Yn dangos 362 cwrs
Y Gyfraith Ymarfer Cyfreithiol - LLM

Mae’r LLM yn cynnwys rhaglen astudio ac asesu wedi'i chymeradwyo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y mae’n rhaid i chi ei chwblhau os ydych am gymhwyso fel cyfreithiwr. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o gyfraith busnes ac eiddo, ymgyfreitha a gweithdrefnau llys, ac yn gwella eich gallu i gymryd rhan mewn astudiaeth academaidd ac ymchwil feirniadol drwy brosiect ymchwil, gan eich helpu i ddatblygu'r sgiliau proffesiynol a myfyriol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer.


Y Gyfraith Ymarfer Cyfreithiol (ACC) - LLB (Anrh)

O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn datrys problemau cyfreithiol go iawn yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (ACC). Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu datblygu yn golygu y byddwch yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr gan gwmnïau cyfreithiol a byddwch yn cael dechrau da fel gweithiwr proffesiynol cyfreithiol iau.


Seicoleg Ymarfer Dadansoddi Ymddygiad dan Oruchwyliaeth - PGDip

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o gymhwyso strategaethau asesu dadansoddol ac ymyrraeth ymddygiad yn foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.


Nyrsio Ymarfer Presgripsiynu Annibynnol - PGCert

Datblygwyd y cwrs hwn i adlewyrchu'r lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Rhagnodwr Annibynnol. Hanfod y cwrs hwn yw y bydd fferyllwyr, bydwragedd, nyrsys, parafeddygon a ffisiotherapyddion yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â'i gilydd a'u hasesu gan ddefnyddio'r un meini prawf asesu.


Nyrsio Ymarfer Proffesiynol - MSc

Mae'r cwrs MSc Ymarfer Proffesiynol yn canolbwyntio ar y datblygiad proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer a rolau arwain lefel uwch. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'i gynllunio i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, i ennill swyddi o fewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn fyd-eang.


Y Gyfraith Ymarfer Proffesiynol (ACC) - LLM

Mae’r llwybr LLM mewn Ymarfer Proffesiynol gydag Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn rhoi’r cyfle i chi baratoi ar gyfer yr SQE1, cael cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol SQE2, a chael rhywfaint o Brofiad Gwaith Cymwys (QWE). Yn y broses, byddwch yn ennill cymhwyster LLM a gydnabyddir yn rhyngwladol.


Nyrsio Ymarferydd Clinigol Uwch - MSc

Bydd yr MSc Ymarferydd Clinigol Uwch yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ar lefel uwch, a thrwy hynny fodloni'r gofynion a bennir gan yr Asiantaeth Arweinyddiaeth ac Arloesi Genedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd (NLIAH).


Y Gyfraith Ymchwil Cyfreithiol - LLM

Mae'r cwrs hwn yn gyfle i fyfyrwyr sy'n dymuno cychwyn PhD ond nad ydynt yn hollol barod gan adeiladu sylfaen gadarn yn y maes. Bydd myfyrwyr o'r DU a thu hwnt yn gallu manteisio ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol o wahanol awdurdodaethau.


Gwyddorau Fforensig Ymchwiliad Fforensig - BSc (Anrh)

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol mewn archwilio lleoliadau troseddau cyffredin, dadansoddi tystiolaeth fforensig ac efelychiadau llys barn Byddwch yn dysgu am y strwythur a’r prosesau sy’n rheoleiddio’r system cyfiawnder troseddol, a’r gyfraith sy’n gysylltiedig ag ymchwilio troseddol. Byddwch yn cael profiad o ymchwiliadau wedi’u hefelychu yn ein Cyfleuster Hyfforddi Lleoliad Trosedd, yn amrywio o fwrgleriaethau domestig ac archwiliadau cerbydau i achosion mwy cymhleth fel tanau bwriadol a dynladdiad. Byddwch yn astudio sawl achos ac yn dysgu am y technegau fforensig a ddefnyddir, gan fabwysiadu agwedd feirniadol i werthuso a phwyso a mesur dulliau fforensig.


Gwyddorau Fforensig Ymchwiliad Fforensig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth wyddonol cyn mynd ymlaen i feithrin sgiliau ymarferol mewn archwilio lleoliadau troseddau cyffredin, dadansoddi tystiolaeth fforensig ac efelychiadau llys barn. Byddwch yn dysgu am y strwythur a’r prosesau sy’n rheoleiddio’r system cyfiawnder troseddol, a’r gyfraith sy’n gysylltiedig ag ymchwilio troseddol. Byddwch yn cael profiad o ymchwiliadau wedi’u hefelychu yn ein Cyfleuster Hyfforddi Lleoliad Trosedd, yn amrywio o fwrgleriaethau domestig ac archwiliadau cerbydau i achosion mwy cymhleth fel tanau bwriadol a dynladdiad. Byddwch yn astudio sawl achos ac yn dysgu am y technegau fforensig ynghlwm wrthynt, gan fabwysiadu agwedd feirniadol i gloriannu a phwyso a mesur dulliau fforensig.