Yn dangos 28 cwrs
Busnes a Rheolaeth Arwain a Rheoli - MSc

Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn mabwysiadu athroniaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, lle byddwch yn cyflawni prosiectau seiliedig ar waith ac yn cwblhau traethawd hir sylweddol seiliedig ar waith, i fod o werth strategol i'ch sefydliad. Nod y cwrs hwn yw cynnig llwybr achredu deuol gyda Diploma Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth - dull arloesol yn y DU.


Busnes a Rheolaeth Arwain Trawsnewid Digidol - MSc

Os ydych chi’n arweinydd, yn rheolwr, neu'n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i gychwyn aysgogi newid trawsnewidiol o fewn eich sector cyhoeddus, trydydd sector neu sefydliad preifat, mae'r cwrs hwn i chi. Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cynorthwyo arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i ‘feddwl yn ddigidol yn gyntaf’ i ail-ddychmygu a gwella eu sefydliad a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, eu rhanddeiliaid a'u gweithwyr.


Busnes a Rheolaeth Busnes a Rheoli - BA (Anrh)

Cwrs arloesol wedi ei achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig sy'n helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, rheolwyr a Phrif Weithredwyr.


Busnes a Rheolaeth Busnes a Rheoli gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Mae gradd sylfaen yn eich cyflwyno i astudiaeth academaidd ar lefel prifysgol. Byddwch yn archwilio modiwlau gan gynnwys busnes, seicoleg sefydliadol ac ystadegau, gan roi’r sgiliau a’r hyder i chi gwblhau eich astudiaethau a chael gyrfa lwyddiannus mewn ystod eang o swyddi busnes a rheolaeth.


Busnes a Rheolaeth Busnes Rhyngwladol (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r radd BA (Anrh) mewn Busnes Rhyngwladol yn canolbwyntio ar y byd cynyddol fyd-eang rydyn ni'n byw ynddo. Bydd cael dealltwriaeth dda o'r agweddau allweddol ar gyflawni busnes ar raddfa fyd-eang yn sicr yn fanteisiol i chi yn y gweithle.


Busnes a Rheolaeth Logisteg Ryngwladol a Rheoli Cadwyn Gyflenwi - MSc

Nod y radd meistr aml-achrededig hon mewn Logisteg Ryngwladol a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yw rhoi'r sgiliau arbenigol i chi reoli ac addasu cadwyni cyflenwi yn hyderus, gan eich galluogi i ddod yn arloeswr strategaeth logisteg.


Busnes a Rheolaeth Logisteg, Caffael a Rheoli Cadwyn Gyflenwi - BSc (Anrh)

Dod yn arbenigwr gwerth uchel achrededig llawn ym maes Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi, sy'n hanfodol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes - MBA

Mae’r Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinydd busnes strategol llwyddiannus ac mae wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol i’r sefydliadau y maent yn gweithredu ynddynt.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang - MBA

Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar draws pob maes busnes, gan archwilio popeth o farchnata arloesol i weithrediadau cadwyn gyflenwi effeithlon. Rhowch eich sgiliau ar waith gydag wyth mis o brofiad gwaith, prosiect CAPSTONE a arweinir gan gleientiaid, a chyfleoedd rhwydweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y diwydiant lleol.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Cadwyn Gyflenwi) - MBA

Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar draws pob maes busnes, gan archwilio popeth o farchnata arloesol i weithrediadau cadwyn gyflenwi effeithlon. Rhowch eich sgiliau ar waith gydag wyth mis o brofiad gwaith, prosiect CAPSTONE a arweinir gan gleientiaid, a chyfleoedd rhwydweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y diwydiant lleol.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Cyllid) - MBA

Gwellwch eich cyflogadwyedd rhyngwladol ac agor drysau i rolau rheoli lefel uchel trwy gwblhau ein rhaglen MBA Byd-eang gyda ffocws arbenigol ar Gyllid.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Entrepreneuriaeth) - MBA

Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar draws pob maes busnes, gan archwilio popeth o farchnata arloesol i weithrediadau cadwyn gyflenwi effeithlon. Rhowch eich sgiliau ar waith gydag wyth mis o brofiad gwaith, prosiect CAPSTONE a arweinir gan gleientiaid, a chyfleoedd rhwydweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y diwydiant lleol.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Marchnata) - MBA

Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar draws pob maes busnes, gan archwilio popeth o farchnata arloesol i weithrediadau cadwyn gyflenwi effeithlon. Rhowch eich sgiliau ar waith gydag wyth mis o brofiad gwaith, prosiect CAPSTONE a arweinir gan gleientiaid, a chyfleoedd rhwydweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y diwydiant lleol.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Rheoli Adnoddau Dynol) - MBA

Gwellwch eich cyflogadwyedd rhyngwladol ac agor drysau i rolau rheoli lefel uchel trwy gwblhau ein rhaglen MBA Byd-eang gyda ffocws arbenigol ar Reoli Adnoddau Dynol.


Busnes a Rheolaeth Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Rheoli Lletygarwch) - MBA

Agorwch ddrysau i gyfleoedd rheoli trwy astudio ein MBA Byd-eang (Rheoli Lletygarwch), a gynigir mewn cydweithrediad â’r Celtic Collection – prif grŵp o westai moethus yng Nghymru – ac Ysgol Lletygarwch Celtic Collection.


Busnes a Rheolaeth Rheoli - MSc

Trwy raglen astudio wedi'i theilwra, byddwch yn dysgu meddwl yn feirniadol am sut mae busnesau'n rhedeg, gan ddatblygu dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae sefydliadau’n cael eu strwythuro ac yn gweithredu mewn ffordd benodol. Byddwch yn archwilio tueddiadau sy'n newid mewn meddwl strategol hefyd i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o sut mae sefydliadau'n ymwneud â'u hamgylcheddau yn wyneb newid cyflym a thameidiog.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Adnoddau Dynol - BA (Anrh)

Os ydych chi'n angerddol am bobl a sut maen nhw'n cyfrannu at lwyddiant sefydliadau, dyma'r radd i chi. Gan gyfuno damcaniaeth â phrofiad ymarferol trwy efelychiadau a blwyddyn lleoliad dewisol, byddwch yn dod yn weithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol hyderus.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Adnoddau Dynol - MSc

Mae'r MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn rhoi cymhwyster ôl-raddedig i chi hefyd ochr yn ochr ag achrediad CIPD, y corff proffesiynol ar gyfer Rheolwyr Adnoddau Dynol, ar lefel gyswllt.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Adnoddau Dynol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Bydd y cwrs Rheoli Adnoddau Dynol hwn yn eich galluogi i archwilio meysydd gan gynnwys busnes, seicoleg a chyfrifeg, gan roi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i chi symud ymlaen i barhau ar gwrs gradd a chael cyfle i gyflawni eich dyheadau. Addysgir y cwrs hwn dros dri diwrnod yr wythnos i alluogi myfyrwyr i reoli astudiaethau o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu eraill.


Busnes a Rheolaeth Rheoli Busnes (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs hwn, ynghyd â'i lwybrau arbenigol, yn darparu addysg fusnes gyfoes ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sy’n eich paratoi â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus, a gwella eich galluoedd busnes a rheoli.