MA

Dylunio ac Arloesi

Taniwch eich creadigrwydd a'ch meddwl beirniadol gyda’r MA Arloesi Dylunio. Cydweithiwch ar brosiectau yn y byd go iawn, gan fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Defnyddiwch feddwl dylunio i sbarduno arloesedd, trawsnewid diwydiannau, a chreu newid parhaol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs hwn yn eich grymuso i yrru newid cadarnhaol a dod yn gatalydd ar gyfer arloesedd, gan ddefnyddio dylunio fel offeryn ar gyfer gweithredu pwrpasol a gweithredaeth ystyrlon.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Yw eich cefndir yn y diwydiannau creadigol, y gwasanaethau ariannol neu’r sector cyhoeddus, neu ydych chi’n newid gyrfa? Mae’r MA Arloesi Dylunio wedi’i ddylunio i chi. Bydd yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd trwy ganolbwyntio ar ddatrys problemau’n feirniadol a chreadigol, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol i sbarduno newid a llwyddo yn y proffesiwn o’ch dewis.

Llwybrau Gyrfa

  • Rheoli Dylunio
  • Rheoli Arloesedd
  • Rheoli Brand Strategol
  • Ymchwil Dylunio
  • Entrepreneur

Y sgiliau a addysgir

  • Dulliau ymchwil uwch sy'n canolbwyntio ar bobl
  • Meddwl Dylunio ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Meddwl Beirniadol ar gyfer datrys problemau
  • Theori arloesi mewn llywodraethu cynaliadwy a chyfrifol
  • Eiriolaeth ac ymreolaeth wrth yrru newid

Staff stood in front of red backdrop in a fashion studio smiling

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Datrys Problemau’n Greadigol

Darganfyddwch ffyrdd arloesol o ddatrys heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd cymhleth gan ddefnyddio meddwl dylunio a meddwl systemau.

Ymchwil Uwch

Defnyddiwch ddulliau ymchwil sy'n canolbwyntio ar bobl i ddeall anghenion dynol a sut y gall creadigrwydd ddatrys problemau cymhleth.

Effaith Unigryw ar Ddiwydiant

Sefwch allan trwy ddylunio dulliau newydd sy'n trawsnewid modelau busnes traddodiadol, gan arwain at gynhyrchion, gwasanaethau a strategaethau ffres. Cydweithiwch ar brosiectau go iawn i gael effaith barhaol ar ddiwydiant a chymdeithas.

Sgiliau Meddwl Creadigol

Datblygwch sgiliau meddwl creadigol gwerthfawr sy'n torri ffiniau, gan eich helpu i arwain ac ysbrydoli eraill mewn unrhyw faes.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae ein hathroniaeth yn archwilio cysylltiadau rhwng creadigrwydd, diwydiant a chymdeithas trwy ymchwil dylunio arbrofol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar heriau economaidd-gymdeithasol byd-eang, fel dyfodol a yrrir gan dechnoleg, cymdeithasau iach, economïau cynaliadwy, gweithredaeth, cyfranogiad dinesig, hypergysylltedd, modelau busnes, a thegwch newid hinsawdd, gyda'r nod o sbarduno atebion rhyngddisgyblaethol effeithiol.

Cyd-destunau a Systemau Byd-eang         

Archwiliwch gymhellion ac ymddygiadau sy'n siapio dylunio ac arloesi, gan ganolbwyntio ar ecosystemau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ddatblygu meddwl strategol.

Egwyddorion a dulliau Arloesi a Arweinir gan Ddylunio               

Ymchwiliwch i sut mae gweithwyr proffesiynol arloesi yn cyflawni gwerth gan ddefnyddio egwyddorion a arweinir gan ddylunio i reoli arloesedd mewn sefydliadau masnachol a sefydliadau sy'n cael eu gyrru gan werthoedd.

Labordy Meddwl Dylunio    

Gwnewch ddefnydd o’r dull meddwl dylunio i fframio problemau, nodi cyfleoedd, cynhyrchu syniadau, prototeipio a phrofi. Archwiliwch ffyrdd creadigol o gyfathrebu naratifau'r dyfodol.

Ymchwil Dylunio Uwch         

Defnyddiwch ddulliau ymchwil uwch sy’n canolbwyntio ar bobl i lywio penderfyniadau strategol, gan gynnwys technegau ethnograffig, i gael mewnwelediadau defnyddwyr a datblygu naratifau.

 

Proffesiynoldeb Creadigol a Chydweithredol     

Datblygwch bresenoldeb proffesiynol a sgiliau cydweithredu trwy gyflwyno cynigion arloesi i bartneriaid a chleientiaid mewn ffyrdd diddorol, creadigol.

Labordy Effaith Arloesi         

Archwiliwch sut mae dylunio yn herio arferion busnes ac yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Arbrofwch gyda mesur a rheoli effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Prosiect Arwain Arloesi        

Prosiect terfynol hunangyfeiriedig lle byddwch chi'n cymhwyso eich sgiliau arloesi creadigol a'ch meddylfryd intrapreneuraidd i ddatblygu, gweithredu a dadansoddi prosiect arloesi byw.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae'r cwrs yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau ymchwil a chyfathrebu sydd eu hangen i reoli prosiectau arloesi ac ennyn cefnogaeth rhanddeiliaid. Byddwch chi’n rhyngweithio â mentoriaid a siaradwyr gwadd, ac yn ymweld â diwydiannau i lywio eich gwaith dylunio. Mae asesiadau'n cynnwys cymysgedd o dasgau unigol a grŵp, fel portffolios, podlediadau, myfyrdodau, blogiau, cyflwyniadau, efelychiadau a chynigion. Mae'r asesiadau hyn yn eich annog i feddwl am eich proses ddysgu, nid dim ond y canlyniadau. Maen nhw wedi'u cynllunio i adeiladu eich sgiliau personol a gwaith tîm, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa fel arloeswr.

Staff addysgu

Mae ein staff profiadol yn PDC yma i'ch helpu i adeiladu sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddi ac ymarferol. Dan eu harweiniad nhw, byddwn ni’n eich cefnogi i fynd i'r afael â heriau cymhleth a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi. Ein nod yw eich helpu i fagu’r hyder i gymhwyso'r sgiliau hyn a llwyddo yn eich gyrfa.

Cyfleusterau

Mae campws Caerdydd yn cynnig ystod eang o gyfleusterau, gan gynnwys stiwdios ffotograffiaeth, labordai animeiddio, stiwdios sgrîn werdd, a stiwdio dylunio ffasiwn, gan gynnig yr adnoddau i chi ddod â'ch syniadau creadigol yn fyw.

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r cwrs yn cynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfaol i raddedigion mewn rolau sy'n gofyn am sgiliau menter ac intrapreneuraidd. Byddwch chi’n ennill profiad ymarferol mewn arloesedd cynhyrchion, gwasanaethau, cymdeithasol a masnachol, gan gynnwys mewnwelediad defnyddwyr, meddwl dylunio, prototeipio cyflym, a darpariaeth ystwyth. Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer rolau mewn rheoli dylunio, rheoli arloesedd, rheoli brand, ymchwil dylunio, a thrawsnewid technoleg yn y sectorau cymdeithasol a masnachol.

Cysylltiadau Diwydiant

Mae ein rhaglen meistr yn cysylltu eich prosiect terfynol â heriau arloesi yn eich maes. O ymgynghori a manwerthu i ofal iechyd, sefydliadau dielw, neu lywodraeth, byddwch chi'n cydweithio ar heriau yn y byd go iawn, gan gymhwyso eich arbenigedd arloesi a dylunio. Mae'r profiad ymarferol hwn yn sicrhau eich bod yn datblygu datrysiadau arloesol wrth adeiladu cysylltiadau mewn diwydiant sy'n cyd-fynd â'ch llwybr proffesiynol.

Cymorth Gyrfa

Yn PDC, rydyn ni yma i'ch cefnogi o'r diwrnod cyntaf i lansio eich gyrfa. Byddwn ni’n eich cynorthwyo i ddod o hyd i interniaethau a lleoliadau gwaith, tra'n eich helpu i adeiladu CV a phortffolio sy’n denu sylw. Byddwch chi’n ennill sgiliau allweddol mewn rheoli prosiectau, rhyngweithio â chleientiaid, a gwaith tîm, i gyd wrth ddysgu sut i gyflwyno eich syniadau’n hyderus. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd ar gael trwy gydol eich cwrs, gan gynnig gweithdai a hyfforddiant un-i-un ar CVs, cyfweliadau, a cheisiadau am swyddi. Byddwn ni hefyd yn eich helpu i greu proffil LinkedIn cryf ac archwilio cyfleoedd gwaith byd-eang, gan sicrhau eich bod yn gwbl barod am yrfa lwyddiannus yn y maes o’ch dewis.

Gofynion mynediad

Gradd Anrhydedd da mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol priodol; neu HND/HNC a phrofiad perthnasol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.