PGCert

AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i hybu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o'r datblygiadau a'r ymarfer ym maes darpariaeth ar gyfer AAA/ADY ac anabledd.

Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Noson Agored Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd y Dystysgrif i Raddedigion mewn AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) o ddiddordeb i bobl sydd am wella a meithrin eu gwybodaeth ym maes anghenion addysg arbennig/anghenion dysgu ychwanegol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Gweithwyr proffesiynol mewn lleoliadau addysg, iechyd a gofal, neu yn y trydydd sector.

Llwybrau Gyrfa

  • Therapydd Lleferydd ac Iaith
  • Addysg
  • Gwasanaeth Iechyd
  • Therapydd Galwedigaethol

Sgiliau a addysgir

  • Gwerthusiad
  • Ymchwil
  • Dadansoddi
  • Gwaith cynllunio a chyfathrebu ar gyfer prosiectau
  • Datrys problemau mewn modd creadigol

Trosolwg o'r Modiwl

Mae cynnwys modiwlaidd y cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi deilwra eich astudiaethau ôl-raddedig i gwrdd â’ch anghenion proffesiynol neu bersonol unigol. Bydd gofyn i chi astudio dau fodiwl ar draws yr ystod o fodiwlau Dysgu Proffesiynol. Byddwch yn trafod eich dewis o fodiwlau gydag arweinydd y cwrs, ond rhaid cynnwys o leiaf un o'r modiwlau AAA/ADY penodedig, er enghraifft:

AAA: Cyd-destunau a Chysyniadau 
Mae'r modiwl hwn yn archwilio ymarfer ym maes AAA/ADY, anableddau dysgu ac addysg gynhwysol ac yn myfyrio'n feirniadol ar y tensiwn rhwng adnabod angen ac athroniaeth cynhwysiant 

Awtistiaeth: Cyd-destunau a Chysyniadau 
Mae'r modiwl hwn yn archwilio datblygiad damcaniaethau presennol ynghylch awtistiaeth a'u goblygiadau i unigolion awtistig, eu teuluoedd, ac ymarferwyr.  Bwriedir iddo geisio dyfnhau eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth mewn perthynas â gwahaniaethau canfyddiadol synhwyraidd awtistiaeth ac yn ystyried ym mha ffyrdd y gall y rhain arwain at ffordd wahanol o fod yn rhan o'r byd. 

Rheoli a Chefnogi Awtistiaeth 
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'n feirniadol ddatblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes polisi ac ymarfer mewn perthynas ag addysg a chymorth awtistiaeth mewn amrywiaeth o leoliadau a chyd-destunau. Bydd yn eich galluogi i werthuso'r continwwm o ddarpariaeth ar gyfer pobl ag awtistiaeth yng ngoleuni'r damcaniaethau dysgu a chan gyfeirio at fodelau pwysig o anabledd. 

Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed 
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n achosi anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc, y ffordd y dônt i'r amlwg a'u goblygiadau. 

Arwain a Rheoli AAA/ADY 
Mae'r modiwl hwn wedi'i ddylunio i wella dealltwriaeth myfyrwyr o'r gwaith theori a'r gwaith ymarferol sy'n gysylltiedig â rôl y Cydlynydd AAA/ADY er mwyn iddynt allu ymateb i dirwedd newidiol AAA/ADY. 

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Mae gradd gyntaf dda yn cael ei ffafrio ond mae profiad yn cael ei werthfawrogi'n fawr. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Caiff pob modiwl ei addysgu yn ystod sesiynau wythnosol ar y campws dros dymhorau 10 wythnos o hyd. Bydd y dysgu'n digwydd mewn seminarau dan arweiniad athrawon a myfyrwyr, trafodaethau grŵp a thasgau dysgu gweithredol. 

Caiff pob modiwl ei asesu drwy aseiniad ysgrifenedig 5,000 o eiriau ar bwnc a gaiff ei ddewis drwy drafod gyda'r tiwtor.

Staff addysgu

  • Amanda Kelland, arweinydd y cwrs
  • Sharon Drew
  • Dr Carmel Conn
  • Dr Kathy Evans

Cyfleusterau

Mae Campws Dinas Casnewydd yn cynnig amgylchedd dysgu deniadol a modern lle y gallwch fanteisio ar adnoddau dysgu arbenigol, cymorth sgiliau astudio ac amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Llwybrau gyrfa posibl

Cymorth Gyrfaoedd