Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu)
Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion yn galluogi gweithwyr proffesiynol ar bob cam o'u gyrfaoedd i feithrin dealltwriaeth o amrywiaeth eang o faterion, dadleuon a chysyniadau addysgol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Nod y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) yw datblygu gweithwyr proffesiynol gwybodus a myfyriol sy'n gallu defnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith ar y gweithle ac ar ddeilliannau'r plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Nod y cwrs hwn yw cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth broffesiynol ac, yn bwysicaf oll, eu gallu i feddwl yn feirniadol.
Sgiliau a addysgir
- Meddwl yn Feirniadol
- Ymchwil
- Arweinyddiaeth
Trosolwg o'r Modiwl
Gall myfyrwyr astudio naill ai un modiwl 60 credyd neu ddau fodiwl 30 credyd.
Modiwlau 30 credyd:
- Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu
- Arloesi wrth Gynllunio'r Cwricwlwm
- Meithrin Cymhwysedd Digidol
- Gweithio gydag Amrywiaeth
- Dysgu Proffesiynol
- Dysgu Proffesiynol drwy Waith Ymchwil Gweithredol
- Gweithio gyda Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog
- Datblygu Dysgu mewn Sefydliadau
- Datblygu arferion proffesiynol: rhifedd a mathemateg
- Datblygu arferion proffesiynol: llythrennedd a chyfathrebu
- Ymchwilio i Iaith, Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer Dysgu
- Safbwyntiau Rhyngwladol ar Blentyndod Cynnar
Modiwl 60 credyd:
- Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu a Datblygu
GOFYNION MYNEDIAD
Mae mynediad i'r cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg fel arfer yn gofyn am un o'r canlynol:
- gradd anrhydedd
- cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig
- gall cymhwyster amgen neu brofiad perthnasol fod yn dderbyniol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£1,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Caiff pob modiwl ei ategu gan 30 awr o ddarlithoedd (10 x 3 awr) dros gyfnod o 10 wythnos.
Yn aml, caiff y darlithoedd eu traddodi gan weithwyr proffesiynol allweddol yn y maes, a chaiff adnoddau a rhestrau darllen eu darparu er mwyn cefnogi hunanastudio pellach.
Staff addysgu
- Dr Matt Hutt, Arweinydd y Cwrs
- Amanda Kelland
- Sharon Drew
- Dr Kathy Evans
- Dr Carmel Conn
- Dr Susan Haywood
- Sue Roberts
- Ian Forth
- Rachel Stubley
- Dr Shirley Egley