Cyfle i ddatblygu gwybodaeth am ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith ar y gweithle ac ar ddeilliannau'r plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/education-postgraduate-certificate-camh-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r Dystysgrif i Raddedigion mewn Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yn unigryw am ei bod yn cynnig llwybr anghlinigol i ymarferwyr, rheolwyr ac ymchwilwyr cyffredinol a mwy arbenigol ddatblygu eu gwybodaeth am Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Nod y cwrs yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu ymdrin â chymhlethdodau'r maes gwaith hwn, a hynny'n aml gan reoli llwyth gwaith heriol mewn lleoliad amlasiantaethol gan flaenoriaethu buddiannau'r plant a'r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw ar yr un pryd.
Llwybrau Gyrfa
- Gwasanaethau Plant
Sgiliau a addysgir
- Meddwl yn Feirniadol
- Ymchwil
- Arweinyddiaeth
Trosolwg o'r Modiwl
Bydd myfyrwyr yn astudio dau fodiwl 30 credyd, a fydd yn cynnwys o leiaf un o'r modiwlau arbenigol canlynol.
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Cyd-destunau a Chysyniadau
Mae ffocws damcaniaethol i'r modiwl hwn, ac mae'n rhoi rhagarweiniad i fyfyrwyr ar gysyniadau allweddol ym maes Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac yn datblygu eu gallu i edrych ar faterion yn ymwneud ag Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed mewn ffordd feirniadol, er enghraifft drwy edrych ar gysyniadau risg a ffactorau amddiffynnol mewn perthynas â deilliannau da i blant a phobl ifanc.
Rheoli a Chefnogi Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio'n fwy ar ddamcaniaeth ymarfer ac yn datblygu eich gallu i edrych yn feirniadol ar yr amrywiaeth o ddulliau atal ac ymyriadau drwy archwilio amrywiaeth o ddulliau ac ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.
Modiwlau dewisol
- Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu
- Gweithio gydag Amrywiaeth
- Arwain a Rheoli AAA / ADY
- Traethawd Hir
- Methodoleg Ymchwil
- TESOL: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Iaith
- TESOL: Defnyddio a Chaffael Iaith
- TESOL: Deunyddiau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes Iaith
- Datblygu Arferion Proffesiynol: Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygu Arferion Proffesiynol: Rhifedd a Mathemateg
- Ymchwilio i Ddysgu Llythrennedd, Rhifedd ac Iaith ym mhob rhan o'r Cwricwlwm
- Arloesi wrth Gynllunio'r Cwricwlwm
- Dysgu drwy Fentora
- Gweithio gyda Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog
- Gweithio gyda Grwpiau Agored i Niwed
- Awtistiaeth: Cyd-destunau a Chysyniadau
- Meithrin Cymhwysedd Digidol
- Datblygu Dysgu mewn Sefydliadau
- Datblygu Pobl mewn Sefydliadau
- Dyslecsia: Theori ac Asesu (AMBDA)
- Dyslecsia: Theori ac Asesu (ATS)
- Safbwyntiau Rhyngwladol ar Blentyndod Cynnar
- Rheoli a Chefnogi Awtistiaeth
- Dysgu Proffesiynol
- Dysgu Proffesiynol drwy Waith Ymchwil Gweithredol
- AAA/ADY: Cyd-destunau a Chysyniadau
- Gweithio gyda Dyslecsia: Cysylltu Theori, Asesu ac Ymarfer (AMBDA)
- Gweithio gydag Dyslecsia: Cysylltu Theori, Asesu ac Ymarfer (ATS)
- Gweithio gydag Dyslecsia
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Bydd y cwrs Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yn helpu myfyrwyr i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i ddatblygu fel ymarferwyr myfyriol. Caiff hyn ei adlewyrchu yng nghynnwys a phroses y cwrs.
Caiff y cwrs ei gynnal ar nos Lun a nos Fawrth ac mae pob modiwl wedi'i rannu'n 10 sesiwn o dair awr yr un.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/psychotherapy-and-counselling/GettyImages-1170896006-1400X1400.jpg)
Staff addysgu
Rebecca Haycock, arweinydd y cwrs
Caiff y sesiynau a addysgir eu hategu gan astudio annibynnol a thiwtorialau unigol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/education/Halima-Alam---Primary-and-Secondary-Teaching_22805-800X800.jpg)
Cyfleusterau
Mae Campws Dinas Casnewydd yn cynnig amgylchedd dysgu deniadol a modern lle y gallwch fanteisio ar adnoddau dysgu arbenigol, cymorth sgiliau astudio ac amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/education/subject-education-classroom-35857-1-800X800.jpg)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Mae gradd gyntaf dda yn cael ei ffafrio ond mae profiad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
- Ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis modiwlau sydd ag elfen lleoliad fel rhan o'r broses asesu, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o wiriad DBS cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr UE neu ryngwladol).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.