MSc

Cyfathrebu Symudol a Lloerennau

Cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes Cyfathrebu Symudol a Lloeren. Cewch fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Gwneud Cais yn Uniongyrchol Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,000*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,250*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,000*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,140*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae cynnydd byd-eang ym maes cyfathrebu symudol a lloeren wedi rhoi hwb i'r galw yn y diwydiant am arbenigwyr. Mae ein gradd Meistr yn y DU yn canolbwyntio ar rwydweithio digidol, symudol a lloeren, gan gyfuno ysgolheictod, addysgu a dealltwriaeth y diwydiant. Mae graddedigion ein rhaglen MSc yn arwain y gwaith o ddatblygu 5G a thechnolegau cyfathrebu'r dyfodol, yn barod i arloesi yng nghymwysiadau'r genhedlaeth nesaf.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bwriedir y cwrs MSc ar gyfer graddedigion sydd â gradd sy'n gysylltiedig â gwaith maes neu'r rhai mewn disgyblaeth sydd â chysylltiad agos sy'n dymuno ymestyn eu harbenigedd i lefel uwch wrth baratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol.

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Ffonau Symudol a Chyfathrebu
  • Peiriannydd Rhwydwaith cyfathrebu lloeren
  • Peiriannydd mynediad Radio Lloeren

Sgiliau a addysgir

  • Cyfathrebu a rhwydwaith lloeren
  • Trosglwyddiadau amledd Symudol a Radio uwch
  • Optoelectroneg mewn systemau cyfathrebu

Placeholder Image 1

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cwricwlwm sy'n Berthnasol i'r Diwydiant:

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio gyda chyfraniad sylweddol gan y diwydiant er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac y gellir ei gymhwyso. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys astudiaethau uwch mewn antenau a lledaeniad, trawsyriant digidol, cyfathrebu lloeren, cyfathrebu symudol, rhwydweithiau lloeren, cymwysiadau diwifr, prosesu signalau digidol, ac arloesi cynnyrch, gan ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r maes​.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae'r rhaglen yn paratoi ei graddedigion i lenwi swyddi allweddol ac i gyflawni rolau blaenllaw ym maes technolegau cyfathrebu sy'n esblygu'n gyflym. Mae'r twf cyflym yn y defnydd o ddata symudol a datblygiadau mewn technoleg, fel rhwydweithiau diwifr 4G/5G, lloeren trwybwn uchel, a systemau cyfathrebu optegol, yn creu cyfleoedd gyrfa cyffrous niferus i raddedigion. Mae'r cyfleoedd hyn yn cwmpasu llawer o wahanol rolau yn y diwydiant telathrebu, swyddi ymchwil, neu symud ymlaen tuag at PhD​​.

Datblygu Sgiliau

Erbyn diwedd y rhaglen, disgwylir i raddedigion fod mewn sefyllfa dda i ddatblygu cymwysiadau peirianneg newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o systemau cyfathrebu. Mae hyn oherwydd y cyfuniad cyfoethog o ysgolheictod, addysgu, dealltwriaeth o’r diwydiant, ac ymchwil sydd wedi'i integreiddio yn y cwrs, sydd â’r nod o gynhyrchu graddedigion cymwys iawn​.

Trosolwg o'r Modiwl

Bydd eich astudiaethau'n cynnwys datblygiadau mewn antenâu a lledaeniad, trosglwyddo digidol, cyfathrebu lloeren, cyfathrebu symudol, rhwydweithiau lloeren, cymwysiadau diwifr, prosesu signalau digidol ac arloesi cynnyrch. Cyfoethogir hyn i gyd gyda seminarau gan arbenigwyr diwydiant a chyfnod o waith prosiect mawr dan oruchwyliaeth sy'n rhoi cyfle i chi loywi eich sgiliau mewn maes cymhwysiad o'ch dewis. Byddwch yn dysgu defnyddio'r offer dylunio peirianneg diweddaraf hefyd, gan gynnwys y Systems ToolKit (STK) a ddefnyddir gan NASA ar gyfer cynllunio teithiau gofod, a MATLAB/SIMULINK a ddefnyddir yn helaeth mewn diwydiant.

Arloesi Cynnyrch ac Entrepreneuriaeth
Mae’n addysgu peirianwyr am y daith o syniadau am gynnyrch technoleg arloesol i lwyddiant masnachol. Mae’n cynnwys dylunio, cynhyrchu a sgiliau entrepreneuraidd. Mae gwybodaeth yn integreiddio arbenigedd MSc trwy brosiectau amlddisgyblaeth.

Prosesu Signalau Digidol Cymhwysol
Mae’n darparu dealltwriaeth ddwys o brosesu signalau digidol, gan gynnwys hidlwyr a systemau rheoli. Yn pwysleisio dyluniad system DSP datblygedig gan ddefnyddio labordai ac offer arbenigol, a amlygir gan gymwysiadau modern.

Systemau Cyfathrebu Di-wifr
Mae’n trosglwyddo gwybodaeth sylfaenol ar reoli tonnau radio. Mae’n canolbwyntio ar ddyluniadau cellog modern o GSM i 6G, gan amlygu heriau technegol a sbectrol mewn cyfathrebu symudol.

Cyfathrebu Lloeren: Mae’n cynnig cyflwyniad trylwyr i systemau lloeren modern, gan ganolbwyntio ar ddyluniad, cynllunio, a thechnegau a thechnolegau prosesu signal sy'n hanfodol ar gyfer cyfathrebu effeithiol.

Systemau Cyfathrebu Digidol
Mae’n darparu sylfaen gynhwysfawr mewn hanfodion cyfathrebu digidol. Mae’n pwysleisio cysyniadau damcaniaethol, heriau dylunio, technegau efelychu, a chymwysiadau cyfoes.

Dyfeisiau Optoelectroneg ar gyfer Telathrebu
Mae’n ymchwilio i optoelectroneg mewn telathrebu, gan archwilio systemau ffibr optegol modern. Dadansoddi priodweddau a chydrannau ffibr trwy fodelu ac efelychu manwl.

Prosiect Unigol Mawr Gradd Meistr
Bydd y prosiect mawr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drefnu a gweithredu astudiaeth beirianneg sylweddol yn unigol. Bydd yn cynnwys gwaith ymchwil cefndir, cyfnodau cynllunio a gweithredu, a bydd, yn ddelfrydol, yn seiliedig mewn diwydiant gyda'r myfyriwr yn cyflawni'r prosiect yn y cwmni.

 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithdai sy'n cynnwys modelu systemau ymarferol ac efelychiadau gan ddefnyddio cyfleusterau caledwedd a meddalwedd o'r radd flaenaf. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil dan oruchwyliaeth hefyd a gefnogir gan fynediad llawn at gyfleusterau ar-lein a llyfrgell o'r radd flaenaf.

Mae'r llwybr llawn amser yn cael ei gyflwyno mewn tri bloc mawr. Cwblheir chwe modiwl a addysgir yn ystod dau floc addysgu sy'n cynnwys 12 awr gyswllt yr wythnos ac yna prosiect ymchwil mawr 16 wythnos o hyd. Hyd y cwrs yw tua 14 mis.

Mae pob un o'r chwe modiwl a addysgir yn cael ei asesu drwy waith cwrs (40%) ac arholiad llyfr caeedig (60%) fel arfer. Asesir y prosiect mawr drwy gyflwyniad i banel o arholwyr, viva ac adroddiad ysgrifenedig.

Staff addysgu

Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd pwnc, ar ôl gweithio mewn diwydiant neu gyda diwydiant, cynnal gwaith ymchwil, cyflwyno mewn cynadleddau, cyhoeddi eu gwaith, a llywio eich astudiaethau gyda'r ddealltwriaeth ddiweddaraf. 

Lleoliadau

Mae'r cwrs yn cynnwys prosiect 16 wythnos, y gallwch ei gynnal mewn diwydiant, yn amodol ar y myfyriwr yn sicrhau lleoliad addas a bod prosiect priodol yn cael ei gytuno rhwng y cwmni a'r Brifysgol.

Cyfleusterau

Mae ein llyfrgell Prifysgol o'r radd flaenaf yn darparu mynediad i gyhoeddiadau byd-eang o bwys. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys labordy rhwydweithio Academi Cisco, labordy Cyfathrebu Di-wifr gyda siambr ddiadlais 1-65 GHz, gorsaf gyfathrebu lloeren, a labordy efelychu Systemau Cyfathrebu gyda'r feddalwedd ddiweddaraf fel MATLAB. 

Mae'r labordy Calypto, a noddir gan Calypto Design Systems Inc, yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch electronig cyflym, cost-effeithiol gyda grant meddalwedd gwerth £1.9m, sy'n unigryw i brifysgolion dethol ledled y byd. 

Mae gan ein labordy Systemau Gwreiddio, a gynlluniwyd gyda gwerthwyr microreolwyr blaenllaw, 32 o gyfrifiaduron datblygedig gyda'r offer dylunio electronig diweddaraf, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gweithio gyda thechnolegau blaengar.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein graddedigion MSc Cyfathrebu Symudol a Lloeren yn gyflogadwy iawn ac mewn sefyllfa gref i gael cyfleoedd gwerth chweil, gyda sgiliau datblygedig mewn meysydd fel rhifedd, gwaith tîm, ysgrifennu adroddiadau a chreadigrwydd. Mae cryn alw am raddedigion Prifysgol De Cymru gan fod safonau academaidd uchel y brifysgol a'r addysgu rhagorol yn denu llawer o recriwtwyr.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae twf cynyddol yn y defnydd o ddata ffonau symudol a datblygiadau mewn technoleg, fel rhwydweithiau diwifr 5G/6G a systemau lloeren a chyfathrebu optegol trwybwn uchel, yn creu cyfleoedd gyrfa cyffrous i raddedigion sydd â'r sgiliau cywir. 

Gall graddedigion y cwrs Meistr hwn ymuno â'r diwydiant telathrebu mewn sawl rôl wahanol, gwneud gwaith ymchwil neu weithio tuag at PhD. Ewch i dudalen we'r Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Di-wifr ac Optoelectroneg i gael gwybod am yr ymchwil gyfredol yn y maes hwn.

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar y trywydd yr hoffech ei ddilyn.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf mewn disgyblaeth briodol (Peirianneg, Ffiseg, Cyfrifiadureg neu Fathemateg), neu HND mewn disgyblaeth briodol ynghyd â thair blynedd o brofiad mewn diwydiant perthnasol. Gellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â'r cymwysterau hyn yn unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£10,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,140

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,000

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,000

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Buddsoddwch yn eich dyfodol

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.