PGCert

AAA/ADY (Awtistiaeth)

Mae'r Dystysgrif i Raddedigion mewn AAA/ADY (Awtistiaeth) wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sydd am ddod yn uwch-ymarferwyr ym maes awtistiaeth drwy ennill cymhwyster perthnasol.

Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Noson Agored Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Cwrs AAA/ADY Prifysgol De Cymru sy'n cynnig yr unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â llawer o fyfyrwyr rhyngwladol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd â swyddi arbenigol mewn lleoliadau addysg, iechyd a gofal, neu yn y trydydd sector, ac mae'n addas i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion awtistig.

Llwybrau Gyrfa

  • Uwch Ymarferydd 

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwil
  • Gwerthusiad

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cyfleoedd i drefnu lleoliadau

Gallwch gael profiad o weithio'n broffesiynol ym maes addysg a chymorth awtistiaeth.

Cyfleusterau Rhagorol

Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Ganolfan Astudiaethau Ôl-radd ar gampws Dinas Casnewydd.

TBA

Dysgu rhyngweithiol Bydd y dysgu'n digwydd mewn seminarau dan arweiniad athrawon a myfyrwyr, trafodaethau grŵp, tiwtorialau unigol a thasgau dysgu gweithredol.

Gwaith ymchwil sy'n newid bywydau

Cyfle i ddyfnhau eich gwybodaeth a dysgu rhagor am waith ymchwil cyfredol a syniadau damcaniaethol perthnasol.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae’r PG Cert AAA/ADY (Awtistiaeth) yn archwilio theori, polisi ac ymarfer mewn perthynas â phob agwedd ar awtistiaeth fel y’i deellir ar hyn o bryd mewn gwahanol gyd-destunau.

Bydd angen i fyfyrwyr astudio dau fodiwl a gallant ddewis un modiwl neu'r ddau sy'n canolbwyntio ar awtistiaeth:

Awtistiaeth: Cyd-destunau a Chysyniadau
Mae'r modiwl hwn yn archwilio datblygiad damcaniaethau presennol ynghylch awtistiaeth a'u goblygiadau i unigolion awtistig, eu teuluoedd, ac ymarferwyr. Bwriedir iddo geisio dyfnhau eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth mewn perthynas â gwahaniaethau canfyddiadol synhwyraidd awtistiaeth ac yn ystyried ym mha ffyrdd y gall y rhain arwain at ffordd wahanol o fod yn rhan o'r byd.

Rheoli a Chefnogi Awtistiaeth
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'n feirniadol ddatblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes polisi ac ymarfer mewn perthynas ag addysg a chymorth awtistiaeth mewn amrywiaeth o leoliadau a chyd-destunau. Bydd yn eich galluogi i werthuso'r continwwm o ddarpariaeth ar gyfer pobl awtistig yng ngoleuni'r damcaniaethau dysgu a chan gyfeirio at fodelau pwysig o anabledd.

Os hoffech astudio un modiwl awtistiaeth yn unig, byddwch yn gallu dewis modiwl pellach o'r Rhaglen Dysgu Proffesiynol, er enghraifft:

Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n achosi anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc, y ffordd y dônt i'r amlwg a'u goblygiadau.

AAA: Cyd-destunau a Chysyniadau
Mae'r modiwl hwn yn archwilio ymarfer ym maes AAA/ADY, anableddau dysgu ac addysg gynhwysol ac yn myfyrio'n feirniadol ar y tensiwn rhwng adnabod angen ac athroniaeth cynhwysiant.

Arwain a Rheoli AAA/ADY
Mae'r modiwl hwn wedi'i ddylunio i wella dealltwriaeth myfyrwyr o'r gwaith theori a'r gwaith ymarferol sy'n gysylltiedig â rôl y Cydlynydd AAA/ADY er mwyn iddynt allu ymateb i dirwedd newidiol AAA/ADY.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd gyntaf a / neu brofiad perthnasol digonol o awtistiaeth a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Caiff pob modiwl ei addysgu yn ystod sesiynau wythnosol ar y campws dros dymhorau 10 wythnos o hyd. Bydd y dysgu'n digwydd mewn seminarau dan arweiniad athrawon a myfyrwyr, trafodaethau grŵp, tiwtorialau unigol a thasgau dysgu gweithredol. 

Caiff pob modiwl ei asesu drwy aseiniad, a all fod ar ffurf aseiniad ysgrifenedig 5,000 o eiriau neu dasg asesu ymarferol amgen.

Staff addysgu

  • Yasmeen Multani, arweinydd y modiwl

Bydd yr addysgu fel arfer yn digwydd gyda'r nos a chaiff y sesiynau eu cynnal gan arweinydd y modiwl ynghyd â siaradwyr gwadd.

Lleoliadau

Os nad ydych yn gweithio mewn ymarfer proffesiynol, ond yn awyddus i gael profiad i weithio'n broffesiynol ym maes addysg a chymorth awtistiaeth, gallwch gael help i sefydlu interniaeth.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Mae nifer o fyfyrwyr wedi symud ymlaen i gyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol  ar agwedd ar awtistiaeth. Mae myfyrwyr eraill wedi sicrhau dyrchafiad a/neu swyddi mewn sefydliadau sy'n cefnogi neu'n addysgu unigolion awtistig yn benodol.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'n bwysig rhestru amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa posibl y gallai myfyrwyr ymuno â nhw ar ôl cwblhau'r cwrs. Dylid ystyried y llwybrau gyrfa hynny a all fod yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gysylltiedig â gyrfa er mwyn rhoi amrywiaeth o opsiynau a syniadau i ddarpar fyfyriwr. Mae'n bosibl y bydd gan lawer o fyfyrwyr lwybr clir iawn mewn golwg, tra bydd eraill yn chwilio am ysbrydoliaeth ynglŷn â'r opsiynau gyrfa posibl sydd ar gael iddynt. Os bydd angen ysbrydoliaeth arnoch o ran llwybrau gyrfa posibl sy'n gysylltiedig â'ch maes pwnc, edrychwch ar prospects.ac.uk. 

Cymorth Gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb a restrir yn careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau penodol i gyrsiau neu bynciau pwysig eraill yn cael eu rhedeg yn lleol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. P'un a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr y diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wellau eu natur gystadleuol a dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi hyder, anogaeth a chymhelliant i ddarpar fyfyrwyr ymrwymo i wneud cais.