Cymdeithaseg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Bydd y cwrs Cymdeithaseg hwn yn eich galluogi chi i archwilio meysydd gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg, a pholisi cymdeithasol, ochr yn ochr â rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i ddilyn cwrs Gradd a chael y cyfle i gyflawni eich dyheadau.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu Lle Ar Ddiwrnod Agored Siarad â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/sociology/course-masthead-Sociology-foundation.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
1J1F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu dros dri diwrnod yr wythnos er mwyn galluogi myfyrwyr i reoli eu hastudiaethau o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu eraill.
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl, a fydd yn cael eu hasesu drwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau.
- Sgiliau Astudio
- Prosiect Ymchwilio
- Seicoleg
- Cymdeithaseg
- Egwyddorion Ieuenctid a Chymuned
- Polisi Cymdeithasol
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio eich dychymyg cymdeithasegol a gwneud damcaniaethau cymdeithasegol yn berthnasol i'r byd o'ch cwmpas. Y pynciau allweddol yw tlodi, anghydraddoldebau, cwrs bywyd ac allgau cymdeithasol. Byddwch yn dysgu sut i gyflwyno dadleuon effeithiol, ac ymchwilio ac ysgrifennu yn academaidd.
- Damcaniaethau Cymdeithasegol Clasurol
- Tlodi, Anghydraddoldeb a Lles Cymdeithasol
- Cyfiawnder Cymdeithasol ac Allgáu Cymdeithasol
- Cymdeithaseg y Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol
- Ymchwil, Gwerthuso a Pholisi
- Tegwch, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ym Mlwyddyn 3, byddwch yn astudio materion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd ac yn cysylltu’r rhain â damcaniaethau cymdeithasegol, gan gynnwys sesiynau seiliedig ar drafodaeth sy’n rhoi’r cyfle i chi rannu syniadau ac atebion, ac ymchwilio’n effeithiol. Bydd rhaid i chi hefyd gwblhau profiad gwaith a chewch gefnogaeth i wneud hynny.
- Theori Gymdeithasegol Gyfoes
- Cymdeithas a'r Amgylchedd
- Meddwl Dylunio, Dulliau Ymchwil a Rheoli Prosiectau
- Profiad Gwaith mewn Cymdeithaseg
- Safbwyntiau Byd-eang ar Drais a Gwrthdaro
- Astudiaethau Ieuenctid, Pobl Ifanc a Pholisi Cymdeithasol
Ym Mlwyddyn 4, byddwch yn parhau i astudio materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol allweddol, gyda mwy o feirniadaeth ac ymgysylltiad â llenyddiaeth academaidd. Byddwch hefyd yn cwblhau eich Traethawd Hir, a fydd yn cynnwys ymchwilio i bwnc perthnasol o'ch dewis.
- Prosiect Traethawd Hir Polisi Cymdeithasol
- Astudiaethau Byd-eang
- Gweithredaeth Gymunedol mewn Cymdeithas Sifil
- Yr Hunan a Chymdeithas
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch yn dysgu drwy ddarlithoedd a seminarau, ac yn cymryd rhan weithredol mewn dulliau dysgu drwy astudio unigol, a chyflwyniadau ysgrifenedig a llafar. Byddwch hefyd yn meithrin profiad mewn gwaith grŵp a gweithdai.
Bydd y modiwl sgiliau astudio hefyd yn eich helpu gyda thechnegau arholi ac adolygu, yn ogystal â sgiliau fel cymryd nodiadau, ysgrifennu traethodau, cyfeirio, a chynllunio aseiniadau.
Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/health-and-social-care/health-and-social-care-cert-he-community-health-and-wellbeing-placeholder-01.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD
- BTEC: Pasio Pasio Pasio
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 48 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.