Yn dangos 363 cwrs
Addysg AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - MA

Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y mae anawsterau dysgu neu ymddygiad yn effeithio ar eu datblygiad.


Addysg AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - PGCert

Bydd y Dystysgrif i Raddedigion mewn AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) o ddiddordeb i bobl sydd am wella a meithrin eu gwybodaeth ym maes anghenion addysg arbennig/anghenion dysgu ychwanegol.


Addysg AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - PGDip

Mae'r Diploma i Raddedigion mewn AAA/ADY yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar ddyslecsia ac ymarfer cynhwysol, yn ogystal â chyfle i ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.


Addysg AAA/ADY (Awtistiaeth) - MA

Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn unigryw yng Nghymru. Dyma'r unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol.


Addysg AAA/ADY (Awtistiaeth) - PGCert

Cwrs AAA/ADY Prifysgol De Cymru sy'n cynnig yr unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â llawer o fyfyrwyr rhyngwladol.


Addysg Addysg - BA (Anrh)

Agorwch ddrysau i gyfleoedd gyrfa yn datblygu plant mewn amgylcheddau cyffrous sy’n amrywio o chwaraeon i amgueddfeydd, ac o sŵau i’r awyr agored, a mwynhewch lwybr di-dor i fyd addysg.


Addysg Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) - MA

Mae'r cwrs MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) wedi hen ennill ei blwyf gan ei fod yn cael ei gynnig ers 1995, a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu anghenion newidiol y cyfranogwyr.


Addysg Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) - PGCert

Nod y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) yw datblygu gweithwyr proffesiynol gwybodus a myfyriol sy'n gallu defnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith ar y gweithle ac ar ddeilliannau'r plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.


Addysg Addysg (Cymru) - MA

Bydd y cwrs MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn sicrhau y bydd pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o safon uchel i gyfoethogi ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud â gwaith ymchwil, a gwella ei ymarfer proffesiynol.


Addysg Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i anelu at weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, ar bob lefel, sy’n dymuno canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY).


Addysg Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno canolbwyntio ar astudio arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn y system addysg.


Addysg Addysg (Cymru): Cwricwlwm - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio i ddyfnhau dealltwriaeth o theori’r cwricwlwm, cynllunio, gweithredu ac arweinyddiaeth ym mhob rhan o’r system addysg.


Addysg Addysg (Cymru): Cydraddoldeb mewn Addysg - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn hyrwyddo tegwch ac archwilio ffyrdd o gefnogi dysgwyr sy’n cael eu heffeithio gan agweddau ar annhegwch.


Addysg Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - TAR

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sy’n hyderus gydag ysgrifennu addysgol neu gymdeithasegol, neu rai a fydd efallai â diddordeb mewn ennill MA mewn Addysg yn ddiweddarach.


Addysg Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - ProfCE

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc galwedigaethol a thechnegol fel Gwallt a Harddwch, Adeiladu, Gwaith Saer a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur.


Addysg Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - ProfGCE

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc penodol fel Celf a Chynllun, y Celfyddydau Perfformio, Mathemateg, Chwaraeon, Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Y Cyfryngau a TG.


Nyrsio Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol - PGCert

Mae';r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi'i chynllunio'n benodol i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig i ddatblygu a mabwysiadu rôl addysgol mewn pob math o leoliadau – rhai academaidd a rhai seiliedig ar ymarfer.


Addysg Addysg Blynyddoedd Cynnar (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs BA (Anrh) Blynyddoedd Cynnar (Atodol) yn archwilio arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a gwybodaeth ddamcaniaethol, a magu profiad go iawn mewn lleoliadau addysg lleol.


Addysg Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio yn unol â gwaith ymchwil blaengar a'r arferion cyfredol, gan sicrhau y bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i allu cael eich cyflogi yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar.


Nyrsio Addysg Feddygol - MSc

Mae'r cwrs MSc mewn Addysg Feddygol yn cynnig dilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig i unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol a chymhwyso addysg feddygol.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Addysg Feddygol - PGDip

Bydd y cwrs Addysg Feddygol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol, a’r gallu i gymhwyso addysg feddygol. Ar ôl ei gwblhau, bydd graddedigion yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion penodol sy’n flaenllaw mewn theori ac ymarfer ym maes addysg feddygol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Addysg Gweithwyr Cymorth Nyrsio Gofal Iechyd - CertHE

Mae'r cwrs Tystysgrif AU hwn mewn Nyrsio Gofal Iechyd i Gweithwyr Cymorth yn cynnig llwybr datblygu gyrfa i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCNSW) sydd, ar ôl graddio, yn eich galluogi i wneud cais am Swyddi Ymarferydd Cynorthwyol Band 4 neu i barhau â'ch datblygiad proffesiynol.


Addysgu Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Cymraeg - BA (Anrh)

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a’r cymwyseddau proffesiynol sy’n angenrheidiol er mwyn dod yn athro hynod effeithiol.


Addysgu Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Cymraeg - TAR

Cyflwynir y cwrs hwn yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn athro hynod effeithiol.


Addysgu Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Saesneg - BA (Anrh)

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a’r cymwyseddau proffesiynol sy’n angenrheidiol er mwyn dod yn athro hynod effeithiol.


Addysgu Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Saesneg - TAR

Cyflwynir y cwrs hwn trwy gyfrwng y Saesneg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn athro hynod effeithiol.


Addysg Addysgu mewn Addysg Uwch - PGCert

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ym maes Addysg Uwch.


Addysgu Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (arbenigedd ESOL) - PGCert

Mae'r dyfarniad wedi'i strwythuro i hwyluso dysgu hyblyg a datblygiad proffesiynol. Bydd pob un o’r tri modiwl yn cynnwys o leiaf un sesiwn o addysgu wyneb yn wyneb ar ein Campws yng Nghaerdydd.


Addysg Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) - MA

Nid yw'r rhan fwyaf o athrawon Saesneg yn siaradwyr Saesneg brodorol. Bydd ein graddedigion yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau proffesiynol a diwylliannol. Mae ein harweinydd cwrs, Dr Rhian Webb, yn arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddysgu Saesneg yng nghyd-destun byd-eang heddiw.


Amgylchedd Adeiledig Amgylchedd Adeiledig - HNC

Hogwch eich sgiliau a datblygwch wybodaeth hanfodol ym maes adeiladu, lle byddwch chi'n dysgu popeth, o adeiladu ac adnewyddu i ddymchwel. Mae'r HNC rhan-amser hwn wedi'i gynllunio i gyd-fynd â gwaith ac mae'n cynnwys y mewnwelediadau diweddaraf i’r sector gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd y diwydiant.


Animeiddio a Gemau Animeiddio - MA

P’un a ydych am fod yn Animeiddiwr 2D, yn Rigiwr CG, neu’n Fodelwr Stop-Symud, mae ein cwrs yn darparu profiad dysgu cynhwysfawr a throchol a fydd yn dyrchafu’ch sgiliau presennol, yn rhoi’r offer arloesol i chi ailddiffinio’r ffiniau ar gyfer adrodd straeon, ac yn dod â’ch gweledigaethau artistig yn fyw.


Animeiddio a Gemau Animeiddio (2D a Stop-Symud) - BA (Anrh)

Darganfyddwch eich llais creadigol a pharatoi ar gyfer gyrfa mewn animeiddio 2D a stop motion trwy brosiectau ymarferol ac ymweliadau stiwdio ledled y DU.


Animeiddio a Gemau Animeiddio Cyfrifiadurol - BA (Anrh)

Adeiladwch eich sgiliau a chreu eich dyfodol yn y diwydiannau ffilm, teledu, effeithiau gweledol a gemau gyda'r cwrs ymarferol a thechnegol hwn.


Cyfrifeg a Chyllid Archwilio Fforensig a Chyfrifeg - MSc

Mae cwrs Meistr mewn Archwilio Fforensig a Chyfrifyddu uchel ei barch Prifysgol De Cymru – yr unig gwrs o’i fath yn y DU – wedi bod ar waith ers dros ddeng mlynedd ac mae’n darparu sgiliau arbenigol mewn ymchwilio i dwyll, prisio, helpu i ddatrys anghydfodau, adroddiadau arbenigol ac ymchwiliadau seiber.


Busnes a Rheolaeth Arwain a Rheoli - MSc

Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn mabwysiadu athroniaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, lle byddwch yn cyflawni prosiectau seiliedig ar waith ac yn cwblhau traethawd hir sylweddol seiliedig ar waith, i fod o werth strategol i'ch sefydliad. Nod y cwrs hwn yw cynnig llwybr achredu deuol gyda Diploma Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth - dull arloesol yn y DU.


Addysg Arwain a Rheoli (Addysg) - MA

Mae'r cwrs MA Arwain a Rheoli (Addysg) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sydd, neu'n sy'n dyheu am fod, yn arweinwyr neu'n rheolwyr mewn lleoliad addysg. Gallwch fod yn gweithio mewn ysgolion neu sefydliadau eraill yn barod, megis y gwasanaeth iechyd neu'r heddlu.


Addysg Arwain a Rheoli (Addysg) - PGCert

Mae'r Dystysgrif Arwain a Rheoli i Raddedigion wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sydd am feithrin eu dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o arwain a rheoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau addysgol.


Chwaraeon Arwain mewn Chwaraeon - MA

Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad agos ag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant


Nyrsio Arwain mewn Gofal Iechyd - MSc

Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau ac athroniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth i sefyllfaoedd cymhleth mewn lleoliadau gofal iechyd, a sut i harneisio potensial adnoddau dynol mewn sefydliadau gofal iechyd.


Busnes a Rheolaeth Arwain Trawsnewid Digidol - MSc

Os ydych chi’n arweinydd, yn rheolwr, neu'n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i gychwyn aysgogi newid trawsnewidiol o fewn eich sector cyhoeddus, trydydd sector neu sefydliad preifat, mae'r cwrs hwn i chi. Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cynorthwyo arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i ‘feddwl yn ddigidol yn gyntaf’ i ail-ddychmygu a gwella eu sefydliad a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, eu rhanddeiliaid a'u gweithwyr.


Astudiaethau Crefyddol Astudiaethau Bwdhaidd - MA

Darperir adnoddau dysgu a chyswllt â thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol. Mae hyn yn eich galluogi chi, ble bynnag yr ydych chi yn y byd, i fod yn rhan o grŵp ar y rhyngrwyd i astudio, archwilio a thrafod Bwdhaeth gan ddefnyddio deunyddiau ysgogol o ansawdd uchel, sy’n drylwyr yn academaidd.


Nyrsio Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Ymarferydd Arbenigol Nyrsio Ardal) - PGDip

Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (CYANA), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.


Nyrsio Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Ymarferydd Arbenigol Nyrsio Plant yn y Gymuned) - PGDip

Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Plant Cymunedol (CYANPC), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.


Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Astudiaethau Plentyndod (Atodol) - BSc (Anrh)

Pwrpas ein gradd Astudiaethau Plentyndod yw archwilio plentyndod o safbwynt byd-eang er mwyn datblygu neu gryfhau eich dealltwriaeth o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad cyfannol, iechyd a lles plant.

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cyfrifeg a Chyllid Bancio, Cyllid a Buddsoddi (Atodol) - BSc (Anrh)

Bydd y radd hon yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth fanwl mewn amrywiaeth o gyd-destunau, o fuddsoddi a masnachu mewn marchnadoedd ecwiti, i theori cyllid corfforaethol a bancio mewn cyd-destun rhyngwladol.


Gwyddorau Biolegol Bioleg - BSc (Anrh)

Archwiliwch y wyddoniaeth sylfaenol hon yn fanwl, gan ddarganfod y prosesau esblygiadol, ffisiolegol, moleciwlaidd ac ecolegol sy'n cymell holl fywyd ar y Ddaear. Gan gyfuno cyfleoedd gwaith maes rhagorol gyda chyfleusterau arloesol, byddwch chi’n ennill gwybodaeth eang, ac yna'n dewis arbenigo mewn pwnc yn y radd gynhwysfawr hon.


Gwyddorau Biolegol Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol - BSc (Anrh)

Ymdrochwch mewn bioleg bywyd gwyll gyda gwaith maes ymarferol ar dri chyfandir. Datblygu sgiliau i ddeall, rheoli a gwarchod bywyd gwyllt.


Gwyddorau Biolegol Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae ein cwrs unigryw yn gosod pwyslais cryf ar sgiliau maes, gan gynnig cyfleoedd am ddysgu trochi ar dri chyfandir. Byddwch yn datblygu eich sgiliau gwyddonol ar deithiau maes yn y DU a thrip preswyl pedair wythnos o hyd sy'n archwilio tirweddau gwahanol yn Ne Affrica. Bydd gennych ddewis hefyd i gymhwyso technegau ymchwil yng nghoedwigoedd trofannol a riffiau cwrel Asia neu De neu Ganolbarth America. Mae graddedigion wedi symud i weithio ym mhedwar ban byd, ar gyfer ymgynghoriaethau ecolegol, asiantaethau'r llywodraeth ac asiantaethau anllywodraethol, ymchwil, addysgu a sefydliadau bywyd gwyllt cenedlaethol a rhyngwladol.


Gwyddorau Biolegol Bioleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Archwiliwch y wyddoniaeth greiddiol hon yn fanwl, a darganfyddwch y prosesau esblygiadol, ffisiolegol, moleciwlaidd ac ecolegol sy'n cymell holl fywyd y Ddaear.


Ffasiwn Busnes a Marchnata Ffasiwn - BA (Anrh)

Dyma’r cwrs delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gwirioni ar ffasiwn, ac sydd â meddwl busnes, ond sydd ddim eisiau ‘gwneud’ dillad.


Busnes a Rheolaeth Busnes a Rheoli - BA (Anrh)

Cwrs arloesol wedi ei achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig sy'n helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, rheolwyr a Phrif Weithredwyr.


Chwaraeon Busnes a Rheoli Chwaraeon - BA (Anrh)

Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu arbenigeddau busnes penodol, y gellir eu cymhwyso i'r diwydiant chwaraeon, megis marchnata, cynllunio digwyddiadau, cyllid/cyfrifo a rheoli adnoddau dynol.


Busnes a Rheolaeth Busnes a Rheoli gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Mae gradd sylfaen yn eich cyflwyno i astudiaeth academaidd ar lefel prifysgol. Byddwch yn archwilio modiwlau gan gynnwys busnes, seicoleg sefydliadol ac ystadegau, gan roi’r sgiliau a’r hyder i chi gwblhau eich astudiaethau a chael gyrfa lwyddiannus mewn ystod eang o swyddi busnes a rheolaeth.


Busnes a Rheolaeth Busnes a Rheoli Rhyngwladol - BSc (Anrh)

Mae ein gradd busnes a rheoli rhyngwladol wedi'i chynllunio fel y gallwch symud yn ddi-dor i gyflogaeth fyd-eang gyda'r sgiliau i lwyddo. Mae'r radd hon yn ddelfrydol os ydych am weithio mewn amgylchedd busnes rhyngwladol, gydag opsiynau i astudio neu weithio dramor yn rhan annatod o'r cwrs.


Cerddoriaeth a Sain Busnes Cerddoriaeth - BA (Anrh)

Cwrs perffaith ar gyfer unrhyw un sydd ag ysbryd entrepreneuraidd ac sy’n caru pob math o gerddoriaeth.


Busnes a Rheolaeth Busnes Rhyngwladol (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r radd BA (Anrh) mewn Busnes Rhyngwladol yn canolbwyntio ar y byd cynyddol fyd-eang rydyn ni'n byw ynddo. Bydd cael dealltwriaeth dda o'r agweddau allweddol ar gyflawni busnes ar raddfa fyd-eang yn sicr yn fanteisiol i chi yn y gweithle.


Bydwreigiaeth Bydwreigiaeth - BSc (Anrh)

Paratowch ar gyfer gyrfa werth chweil mewn bydwreigiaeth, gyda sgiliau bydwreigiaeth ymarferol o flwyddyn un ymlaen. Profwch leoliadau clinigol, cymhwyswch wybodaeth ddamcaniaethol, a darparwch ofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar fenywod.


Addysg CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) - MA

Mae'r cwrs Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed hwn yn datblygu gweithwyr proffesiynol gwybodus a myfyriol sy'n gallu defnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith ar y gweithle ac ar ddeilliannau'r plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.


Addysg CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) - PGCert

Mae'r Dystysgrif i Raddedigion mewn Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yn unigryw am ei bod yn cynnig llwybr anghlinigol i ymarferwyr, rheolwyr ac ymchwilwyr cyffredinol a mwy arbenigol ddatblygu eu gwybodaeth am Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.


Animeiddio a Gemau Celf Gemau - BA (Anrh)

Gan weithio ar brosiectau byw ar draws amryw o gyfryngau chwarae, byddwch yn cael y cyfleoedd i feistroli offer safonol y diwydiant fel Unreal Engine. Byddwch yn datblygu’r sgiliau technegol, creadigol a ‘meddal’ y mae stiwdios gemau cyfrifiadurol gorau’r byd yn gofyn amdanynt, gan eich paratoi ar gyfer rôl eich breuddwydion mewn celf gemau.


Celf Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig - BA (Anrh)

Rhowch eich sgiliau celf ar waith ac archwiliwch y berthynas rhwng y celfyddydau a lles gyda'r radd unigryw hon. Wedi eich gwreiddio mewn prosiectau ymarferol yn y gymuned, byddwch yn dysgu am theorïau seicolegol ac yn eu cymhwyso wrth ehangu eich sgiliau artistig a datblygu fel artist.


Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Cemeg Fferyllol - MSc

Mae’r cwrs yn ffocysu ar greu graddedigion cyflogadwy a medrus ar gyfer rolau o fewn y sector fferyllol - un o’r meysydd cyflogaeth mwyaf yn y DU a’r byd, gan ddefnyddio’r cyfleusterau a’r staff arbenigol ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cerddoriaeth a Sain Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol - BA (Anrh)

Y cwrs delfrydol i unrhyw un sy'n angerddol am gerddoriaeth o bob genre neu sy'n edrych i archwilio eu talent gerddorol ymhellach.


Chwaraeon Cryfder a Chyflyru - BSc (Anrh)

Paratowch at yrfa mewn hyfforddi chwaraeon gyda’n gradd mewn Cryfder a Chyflyru er mwyn ennill y sgiliau a’r technegau y mae’r timau elitaidd yn eu chwennych.


Seicotherapi a Chwnsela Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig - BA (Anrh)

Dysgwch sgiliau cwnsela proffesiynol trwy wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol yn y cwrs BA Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig hwn. Gyda lleoliadau yn y byd go iawn a ffocws allweddol ar berthynas therapiwtig, hunanymwybyddiaeth, moeseg ac amrywiol arddulliau therapiwtig, byddwch yn barod ar gyfer gyrfa foddhaus mewn cwnsela.

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi - MA

Mae’r cwrs MA mewn Cwnsela a Seicotherapi Integreiddiol yn hwyluso myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol ddadansoddol a gwerthusol o theori ac ymarfer therapiwtig yn y maes cwnsela a seicotherapi integreiddiol.


Seicotherapi a Chwnsela Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi - PGDip

Mae’r cwrs cwnsela a seicotherapi integreiddiol dwy flynedd hwn, sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn pwysleisio integreiddio theori, ymchwil, ymarfer therapiwtig, ac ymrwymiad i hunanymwybyddiaeth, i’ch helpu i ddatblygu i fod yn gwnselydd a seicotherapydd proffesiynol sy’n ddiogel, yn foesegol, yn wrthormesol, yn berthynol ac yn greadigol.

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Y Gyfraith Cwrs Ymarfer Cyfreithiol - PGDip

Y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol hwn yw’r rhaglen astudio ac asesu a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y mae’n rhaid i chi ei chwblhau os ydych am gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae'r LPC yn gwrs 'dysgu drwy wneud' sy'n seiliedig ar sgiliau ac sy'n rhoi'r sylfaen i chi ddechrau contract hyfforddi mewn swyddfa'r gyfraith. Byddwch yn datblygu sgiliau eiriolaeth, cyfweld, ysgrifennu cyfreithiol, drafftio ac ymchwil.


Dylunio Cyfathrebu Graffeg - BA (Anrh)

Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ym maes dylunio graffeg a dysgwch sut i feddwl a gweithio fel dylunydd creadigol ar y cwrs gradd hwn sydd wedi ei deilwra ar gyfer y diwydiant.


Dylunio Cyfathrebu Graffeg - MA

Mae elfen ymarferol y radd feistr mewn dylunio graffig yn cael ei chryfhau gan ddealltwriaeth feirniadol well o ddadleuon, materion a thueddiadau dylunio proffesiynol cyfoes, yn ogystal â gwell dealltwriaeth o ymchwil a sut i'w cymhwyso'n effeithiol.


Peirianneg Trydanol ac Electronig Cyfathrebu Symudol a Lloerennau - MSc

Mae cynnydd byd-eang ym maes cyfathrebu symudol a lloeren wedi rhoi hwb i'r galw yn y diwydiant am arbenigwyr. Mae ein gradd Meistr yn y DU yn canolbwyntio ar rwydweithio digidol, symudol a lloeren, gan gyfuno ysgolheictod, addysgu a dealltwriaeth y diwydiant. Mae graddedigion ein rhaglen MSc yn arwain y gwaith o ddatblygu 5G a thechnolegau cyfathrebu'r dyfodol, yn barod i arloesi yng nghymwysiadau'r genhedlaeth nesaf.

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Y Gyfraith Cyfreithiau - LLM

Mae’r radd LLM hon yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol, yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth yn y maes hwn. Y tu allan i’r tymor, cewch gyfle i wirfoddoli yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol y Brifysgol. Yno, cewch gyfle i roi’r wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u dysgu ar y cwrs ar waith. Bydd y Clinig yn eich galluogi i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r proffesiwn cyfreithiol, a gweithio gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol dibynadwy.


Y Gyfraith Cyfreithiau (Cyfraith Fasnachol Ryngwladol) - LLM

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol, yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth yn y maes hwn. Gallwch astudio agweddau ar gyfraith fasnachol sy’n berthnasol yn rhyngwladol ac ystyried materion penodol sy’n codi mewn cyfraith fasnachol a chyfraith defnyddwyr. Byddwch hefyd yn archwilio gwahanol agweddau ar globaleiddio a sut mae'r gyfraith yn dylanwadu ar y rhain ac yn ymateb iddynt


Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifeg a Chyllid - BA (Anrh)

Paratowch ar gyfer dyfodol mewn ymarfer proffesiynol, diwydiant neu gyllid gyda phrofiadau byd go iawn a mewnwelediadau i'r diwydiant trwy ein gradd Cyfrifeg a Chyllid Aml-Achrededig.


Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifeg a Chyllid gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Mae gradd sylfaen yn eich cyflwyno i astudiaeth academaidd ar lefel prifysgol. Byddwch yn archwilio modiwlau gan gynnwys busnes, seicoleg sefydliadol ac ystadegau a chael gyrfa lwyddiannus mewn ystod eang o swyddi cyfrifeg a chyllid.


Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifeg Broffesiynol - CertHE

Ar ôl ei gwblhau byddwch wedi cael eich eithrio'n llawn o'r cymhwyster ICAEW CFAB a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n dangos bod gennych y wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i lwyddo mewn gyrfa mewn busnes.


Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) - MSc

Mae’r modiwlau, a addysgir gan diwtoriaid arobryn o’n rhaglen ACCA sydd wedi cael achrediad Platinwm, yn cyd-fynd â Lefel Broffesiynol Strategol derfynol Cymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).


Cyfrifiadura Cyfrifiadureg - BSc (Anrh)

Mae sgiliau cyfrifiadurol yn ddymunol ac yn drosglwyddadwy; crëwch yrfa lewyrchus yn y dyfodol gyda'r cwrs ymarferol hwn.


Cyfrifiadura Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth - MSc

Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso sgiliau hanfodol i helpu i ddatrys problemau byd go iawn a throi eich hun yn weithiwr TG proffesiynol cyflawn a chyflogadwy.


Cyfrifiadura Cyfrifiadureg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Dewch i ymuno ag un o'n digwyddiadau Diwrnod Agored i ymweld â'n labordai technoleg, i gwrdd â'n tîm ac i gael blas o’n cwrs, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi!


Cyfrifiadura Cyfrifiadureg Gymhwysol (Atodol) - BSc (Anrh)

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i lefel uwch ac i archwilio pynciau arbenigol.


Cyfrifeg a Chyllid Cyllid a Buddsoddi - MSc

Bydd ein cwrs MSc mewn Cyllid a Buddsoddi yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall damcaniaethau, technegau ac amgylchedd rheoleiddiol buddsoddi yn y farchnad ariannol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau cyllid a buddsoddi ac yn defnyddio meddalwedd efelychu pwerus a chronfeydd data ariannol.


Cyfrifeg a Chyllid Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA)

Mae’r cyfuniad o brofiad ymarferol ac arbenigedd technegol ein tîm darlithio a’n rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu yn gwneud cwrs ACCA Prifysgol De Cymru yn arbennig iawn.


Cymdeithaseg Cymdeithaseg - BSc (Anrh)

Mae cymdeithaseg yn ein helpu i feddwl yn feirniadol am y ffactorau sy'n effeithio ar gymdeithasau ledled y byd. Bydd ein hymrwymiad i gymdeithaseg gymhwysol yn meithrin eich dealltwriaeth a'ch gallu i ymgysylltu â phroblemau'r byd go iawn tra'n datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr y dyfodol sy'n gyrru newid cymdeithasol.


Cymdeithaseg Cymdeithaseg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu dros dri diwrnod yr wythnos er mwyn galluogi myfyrwyr i reoli eu hastudiaethau o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu eraill.


Cerddoriaeth a Sain Cynhyrchu Cerddoriaeth - BA (Anrh)

Creu, Cydweithio, Arloesi. Gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn cerddoriaeth a sain gyda'n cwrs arloesol BA Cynhyrchu Cerddoriaeth.


Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Cynhyrchu'r Cyfryngau - BA (Anrh)

Wedi'i ddylunio gydag arbenigwyr cyfredol y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r hyder a'r sgiliau i chi ffynnu yn niwydiant cyfryngau sy'n esblygu'n barhaus heddiw.

Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Seicoleg Dadansoddi Ymddygiad a Therapi - MSc

Mae’r cwrs hwn yn archwilio egwyddorion gwyddonol dadansoddi ymddygiad a thechnegau therapiwtig, gan eich helpu i ddod o hyd i ymyriadau effeithiol i newid ymddygiad.


Dylunio Darlunio - BA (Anrh)

Mae darlunio’n rhan hanfodol o’n hiaith. Dysgwch sut i ddefnyddio’ch sgiliau creadigol er mwyn cyfathrebu, cysylltu, rhoi gwybod a dysgu eraill trwy ddefnyddio ystod o gyfryngau.


Seicoleg Datblygiad Plentyndod - BSc (Anrh)

Dyma gyfle unigryw i edrych ar y ddealltwriaeth seicolegol bresennol o blentyndod a’r glasoed, gan archwilio sut mae’r rhain yn helpu i esbonio datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol.


Seicoleg Datblygiad Plentyndod gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae gradd Sylfaen yn eich cyflwyno i gyrsiau astudio academaidd ar lefel prifysgol. Byddwch yn dysgu am ddatblygiad plant a phobl ifanc yn ogystal dysgu am seicoleg ac ystadegau, gan roi'r sgiliau a'r hyder i chi gwblhau eich astudiaethau a chael gyrfa lwyddiannus.


Cyfrifiadura Deallusrwydd Artiffisial - MSc

Mynd i’r afael â phroblemau gwirioneddol sy’n wynebu’r byd technoleg ddeallus wrth i chi ddysgu sgiliau allweddol y mae diwydiant yn gofyn amdanynt ar gyfer rolau mewn AI cymhwysol.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Dermatoleg mewn Ymarfer Clinigol - MSc

Mae'r cwrs meistr ar-lein, a gynigir drwy ein Diploma MSc partner cydweithredol, yn cynnig dilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig mewn Dermatoleg ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn rôl arwain yn y maes.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Dermatoleg mewn Ymarfer Clinigol - PGDip

Mae'r cwrs Dermatoleg ar-lein hwn, a gynigir drwy ein Diploma MSc partner cydweithredol, yn berthnasol i bob meddyg teulu, nyrs practis, nyrs arbenigol a fferyllydd sy'n dod i gysylltiad â chleifion â chyflyrau dermatolegol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Diabetes - MSc

Mae'r radd Meistr hon mewn diabetes sydd â ffocws clinigol, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau diabetes arbenigol, nyrsio arbenigol diabetes, nyrsio practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Diabetes - PGDip

Mae'r cwrs clinigol hwn mewn diabetes, sy'n cael ei gynnal gyda'n partner cydweithredol Diploma MSc, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Heddlua a Diogelwch Diogelwch Rhyngwladol a Rheoli Risg - MSc

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion allweddol ym maes diogeledd rhyngwladol - y modd y gallwn eu hadnabod a’u rhwystro. Mae’n archwilio materion hollbwysig, megis terfysgaeth, rhyfela hybrid a throseddau cyfundrefnol, ac yn archwilio’r modd y gall sefydliadau, llywodraethau a chwmnïau rhyngwladol reoli risgiau byd-eang o’r fath.


Heddlua a Diogelwch Diogelwch Rhyngwladol a Rheoli Risg (Gwrthderfysgaeth) - MSc

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion allweddol ym maes diogeledd rhyngwladol - y modd y gallwn eu hadnabod a’u rhwystro. Mae’n archwilio materion hollbwysig, megis terfysgaeth, rhyfela hybrid a throseddau cyfundrefnol, ac yn archwilio’r modd y gall sefydliadau, llywodraethau a chwmnïau rhyngwladol reoli risgiau byd-eang o’r fath.


Cerddoriaeth a Sain Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd) (Atodol) - BSc (Anrh)

Drwy gydol y cwrs Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd, byddwch yn ymwneud â gwaith prosiect helaeth, a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion cysylltiedig â’r diwydiant. I gael dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant a’r gweithle, byddwch yn cydweithio â’ch cydfyfyrwyr wrth berfformio, cyfansoddi, recordio ac ymchwilio.


Rhyngddisgyblaethol Doethur mewn Athroniaeth - PhD

Dod yn arbenigwr, datrys heriau cymhleth, a chael effaith ystyrlon trwy ymchwil wreiddiol.


Doethur mewn Gweinyddu Busnes - DBA

Mae'n cefnogi uwch arweinwyr i ddod yn unigolion sy'n meddwl yn feirniadol sydd â'r gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliad cymhwysol i wneud newid go iawn. Ar gael yn llawn amser neu ran-amser, mae Doethuriaeth mewn Gweinyddiaeth Busnes PDC yn ddewis rhagorol i unigolion sy'n dymuno ymgymryd ag astudiaeth Ddoethurol tra’u bod mewn swyddi rheoli llawn amser.


Drama a Pherfformio Drama - MA

P'un a ydych chi'n artist profiadol sy'n dymuno cael yr amser a'r lle i ddatblygu eich ymarfer neu'n dechrau ar eich gyrfa fel gwneuthurwr theatr, ymarferydd drama, storïwr neu addysgwr, bydd y cwrs MA Drama yn eich helpu i gyflawni eich potensial.


Nyrsio Dychwelyd i Ymarfer

Bydd y cwrs yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu, adnewyddu a gwella’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a’r hyfedredd sy'n ofynnol gan nyrs gofrestredig i ailymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu aros arni yn ei maes ymarfer arfaethedig.


Dylunio Dylunio ac Arloesi - MA

Mae'r cwrs hwn yn eich grymuso i yrru newid cadarnhaol a dod yn gatalydd ar gyfer arloesedd, gan ddefnyddio dylunio fel offeryn ar gyfer gweithredu pwrpasol a gweithredaeth ystyrlon.


Ffasiwn Dylunio Ffasiwn - BA (Anrh)

Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.


Animeiddio a Gemau Dylunio Gemau Cyfrifiadurol - BA (Anrh)

Crëwch a chynhyrchwch gemau o’r cychwyn cyntaf. Mwynhewch brofiad ymarferol mewn digwyddiadau gemau fideo, cyflwynwch eich gwaith mewn cystadlaethau cenedlaethol megis Tranzfuser, a dewch i gyfarfod arbenigwyr o fewn y diwydiant. Defnyddiwch labordai o’r radd flaenaf a chanddynt y rhaglenni cyfrifiadurol Unreal Engine ac Adobe Suite a datblygwch eich rhwydwaith o fewn y diwydiant gemau fideo.


Dylunio Dylunio Mewnol - BA (Anrh)

Dewch yn ddylunydd creadigol, meddylgar a phroffesiynol yn PDC. Profwch addysgu sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant o'r diwrnod cyntaf gyda briffiau byd go iawn i roi hwb i'ch gyrfa yn y maes cyffrous hwn.


Dylunio Dylunio Setiau Teledu a Ffilm - BA (Anrh)

Ymgollwch ym myd cyffrous dylunio cynyrchiadau ffilm a theledu trwy ddysgu prosesau dylunio, cyfarwyddo ffilmiau byr a pharatoi i gamu i adrannau celf ffilm a theledu.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Economeg Iechyd Cymhwysol - MSc

Nod yr MSc Economeg Iechyd yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â meddygaeth Economeg Iechyd.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Economeg Iechyd Cymhwysol - PGDip

Mae'r cwrs yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae Economeg Iechyd wedi dod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau gofal iechyd, yn ogystal â deall yr egwyddorion, y methodolegau a'r prosesau sylfaenol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol - BA (Anrh)

Gwnewch y mwyaf o’ch rhyddid creadigol ac ymdeimlad o berthyn wrth i chi ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau sy’n cael eu chwennych gan stiwdios gorau’r byd o ran ffilm, teledu a hysbysebion.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Peirianneg Trydanol ac Electronig Electroneg a Thechnoleg Gwybodaeth - MSc

Cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes Electroneg a TG. Cewch fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Endocrinoleg - MSc

Nod cynnwys a strwythur y cwrs yw creu gweithwyr proffesiynol sydd â mwy o hyder a dealltwriaeth o reoli cleifion ag anhwylderau endocrin, drwy astudiaethau achos a thrafodaeth.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Endocrinoleg - PGDip

Bydd y cwrs ar-lein hwn, sy'n cael ei gynnal gyda'r partner cydweithredol Diploma MSc, yn eich helpu i ddatblygu dulliau creadigol o ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd clinigol cymhleth a dod yn eiriolwr pwysig wrth ddarparu gofal i bobl â phroblemau sy'n gysylltiedig ag endocrinoleg.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm - BA (Anrh)

Cyfle i feithrin eich crefft a chreu eich dyfodol yn y diwydiannau ffilm gyda'r cwrs ymarferol a damcaniaethol hwn.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm (Cyfarwyddo) - MA

Datblygwch eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol i feistroli'r grefft o gyfarwyddo ffilm, mireinio eich arbenigedd, deall priodoleddau penodol y diwydiant a chael profiad o gyfarwyddo gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, er mwyn cael effaith barhaol yn y diwydiant.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm (Dogfennol) - MA

Byddwch yn gweithio gyda'r gweithwyr proffesiynol gorau yn y diwydiant ac yn ennill profiad o weithio mewn cwmni cynhyrchu ffeithiol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi ddod yn wneuthurwr ffilmiau dogfen yn y diwydiant heddiw, gan gynnwys adrodd storïau, sgiliau ymchwil, hunan-ffilmio, gwneud ffilmiau gyda chamera sengl a golygu ffilmiau.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm (Golygu) - MA

Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr eraill a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan hogi eich sgiliau golygu ac ennill profiad yn y byd go iawn trwy gydweithio.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm (Rheoli Cynhyrchiad) - MA

Mireiniwch eich arbenigedd ym maes Cynhyrchu trwy ennill profiad gyda phartneriaid yn y diwydiant a chydweithio â myfyrwyr PDC o'r arbenigeddau MA Ffilm eraill, er mwyn arwain a llwyddo mewn ym maes cynhyrchu ffilm.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm (Sinematograffeg) - MA

Arbenigwch mewn sinematograffeg trwy gydweithio â myfyrwyr eraill yn PDC a gweithwyr proffesiynol y diwydiant er mwyn datblygu eich sgiliau.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm (Ysgrifennu ar gyfer y Sgrîn) - MA

Cyfle i gydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chyd-fyfyrwyr PDC, cael mewnwelediadau, myfyrio'n feirniadol a chywreinio eich ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau cynhyrchu gyda myfyrwyr o’r llwybrau MA Ffilm eraill ar ymarferion ffilm yn semester 1 ac wedyn ar ffilm fer yn semester 2.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ffisioleg Glinigol - MSc

Os ydych yn barod i symud ymlaen ond ddim eisiau gohirio’ch gyrfa, ein MSc Ffisioleg yw eich llwybr cyflym i swyddi uwch.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ffisioleg Glinigol - PGDip

Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol wrth ddehongli data ffisiolegol cymhleth, deall effeithlonrwydd triniaeth, a gweithredu’r technolegau gofal iechyd diweddaraf, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr mewn diwydiant sy’n datblygu’n gyflym.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Iechyd Perthynol Ffisiotherapi - BSc (Anrh)

Lluniwyd y radd ffisiotherapi rhan-amser ym Mhrifysgol De Cymru i ddarparu sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu ffynnu fel gweithwyr proffesiynol arloesol ac ymreolaethol ar draws ystod eang o leoliadau o fewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer.


Seiberddiogelwch Fforensig Digidol - BSc (Anrh)

P'un a yw troseddu yn digwydd ar-lein neu'n cael ei drefnu trwy sianeli digidol, mae fforensig digidol yn allweddol i ddod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Pan fyddwch chi'n astudio BSc mewn fforensig ddigidol, byddwch chi'n dysgu sut i gyrchu, casglu a dehongli data i ddatgelu'r gwir a gwasanaethu fel tyst arbenigol.


Seiberddiogelwch Fforensig Digidol - MSc

Byddwch yn barod ar gyfer y cam nesaf mewn gyrfa seiber gyffrous wrth i chi ddysgu gyda chyfleusterau arloesol ochr yn ochr ag arbenigedd ein staff a'n partneriaid yn y diwydiant.


Seiberddiogelwch Fforensig Digidol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Dysgwch y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn Unedau Fforenseg Ddigidol a thimau Ymateb i Ddigwyddiadau ar y cwrs arloesol hwn, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol wrth i chi ddatblygu’r sgiliau ymarferol a phroffesiynol mae cyflogwyr ym meysydd fforenseg ddigidol, gorfodi'r gyfraith a'r sectorau corfforaethol a seiberddiogelwch ehangach yn chwilio amdanyn nhw.


Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth - BA (Anrh)

Dilynwch eich diddordebau i ddod yn ffotograffydd amryddawn sy’n gallu ffynnu mewn unrhyw amgylchedd gwaith.


Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth Ddogfennol - BA (Anrh)

Gwnewch yr hyn sy’n tanio eich brwdfrydedd gan ddogfennu pobl go iawn a materion pwysig ar y cwrs ffotograffiaeth ddogfennol ymarferol a diddorol hwn.


Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth Ddogfennol - MA

Mae'r cwrs MA unigryw hwn (sydd ar gael ar-lein ac ar y campws) yn canolbwyntio ar ymgysylltu yn y byd go iawn â materion cymdeithasol a gwleidyddol gan archwilio'r pwnc mewn ffordd archwiliadol a bywiog. Mae'n cynnig dealltwriaeth eang o ffotograffiaeth, ac yn ogystal â ffurfiau ffotograffiaeth ddogfennol mwy traddodiadol, mae'n cynnwys delweddau wedi'u rhwydweithio, data, deunydd archif, sain a delweddau symudol.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Gastroenteroleg - MSc

Gyda chystadleuaeth gynyddol am gyflogaeth yn y maes gofal iechyd, ac arbenigedd cynyddol, pwrpas y cwrs gastroenteroleg yw hyrwyddo a gwella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol sy'n uniongyrchol berthnasol i ofynion rolau gweithio.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Gastroenteroleg - PGDip

Nod y cwrs damcaniaethol ar-lein hwn yw hwyluso gwell dealltwriaeth o anhwylderau gastroenteroleg cyffredin a geir yn y gymuned gan amlaf a galluogi myfyrwyr i uwchsgilio mewn diagnosteg a rheoli anhwylderau gastroenterolegol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Gofal Acíwt a Chritigol - BSc (Anrh)

Mae'n anochel y bydd poblogaeth sy'n heneiddio a disgwyliadau uwch gan y cyhoedd yn golygu mwy o alw am wasanaethau'r GIG yn seiliedig ar ddirywiad acíwt ac anghenion gofal critigol yn y dyfodol. Mae angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn addas i'r diben a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.


Nyrsio Gofal Acíwt a Chritigol - PGCert

Bydd y cwrs Gofal Acíwt a Chritigol yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i chi asesu, gofalu a rheoli cleifion gan ddefnyddio ymarfer presennol seiliedig ar dystiolaeth a ffisioleg gymhwysol, gan fanteisio ar yr agweddau cyfreithiol a phroffesiynol sy'n effeithio ar eich rôl a'ch cyfrifoldebau.


Nyrsio Gofal Critigol - ACertHE

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymarferwyr blaengar sy'n meddu ar y gallu i ddefnyddio arfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datrys problemau mewn modd mwy ymreolaethol.


Nyrsio Gofal Critigol - PGCert

Bydd y cwrs yn galluogi myfyrwyr i dyfu a datblygu fel ymarferwyr ymholgar ac ymreolaethol. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth a’ch gallu i ddangos cymhwysiad a chymhwysedd clinigol a fydd yn cael ei ddangos trwy gymwyseddau Camau Gofal Critigol 2 a chymwyseddau Camau Gofal Critigol 3.


Nyrsio Gofal Lliniarol - PGCert

Mae gofal lliniarol yn rhan hanfodol o ofal cyfannol, ac mae'n ddull aml-broffesiynol yn ei hanfod. Mae'r cwrs dysgu o bell hwn yn cyfuno adnoddau rhagorol a chefnogaeth gan arweinydd y cwrs, sy'n eich galluogi i gyfuno astudio ac ymrwymiadau proffesiynol.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Gorbwysedd - PGCert

Gyda ffocws unigryw ar reoli gorbwysedd mewn poblogaethau arbennig, mae'r cwrs hwn yn sefyll allan trwy gynnig cymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn sydd o fudd i'ch cleifion a'ch ymarfer ar unwaith.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwaith Cymdeithasol Gwaith Cymdeithasol - BSc (Anrh)

Trwy leoliadau gwaith, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau amrywiol. Yn y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i arbenigo mewn meysydd fel plant, oedolion, neu iechyd meddwl, gan wella eich rhagolygon gwaith ymhellach.


Gwasanaethau Cyhoeddus Gwasanaethau Cyhoeddus - BA (Anrh)

Byddwch yn adeiladu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau. Mae’r cwrs hyblyg ac ymarferol hwn yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain mewn sefydliadau cyhoeddus, o ymateb brys i ddylunio polisi a phopeth yn y canol.


Gwasanaethau Cyhoeddus Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Bydd y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus hwn yn eich galluogi chi i archwilio meysydd gan gynnwys cymdeithaseg, y gyfraith a pholisi cymdeithasol, ochr yn ochr â rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i ddilyn cwrs Gradd a chael y cyfle i gyflawni eich dyheadau.


Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Gweithio dros Blant a Phobl Ifanc (Cymhwyso Cychwynnol Gwaith Ieuenctid) - MA

Mae’r cwrs hwn wedi’i ysgrifennu ar y cyd â chyflogwyr yn y maes i sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r rhinweddau sy’n hanfodol er mwyn eich cyflogi fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol.

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Addysg Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd - BA (Anrh)

Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.


Troseddeg Gweithio gydag Oedolion a Phobl Ifanc sy'n Troseddu - MSc

Dyluniwyd yr MSc Gweithio gydag Oedolion a Phobl Ifanc sy’n Troseddu ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant ac mae’n cynnig pwyslais arbenigol ar theori ac ymarfer rheoli troseddwyr.


Nyrsio Gwella Ymarfer Clinigol - MSc

Bydd y dyfarniad yn canolbwyntio ar baratoi amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol i reoli anghenion cymhleth defnyddwyr gwasanaethau mewn lleoliadau gofal iechyd dynamig, gan ddatblygu naill ai fel addysgwr ymarferol neu reolwr clinigol neu wasanaeth hefyd.


Addysgu Gwyddoniaeth Hanfodol ar gyfer Addysgu

Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.


Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff - BSc (Anrh)

Gallwch droi eich angerdd dros chwaraeon ac iechyd yn yrfa gyda'n cwrs gradd yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff.


Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff - MSc

Mae'r cwrs hwn yn defnyddio ein labordai a gymeradwywyd gan Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) ar Gampws Glyn-taf a'n hystafelloedd dadansoddi cryfder a chyflyru a pherfformiad o'r radd flaenaf yn ein Parc Chwaraeon.


Gwyddor Data Gwyddor Data - MSc

Mae ein cwrs, a enillodd wobr 'Rhaglen Academaidd Orau'r Flwyddyn' yng Ngwobrau FinTech Cymru, yn cynnig cyfle unigryw i ragori ym maes deinamig gwyddor data.


Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Gwyddor Fferyllol - BSc (Anrh)

Mae byd cymhleth gwyddor fferyllol angen graddedigion sydd nid yn unig â gwybodaeth ragorol ac yn gyfarwydd iawn â labordy, ond sy'n gallu llywio prosesau a fframweithiau'r diwydiant yn hyderus. Dysgwch bopeth sydd ei angen arnoch i sicrhau rôl o fewn cwmnïau fferyllol sy'n gweddu i'ch nodau gyrfa.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Gwyddor Fferyllol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl am bynciau sy’n berthnasol i’r maes fferyllol, eu dyluniad, synthesis/datblygiad, rheoli ansawdd, geneteg a datblygiadau moleciwlaidd modern.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddorau Fforensig Gwyddor Fforensig - BSc (Anrh)

Wedi'i achredu gan Gymdeithas Siartredig y Gwyddorau Fforensig, mae'r BSc Gwyddor Fforensig yn eich dysgu sut i gymhwyso ystod o wyddoniaeth uwch i ymchwilio i droseddau. Mae'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu gan ddefnyddio offer o safon y diwydiant yn sbardun i amrywiaeth o yrfaoedd ar draws meysydd gwyddonol.


Gwyddorau Fforensig Gwyddor Fforensig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae’r cwrs Gwyddoniaeth Fforensig, gyda’i ffocws cryf ar gyflogadwyedd, yn edrych ar y broses yn ei chyfanrwydd, o leoliad trosedd i’r llys barn. Byddwch yn dysgu am arferion a thechnegau safonol sydd ar waith wrth ymchwilio i leoliad trosedd, yn ogystal ag am ddadansoddi tystiolaeth mewn labordy a’i dehongli. Byddwch yn astudio canghennau arbenigol o wyddor fforensig, gan gynnwys troseddoldeb, cemeg fforensig, bioleg fforensig, anthropoleg, ymchwilio i danau a gwenwyneg.


Gwyddorau Biolegol Gwyddor Fiofeddygol - BSc (Anrh)

Archwiliwch ryfeddodau'r corff dynol, o systemau organ gwahanol i fiocemeg, geneteg a bioleg gellol.  


Gwyddorau Biolegol Gwyddor Fiofeddygol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Rydym yn archwilio'r prosesau clefydau yn y systemau hyn, sut y gellir ymchwilio iddynt, sut mae triniaethau'n gweithio a sut y gellir ymchwilio i driniaethau newydd a'u datblygu.


Cyfrifiadura Gwyddor Gyfrifiadurol - BSc (Anrh)

Wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr gan Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2023, mae’n gradd Cyfrifiadureg BCS achrededig yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn datblygu meddalwedd diogel. Ennill sgiliau ymarferol drwy brosiectau yn y byd go iawn, gan ddatblygu atebion diogel a dibynadwy i broblemau bywyd go iawn.


Cyfrifiadura Gwyddor Gyfrifiadurol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Wedi'i hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain a'i chreu mewn partneriaeth â diwydiant a myfyrwyr, mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn greadigol ac yn fedrus, ac yn gallu adeiladu'r dyfodol gyda systemau deallus, effeithiol, effeithlon a dibynadwy. Mae'r flwyddyn sylfaen yn darparu ffordd o gael mynediad i'r maes cyffrous hwn i'r rheini sydd efallai'n dychwelyd i astudio, neu sydd angen magu hyder fel arall.


Cyfrifiadura Gwyddor Gyfrifiadurol Uwch - MSc

Darganfyddwch y technolegau meddalwedd a chaledwedd diweddaraf, o grynhoi i ddiogelwch. Paratowch eich hun i ddatrys problemau’r byd go iawn, gan ddeall yr effaith ddwys ar fywydau pobl. Ymunwch â ni ar flaen y gad ym maes arloesedd technolegol.


Gwyddorau Fforensig Gwyddorau Dadansoddol a Fforensig - MSc

Mae’r cwrs MSc Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig yn canolbwyntio ar ymchwil arloesol, y technegau dadansoddi diweddaraf a sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol a fydd yn eich paratoi i weithio fel gwyddonydd dadansoddol neu wyddonydd fforensig proffesiynol. Rydym yn cynhyrchu gwyddonwyr rhagorol a graddedigion y mae galw mawr amdanyn nhw, ac mae ein myfyrwyr ôl-raddedig wedi cael cynnig cyflogaeth gan rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw y DU ac Ewrop, mewn meysydd sy’n amrywio o wenwyneg ddadansoddol i ddadansoddi DNA fforensig.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Gwyddorau Gwallt a Thricoleg - PGCert

Mae ein Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddorau Gwallt a Thricoleg wedi'i chynllunio'n benodol i ateb y galw byd-eang cynyddol am arbenigedd yn y maes hwn sy'n ehangu'n gyflym.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddorau Meddygol Gwyddorau Meddygol - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs gradd hwn yn sylfaen berffaith ar gyfer cyrsiau mynediad i raddedigion mewn meddygaeth. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau clinigol ochr yn ochr â gwybodaeth am theori fiofeddygol a pholisïau iechyd.


Hanes Hanes - BA (Anrh)

Nid ymwneud â'r gorffennol yn unig mae Hanes yn PDC; mae'n ymwneud â deall sut mae’r gorffennol wedi llunio’r byd sy’n gyfarwydd i ni heddiw a'r safbwyntiau a goleddwn erbyn hyn. Drwy archwilio pwy sy'n creu hanes a chydnabod cyfraniadau amrywiol, byddwch yn dod yn ddinesydd byd-eang yn barod i adael eich ôl ar y byd.


Hanes Hanes gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio themâu a phynciau sy’n ymwneud â Hanes wrth ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, ymchwil a chyfathrebu a fydd o fudd i chi yn y brifysgol a thu hwnt. Fe’i cynlluniwyd i roi’r hyder a’r sgiliau i fyfyrwyr symud ymlaen i’r radd Hanes ac i yrfa lwyddiannus ar ôl graddio.


Chwaraeon Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon - BSc (Anrh)

Byddwch yn archwilio effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol datblygu chwaraeon, gan ennill dealltwriaeth drylwyr o bolisi, cynllunio, rheoli, a darparu cyfleoedd a mentrau chwaraeon.


Chwaraeon Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon - Gradd Sylfaen (FdSc)

Mae'r Radd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, wrth astudio mewn Sefydliad Clwb Cymunedol a chwblhau portffolio cynhwysfawr o ddysgu seiliedig ar waith.


Chwaraeon Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon (Atodol) - BSc (Anrh)

Gan ganolbwyntio ar y wybodaeth sydd eu hangen o ran chwaraeon a busnes i ddatblygu gweithwyr proffesiynol ar gyfer y diwydiant chwaraeon, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu ac yn dechrau arbenigo'ch profiad dysgu yn y gwaith yn unol â'ch uchelgeisiau gyrfa.


Chwaraeon Hyfforddi a Datblygu PÊl-droed Cymunedol - Gradd Sylfaen (FdSc)

Mae'r Radd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol yn rhoi'r cyfle i ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, wrth astudio mewn Sefydliad Clwb Cymunedol a chwblhau portffolio cynhwysfawr o ddysgu’n seiliedig ar waith.


Chwaraeon Hyfforddi a Gweinyddu Pêl-droed Cymunedol (Atodol) - BSc (Anrh)

Y llwybr cyflawni unigryw a phenigamp, a gynhelir ar y cyd â Chynghrair Pêl-droed Lloegr yn y Gymuned (EFLitC), sy’n galluogi myfyrwyr i astudio yn y gweithle.


Chwaraeon Hyfforddi Chwaraeon a Pherfformiad - MSc

Bydd integreiddio theori ac ymarfer yn gwella ac yn datblygu eich gallu i fyfyrio ar arfer hyfforddi cyfredol, cynllunio rhaglenni hyfforddi priodol a dadansoddi'n feirniadol y dulliau presennol o hyfforddi perfformiad.


Chwaraeon Hyfforddi Pêl-droed a Pherfformiad - BSc (Anrh)

Paratowch at yrfa egnïol yn y diwydiant pêl-droed gyda’n cwrs, sy’n cynnig cyfleoedd eang i chi ymarfer eich crefft o fewn amgylchedd pêl-droed dethol. Datblygwch eich sgiliau hyfforddi gyda medrau rhagorol, dysgwch sut i lywio’r diwydiant pêl-droed, a pharatowch i gyflawni eich potensial fel gweithiwr proffesiynol yn rheng uchaf y diwydiant pêl-droed.


Chwaraeon Hyfforddi Pêl-droed Perfformiad Uwch - MSc

Wedi'i gynllunio gyda chystadleuaeth allanol, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, mae'r cwrs Meistr mewn Hyfforddiant Pêl-droed Sioe Uwch yn darparu'r ymarfer gorau posibl o hyfforddiant academaidd a'n perfformiad ar sail perfformiad, perfformiad hyfforddi, perfformiadau perfformiad, perfformiad sy'n cyfateb â llwybrau perfformiad perfformiad.


Chwaraeon Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad - BSc (Anrh)

Mae swyddi sy’n ymwneud â pherfformiad rygbi yn gofyn am raddedigion sy’n barod at ddibenion y gwaith. Dyna pam mae ein cwrs unigryw’n darparu cyfleoedd helaeth i chi hogi eich crefft a phrofi amgylchedd rygbi elitaidd. Datblygwch sgiliau neilltuol, dysgwch sut i fordwyo’r diwydiant rygbi a byddwch barod i wireddi eich potensial.


Chwaraeon Hyfforddi, Datblygu a Gweinyddu Pêl-droed - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, o hyfforddi i reoli busnes a datblygu chwaraeon, gan arwain at ragolygon cyflogaeth rhagorol mewn amrywiaeth o broffesiynau. Byddwch hefyd yn astudio tuag at Dystysgrif Hyfforddi C CBDC, a byddwn yn eich cefnogi wrth weithio tuag at eich trwyddedau UEFA.


Ffasiwn Hyrwyddo Ffasiwn - BA (Anrh)

Hyrwyddo Ffasiwn yw’r maes sy’n cyfuno ffasiwn, marchnata a’r cyfryngau. Byddwch yn astudio ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyffrous hwn lle mae technoleg, diwylliant a thueddiadau yn rhoi ysbrydoliaeth i ymgyrchoedd hysbysebu a ffyrdd eiconig o gyfathrebu.


Dylunio Hysbysebu - BA (Anrh)

Rhyddhewch eich creadigrwydd a'ch syniadau strategol a busnes, a dysgwch sut i greu negeseuon pwerus sy'n gwneud i bobl wrando ac ymgysylltu. Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu syniadau gwreiddiol, yn meistroli’r grefft o greu cynnwys a chynhyrchu ymgyrchoedd, ac yn gweithio ar friffiau cleientiaid yn y byd go iawn, i gyd wrth hogi eich sgiliau i apelio at gynulleidfaoedd a meddwl defnyddwyr trwy lwyfannau hysbysebu.


Iechyd a Gofal Cymdeithasol Iechyd a Lles Cymunedol - CertHE

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Iechyd a Lles Cymunedol yn cynnig cyfle i brofi bywyd prifysgol, datblygu sgiliau astudio cryf ar gyfer addysg uwch, a dechrau cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer gyrfaoedd iechyd.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Iechyd y Cyhoedd - MSc

Mae’r radd Meistr Iechyd Cyhoeddus yn cydnabod y gall heriau iechyd fod yn fwy byd-eang na phoblogaeth un wlad, ond y bydd ymatebion polisi a rheoleiddio lleol yn amrywio o wlad i wlad.


Nyrsio Iechyd y Cyhoedd - PGDip

Bydd ein cwrs Iechyd Cyhoeddus, sy'n cael ei redeg gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn helpu myfyrwyr i ddeall y materion sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a datblygu'r sgiliau datrys problemau ac arweinyddiaeth sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â nhw.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Iechyd y Cyhoedd: Ar-lein - MSc

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cael ei gynnal gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol. Bydd ein cwrs Iechyd Cyhoeddus yn helpu myfyrwyr i ddeall y problemau sy'n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd a datblygu'r sgiliau datrys problemau ac arweinyddiaeth sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â nhw. Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn gwella'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i asesu a gwella Iechyd y Cyhoedd.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Busnes a Rheolaeth Logisteg Ryngwladol a Rheoli Cadwyn Gyflenwi - MSc

Nod y radd meistr aml-achrededig hon mewn Logisteg Ryngwladol a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yw rhoi'r sgiliau arbenigol i chi reoli ac addasu cadwyni cyflenwi yn hyderus, gan eich galluogi i ddod yn arloeswr strategaeth logisteg.


Busnes a Rheolaeth Logisteg, Caffael a Rheoli Cadwyn Gyflenwi - BSc (Anrh)

Dod yn arbenigwr gwerth uchel achrededig llawn ym maes Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi, sy'n hanfodol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.


Marchnata Marchnata - BSc (Anrh)

Eich rhoi chi yn gonolog i fusnes, dysgu sut i lunio profiadau defnyddwyr, rhagweld anghenion a gyrru gwerth ar draws diwydiannau amrywiol.


Marchnata Marchnata gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae gradd sylfaen yn eich cyflwyno i astudiaeth academaidd ar lefel prifysgol. Byddwch yn archwilio modiwlau gan gynnwys busnes, seicoleg sefydliadol ac ystadegau, gan roi’r sgiliau a’r hyder i chi gwblhau eich astudiaeth a chael gyrfa lwyddiannus mewn ystod eang o rolau marchnata.


Marchnata Marchnata Strategol a Digidol - MSc

Mae’r MSc Marchnata Strategol a Digidol wedi’i achredu’n driphlyg gan gyrff marchnata, digidol a chysylltiadau cyhoeddus blaenllaw, gan gynnwys CIM, DMA, a PRCA. Yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei addysg o ansawdd uchel, mae myfyrwyr yn cael buddion niferus, o ardystiadau diwydiant i gyfleoedd rhwydweithio, ac eithriadau posibl o gymwysterau CIM.


Addysgu Mathemateg Hanfodol ar gyfer Addysgu

Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.


Nyrsio Meddygaeth Acíwt - MSc

Agwedd nodedig ar ein cwrs MSc Meddygaeth Acíwt ar-lein yw ei fod yn rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol astudio ar lefel ôl-raddedig heb eu rhyddhau o'r gwaith. Heb unrhyw ddarlithoedd na gweminarau ar adegau penodol, gall myfyrwyr drefnu eu hastudiaethau yn hyblyg o amgylch eu hymrwymiadau personol a phroffesiynol.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Acíwt - PGDip

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Diploma MSc, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth systematig o ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, a ddarperir gan brotocol, sy'n hanfodol wrth optimeiddio gofal acíwt.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch - MSc

Mae'r cwrs MSc blwyddyn mewn Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch ar gael i'r rhai sydd wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch (120 credyd). Gall hyn fod o Ddiploma MSc, Prifysgol De Cymru neu o brifysgol arall yn y DU (ar ôl cwblhau modiwlau tebyg).

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch - PGDip

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cael ei gynnal gyd'r Diploma MSc partner cydweithredol. Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch chi'n dod yn arweinydd ym maes Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch a gallwch fynd ymlaen i astudio'r MSc mewn Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Meddygaeth Anadlol - MSc

Mae'r MSc Meddygaeth Anadlol yn gwrs ar-lein, sy'n cael ei gynnal gyda'n Diploma MSc partner cydweithredol. Mae'n caniatáu i chi archwilio ac astudio prif ddosbarthiadau clefyd anadlol, cynnal ymchwil mewn meddygaeth anadlol a chael cyfle uniongyrchol i wella gofal cleifion.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Anadlol - PGDip

Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Anadlol, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn eich galluogi i gymhwyso gwybodaeth er budd clinigol uniongyrchol ac astudio mewn meddygaeth anadlol yn y dyfodol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Arennol - MSc

Mae gan gynnwys y cwrs ffocws clinigol. Fe'i cynlluniwyd ar sail ar ymchwil helaeth gydag ymarferwyr gofal sylfaenol, mae'n berthnasol iawn ac mae'n cynnwys y datblygiadau diweddaraf mewn meddygaeth arennol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Arennol - PGDip

Mae gan gynnwys y cwrs ffocws clinigol. Fe'i cynlluniwyd yn seiliedig ar ymchwil helaeth gydag ymarferwyr gofal sylfaenol, mae'n berthnasol iawn ac mae'n cynnwys y datblygiadau diweddaraf mewn meddygaeth arennol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Chwaraeon Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff - MSc

Mae’r cwrs dwy flynedd MSc Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy’n cael ei addysgu ar-lein, wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylchedd clinig chwaraeon ac fe’i cyflwynir gan dîm arloesol a phrofiadol sydd ag enw da sefydledig yn rhyngwladol ym maes meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff - PGDip

Mae'r cwrs ar-lein hwn, sy’n cael ei redeg gyda’r partner cydweithredol Diploma MSc, yn seiliedig ar y cwricwlwm hyfforddiant arbenigol a ddatblygwyd gan Gyfadran Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Coleg Brenhinol y Meddygon. Yn sgil hynny, mae'n cyrraedd y safonau uchaf ar gyfer addysg Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff a bydd yn gwella cyflogadwyedd cenedlaethol a rhyngwladol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Esgyrn a Chalsiwm - PGCert

Mae'r rhaglen hon yn cofleidio persbectif rhyngwladol, gan groesawu dysgwyr o gefndiroedd amrywiol a meithrin cymuned fyd-eang. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgu gan gyfoedion ac arbenigwyr ledled y byd, gan annog cyfnewid syniadau a phrofiadau ar draws ffiniau.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Fenopos - PGCert

Bydd y rhaglen hon hefyd yn eich galluogi i ymchwilio i'r symptomau systemig sy'n gysylltiedig â'r menopos, fel newidiadau i'r croen a phyliau o wres.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ceiropracteg Meddygaeth Fetabolig - PGCert

Byddai Tystysgrif Ôl-raddedig lefel 7 mewn Meddygaeth Fetabolig yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o reolaeth y prif anhwylderau metabolig.


Nyrsio Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol - MSc

Nod y Diploma MSc, sy'n cael ei chynnal gyda'n partneriaid, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol - PGDip

Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol yn darparu dull integredig unigryw o ymdrin â meddygaeth gardiofasgwlaidd ataliol, a bydd yn canolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion gwyddonol i ofal uniongyrchol i gleifion.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Meddygaeth Genomeg a Gofal Iechyd - PGDip

Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Genomig a Gofal Iechyd yn darparu dull integredig o ymdrin â'r pwnc diddorol hwn, a bydd yn canolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion gwyddonol i ofal uniongyrchol i gleifion.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig - MSc

Erbyn hyn mae cymhwyster ôl-raddedig ffurfiol yn elfen hanfodol o daith ymarferydd gofal iechyd i ddod yn ymarferydd esthetig. Mae'r radd Meistr mewn Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig, a addysgir yn llwyr ar-lein, wedi'i datblygu gyda'r pwrpas penodol o hyrwyddo a gwella'r wybodaeth sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig - PGCert

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig, a gaiff ei haddysgu'n llwyr ar-lein, wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer meddygon, deintyddion, therapyddion deintyddol, fferyllwyr a nyrsys, ac fe'i datblygwyd er mwyn hyrwyddo a gwella'r wybodaeth broffesiynol sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig - PGDip

Bu twf dramatig ym mhoblogrwydd gweithdrefnau cosmetig ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys pigiadau tocsin botwlinwm, llenwyr dermol, triniaeth laser a mwy.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Iechyd Rhywiol - PGCert

Mae ymwybyddiaeth uwch a'r angen am glinigau, gwasanaethau arbenigol a darpariaeth gofal cysylltiedig yn dangos angen clir am wybodaeth a chyfleoedd addas i gymryd rhan mewn ymchwil bwysig yn y maes hwn.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Meddygaeth Rywiol ac Atgenhedlol - MSc

Bydd yr MSc ar-lein mewn Meddygaeth Rhywiol ac Atgenhedlol, a gyflwynir dros ddwy flynedd, yn rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwblhau prosiect proffesiynol sy'n cynhyrchu darn o waith, yn ymwneud â phwnc o ddiddordeb personol yn y maes arbenigol hwn.


Nyrsio Meddygaeth Rywiol ac Atgenhedlol - PGDip

Caiff y Diploma Ôl-raddedig dysgu o bell rhan-amser ar-lein mewn Meddygaeth Rhywiol ac Atgenhedlol ei gyflwyno dros flwyddyn ac mae wedi'i ddatblygu'n arbennig ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol prysur.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Thyroid - PGCert

Mae'r rhaglen yn ymdrin â phrif agweddau meddygaeth thyroid gan gynnwys ffisioleg thyroid, nodylau thyroid, isthyroidedd a gorthyroidedd.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Meddygaeth Wrth-Heneiddio - PGCert

Trwy gydweithio â chyd-fyfyrwyr o ranbarthau daearyddol amrywiol, byddwch yn cymryd rhan mewn cydweithrediad syniadau a fydd yn ehangu eich persbectif. Byddwch hefyd yn meithrin ymagweddau arloesol at ymyriadau a thriniaethau gwrth-heneiddio.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Rhyngddisgyblaethol Meistr drwy Ymchwil - MA/MSc

Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan amser, ar y campws neu o bell (os yw natur y prosiect yn caniatáu hynny a bod gennych y seilwaith yn ei le i gefnogi astudio o bell).


Rhyngddisgyblaethol Meistr mewn Athroniaeth - MPhil

Meistrolwch eich angerdd, gyrru newid, a siapio'r dyfodol gyda gwybodaeth ac ymchwil uwch.


Ceiropracteg Meistr mewn Ceiropracteg - MChiro

Sicrhewch bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo fel ceiropractydd trwy gymorth arbenigwyr sy'n arwain y byd, cyfleusterau o'r radd flaenaf, a phrofiadau helaeth yn y byd go iawn. Datblygwch sgiliau llaw a gwybodaeth anatomegol ragorol, wrth ddysgu cydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a datrys problemau cymhleth.


Ceiropracteg Meistr mewn Ceiropracteg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - MChiro

Prif nod y cwrs Ceiropracteg yw cynhyrchu graddedigion myfyriol, sy'n gallu datrys problemau sy'n codi o fewn ymarfer clinigol, ynghyd ag ymateb yn briodol i anghenion iechyd eu cleifion a'r gymuned gyfan.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes - MBA

P'un a ydych yn gweithio mewn sefydliad sector cyhoeddus neu breifat, byddwch yn dysgu sut i integreiddio ymchwil ac ymarfer blaengar ar draws pob maes busnes allweddol i drawsnewid busnes. Byddwch yn cael y dewis hefyd i ennill Diploma Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol. Mae hyn wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm, felly nid oes angen asesiad ychwanegol, dim ond cofrestriad llawn o fewn yr amser gofynnol a llwyddo yn yr asesiadau gofynnol gyda marc o fwy na 40%.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang - MBA

Mae'r MGB Byd-eang yn adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys problemau busnes cymhleth wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol yng nghyd-destun eu sefydliadau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Cadwyn Gyflenwi) - MBA

Mae'r MGB Byd-eang yn adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys problemau busnes cymhleth wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol yng nghyd-destun eu sefydliadau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Cyllid) - MBA

Mae'r MGB Byd-eang yn adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys problemau busnes cymhleth wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol yng nghyd-destun eu sefydliadau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Entrepreneuriaeth) - MBA

Mae'r MGB Byd-eang yn adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys problemau busnes cymhleth wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol yng nghyd-destun eu sefydliadau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Marchnata) - MBA

Mae'r MGB Byd-eang yn adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys problemau busnes cymhleth wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol yng nghyd-destun eu sefydliadau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Rheoli Adnoddau Dynol) - MBA

Mae'r MGB Byd-eang yn adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys problemau busnes cymhleth wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol yng nghyd-destun eu sefydliadau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Rheoli Lletygarwch) - MBA

Mae'r MBA Byd-eang yn rhedeg am 20 mis, lle cewch gyfle i gwblhau lleoliad diwydiant o hyd at wyth mis. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth am swyddogaethau rheoli allweddol ac i adeiladu eich profiad o weithio yn y sector lletygarwch yn y DU.


Animeiddio a Gemau Menter Gemau - MA

Fel rhan o’r daith i ddod yn feistr ar greu gêmau fideo, byddwch yn datblygu sawl prosiect gêmau sydd â dogfennaeth gadarn, strategaeth fusnes manwl ac, wrth gwrs, gêm i ymfalchïo ynddi.


Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Newyddiaduraeth Chwaraeon - BA (Anrh)

Os ydych chi'n caru chwaraeon ac eisiau dysgu sut i adrodd stori wych, mae ein cwrs newyddiaduraeth chwaraeon ar eich cyfer chi.

Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Newyddiaduraeth Weledol - MA

Byddwch yn archwilio ystod o ddulliau newydd a deinamig o greu cynnwys ar gyfer amrywiaeth o sectorau a llwyfannau, wrth fireinio egwyddorion allweddol adrodd straeon newyddiadurol a chyfathrebu cywir a chyfrifol. Mae gan y broses o gyfnewid gwybodaeth y pŵer i ddylanwadu'n eang, i gael ei defnyddio'n fyd-eang ac i wneud brandiau ac unigolion yn feiral.

Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Nyrsio (Anableddau Dysgu) - BSc (Anrh)

Astudiwch yn llawn amser neu'n rhan-amser i ddod yn nyrs gymwysedig sy'n arbenigo mewn cefnogi plant ac oedolion ag anableddau dysgu ar y cwrs achrededig hwn. Mae ein tîm Addysgu ac Ymchwil yn cynnwys oedolion ag anableddau dysgu sy'n rhoi cyngor ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.


Nyrsio Nyrsio (Anableddau Dysgu) - PGDip

Mae'r cwrs hwn yn defnyddio efelychiad i hwyluso dealltwriaeth o'r grefft o nyrsio ac i ddysgu ac ymarfer sgiliau a gweithdrefnau nyrsio. Mae'r cwrs yn cael ei ddilysu a'i reoleiddio gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Ar ôl cwblhau'r rhaglen gall myfyrwyr wneud cais i gofrestru gyda'r cyngor.


Nyrsio Nyrsio (Anableddau Dysgu): Dysgu Hyblyg - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs hwn sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn galluogi ymgeiswyr cymwys i weithio tuag at statws Nyrs Gofrestredig, ennill cymhwyster gradd mewn un o bedwar maes nyrsio arbenigol, wrth barhau â'u horiau dan gontract mewn cyflogaeth fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.


Nyrsio Nyrsio (Iechyd Meddwl) - BSc (Anrh)

Bydd y radd hon yn eich helpu i ddod yn nyrs iechyd meddwl hyderus, gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad clinigol hanfodol. Dysgwch sgiliau allweddol mewn gofal iechyd meddwl, perthnasoedd therapiwtig, iechyd y cyhoedd, a lleoliadau gwaith clinigol mewn amgylcheddau clinigol, gan sicrhau gofal cynhwysfawr, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.


Nyrsio Nyrsio (Iechyd Meddwl) - PGDip

Mae'r cwrs hwn yn darparu llwybr 2 flynedd i gofrestru fel nyrs i'r rhai sydd eisoes yn meddu ar radd anrhydedd israddedig ac sydd â phrofiad ymarferol mewn iechyd a/neu ofal cymdeithasol. Mae'r cwrs yn cael ei ddilysu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac ar ôl cwblhau'r cwrs gall myfyrwyr wneud cais i gofrestru gyda'r cyngor.


Nyrsio Nyrsio (Iechyd Meddwl): Dysgu Hyblyg - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs hwn sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn galluogi ymgeiswyr cymwys i weithio tuag at statws Nyrs Gofrestredig, ennill cymhwyster gradd mewn un o bedwar maes nyrsio arbenigol, wrth barhau â'u horiau dan gontract mewn cyflogaeth fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.


Nyrsio Nyrsio (Oedolion) - BSc (Anrh)

Datblygwch i fod yn nyrs oedolion gofrestredig, gan hyfforddi mewn cyfleusterau clinigol o'r radd flaenaf a phrofi ystod o leoliadau gofal iechyd go iawn.


Nyrsio Nyrsio (Oedolion) - PGDip

Mae'r cwrs hwn yn darparu llwybr 2 flynedd i gofrestru fel nyrs i'r rhai sydd eisoes yn meddu ar radd anrhydedd israddedig ac sydd â phrofiad ymarferol mewn iechyd a/neu ofal cymdeithasol. Mae'r cwrs yn cael ei ddilysu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac ar ôl cwblhau'r cwrs gall myfyrwyr wneud cais i gofrestru gyda'r cyngor.


Nyrsio Nyrsio (Oedolion): Dysgu Hyblyg - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs hwn sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn galluogi ymgeiswyr cymwys i weithio tuag at statws Nyrs Gofrestredig, ennill cymhwyster gradd mewn un o bedwar maes nyrsio arbenigol, wrth barhau â'u horiau dan gontract mewn cyflogaeth fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.


Nyrsio Nyrsio (Plant) - BSc (Anrh)

Mae'r radd nyrsio plant tair blynedd hon yn cyfuno theori ac ymarfer mewn ffordd arloesol, i ganolbwyntio ar ofal plant mewn amrywiaeth eang o leoliadau gofal iechyd.


Nyrsio Nyrsio (Plant): Dysgu Hyblyg - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs hwn sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn galluogi ymgeiswyr cymwys i weithio tuag at statws Nyrs Gofrestredig, ennill cymhwyster gradd mewn un o bedwar maes nyrsio arbenigol, wrth barhau â'u horiau dan gontract mewn cyflogaeth fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.


Nyrsio Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol - Nyrsio Ysgolion - PGDip

Byddwch yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau, ac yn gwella’r sgiliau rhyngbersonol a'r galluoedd rheoli sydd eu hangen i ymarfer yn hyderus, yn gymwys ac yn effeithiol.


Nyrsio Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol - Ymwelwyr Iechyd - PGDip

Byddwch yn ennill y wybodaeth, y sgiliau rhyngbersonol a'r galluoedd rheoli i ymarfer yn hyderus, yn gymwys ac yn effeithiol.


Cerddoriaeth a Sain Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth - MSc

Elfen bwysig o’r radd Meistr Peirianneg Cerddoriaeth yw cymhwyso’ch gwybodaeth yn ymarferol i gynhyrchu gwaith creadigol iawn. Archwilir meysydd perthynol hefyd, sy’n caniatáu i raddedigion gymhwyso eu sgiliau i lawer o feysydd eraill sy’n gysylltiedig â chyfryngau, gan gynnwys ffilm ac animeiddio.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg a Rheoli Hedfanaeth - MSc

Ar y cwrs hwn, byddwch yn mireinio sgiliau datrys problemau ar gyfer y sector hedfan, gan ddeall heriau'r diwydiant drwy fodiwlau amrywiol. Byddwch yn dysgu am offer a dulliau ymchwil i fynd i'r afael â materion hedfan yn y byd go iawn. Gyda disgwyl i nifer yr awyrennau masnachol ddyblu mewn 20 mlynedd, bydd ein cwrs MSc Peirianneg a Rheoli Awyrennau yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrenegol - BEng (Anrh)

Dysgwch y sgiliau i weithio ar bob agwedd ar gerbydau awyr o ddylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, profi ehediadau ac ardystio, i warchod addasrwydd i hedfan a gweithrediadau awyrennau cynaliadwy, gyda'n cwrs peirianneg awyrenegol o'r radd flaenaf.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrenegol - MEng

Y cwrs pedair blynedd Meistr mewn Peirianneg (MEng) yw'r dyfarniad uchaf ar gyfer astudiaethau israddedig ym maes peirianneg ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr mwy galluog. Mae cyfuno ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Awyrenegol â deunydd lefel Meistr yn eich galluogi i sefyll ar wahân trwy ddatblygu set uwch o sgiliau proffesiynol a thechnegol.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrenegol - MSc

Mae’r MSc Peirianneg Awyrenegol yn bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig (CEng) gyda’r Sefydliad Peirianneg Fecanyddol (IMechE) a’r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS).Mae dilyniant at reolaeth yn allweddol i yrfaoedd peirianwyr ôl-raddedig, felly fel rhan o’r rhaglen peirianneg awyrenegol byddwch yn datblygu sgiliau rheoli perthnasol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r materion ehangach sy’n effeithio’r diwydiant awyrenegol.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrenegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Os nad oes gennych y graddau cywir i gofrestru'n uniongyrchol ar gyfer ein cwrs gradd BEng (Anrh) Peirianneg Awyrenegol, gallwch ddechrau eich astudiaethau gyda blwyddyn sylfaen. Astudiwch egwyddorion peirianneg allweddol a chael profiad ymarferol gan ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf. Ehedwch fry gyda gwersi prawf hedfan yn eich blwyddyn olaf.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrofod - BEng (Anrh)

Mae cyrraedd y gofod yn gofyn am beirianwyr sydd nid yn unig â sgiliau technegol rhagorol, ond hefyd y creadigrwydd i ddatrys problemau newydd a chymhleth. Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu hennill ar y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer swyddi ar draws y byd awyrofod, yn ogystal â byd awyrennau, moduron, gweithgynhyrchu a mwy.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrofod - MEng

Nod y radd hon yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi symud ymlaen i weithio yn y diwydiant awyrofod. Mae’r cwrs llawn yn cynnwys profiad hedfan byw, sy’n cael ei atgyfnerthu gan waith SIM yn yr efelychydd hedfan. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant, ac rydym yn annog lleoliadau diwydiannol fel rhan o opsiwn blwyddyn ryngosod.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Awyrofod gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Nod y radd hon yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi symud ymlaen i’r cwrs BEng (Anrh) Peirianneg Awyrofod. Mae’r cwrs llawn yn cynnwys profiad hedfan byw, sy’n cael ei atgyfnerthu gan waith SIM yn yr efelychydd hedfan. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant, ac rydym yn annog lleoliadau diwydiannol fel rhan o opsiwn blwyddyn ryngosod.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Broffesiynol - MSc

Mae'r MSc Peirianneg Broffesiynol ar gael i'r rhai sydd mewn swydd ar hyn o bryd ac mae'n ddelfrydol os ydych chi’n ceisio symud ymlaen a datblygu ymhellach yn y proffesiwn peirianneg. Mae'r cymhwyster peirianneg rhan-amser arloesol a hyblyg yn eich galluogi i ennill gradd Meistr a symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig (CEng) trwy weithgareddau a wneir yn y gweithle.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau - BSc (Anrh)

Hedfan yw'r ffordd fwyaf diogel o deithio, a hynny'n bennaf oherwydd pobl fel chi. Byddwn yn eich addysgu sut mae awyrennau'n hedfan, a sut mae gwneud yn siŵr eu bod yn hedfan yn ddiogel. Byddwch yn dysgu'r gwaith mathemateg, ffiseg ac electroneg ac yn eu defnyddio mewn modd ymarferol i gynnal awyrennau i'r safonau diogelwch uchaf.


Peirianneg Awyrofod Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Heb gael y graddau roeddech chi eu heisiau? Cwblhewch eich blwyddyn sylfaen ac yna ennill gradd yn y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer peirianneg awyrofod (Guardian University Guide 2023) – yn ogystal â’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer trwydded cynnal a chadw awyrennau sylfaenol (Rhan-66 B1.1), a gyflawnir trwy brofiadau yn y byd go iawn a fydd yn helpu i roi hwb i’ch gyrfa.


Peirianneg Trydanol ac Electronig Peirianneg Drydanol ac Electronig - BEng (Anrh)

Mae angen mwy na sgiliau rhagorol yn unig ar beirianwyr trydanol heddiw, mae hefyd angen creadigrwydd ac arloesedd i ffynnu mewn byd mwy digidol, deallus a chysylltiedig. Mae'r radd hon yn sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer, gan baratoi graddedigion ar gyfer rolau arwain mewn diwydiant.

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Peirianneg Trydanol ac Electronig Peirianneg Drydanol ac Electronig - MEng

Mae'r cwrs MEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn cyfuno deunydd BEng (Anrh) gyda chynnwys lefel Meistr, gan gynnig sgiliau proffesiynol a thechnegol uwch i fyfyrwyr mwy datblygedig. Mae'r radd hon yn sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer, gan baratoi graddedigion ar gyfer rolau arwain mewn diwydiant.

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Peirianneg Trydanol ac Electronig Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol) - BSc (Anrh)

Mae cael cymhwyster BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol) yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth a'ch sgiliau arbenigol. Caiff y cwrs atodol ei addysgu'n llawn amser (mynediad uniongyrchol) neu'n rhan-amser i'r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth, ac mae’n rhoi'r dewis i chi arbenigo naill ai mewn peirianneg pŵer trydanol neu mewn peirianneg electroneg.

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Peirianneg Trydanol ac Electronig Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol) - HND

Mae'r cwrs HND Peirianneg Drydanol ac Electronig, dwy flynedd, rhan-amser hwn yn caniatáu i raddedigion HNC, mewn disgyblaeth gysylltiedig, i ddilyn cwrs HND Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol). Ar ôl cwblhau'r HND yn llwyddiannus, mae cyfle pellach i symud ymlaen i'n cwrs BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol).

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Peirianneg Trydanol ac Electronig Peirianneg Drydanol ac Electronig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Os nad yw’r cymwysterau iawn gennych chi i ddechrau ein gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig fe allech chi ddewis dechrau ar eich astudiaethau gyda'r cwrs sylfaen hwn. Byddwch yn astudio modiwlau rhagarweiniol gan ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer astudio academaidd. Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.

Peirianneg Trydanol ac Electronig Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol - BEng (Anrh)

Mae'r radd BEng Peirianneg Fecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol - BSc (Anrh)

Paratowch i yrru arloesedd mewn maes deinamig wrth i chi ddod yn beiriannydd achrededig a datblygu'ch sgiliau gydag offer, technegau a thechnoleg ddiweddaraf safon y diwydiant. Gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant sy'n datrys problemau go iawn ar draws sectorau gan gynnwys y sectorau modurol, diwydiannol, hedfan ac ynni adnewyddadwy.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol - HNC

Mae peirianneg yn faes enfawr gyda chyfleoedd gwaith anhygoel, a gallwn eich helpu i gymryd y cam cyntaf yn eich addysg beirianneg. Wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser gyda’ch cyflogwr, byddwch yn dysgu hanfodion peirianneg fecanyddol a’r sgiliau astudio y mae eu hangen arnoch i fynd â’ch dysgu ymhellach.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol - HND

Mae peirianneg yn faes enfawr gyda chyfleoedd gwaith anhygoel. Mae’r HND yn cymryd cam y tu hwnt i’r HNC, gan ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i lefel uwch-dechnegydd a’r hyn sy’n cyfateb i ail flwyddyn BSc (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol. Dysgwch yn rhan-amser tra’n gweithio hefyd am ddwy neu bedair blynedd.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol - MEng

Drwy gyfuno ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol â deunydd ar lefel Meistr, mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ennill bri pellach gyda set uwch o sgiliau proffesiynol a thechnegol. Hefyd, mae'r cwrs Peirianneg Fecanyddol yn dileu'r angen i ddod o hyd i ragor o gyllid i astudio cymhwyster lefel Meistr.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol - MSc

Mae'r MSc Peirianneg Fecanyddol yn PDC yn mynd i'r afael â'r galw mawr am beirianwyr ôl-raddedig medrus. Amcan y cwrs yw helpu i ennill statws Peiriannydd Siartredig, ac mae'n cyfoethogi gwybodaeth wrth feithrin sgiliau rheoli prosiectau a sgiliau pobl. Mae myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd uwch, yn dysgu ystyriaethau amgylcheddol a diogelwch, ac yn mynd i'r afael â materion yn y byd go iawn trwy draethodau hir wedi'u llywio gan waith ymchwil ac ymgynghori gweithredol staff.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Fecanyddol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Os nad yw’r graddau cywir gennych chi i gofrestru'n uniongyrchol ar y radd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol, fe allech ddewis dechrau eich astudiaethau gyda blwyddyn sylfaen. Ei bwriad yw datblygu eich sgiliau mewn mecaneg a mathemateg – meysydd pwysig a fydd yn sail i'ch dysgu ar y cwrs gradd.


Peirianneg Modurol Peirianneg Fodurol - BEng (Anrh)

Mae'r diwydiant modurol yn newid yn gyflym ac rydym yn newid gydag ef. Mae ein BEng mewn Peirianneg Fodurol yn cyfuno mecaneg ac electroneg i ddiwallu anghenion dylunwyr a gweithgynhyrchwyr ceir. Byddwch yn cwblhau eich gradd yn barod i weithio ar geir yfory ac yn rhan o ddyfodol moduro.


Peirianneg Modurol Peirianneg Fodurol - MEng

Nod y cwrs MEng pedair blynedd hwn yw rhoi gwybodaeth dechnegol uwch i chi, a dyma'r dyfarniad uchaf ar gyfer astudiaethau israddedig. Mae'r cwrs MEng yn llwybr gwych i fyfyrwyr sydd am ddod yn Beirianwyr Siartredig cofrestredig gan ei fod yn bodloni gofynion addysgol y Cyngor Peirianneg i ennill statws Peiriannydd Siartredig.


Peirianneg Modurol Peirianneg Fodurol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Os nad yw’r cymwysterau cywir gennych chi i ddechrau ein gradd BEng Peirianneg Modurol, fe allech ddewis cychwyn ar eich astudiaethau gyda chwrs sylfaen. Byddwch yn astudio modiwlau rhagarweiniol sy'n berthnasol i'r cwrs gradd a bydd cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i BEng (Anrh) Peirianneg Modurol.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil - BEng (Anrh)

Rydym yn cymryd Peirianneg Sifil o ddifrif. O’r gwareiddiadau cynharaf, mae peirianwyr wedi dylunio’r amgylchedd adeiledig ac wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o broffesiynau hynaf y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar ddynoliaeth.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil - BSc (Anrh)

Rydym yn cymryd peirianneg sifil o ddifrif. Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg sylfaenol ac uwch, yn ogystal â sgiliau TG allweddol sy'n berthnasol i'r diwydiant. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o'r proffesiynau hynaf yn y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar y ddynoliaeth.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil - HNC

Os oeddech chi’n meddwl nad oedd y brifysgol ar eich cyfer chi ond bod y byd gwaith wedi gwneud i chi feddwl eto, efallai mai ein HNC mewn Peirianneg Sifil yw’r ateb i chi. Mae’n gymhwyster galwedigaethol, sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd ac sy’n cael ei gynnig yn rhan-amser tra byddwch yn gweithio.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil - MEng

Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil - MSc

Y rhaglen MSc yw eich cyfle i sefydlu neu atgyfnerthu eich gyrfa fel Peiriannydd Sifil. Bydd eich astudiaethau'n datblygu sgiliau beirniadol a dadansoddol, a'r arbenigedd rheoli sydd ei angen i reoli prosiectau peirianneg sifil a gweithredu atebion cynaliadwy. Bydd y cwrs yn darparu'r dysgu sy'n ofynnol i symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil ac Adeiladu - BEng (Anrh)

Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladu, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.


Peirianneg Sifil Peirianneg Sifil gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Os na chawsoch chi'r graddau roeddech chi eu heisiau, mae PDC yn cynnig blwyddyn sylfaen mewn Peirianneg Sifil, gan baratoi'r ffordd i'r radd BSc (Anrh). Mae'r rhaglen gynhwysfawr hon yn rhoi sgiliau ymarferol a hyfforddiant academaidd i fyfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes dylunio strwythurol, rheoli prosiectau, peirianneg trafnidiaeth, a datblygu cynaliadwy.


Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Systemau Mecanyddol - BEng (Anrh)

Mae'r radd BEng Peirianneg Systemau Mecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.


Drama a Pherfformio Perfformio a'r Cyfryngau - BA (Anrh)

Dysgwch sut i greu cynnwys a chynhyrchu perfformiadau byw a chyfryngau wedi eu recordio.


Heddlua a Diogelwch Plismona Proffesiynol - BSc (Anrh)

Yn barod i gamu i rengoedd y genhedlaeth nesaf o swyddogion yr heddlu? Byddwch yn gallu cynnal y gyfraith a threfn yn hyderus drwy astudio ar gyfer ein gradd Plismona Proffesiynol.


Heddlua a Diogelwch Plismona Proffesiynol - MA

Mae ein gradd Heddlua Proffesiynol wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn ac wedi darparu addysg i’r heddlu ers degawdau. Gan adeiladu ar hynny, fe gynlluniwyd y cwrs hwn i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn y sector heddlua.


Heddlua a Diogelwch Plismona Proffesiynol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Ar ôl pasio’r flwyddyn hon yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y radd heddlua proffesiynol sy’n cwrdd â holl ofynion craidd Cwricwlwm Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer gradd mewn Heddlua Proffesiynol cyn ymuno â’r Coleg Heddlua.


Saesneg Rhyngwladol Rhaglen Gyn-Sesiynol mewn Saesneg

Cwrs dwys sy’n helpu myfyrwyr i addasu'n gymdeithasol ac yn academaidd cyn dechrau'r flwyddyn academaidd yn ogystal â'u galluogi i fodloni'r gofynion mynediad Saesneg ar gyfer eu cwrs dewisol.


Busnes a Rheolaeth Rheoli - MSc

Trwy raglen astudio wedi'i theilwra, byddwch yn dysgu meddwl yn feirniadol am sut mae busnesau'n rhedeg, gan ddatblygu dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae sefydliadau’n cael eu strwythuro ac yn gweithredu mewn ffordd benodol. Byddwch yn archwilio tueddiadau sy'n newid mewn meddwl strategol hefyd i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o sut mae sefydliadau'n ymwneud â'u hamgylcheddau yn wyneb newid cyflym a thameidiog.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Adnoddau Dynol - BA (Anrh)

Os ydych chi'n angerddol am bobl a sut maen nhw'n cyfrannu at lwyddiant sefydliadau, dyma'r radd i chi. Gan gyfuno damcaniaeth â phrofiad ymarferol trwy efelychiadau a blwyddyn lleoliad dewisol, byddwch yn dod yn weithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol hyderus.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Adnoddau Dynol - MSc

Mae'r MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn rhoi cymhwyster ôl-raddedig i chi hefyd ochr yn ochr ag achrediad CIPD, y corff proffesiynol ar gyfer Rheolwyr Adnoddau Dynol, ar lefel gyswllt.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Adnoddau Dynol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Bydd y cwrs Rheoli Adnoddau Dynol hwn yn eich galluogi i archwilio meysydd gan gynnwys busnes, seicoleg a chyfrifeg, gan roi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i chi symud ymlaen i barhau ar gwrs gradd a chael cyfle i gyflawni eich dyheadau. Addysgir y cwrs hwn dros dri diwrnod yr wythnos i alluogi myfyrwyr i reoli astudiaethau o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu eraill.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Busnes (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs hwn, ynghyd â'i lwybrau arbenigol, yn darparu addysg fusnes gyfoes ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sy’n eich paratoi â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus, a gwella eich galluoedd busnes a rheoli.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid) (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs hwn yn darparu addysg fusnes gyfoes gyda modiwlau arbenigol ym meysydd cyfrifeg a chyllid, gan eich paratoi â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad fusnes sy'n esblygu'n barhaus a gwella eich galluoedd busnes a chyfrifyddu.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Busnes (Marchnata) (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs hwn yn dysgu addysg fusnes gyfoes i chi drwy gynnig modiwlau arbenigol mewn marchnata, gan roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus yn ogystal â gwella eich sgiliau busnes a marchnata.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs hwn yn darparu addysg fusnes gyfoes gyda modiwlau arbenigol ym maes rheoli adnoddau dynol, gan eich paratoi â'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus a gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd ym maes rheoli adnoddau dynol.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi) (Atodol) - BA (Anrh)

Gan ymchwilio i arferion ac egwyddorion craidd rheoli cadwyn gyflenwi, mae'r cwrs hwn yn pwysleisio integreiddio logisteg, caffael a gweithrediadau’n ddi-dor i yrru effeithlonrwydd gweithredol, cost-effeithiolrwydd, a chynaliadwyedd hirdymor ar draws cadwyni cyflenwi byd-eang.


Gwyddorau Amgylcheddol Rheoli Cadwraeth a Bywyd Gwyllt - MSc

Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys technegau arolygu, cymhwyso systemau monitro, a systemau gwybodaeth daearyddol, o fewn fframwaith o theori ecolegol, egwyddorion cadwraeth a systemau deddfwriaethol. Rydym yn cynnig rhaglen waith maes helaeth a chyffrous i helpu i'ch hyfforddi mewn ystod eang o dechnegau arolygu a monitro amgylcheddol.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Caffael Strategol - MSc

Mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol, mae angen i reolwyr prynu a'r gadwyn gyflenwi ddatblygu a dangos amrywiaeth o gymwyseddau allweddol. Mae'r MSc Rheoli Caffael Strategol wedi'i achredu CIPS, sy'n golygu y gallwch fod yn sicr eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cyd-fynd yn agos ag anghenion diwydiant.


Amgylchedd Adeiledig Rheoli Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd - MSc

Gyda materion diogelwch, iechyd ac amgylcheddol yn dod yn fwyfwy pwysig, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau cywir. Mae'r cwrs gradd MSc Diogelwch, Iechyd a Rheolaeth Amgylcheddol yn cynhyrchu ymarferwyr iechyd a diogelwch o'r fath, sy'n gallu nodi, asesu a datrys problemau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol drwy gymhwyso egwyddorion rheoli da.


Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rheoli Gwestai a Lletygarwch - BA (Anrh)

Paratowch ar gyfer eich rôl gwesty a lletygarwch ddelfrydol gyda'n gradd Rheoli Gwesty a Lletygarwch sy'n cynnwys profiad gwaith yng Ngwesty'r Celtic Manor.

Rheoli Gwesty a Lletygarwch Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwasanaethau Cyhoeddus Rheoli Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus - MSc

Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o ddarparu cyrsiau rheoli gofal iechyd o ansawdd uchel ac mae wedi darparu rhaglenni ôl-raddedig tebyg yn llwyddiannus ers dros 20 mlynedd.


Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol - BSc (Anrh)

Mae gradd mewn rheoli iechyd, lles a gofal cymdeithasol yn helpu myfyrwyr i gydnabod yr angen i arwain gydag ysbrydoliaeth yn y sector hwn. Mae hefyd yn helpu darpar reolwyr i adnabod eu potensial i ddefnyddio dulliau medrus.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Busnes a Rheolaeth Rheoli Peirianneg - MSc

Fel deiliad gradd mewn peirianneg, gallwch wella datblygiad eich gyrfa trwy ennill gwybodaeth eang am reoli cyfoes. Mae'r MSc Rheoli Peirianneg yn cynnig archwiliad manwl o theori ac ymarfer meysydd allweddol, sy'n ddelfrydol os oes gennych gefndir peirianneg ymarferol ac os oes gennych ddiddordeb neu'ch bod yn gweithio mewn rôl reoli yn y sector preifat neu gyhoeddus.


Nyrsio Rheoli Poen - MSc

Ar ôl cwblhau'r cwrs Rheoli Poen ar-lein, byddwch yn gallu ehangu'r wybodaeth am ddulliau ymchwil a'u cymhwyso i ymarfer ar lefel MSc a dangos y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i addasu ymarfer proffesiynol i fodloni gofynion newidiol systemau gofal iechyd.


Nyrsio Rheoli Poen - PGDip

Ar ôl cwblhau'r Diploma Rheoli Poen, byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth systematig o ofal cleifion ym maes Rheoli Poen; gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol ym maes Rheoli Poen rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol


Busnes a Rheolaeth Rheoli Prosiect - MSc

Yr MSc Rheoli Prosiect yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gymeradwyo'n swyddogol gan y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM). Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ar gyfer darllen mewn prosiectau, gan gynnwys agweddau ar theori a dysgu, ac mae wedi'i fapio yn erbyn sgiliau perthnasol.


Amgylchedd Adeiledig Rheoli Prosiect (Adeiladu) - BSc (Anrh)

Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.


Amgylchedd Adeiledig Rheoli Prosiect Adeiladu - BSc (Anrh)

Datblygwch eich sgiliau fel rheolwr prosiect adeiladu, gan ddysgu sut i bontio’r bwlch rhwng cleient a chontractwr a chyflawni prosiectau mewn pryd ac o fewn y gyllideb.


Amgylchedd Adeiledig Rheoli Prosiect Adeiladu - MSc

Os ydych chi’n gweithio mewn proffesiwn sy’n gysylltiedig ag adeiladu, neu os ydych chi eisiau gyrfa ym maes rheoli prosiectau adeiladu, bydd y cwrs Meistr hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Achredir y cwrs gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a’r APM.


Amgylchedd Adeiledig Rheoli Prosiect Adeiladu gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Rheoli Pwysau a Gordewdra - MSc

Mae'r cwrs Meistr mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau, sy'n cael ei gynnal gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Gordewdra a Rheoli Pwysau yn feirniadol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Rheoli Pwysau a Gordewdra - PGDip

Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau’n canolbwyntio ar alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i drin cleifion yn effeithiol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Rhewmatoleg - MSc

Nod y radd MSc hon mewn Rhiwmatoleg, sy'n cael ei chynnal gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Rhiwmatoleg.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Rhewmatoleg - PGDip

Nod y Diploma Ôl-raddedig mewn Rhewmatoleg, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Rhewmatoleg.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Saesneg Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)

Ymgollwch ym myd geiriau ar y cwrs hwn, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer storïwyr angerddol a phobl sy’n caru llenyddiaeth.


Saesneg Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Bydd y cwrs Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol hwn yn eich galluogi i archwilio meysydd gan gynnwys Saesneg, Hanes a’r Cyfryngau, ochr yn ochr â rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i ddilyn cwrs Gradd a chael y cyfle i gyflawni eich dyheadau.


Addysgu Saesneg Hanfodol ar gyfer Addysgu

Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.


Cyfrifeg a Chyllid Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)

Mae’r cymhwyster ACA gan ICAEW yn gymhwyster cyfrifyddu safon aur premiwm sy’n eich cymhwyso fel cyfrifydd siartredig. Mae Prifysgol De Cymru yn cael ei chydnabod fel Partner Dysgu ICAEW ac mae ein myfyrwyr wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobrau am y marciau uchaf yng Nghymru.


Seiberddiogelwch Seiberddiogelwch Cymhwysol - BSc (Anrh)

Mae byd deinamig seiberddiogelwch angen graddedigion sy'n barod i weithredu. Dyna pam y byddwch chi'n defnyddio technoleg flaengar mewn labordai sy'n efelychu’r byd go iawn ar ein cwrs gradd Seiberddiogelwch Gymhwysol. Byddwch yn datrys problemau byw ochr yn ochr ag arbenigwyr diwydiant gan arfogi’ch hun ar gyfer ystod o rolau seiberddiogelwch.


Seiberddiogelwch Seiberddiogelwch Cymhwysol - MSc

Bydd y cwrs MSc Seiberddiogelwch Cymhwysol yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf i chi o’r bygythiadau seiber sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg mewn busnes a sut i ddelio â nhw. Byddwch yn ymdrin â’r meysydd technegol a rheoli/llywodraethu sydd eu hangen i weithredu yn y proffesiwn seiberddiogelwch, gan eich galluogi i wella eich sgiliau presennol a datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.


Seiberddiogelwch Seiberddiogelwch Cymhwysol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Gan fod mwy a mwy o darfu ar ein systemau hanfodol a’n data personol, mae angen graddedigion seiberddiogelwch medrus iawn arnom nawr yn fwy nag erioed.


Seiberddiogelwch Seiberddiogelwch, Risg a Gwydnwch - MSc

Drwy amrywiaeth o brofiadau dysgu, byddwch yn dysgu sut mae nodi a thrin risg a chreu cynlluniau a pholisïau Diogelwch Gwybodaeth cadarn a fydd yn cefnogi rheolaeth a gweithrediadau’r sefydliad.


Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Seiciatreg Glinigol - MSc

Caiff y cwrs meistr hwn ei gynnal ar y cyd â'n Diploma MSc partner cydweithredol, ac mae'n ddilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig mewn Seiciatreg Glinigol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn derbyn gradd Meistr mewn Seiciatreg Glinigol gan Brifysgol De Cymru.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Seiciatreg Glinigol - PGDip

Bydd y Diploma Ôl-raddedig ar-lein mewn Seiciatreg Glinigol, a gaiff ei gyflwyno gyda'n Diploma MSc partner cydweithredol, yn galluogi'r rheini sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol neu unedau arbenigol i gymryd diddordeb arbenigol mewn seiciatreg glinigol.

Gofal Iechyd Arbenigol (Ar-lein) Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Seicoleg Seicoleg - BSc (Anrh)

Rydym yn credu bod agor meddyliau yn agor drysau. Dyna pam mae ein gradd arloesol BSc Seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan y BPS, yn cyfuno dysgu ymarferol ag amrywiaeth eang o gyfleoedd ar leoliad a phrosiectau mewn bywyd go iawn. Mae’r cyfan yn rhoi’r profiad y mae ei angen ar ein graddedigion Seicoleg i gael dechrau llwyddiannus i’w gyrfaoedd.


Seicoleg Seicoleg (Trosi) - MSc

Byddwch yn gweithio gyda’n partneriaid allanol ar friffiau byw a phrosiect traethawd hir cymhwysol, gan roi’r cyfle i chi ysbrydoli newid gwirioneddol yn ystod eich astudiaethau.


Seicotherapi a Chwnsela Seicoleg Cwnsela - DPsych

Y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela sydd wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant mewn tri dull therapiwtig, sef Seicotherapi Perthynol Dyneiddiol, Seicotherapi Ymddygiad Gwybyddol, ac Ymarfer Systemig.

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Seicoleg Seicoleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae Gradd Sylfaen yn eich cyflwyno i astudiaeth academaidd ar lefel prifysgol. Byddwch yn dysgu am feysydd poblogaidd o ymchwil seicoleg yn ogystal ag ennill sylfaen gref mewn ystadegau, gan roi’r sgiliau a’r hyder i chi gwblhau eich astudiaeth a chael gyrfa lwyddiannus mewn seicoleg.


Seicoleg Seicoleg Glinigol - MSc

Cyfunwch brofiad ymarferol gydag ymchwil fanwl i sefyll allan wrth ymgeisio am hyfforddiant proffesiynol neu swyddi lefel cynorthwyydd.


Seicoleg Seicoleg gyda Chwnsela - BSc (Anrh)

Byddwch yn cwblhau’r holl brif feysydd angenrheidiol mewn seicoleg i gael achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain.


Seicoleg Seicoleg gyda Throseddeg - BSc (Anrh)

Byddwch yn edrych ar sut mae’r meddwl dynol yn gweithio, ac yn archwilio sut mae hyn yn effeithio ar batrymau ymddygiad troseddol, o’r cymhelliad i droseddu hyd at ddelio â chyhuddiadau anwir a’r effaith ar ddioddefwyr.


Seicoleg Seicoleg gydag Anhwylderau Datblygiadol - BSc (Anrh)

Byddwch hefyd yn astudio datblygiad niwroamrywiol ac amrywiaeth o anhwylderau datblygiadol, gan ddysgu sut mae’r rhain yn cael eu hasesu a pha ymyriadau y gallant eu cynnwys.


Seicotherapi a Chwnsela Seicotherapi Celf - MA

Mae’r cwrs MA mewn Seicotherapi Celf yn PDC, sy’n gwrs tair blynedd rhan-amser, yn rhoi’r hyfforddiant, y sgiliau a’r profiad clinigol sylfaenol i chi ddod yn Seicotherapydd Celf cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Sgiliau Cwnsela Integreiddiol - PGCert

Bydd y cwrs yn helpu i wella eich potensial o ran cyflogadwyedd drwy wella eich sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â’ch helpu i baratoi ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ac academaidd pellach.


Peirianneg Awyrofod Systemau Peirianneg a Chynnal a Chadw Awyrennau (Atodol) - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio pynciau fel Rheoli Prosiectau, Rheoli Adnoddau a Chynllunio, a Thechnolegau Datblygol.


Cerddoriaeth a Sain Technoleg Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw - BSc (Anrh)

Dysgwch sut i ddarparu systemau diogel, dibynadwy o ansawdd uchel sy'n gwneud perfformiadau'n dechnegol anhygoel.


Drama a Pherfformio Theatr a Drama - BA (Anrh)

Chi sydd pia’r llwyfan ar y cwrs gradd theatr a drama ymdrochol ac eang hwn. Ym mhob un o dair blynedd y cwrs, bydd eich astudiaethau’n seiliedig ar ŵyl theatr ac ar berfformiadau.


Seicotherapi a Chwnsela Therapi Cerddoriaeth - MA

Ein cwrs MA mewn Therapi Cerdd yw'r unig gwrs dysgu cyfunol sy'n cael ei gynnal yn y DU. Mae wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch ac ehangu mynediad i'r proffesiwn Therapi Cerdd. Rydym am eich cefnogi i ddatblygu i fod yn Therapydd Cerdd sy'n gweddu i chi a'ch cleientiaid.

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Seicotherapi a Chwnsela Therapi Chwarae - MSc

Mae'r cwrs MSc mewn Therapi Chwarae yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol yn ymwneud â therapi chwarae, gan dynnu ar brofiad a sgiliau therapyddion chwarae cymwys, yn ogystal â therapyddion creadigol eraill. Mae tîm y cwrs yn cymryd rhan weithredol mewn ymarfer clinigol, a gwaith ymchwil a chyhoeddi cysylltiedig.

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Chwaraeon Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff - BSc (Anrh)

Paratowch i weithio yn y diwydiannau meddygol, perfformiad, chwaraeon ac ymarfer corff gyda gradd achrededig yng Nghampws unigryw'r Parc Chwarae. Dysgwch sut i benderfynu a thrin anafiadau, gweithio’n uniongyrchol gydag athletwyr, cyn gadael gyda gwobrau galwedigaethol drwy gydol eich gradd.


Iechyd Perthynol Therapi Galwedigaethol - BSc (Anrh)

Fel therapydd galwedigaethol, byddwch yn galluogi a grymuso unigolion, cymunedau, a phoblogaethau i fyw eu bywydau gorau gartref, yn y gwaith ac ym mhobman arall, gan helpu pobl eraill i oresgyn heriau dyddiol, boed hynny’n ddysgu yn yr ysgol, mynd i’r gwaith, cymryd rhan mewn chwaraeon neu rywbeth mor syml â golchi’r llestri.


Amgylchedd Adeiledig Tir ac Eiddo - BSc (Anrh)

Mae'r diwydiant tir ac eiddo yn symud yn gyflym, mae’n ddeinamig, ac yn llawn cyfle. Dechreuwch eich gyrfa mewn maes gwerth chweil lle nad oes dau eiddo yr un fath. Cewch fewnwelediad i arfarniadau tir ac eiddo a chyfraith eiddo gyda'r cyfle i ennill wrth i chi ddysgu gydag astudio amser llawn a rhan-amser ar gael.


Amgylchedd Adeiledig Tir ac Eiddo gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae blwyddyn sylfaen y cwrs gradd Eiddo Tirol yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd o hyd, ac fe'i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BSc (Anrh) Eiddo Tirol.


Amgylchedd Adeiledig Tirfesur Adeiladau - BSc (Anrh)

Mae angen cynyddol am bobl sy'n gallu rheoli a chynghori ar bob agwedd ar ein hamgylchedd adeiledig sy'n newid yn barhaus. Bydd syrfewyr adeiladau yn chwarae rhan hanfodol wrth i'r galw am fannau trefol mwy cynaliadwy ac effeithlon gynyddu. Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i gamu i'r rôl honno.


Amgylchedd Adeiledig Tirfesur Adeiladau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae Arolygwyr Adeiladau yn rheoli’r Amgylchedd Adeiledig sy’n esblygu ac mae eu gwaith yn hollbwysig wrth i’r galw am ofod trefol gynyddu. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am reolaeth adeiladau, cadwraeth, diffygion, cynllunio ac adeiladu, sy’n wybodaeth allweddol yn y sector hwn.


Amgylchedd Adeiledig Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol - BSc (Anrh)

Datblygwch seilweithiau yfory gyda'n gradd achrededig. Tyfwch eich sgiliau a chymerwch yr awenau yn eich gyrfa tirfesur meintiau a rheoli masnachol.


Amgylchedd Adeiledig Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.


Troseddeg Trosedd a Chyfiawnder - MSc

Bydd myfyrwyr yn archwilio materion troseddegol manwl ac yn cwestiynu a gwerthuso’n feirniadol ddadleuon ynglŷn â syniadau o drosedd a chyfiawnder mewn ffyrdd athronyddol a chysylltiedig ag ymarfer, ac o amrywiaeth o wahanol safbwyntiau.


Troseddeg Troseddeg - BSc (Anrh)

Treiddiwch yn ddwfn i achosion a chanlyniadau troseddau, datgelwch waith mewnol y system cyfiawnder troseddol a rhowch eich sgiliau ar brawf gydag achosion bywyd go iawn.


Troseddeg Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid - BSc (Anrh)

Rydym yn credu mewn dysgu drwy wneud. Yn ein BSc Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid, byddwch yn dysgu'r ddamcaniaeth, ond byddwch hefyd yn dysgu sut i'w chymhwyso at achosion byw, achosion oer ac astudiaethau achos o'r byd go iawn, felly byddwch yn gorffen eich astudiaethau yn barod i weithio.


Troseddeg Troseddeg gyda Seicoleg - BSc (Anrh)

Ewch ati i ddysgu am fyd cymhleth ymddygiad troseddol yn ein cwrs, sy'n cyfuno astudiaethau troseddeg gyda seicoleg.


Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth - BA (Anrh)

Gan gymysgu theori â'r cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol penodol cryf, byddwn yn rhoi darlun clir i chi o sut mae'r cyfryngau yn gweithio.

Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Y Gyfraith Y Gyfraith - LLB (Anrh)

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cefnogi ac yn datblygu myfyrwyr i ddysgu ‘yn y swydd’ gyda’n gradd ryngweithiol ac ymarferol yn y gyfraith.


Y Gyfraith Y Gyfraith (Llwybr Carlam) - LLB (Anrh)

Sbardunwch eich gyrfa gyfreithiol gyda’r cwrs hyblyg hwn sy’n cynnig profiad cyfreithiol go iawn i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau blwyddyn o addysg uwch.


Y Gyfraith Y Gyfraith a Throseddeg - LLB (Anrh)

Os ydych chi'n angerddol am y system cyfiawnder troseddol neu'n awyddus i archwilio cyfraith droseddol, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Yn canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol a throseddeg, mae'n cyfuno arbenigedd cyfreithiol gyda ffocws ar gyfraith droseddol a chyfiawnder, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes cyfreithiol. Gan gynnig gradd LLB gynhwysfawr yn y gyfraith, mae'r rhaglen hon yn pwysleisio Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg i roi'r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y system gyfreithiol.


Y Gyfraith Y Gyfraith gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - LLB (Anrh)

P'un ai a ydych yn ddysgwr aeddfed, â phrofiad gwaith perthnasol ond heb gymwysterau ffurfiol, neu heb y pwyntiau UCAS sy'n ofynnol ar gyfer yr LLB safonol, gallai hwn fod y cwrs i chi. Mae'r elfen sylfaen sy'n gysylltiedig â'r LLB yn golygu y gallwch gyflawni eich dyheadau academaidd o astudio'r gyfraith er efallai na fyddwch yn dod o'r cefndir academaidd traddodiadol.


Y Gyfraith Y Gyfraith, Technoleg ac Arloesi - LLM

Mae’r cwrs, sy’n cael ei gynnal gan academyddion blaenllaw, yn canolbwyntio ar seminarau a darlithoedd lle byddwch yn gwerthuso’n feirniadol faterion cyfreithiol fel deallusrwydd artiffisial a datblygiadau cyfreithiol a pholisi sy’n deillio o dechnoleg a materion cysylltiedig sy’n dod i’r amlwg. Bydd myfyrwyr o'r DU a thu hwnt yn gallu manteisio ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol o wahanol awdurdodaethau.


Iechyd Perthynol Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL) - BSc (Anrh)

Lluniwyd y cwrs hwn i roi’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu darparu’r gofal mwyaf effeithiol a’r ymarfer mwyaf cyfredol â phosibl, gan eu galluogi i gymhwyso a gwneud cais i gofrestru fel Ymarferydd Adran Lawdriniaeth gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).


Celf Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles) - MA

Ydych chi'n barod i gyfuno eich cariad at y celfyddydau ag angerdd am wella iechyd a lles? Defnyddiwch eich creadigrwydd i sbarduno newid cadarnhaol a chael effaith wirioneddol.


Y Gyfraith Ymarfer Cyfreithiol - LLM

Mae’r LLM yn cynnwys rhaglen astudio ac asesu wedi'i chymeradwyo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y mae’n rhaid i chi ei chwblhau os ydych am gymhwyso fel cyfreithiwr. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o gyfraith busnes ac eiddo, ymgyfreitha a gweithdrefnau llys, ac yn gwella eich gallu i gymryd rhan mewn astudiaeth academaidd ac ymchwil feirniadol drwy brosiect ymchwil, gan eich helpu i ddatblygu'r sgiliau proffesiynol a myfyriol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer.


Y Gyfraith Ymarfer Cyfreithiol (ACC) - LLB (Anrh)

O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn datrys problemau cyfreithiol go iawn yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (ACC). Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu datblygu yn golygu y byddwch yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr gan gwmnïau cyfreithiol a byddwch yn cael dechrau da fel gweithiwr proffesiynol cyfreithiol iau.


Seicoleg Ymarfer Dadansoddi Ymddygiad dan Oruchwyliaeth - PGDip

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd yn y maes dadansoddi ymddygiad mewn ffordd foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.


Nyrsio Ymarfer Presgripsiynu Annibynnol - PGCert

Datblygwyd y cwrs hwn i adlewyrchu'r lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Rhagnodwr Annibynnol. Hanfod y cwrs hwn yw y bydd fferyllwyr, bydwragedd, nyrsys, parafeddygon a ffisiotherapyddion yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â'i gilydd a'u hasesu gan ddefnyddio'r un meini prawf asesu.


Nyrsio Ymarfer Proffesiynol - MSc

Mae'r cwrs MSc Ymarfer Proffesiynol yn canolbwyntio ar y datblygiad proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer a rolau arwain lefel uwch. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'i gynllunio i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, i ennill swyddi o fewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn fyd-eang.


Y Gyfraith Ymarfer Proffesiynol (ACC) - LLM

Mae’r llwybr LLM mewn Ymarfer Proffesiynol gydag Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn rhoi’r cyfle i chi baratoi ar gyfer yr SQE1, cael cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol SQE2, a chael rhywfaint o Brofiad Gwaith Cymwys (QWE). Yn y broses, byddwch yn ennill cymhwyster LLM a gydnabyddir yn rhyngwladol.


Nyrsio Ymarferydd Clinigol Uwch - MSc

Bydd yr MSc Ymarferydd Clinigol Uwch yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ar lefel uwch, a thrwy hynny fodloni'r gofynion a bennir gan yr Asiantaeth Arweinyddiaeth ac Arloesi Genedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd (NLIAH).


Y Gyfraith Ymchwil Cyfreithiol - LLM

Mae'r cwrs hwn yn gyfle i fyfyrwyr sy'n dymuno cychwyn PhD ond nad ydynt yn hollol barod gan adeiladu sylfaen gadarn yn y maes. Bydd myfyrwyr o'r DU a thu hwnt yn gallu manteisio ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol o wahanol awdurdodaethau.


Gwyddorau Fforensig Ymchwiliad Fforensig - BSc (Anrh)

Yr unig ffordd o ennill y set sgiliau eang a deinamig sydd ei hangen i ddatrys troseddau yw trwy brofiad ymarferol. Mae ein BSc Ymchwiliad Fforensig yn eich paratoi ar gyfer gweithredu yn y byd archwilio safleoedd troseddau, wrth i chi ymchwilio i safleoedd troseddau efelychiadol, defnyddio offer labordy o safon diwydiant a rhoi tystiolaeth fel tyst arbenigol.


Gwyddorau Fforensig Ymchwiliad Fforensig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth wyddonol cyn mynd ymlaen i feithrin sgiliau ymarferol mewn archwilio lleoliadau troseddau cyffredin, dadansoddi tystiolaeth fforensig ac efelychiadau llys barn. Byddwch yn dysgu am y strwythur a’r prosesau sy’n rheoleiddio’r system cyfiawnder troseddol, a’r gyfraith sy’n gysylltiedig ag ymchwilio troseddol. Byddwch yn cael profiad o ymchwiliadau wedi’u hefelychu yn ein Cyfleuster Hyfforddi Lleoliad Trosedd, yn amrywio o fwrgleriaethau domestig ac archwiliadau cerbydau i achosion mwy cymhleth fel tanau bwriadol a dynladdiad. Byddwch yn astudio sawl achos ac yn dysgu am y technegau fforensig ynghlwm wrthynt, gan fabwysiadu agwedd feirniadol i gloriannu a phwyso a mesur dulliau fforensig.


Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Gynaliadwy - MSc

Mae’r radd Meistr mewn Ynni Adnewyddadwy wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC - canolfan flaenllaw a gydnabyddir yn rhyngwladol ers dros 30 mlynedd. Mae SERC hefyd yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig a Chanolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Adnewyddadwy Prifysgol De Cymru.

Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cerddoriaeth a Sain Ysgrifennu a Chynhyrchu Caneuon - MA

Bydd y rhaglen Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu arloesol hon yn eich ysbrydoli i ddatblygu eich llais artistig eich hun a gwneud cysylltiadau parhaol o fewn y byd cyfansoddi caneuon.