Busnes a Marchnata Ffasiwn
Mae ein gradd BA (Anrh) mewn Busnes a Marchnata Ffasiwn wedi'i rhestru yn y deg uchaf yn y Guardian University Guide 2024 ar gyfer asesu ffasiwn a thecstilau ac mae’n cyfuno agweddau ar feddwl yn strategol ac yn greadigol. Byddwch yn gallu ystyried rolau ym meysydd prynu, marchnata nwyddau, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, a mwy.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
NN2N
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
NN1N
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Dyma’r cwrs delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gwirioni ar ffasiwn, ac sydd â meddwl busnes, ond sydd ddim eisiau ‘gwneud’ dillad.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu am farchnata a busnes, sydd ag angerdd tuag at ffasiwn. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich meddwl creadigol, eich syniadau ac atebion o ran creu ymgyrchoedd strategol ar gyfer brandiau ffasiwn, a byddwch yn mynd i'r afael â heriau allweddol yn y diwydiant fel cynaliadwyedd a chynhwysiant.
Llwybrau Gyrfa
- Entrepreneuriaid ffasiwn
- Gweithwyr proffesiynol mewn marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
- Marchnata digidol a marchnata fel dylanwadwr
- Prynwyr
- Gwerthwyr nwyddau
- Rheolwyr cyfryngau cymdeithasol
- Rheolwyr cyfrifon
Mewn cydweithrediad â
- Cyngor Ffasiwn Prydain
Sgiliau a addysgir
- Meddwl yn greadigol
- Cynllunio strategol
- Cynllunio a rheoli ymgyrchoedd
- Cyfathrebu effeithiol
- Datrys problemau
- Ffotograffiaeth a chreu cynnwys
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng gradd mewn dylunio ffasiwn a gradd mewn busnes a marchnata ffasiwn? Bydd dylunydd yn creu dillad neu gasgliadau newydd a fydd yn cael eu gwerthu maes o law i gwsmeriaid, tra bod marchnatwyr ffasiwn yn canolbwyntio ar fynd â chynnyrch ffasiwn i'r farchnad ar ôl iddo gael ei ddylunio.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer hanfodion marchnatwr ffasiwn ac yn mynd i'r afael â'r ochr fusnes, o greu strategaethau marchnata digidol i ddadansoddi tueddiadau prynu ac anghenion cwsmeriaid.
Prynu a Marchnata 1
Cewch ddysgu mwy am brosesau manwerthu a phrynu yn y byd ffasiwn yn y DU, a dysgu am y cylch prynu ynghyd â rolau prynwyr a marsiandwyr mewn busnesau.
Deall Dylunio ar gyfer Busnesau Ffasiwn
Cewch gyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd a rhannu, delweddu a chyfleu eich syniadau. Byddwch yn cynnal ymchwil i’r farchnad ac yn cael ysbrydoliaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
Hanfodion Marchnata a Busnes Ffasiwn
Byddwch yn dysgu am y meysydd marchnata a busnes ffasiwn, gan gynnwys y tueddiadau cyfredol ymysg cwsmeriaid. Byddwch yn dysgu am wahanol ddulliau ymchwil a’r damcaniaethau ffasiwn diweddaraf.
Marchnata, Cynnwys a Strategaeth Ddigidol
Cewch ddysgu sut i ddylunio a chynllunio ymgyrchoedd sy’n ennyn diddordeb drwy ddiffinio negeseuon allweddol, targedu cynulleidfaoedd, a chreu cynnwys atyniadol ynghyd â chalendr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Brandio ar gyfer Busnes a Marchnata Ffasiwn
Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o frandiau a brandio ffasiwn, a sut mae cwsmeriaid yn darganfod ac yn adnabod brandiau. Byddwch yn gwneud gwaith ymchwil ac yn creu canllawiau ar gyfer brandio.
Mae'r ail flwyddyn yn ystyried rôl arloesedd a thechnoleg i ddatblygu dealltwriaeth o'r hyn sydd o'ch blaen yn y diwydiant ffasiwn. Byddwch yn dechrau meddwl am leoliadau gwaith hefyd.
Ffasiwn Digidol
Byddwch yn dysgu am ddyfodol digidol diwydiannau ffasiwn a harddwch, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI), tocynnau anghyfnewidadwy (NFTs), cadwyni bloc (blockchain), trafodion masnach a dillad digidol.
Prynu a Marchnata 2
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r cylch prynu ffasiwn, rheoli stoc, maint yr elw, cynllunio ariannol, dod o hyd i gyflenwyr, cynllunio casgliadau a logisteg, a negodi.
Paratoi ar gyfer y Diwydiant
Byddwch yn dysgu am gyflogadwyedd yn y byd ffasiwn, harddwch a marchnata, gan ganolbwyntio ar ymarfer proffesiynol a’r hyn a wneir o fewn y diwydiant. Cewch gwblhau lleoliad gwaith yn y maes o’ch dewis.
Hanfodion Marchnata a Busnes Ffasiwn 2
Byddwch yn dysgu am ddulliau datblygedig ym maes marchnata a busnes ffasiwn, gan gynnwys mathau amrywiol o ymchwil a sut y mae cwsmeriaid yn cysylltu â ffasiwn a diwylliant.
Datrys Problemau yn y Diwydiant Ffasiwn
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o faterion a thueddiadau allweddol yn y diwydiant ffasiwn, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau cyfredol a datblygiadau sydd yn yr arfaeth sy'n effeithio ar ffasiwn a chwsmeriaid.
Blwyddyn ryngosod ddewisol
Gallwch ddewis gweithio ar leoliad am gyfnod o flwyddyn gyda phartner neu bartneriaid yn y diwydiant, gan ennill diploma Profiad yn y Diwydiant Ffasiwn yn ychwanegol at eich gradd.
Mae opsiwn Blwyddyn Rhyngosod ar gael i bob myfyriwr ar y cwrs. Os dewiswch yr opsiwn Blwyddyn Rhyngosod bydd yn digwydd rhwng Blwyddyn Dau a Blwyddyn Tri a bydd angen i chi ddod o hyd i leoliad(au) gwaith perthnasol yn y diwydiant, gyda chymorth ein Tîm Gyrfaoedd a'ch Tîm Cwrs.
Diploma Profiad yn y Diwydiant Ffasiwn
Gweithio yn y diwydiant, ennill profiad i ddiffinio eich lle yn y diwydiant ffasiwn a/neu farchnata/cyfathrebu, adeiladu rhwydweithiau i baratoi ar gyfer eich blwyddyn olaf.
Cynnwys ar gyfer Marchnata
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud â chreu cynnwys ystyrlon sy'n helpu i ymhelaethu ar adrodd straeon a negeseuon brand.
Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar arbrofi gyda gwahanol fathau o gynnwys, gan ei greu i safonau proffesiynol a’i ymgorffori mewn cynllun cyfathrebu marchnata integredig, trefnus a chynlluniedig.
Dyfodol Brand
Nod y modiwl hwn yw datblygu ymhellach y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli a chyfathrebu o fewn busnes, tra'n dadansoddi'r sector ffasiwn mewn perthynas â'r ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, moesegol, cyfreithiol a diwylliannol sy'n effeithio ar lefelau presennol entrepreneuriaeth a gweithgaredd busnesau bach.
Prosiect Ffasiwn Mawr
Mae'r Prosiect Ffasiwn Mawr wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau i chi ganolbwyntio ar eich maes diddordeb. Gan gyfeirio at y prosiectau a'r lleoliadau gwaith a gwblhawyd ym mlynyddoedd blaenorol y cwrs, byddwch yn cael eich annog i nodi eich cryfderau a'ch nodau gyrfa eich hun, gan ddatblygu cynnig unigryw sy'n cyd-fynd yn agos â'ch set sgiliau personol.
Astudiaeth Achos Busnes Ffasiwn
Mae rhai modiwlau wedi’i gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gynhyrchu adroddiadau neu gyflwyniadau sy’n gwneud achos clir yn seiliedig ar ymchwil sy’n cyfiawnhau ymagwedd greadigol neu resymeg myfyrwyr. Mae pob modiwl yn annog myfyrwyr i ddarllen yn eang ac adeiladu llyfrgell bersonol o ffynonellau allweddol. Bydd y modiwl hwn yn dod â hyn i gyd at ei gilydd i gynhyrchu darn nodedig o ymchwil a dadansoddi ymchwiliol.
Portffolio Marchnata Proffesiynol
Mae ffocws y modiwl hwn ar greu gwaith portffolio ychwanegol o amgylch eich meysydd diddordeb a ffocws allweddol, yn ogystal ag ymestyn ffiniau eich set sgiliau ymhellach a herio'ch hun. Mae eich modiwl terfynol yn gyfle i gyfuno'r gorau oll o'ch creadigrwydd a'ch sgiliau datrys problemau, cynllunio, adnoddau, trefnu, cyd-drafod, dehongli ysgrifenedig a gweledol yn ddarn o waith dathlu terfynol. Mae'r modiwl hwn hefyd yn ymwneud yn fawr iawn â datblygu eich brandio personol a'ch parodrwydd ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant yn y dyfodol.
Bydd canlyniadau'r prosiect hwn yn sail i'ch lansiad i fyd ffasiwn fel gweithiwr proffesiynol aml-sgil.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C/B yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CC Lefel A
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad efallai y bydd gofyn i chi hefyd fynychu cyfweliad i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£9,250
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell.
Rydym yn argymell eich bod yn gallu defnyddio gliniadur personol neu gyfrifiadur pen desg os yn bosibl.
Er bod yr adnoddau yn y rhan fwyaf o achosion yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs, efallai y bydd angen costau ychwanegol, gorfodol a dewisol, ar gyfer pethau fel teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer.
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Caiff y radd hon ei hasesu’n gyfan gwbl drwy waith cwrs, gydag aseiniadau ymarferol wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch uchelgeisiau. Byddwch yn gweithio gyda chleientiaid yn y diwydiant ac ar brosiectau byw, byddwch yn ymweld â gweithleoedd a lleoliadau gwaith drwy gydol eich gradd, gan feithrin dealltwriaeth werthfawr o’r diwydiant. O ran datblygu arweinwyr y dyfodol yn y diwydiant ffasiwn, mae ein hamgylchedd addysgu yn cynnig profiad heb ei ail. Rydym yn adolygu ein cyrsiau’n rheolaidd mewn ymateb i newidiadau yn y patrymau cyflogaeth o fewn y byd ffasiwn ac yn edrych yn barhaus ar y sgiliau y mae galw amdanynt i sicrhau ein bod yn cynnig addysg sydd wedi’i chynllunio i adlewyrchu anghenion ein myfyrwyr a gofynion cyflogwyr yn y dyfodol.
Staff addysgu
Mae ein tîm addysgu yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a phobl sy’n gwirioni ar y byd ffasiwn yn gyffredinol. Byddant yn eich arwain i ddatblygu eich sgiliau marchnata a busnes, gan feithrin eich dawn greadigol o ran gwerthu eitemau ffasiwn. Bydd ein tîm yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym myd busnes a marchnata ffasiwn o'r eiliad y byddwch yn dechrau astudio. Byddwch yn datblygu’r holl sgiliau a phriodoleddau proffesiynol sydd eu hangen, p’un a fyddwch yn dewis gweithio ym maes marchnata ffasiwn neu weithio mewn rôl busnes. Pan fyddwch ar y campws byddwch yn astudio yn ein cyfleusterau mwyaf arloesol, gan rannu gofod gyda myfyrwyr tebyg i chi sy’n astudio pynciau fel ffotograffiaeth, ffilm, celf a llawer o bobl greadigol eraill.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Rydym yn annog pob myfyriwr i gael cymaint o brofiad gwaith â phosibl tra bydd yn astudio gyda ni. Mae cyfle yn yr ail flwyddyn i ddilyn modiwl lle mae gofyn mynd ar leoliad gwaith ac ennill 70 awr o brofiad gwaith mewn rôl berthnasol. Os ydych yn meddwl yr hoffech chi wneud ychydig mwy na 70 awr, mae yna gyfle hefyd i gael blwyddyn ryngosod a chael profiad gwerthfawr yn y diwydiant cyn dod yn ôl i orffen blwyddyn olaf eich astudiaethau. Mae ffasiwn yn ddiwydiant byd-eang ac mae ein cysylltiadau â brandiau rhyngwladol yn cysylltu myfyrwyr PDC â chyfleoedd ar draws y byd. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi teithio i bob cwr o’r byd i ymgymryd â lleoliadau gwaith.
Cyfleusterau
Mae myfyrwyr ffasiwn yn elwa o gael llawr cyfan ar ein campws yng Nghaerdydd sydd wedi ei neilltuo i ddylunio ffasiwn, hyrwyddo, a busnes a marchnata ffasiwn. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys dwy stiwdio ddylunio, ac mae’r ddinas a’r amgylchedd ehangach yn berffaith i'ch ysbrydoli wrth i chi astudio, cynllunio ac archwilio. Er na fyddwch yn gwneud dillad fel y cyfryw, byddwch yn dysgu mewn gofod sy'n eich annog i feddwl yn greadigol a strategol, gan gydweithio â myfyrwyr dylunio ffasiwn ac ymchwilio i ffasiwn digidol mewn gofodau fel y Metaverse. Mae’r campws mewn lleoliad canolog yng Nghaerdydd, felly cewch eich ysbrydoli gan fwrlwm bywyd y ddinas hefyd.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.