysg arbennig/anghenion dysgu ychwanegol.


Addysg AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - PGDip

Mae'r Diploma i Raddedigion mewn AAA/ADY yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar ddyslecsia ac ymarfer cynhwysol, yn ogystal â chyfle i ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.


Addysg AAA/ADY (Awtistiaeth) - MA

Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn unigryw yng Nghymru. Dyma'r unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol.


Addysg AAA/ADY (Awtistiaeth) - PGCert

Cwrs AAA/ADY Prifysgol De Cymru sy'n cynnig yr unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â llawer o fyfyrwyr rhyngwladol.


Addysg Addysg - BA (Anrh)

Agorwch ddrysau i gyfleoedd gyrfa yn datblygu plant mewn amgylcheddau cyffrous sy’n amrywio o chwaraeon i amgueddfeydd, ac o sŵau i’r awyr agored, a mwynhewch lwybr di-dor i fyd addysg.


Addysg Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) - MA

Mae'r cwrs MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) wedi hen ennill ei blwyf gan ei fod yn cael ei gynnig ers 1995, a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu anghenion newidiol y cyfranogwyr.


Addysg Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) - PGCert

Nod y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) yw datblygu gweithwyr proffesiynol gwybodus a myfyriol sy'n gallu defnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith ar y gweithle ac ar ddeilliannau'r plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.


Addysg Addysg (Cymru) - MA

Bydd y cwrs MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn sicrhau y bydd pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o safon uchel i gyfoethogi ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud â gwaith ymchwil, a gwella ei ymarfer proffesiynol.


Addysg Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i anelu at weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, ar bob lefel, sy’n dymuno canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY).