AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
Mae'r cwrs hwn yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar ddyslecsia ac ymarfer cynhwysol.
Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Noson Agored Sgwrsio Gyda NiManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r Diploma i Raddedigion mewn AAA/ADY yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar ddyslecsia ac ymarfer cynhwysol, yn ogystal â chyfle i ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'n ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ag anawsterau dysgu penodol ac sydd am ennill cymhwyster cydnabyddedig yn y maes hwn.
Achredwyd gan
- <Image: Accreditation logo>
Cymdeithas Dyslecsia Prydain
Llwybrau Gyrfa
- Therapydd Lleferydd ac Iaith
- Therapydd Galwedigaethol
- Cydlynydd AAA mewn Ysgol a Choleg
- Cynghorwr AALl
Sgiliau a addysgir
- Ymchwil
- Gwerthusiad
Trosolwg o'r Modiwl
Nod y modiwlau ar gwrs y Diploma i Raddedigion mewn AAA/ADY yw ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.
- AAA/ADY: Cyd-destunau a Chysyniadau
- Theori ac asesu ym maes dyslecsia
- Gweithio gydag Dyslecsia: Cysylltu Theori, Asesu ac Ymarfer
- Methodoleg Ymchwil
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Statws Athro Cymwysedig ynghyd â phrofiad addysgu neu o leiaf dwy flynedd o brofiad o gefnogi myfyrwyr ag anawsterau llythrennedd mewn Addysg bellach neu Uwch.
Gofynion Ychwanegol:
Gwiriad Manylach Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell (DBS) ar y Gweithlu Plant a'r Rhestr Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru DBS. (Cyfwerth tramor yn ofynnol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn DU)
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae arsylwadau ymarfer addysgu yn orfodol ar gyfer y Diploma Ôl-raddedig
Cost - £ 400
Aelodaeth Gysylltiol o Gymdeithas Dyslecsia Prydain (AMBDA) (Cymdeithas Dyslecsia Prydain)
Cost - £ 800
Mae'r ffi hon yn cynnwys £ 40 am y dystysgrif DBS manylach, ffi Gweinyddu Swyddfa'r Post a'r ffi weinyddu ar-lein.
Cost - £ 47.20
Mae angen tanysgrifiad ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs am ffi flynyddol o £ 13. Sylwch fod yn rhaid ymuno â'r gwasanaeth cyn pen 30 diwrnod ar ôl derbyn eich tystysgrif DBS manylach.
Cost - £ 13
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Mae'r cwrs yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar ddyslecsia ac ymarfer cynhwysol, yn ogystal â chyfle i ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.
Staff addysgu
- Amanda Kelland