BA (Anrh)

Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)

Dewch i fod yn rhan allweddol o weithlu'r blynyddoedd cynnar a graddio â statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, sy'n gymeradwyaeth gydnabyddedig yn y gweithlu addysg.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    Casnewydd

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Côd UCAS

    DYW3

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,250*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio yn unol â gwaith ymchwil blaengar a'r arferion cyfredol, gan sicrhau y bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i allu cael eich cyflogi yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs hwn wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i ddod yn rhan allweddol o weithlu addysg y blynyddoedd cynnar.

Achredwyd gan

  • Gofal Cymdeithasol Cymru

Llwybrau Gyrfa

  • Athro Cynradd  
  • Rheolwr Dechrau'n Deg
  • Seicolegydd Addysgol neu Glinigol
  • Seicotherapydd Plant
  • Gweithiwr Datblygu Cymunedol

Sgiliau a addysgir

  • Sgiliau Cyfathrebu Ardderchog
  • Rheoli Amser yn Effeithiol
  • Sgiliau Trefnu Cadarn
  • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
  • Dadansoddi Materion Perthnasol yn Feirniadol

A student teacher interacting with students in a colourful primary school classrom.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cyfleoedd i drefnu lleoliadau

Mae lleoliadau wrth wraidd y rhaglen, a byddant yn eich galluogi i gysylltu theori ac ymarfer mewn meysydd fel cynllunio gweithgareddau, asesu a gweithdrefnau cofnodi.

Cyfleusterau rhagorol

Mae'r offer digidol diweddaraf ar gael yn y brifysgol er mwyn eich helpu i greu adnoddau ar gyfer ymarfer.

Dysgu rhyngweithiol

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfleoedd i ennill cymwysterau ychwanegol fel tystysgrifau Cymorth Cyntaf a Diogelu a dyfarniad Ymarferydd Dysgu yn yr Awyr Agored gan Agored Cymru.

Addysg arbenigol

Mae ein tîm addysgu i gyd yn ddarlithwyr sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae pob blwyddyn astudio yn cynnwys ‘themâu’ allweddol wedi’u gwau drwy’r modiwlau. Mae'r llinynnau aur hyn yn galluogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau hanfodol rhwng modiwlau ac yn atgynhyrchu'r cysylltiadau sydd eu hangen mewn ymarfer byd go iawn, a ddatblygir trwy'r dull dysgu hwn sy'n seiliedig ar her.

Byddwch yn cael yr hyn y bydd ei angen arnoch i feithrin sgiliau academaidd. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ddysgu seiliedig ar heriau, cydweithio, a sgiliau rhyngddisgyblaethol, a bydd yn cynnwys prosiectau dysgu trochol, gweithio mewn grwpiau bach, ffocws ar ddatblygiad cymdeithasegol a seicolegol plant, a chyfle i archwilio cyfleoedd dysgu drwy brofiad ar gyfer plant bach.

Dysgu ac Ymarfer Proffesiynol 1 
Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio sut y gallwch ennill Cymwyseddau Blwyddyn 1 Gofal Cymdeithasol Cymru mewn ymarfer, drwy gynllunio, lleoliadau a myfyrio. Byddwch hefyd yn dysgu am ddiogelu yn y Blynyddoedd Cynnar. 

Cwricwla'r Blynyddoedd Cynnar: Chwarae ac Addysgeg  
Mae'r modiwl hwn yn rhoi rhagarweiniad i fyfyrwyr ar ddamcaniaethau allweddol sy'n sail i addysgeg a datblygu yn y blynyddoedd cynnar. Mae'n archwilio cwricwla'r blynyddoedd cynnar a sut mae chwarae'n ategu addysgu a dysgu yn ystafell ddosbarth y blynyddoedd cynnar. 

Safbwyntiau ar Blentyndod Cynnar 
Mae'r modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddadansoddi a thrafod datblygiadau cyfredol, amgen a newydd ym meysydd plentyndod ac addysg. Byddwch yn archwilio'r ddisgwrs ynghylch plentyndod a'i heffaith ar ganfyddiad cymdeithas o blentyndod, a hefyd yn gweithio i feithrin dealltwriaeth o ffyrdd o gynnwys cymdeithaseg addysg yn eich addysgeg a'ch ymarfer. 

Prosiect 1 

Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda'u cymheiriaid i ddysgu pam mae adrodd straeon yn bwysig yn y Blynyddoedd Cynnar a sut i adrodd straeon yn effeithiol ac yn hyderus i blant. Byddwch hefyd yn gallu archwilio sachau stori a chreu rhai i'w defnyddio wrth ymarfer. 

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn parhau i wneud cynnydd drwy eich modiwl ymarfer proffesiynol gan weithio tuag at y set nesaf o gymwyseddau mewn lleoliad dros gyfnod o saith wythnos a dangos tystiolaeth ohonynt mewn portffolio. Ymhlith y pynciau allweddol yn ystod y flwyddyn hon mae rheoli ymddygiad, datblygu'r gallu i ddangos creadigrwydd, arloesedd a galluoedd rheoli prosiectau, ochr yn ochr a'r cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chefnogi plant â dyslecsia.

Dysgu ac Ymarfer Proffesiynol 2 

Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio sut y gallwch ennill Cymwyseddau Blwyddyn 1 Gofal Cymdeithasol Cymru mewn ymarfer, drwy gynllunio, lleoliadau a myfyrio. Byddwch hefyd yn dysgu am iechyd meddwl a phlant bach. 

Prosiect 2 

Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r theori mewn perthynas ag amgylcheddau sy'n galluogi a sut y caiff rôl yr oedolyn ei defnyddio'n effeithiol i sicrhau'r rhain drwy waith cynllunio. Drwy ddilyn dull seiliedig ar brosiectau, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio addysgeg seiliedig ar chwarae a dysgu drwy brofiad, dulliau creadigol a dychymyg i ymestyn dysgu a datblygiad plant. 

Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar   

Mae'r modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i archwilio pwysigrwydd ymarfer cynhwysol mewn lleoliad drwy ddysgu am Anghenion Dysgu Ychwanegol a sut y gellir cefnogi plant sydd ag anghenion o'r fath yn effeithiol. 

Cyflwyniad i Waith Ymchwil 

Mae'r modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddeall y cysyniad o waith ymchwil, beth ydyw a pham y dylid ei wneud gyda phlant. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o ddulliau ymchwilio ac yn gweithio i ddeall pwysigrwydd dyluniad ymchwil effeithiol a dilyn canllawiau a gweithdrefnau moesegol. 

Bydd sgiliau arwain a rheoli wedi'u plethu drwy'r modiwlau, gan adeiladau ar y profiad y byddwch eisoes wedi'i fagu yn ystod y blynyddoedd astudio blaenorol a'ch lleoliadau. Bydd cymhwysedd digidol yn sail i'r prosiect dysgu trochol, a byddwch yn gweithio mewn tîm i drafod dyluniad a chynnwys cyfrwng digidol er mwyn helpu plant i ddysgu a datblygu, a sut i ddefnyddio'r cyfrwng hwnnw. Hefyd, hon fydd y flwyddyn pan fydd cryn dipyn o'ch astudiaethau ar ffurf gwaith ymchwil, gan wella eich gallu i weithio'n annibynnol gan ymgysylltu â phartneriaid allanol a dilyn arferion moesegol drwy gasglu data. Yn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn ‘dysgu yn yr awyr agored’, a fydd yn rhoi profiad damcaniaethol ac ymarferol o'r ymarfer pwysig hwn.

Dysgu ac Ymarfer Proffesiynol 3 

Dyma Fodiwl Ymarfer Proffesiynol Blwyddyn 3. Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio sut i ennill Cymwyseddau Blwyddyn 3 Gofal Cymdeithasol Cymru mewn ymarfer, drwy gynllunio, lleoliadau a myfyrio. Byddwch hefyd yn dysgu am Arwain a Rheoli yn y Blynyddoedd Cynnar. 

Prosiect 3 

Yn ystod y modiwl seiliedig ar brosiect hwn, byddwch yn meithrin gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau digidol allweddol, ac yn dangos tystiolaeth ohonynt, drwy greu adnodd digidol i ategu cyd-destun y blynyddoedd cynnar. Bydd angen i chi hefyd ddangos sgiliau cydweithio ardderchog sy'n ysgogi ethos o ddiwylliannau cadarnhaol sy'n seiliedig ar werthoedd. 

Gwaith Ymchwil yn y Blynyddoedd Cynnar 

Yn y modiwl hwn, byddwch yn dewis teitl ymchwil ac yn ymchwilio iddo er mwyn creu eich prosiect ymchwil sylfaenol eich hun i'w gyflwyno. Bydd hyn yn cynnwys dangos rhannau o'r broses ymchwilio megis adolygu'r maes pwnc a'r llenyddiaeth gysylltiedig, casglu a dadansoddi data, adolygu'r canlyniadau a dod i gasgliadau. 

Plant yn Dysgu drwy Dirweddau 

Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio dysgu drwy chwarae mewn amgylchedd awyr agored a sut mae hyn yn cefnogi datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol plant. Byddwch yn cymharu dulliau rhyngwladol o ymdrin â chwarae yn yr awyr agored ac yn ystyried pynciau fel rôl yr oedolyn, cynaliadwyedd a sut i gynllunio'n effeithiol ar gyfer chwarae yn yr awyr agored gan ddefnyddio addysgeg briodol. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Cewch gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Bydd y seminarau a'r gweithdai yn cynnwys cyfraniadau gan grwpiau ac unigolion a chaiff adborth ffurfiannol ei roi ar adegau perthnasol o fewn modiwlau.

Nid yw'r cwrs yn cynnwys arholiadau, a bydd llawer o fyfyrwyr yn aml o'r farn bod hyn yn fuddiol. Caiff gwahanol ddulliau asesu eu defnyddio drwy'r modiwlau.

Bwriedir i gyfleoedd i ledaenu gwaith ymchwil myfyrwyr i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys eu mentoriaid a fydd wedi eu helpu i ymarfer, gael eu trefnu, gan olygu y gallant rannu eu canfyddiadau er mwyn llywio ymarfer yn y dyfodol.

Staff addysgu

Mae ein tîm addysgu i gyd yn ddarlithwyr sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd. Mae aelodau'r tîm wedi cyhoeddi gwaith ar ddatblygiad sgemâu, defnydd plant o'r cyfryngau cymdeithasol a hunaniaeth ddigidol, addysgegau dysgu yn yr awyr agored, dulliau adrodd straeon, cyfnodau pontio ym myd addysg ymhlith eraill. Mae'r cwrs ym Mhrifysgol De Cymru yn seiliedig ar waith ymchwil blaengar ac arferion cyfredol sy'n llywio'r cyfleoedd dysgu a roddir i'n myfyrwyr.

  • Amanda Thomas ac Alys Parkins, Arweinwyr Cwrs 
  • Dr. Claire Pescott
  • Philippa Watkins
  • Ceri Brown, Swyddog lleoliad gwaith

Lleoliadau

Bydd ein swyddog lleoliadau yn cefnogi myfyrwyr a chaiff lleoliadau addas mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar eu trefnu ar gyfer myfyrwyr. Bydd mentoriaid yn cael hyfforddiant ac arweiniad, a bydd pob myfyriwr yn cael ymweliad gan ei diwtor yn y brifysgol tra bydd ar leoliad.

Mae'r modiwlau a gaiff eu hastudio yn seiliedig ar dreulio 700 awr ar leoliad dros dair blynedd.

Bydd y lleoliadau wedi'u lleoli ledled rhanbarth De Cymru a gall amser teithio amrywio, ond caiff cyfeiriad cartref y myfyriwr ei ystyried.

Cyfleusterau

Ceir ardal arbennig sy'n cynnwys adnoddau arbenigol a fydd yn eich helpu i ddatblygu. Mae'r offer digidol diweddaraf ar gael yn y brifysgol er mwyn eich helpu i greu adnoddau ar gyfer ymarfer. Mae gennym hefyd ddigonedd o ddeunyddiau cymorth a fydd ar gael er mwyn i chi feithrin eich sgiliau ar gyfer ymarfer yn y llyfrgell.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Gall gradd mewn Addysg y Blynyddoedd Cynnar arwain at amrywiaeth o yrfaoedd diddorol pan fyddwch yn graddio. Bydd llwybrau fel arfer yn cynnwys rhai ym myd addysg, lle y bydd graddedigion yn gweithio mewn ysgolion, meithrinfeydd, elusennau plant a chanolfannau plant integredig. Bydd nifer o raddedigion hefyd yn mynd yn eu blaen i ennill cymhwyster TAR a dod yn athrawon cymwysedig.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae graddedigion diweddar wedi cael gwaith mewn amrywiaeth o rolau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, yn ogystal â rolau swyddog prosiect mewn prosiectau cymunedol lleol ac mewn elusennau. Hefyd, bydd llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith o ganlyniad i'w hymarfer ar leoliad, yn helpu plant ar sail un i un ac mewn rolau cynorthwyydd addysgu lefel uwch ac mewn lleoliadau Dechrau'n Deg.

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn cael eu rhestru yn southwales.ac.uk/careers ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau pwysig eraill sy’n benodol i’r cwrs neu’r pwnc yn cael eu rhedeg ar lefel leol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. P’un ai a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr neu fentoriaid yn y diwydiant, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a’u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi’r hyder, yr anogaeth a’r cymhelliant i ymgeisio. 

 

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 88 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: CCD i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
  • Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C / D yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CD - CC ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC -Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod - Teilyngdod Teilyngdod Pasio
  • Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 88 pwynt tariff UCAS

Gofynion ychwanegol 

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. Os ydych chi'n cwblhau Diploma Mynediad i Addysg Uwch byddwn yn derbyn 12 credyd Lefel 2 gan Unedau Saesneg a 12 credyd Lefel 2 gan Unedau Mathemateg yn lle'r gofynion gradd T / C TGAU. 

Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU)

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cost: £53.74

Bydd angen cyllideb fach ar fyfyrwyr ar gyfer deunydd ysgrifennu personol ac adnoddau academaidd.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.