Busnes Cerddoriaeth
Os ydych chi’n angerddol dros gerddoriaeth, busnes a gwneud i bethau ddigwydd, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Gan roi cyfle i chi astudio amrywiaeth eang o agweddau ar y busnes cerddoriaeth a datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd, bydd ein gradd yn cynnig profiad creadigol ac ymdrochol o’r cychwyn cyntaf.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/music-and-sound/ba-music-business.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
W370
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cwrs perffaith ar gyfer unrhyw un sydd ag ysbryd entrepreneuraidd ac sy’n caru pob math o gerddoriaeth.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych chi am ddatblygu eich entrepreneuriaeth a'ch meddwl creadigol ac archwilio potensial masnachol y berthynas rhwng artistiaid a busnes, mae'r cwrs hwn yn berffaith ar eich cyfer chi. Cewch sylfaen greadigol ac ymarferol yn y busnes cerddoriaeth, wedi'i ddatblygu a'i ddarparu gan arbenigwyr o’r byd diwydiant a’r byd academaidd.
Llwybrau gyrfa:
- Cynrychioli artistiaid
- Rheoli teithiau
- Cyfarwyddo gwyliau
- Cyhoeddi cerddoriaeth
- Marchnata’r diwydiannau creadigol
- Goruchwylio cerddoriaeth a gweinyddu cyfreithiol
Mewn partneriaeth â:
- NatWest
- Music Managers Forum
- Music Declares Emergency
- Orchard Media
Sgiliau a ddysgir:
- Egwyddorion rheoli
- Sgiliau cyfathrebu cryf
- Contractau a'r gyfraith
- Cyhoeddi
- Marchnata
- Artistiaid a repertoire (A ac R)
- Rheoli digwyddiadau a theithiau
- Busnes a chyllid
/prod01/channel_2/media/video-course-musicbusiness.jpg)
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn dadansoddi, cynllunio, strategaethu, cydweithio a chreu ac yn dysgu egwyddorion allweddol rheoli cerddoriaeth. Gwaith ymarferol sy’n arwain y cwrs, gan olygu y byddwch yn magu ystod o sgiliau busnes wrth i chi weithio gydag amrywiaeth o artistiaid ar brosiectau cerddoriaeth y byd go iawn, fel Gŵyl Immerse.
Blwyddyn Un
Egwyddorion Marchnata a Hyrwyddo Cerddoriaeth
Cerddoriaeth: Diwylliant, Cyd-destun a Beirniadaeth
Egwyddorion Datblygu Artistiaid
Yr Entrepreneur Cerdd
Cyflwyniad i’r Diwydiant Cerddoriaeth
Egwyddorion Busnes a Chyllid Cerddoriaeth
Blwyddyn Dau
Rheoli Digwyddiadau Creadigol – Gŵyl Immerse
Y Cyfryngau Digidol yn y Diwydiannau Creadigol
Y Diwydiant Byw Modern
Contractau cerddoriaeth a'r gyfraith
Blwyddyn Tri
Cyhoeddi Cerddoriaeth a Rheoli Hawliau
Cerddoriaeth yn y Farchnad Fyd-eang
Prosiect Mawr
Rheoli Busnes Strategol yn y Diwydiant Adloniant
Rheoli yn y Sector Creadigol
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio hanfodion gwaelodol y diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys busnes, cyllid, cyhoeddi a datblygu artistiaid. Byddwch yn ymchwilio i ddiwylliannau cerddoriaeth ac effeithiau technoleg ar y sector.
Egwyddorion Marchnata a Hyrwyddo Cerddoriaeth
Byddwch yn datblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddadansoddi’r farchnad yn effeithiol ac i ddatblygu strategaethau marchnata a hyrwyddo yn seiliedig ar gynllunio manwl ac astudiaethau achos.
Cerddoriaeth: Diwylliant, Cyd-destun a Beirniadaeth
Byddwch yn astudio damcaniaethau cerddoriaeth a diwylliannol gyda'ch cyfoedion, gan drafod rôl y cerddor a'r cynhyrchydd. Byddwch yn dysgu meddwl yn feirniadol a dysgu sut i werthuso syniadau.
Egwyddorion Datblygu Artistiaid
Byddwch yn archwilio’r berthynas rhwng artistiaid a rheolwyr a'r broses A ac R, o greu syniadau cychwynnol i’r camau gweithredu, ac elfennau fel cynaliadwyedd, iechyd meddwl a theithio.
Yr Entrepreneur Cerdd
Byddwch yn dysgu am rôl a phwysigrwydd ymchwil yn eich maes. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyflwyno syniadau, rhwydweithio ac o bosibl ennill mentoriaid newydd yn y diwydiant ar gyfer adeiladu busnes yn y dyfodol.
Cyflwyniad i’r Diwydiant Cerddoriaeth
Byddwch yn archwilio fframwaith y diwydiant cerddoriaeth, gan gwmpasu tri phrif sector: cerddoriaeth wedi'i recordio, cerddoriaeth fyw, a chyhoeddi, i gael trosolwg o'r busnes cerddoriaeth gyfoes.
Egwyddorion Busnes a Chyllid Cerddoriaeth
Byddwch yn ymchwilio i egwyddorion rheoli, cyllid a busnes mewn gwahanol fathau o sefydliadau, gan archwilio effaith yr amgylchedd ar weithrediad y busnes.
Bydd deunydd crai eich ail flwyddyn yn ymwneud â’r ochr greadigol, drwy gyfrwng modiwl cyfryngau a marchnata ymarferol a byddwch yn dysgu sut i lywio materion cyfreithiol, cytundebol a moesegol. Byddwch hefyd yn astudio rheoli digwyddiadau a'r broses A ac R o'r creu i’r gwireddu gan arwain at Ŵyl Immerse.
Rheoli Digwyddiadau Creadigol – Gŵyl Immerse
Byddwch yn camu i’r byd rheoli digwyddiadau drwy gynllunio, hyrwyddo a gweithredu gŵyl amlgyfrwng mewn cydweithrediad â chyrsiau eraill, partneriaid diwydiant a’r gymuned.
Y Cyfryngau Digidol yn y Diwydiannau Creadigol
Modiwl ymarferol sy'n canolbwyntio ar weithio yn y maes digidol, datblygu sgiliau gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i greu asedau a strategaethau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata.
Y Diwydiant Byw Modern
Cyfle i greu’r cysylltiadau sy'n sail i'r diwydiant cerddoriaeth fyw rhyngwladol a datblygu ymwybyddiaeth o'r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth reoli digwyddiadau a theithiau byw.
Contractau cerddoriaeth a'r gyfraith
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o recordio cerddoriaeth, cyhoeddi, contractau asiantaethau a rheoli artistiaid, yn ogystal â hawlfraint ac eiddo deallusol (ED).
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar reoli, eiddo deallusol a marchnadoedd byd-eang, gan gymhwyso'r holl sgiliau newydd i brosiect busnes sylweddol cyn graddio.
Cyhoeddi Cerddoriaeth a Rheoli Hawliau
Byddwch yn dod i ddeall cyhoeddi cerddoriaeth, o ddulliau traddodiadol i gerddorion DIY ac yn ennill gwybodaeth ymarferol am gymdeithasau casglu a rhoi gwerth ariannol i hawliau cerddorol.
Cerddoriaeth yn y Farchnad Fyd-eang
Byddwch yn astudio’r amgylchedd byd-eang a'r cymhlethdodau a'r newidiadau sy'n effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys agweddau diwylliannol, masnachol, moesegol ac allforio.
Prosiect Mawr
Cyfle i gynllunio, datblygu a lansio menter busnes go iawn a fydd yn cyfrannu at eich portffolio cyflogaeth. Bob blwyddyn dewisir un prosiect ar gyfer Gwobr Graddedigion NatWest.
Rheoli Busnes Strategol yn y Diwydiant Adloniant
Byddwch yn ennill dealltwriaeth o rôl rheolaeth strategol, gan gymhwyso cysyniadau busnes at waith diagnosio a rheoli ac i oresgyn heriau.
Rheoli yn y Sector Creadigol
Byddwch yn dysgu sut i ddylunio a rheoli sefydliadau a grwpiau i sicrhau perfformio effeithiol, ac ennill sgiliau mewn damcaniaethau ac arferion rheoli.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch yn dysgu
Wedi'i haddysgu drwy amryw ddulliau, mae ein gradd cerddoriaeth yn cynnwys seminarau, gweithdai, tiwtorialau, a dysgu ymdrochol a dysgu’n seiliedig ar her. Drwy gydol y cwrs, bydd darlithwyr gwadd yn gweithio gyda chi a byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol gyda gwahanol arbenigwyr o’r diwydiant. Trwy alinio ein darpariaeth ag arferion cyfoes yn y diwydiant, fe gewch y sylfaen a'r cyfleoedd gorau i lunio dilyniant eich gyrfa. Mae asesiadau'n gyfuniad o waith cwrs a thasgau ymarferol, yn aml yn seiliedig ar friffiau o'r byd go iawn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/music-and-sound/courses-ma-music-therapy.jpg)
Staff addysgu
Byddwch yn cael eich dysgu gan weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad a hanes yn y diwydiant, a hynny mewn dull ymarferol gan mwyaf, ac nid bob amser yn yr ystafell ddosbarth.
Yn rhan o'ch gradd, bydd gennych fynediad llawn at yr holl gyfleusterau technoleg sydd ar gampws yr Atrium yng nghanol Caerdydd, gan gynnwys stiwdios cerddoriaeth. Bydd ein staff yn eich cefnogi mewn dull ymarferol i sicrhau bod gennych adnoddau da wrth astudio. Byddwch hefyd yn cael eich annog i weithio gyda myfyrwyr o gyrsiau eraill o bob math ar eich gwaith modiwl a'ch prosiectau eich hun.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/music-and-sound/ba-music-producing.jpg)
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Yn rhan o'r cwrs ymarferol hwn, cewch eich annog i archwilio eich sgiliau busnes ac entrepreneuraidd drwy drefnu digwyddiadau ym Mar Zen Undeb y Myfyrwyr a lleoliadau eraill yn y ddinas. Mae gennym gysylltiadau diwydiannol cryf â nifer o sefydliadau sy'n cynnig lleoliadau wrth iddynt ddod ar gael, ac rydym yn cynnal ffair yrfaoedd bob blwyddyn i helpu i adeiladu eich rhwydwaith. Mae cyfle i gydweithio â myfyrwyr o gyrsiau eraill i helpu i drefnu a chynnal ein digwyddiad blynyddol, Gŵyl Trochi, fydd yn eich paratoi ar gyfer gwahanol rolau ar ôl graddio.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/music-and-sound/ma-songwriting-production.jpg)
Cyfleusterau
Yn astudio yng nghanol Caerdydd, bydd gennych fynediad uniongyrchol i'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer recordio, cynhyrchu a chreu cerddoriaeth ar ein campws creadigol. O fynediad at Adobe Creative Suite yn ein labordai dysgu i ddefnyddio meddalwedd fel Sketchup, Maya, Avid a Mudbox, bydd gennych y dechnoleg orau posib ar gyfer eich cyfrifiadur personol hefyd. Bydd gennych fynediad at lyfrgell helaeth ac ardal adnoddau dysgu, yr Ardal Gynghori, a fydd yn helpu gyda chymorth ym maes cyllid, sgiliau astudio a gwasanaethau eraill. Byddwch yn gallu gwylio arddangosiadau technegol drwy gydol y cwrs, a gweithio gyda data busnes a chyllid o’r byd go iawn hefyd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/music-and-sound/ba-popular-commercial-music.jpg)
Pam PDC?
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/07-july/news-music-placeholder-01.png)
Pam PDC?
Mae Cerddoriaeth yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (The Times and The Sunday Times Good University Guide 2025)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys pwnc perthnasol (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol (mae hyn yn gyfwerth â 96 pwynt tariff UCAS).
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol (mae hyn yn gyfwerth â 96 pwynt tariff UCAS).
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Ymgeiswyr yn y DU: Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad efallai y bydd gofyn i chi hefyd fynychu cyfweliad i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Ymgeiswyr sydd tu allan i'r DU: Dewisir ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn ar sail cais addas a phortffolio o'ch gwaith. Bydd Arweinydd y Cwrs yn cadarnhau bod y portffolio yn addas cyn i’r cynnig cael ei wneud.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Awgrymir bod gan fyfyrwyr eu gliniadur a'u ffôn clyfar eu hunain (Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £500
Efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr deithio i ddosbarthiadau meistr / cynadleddau / digwyddiadau / perfformiadau ar eu cost eu hunain (Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £100
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr brynu rhai testunau cwrs (Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £50
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.