Ffotograffiaeth Ddogfennol
Mae Prifysgol De Cymru yn fyd-enwog am ei chwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol ac mae ein myfyrwyr a'n graddedigion yn uchel iawn eu parch yn y gymuned ffotograffig: maen nhw wedi ennill gwobrau, wedi cynnal arddangosfeydd ac wedi ennill cytundebau i gyhoeddi llyfrau.
Sut i wneud cais Archebu Lle ar Noson Agored Siarad â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/photography/ma-documentary-photography.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r cwrs MA unigryw hwn (sydd ar gael ar-lein ac ar y campws) yn canolbwyntio ar ymgysylltu yn y byd go iawn â materion cymdeithasol a gwleidyddol gan archwilio'r pwnc mewn ffordd archwiliadol a bywiog. Mae'n cynnig dealltwriaeth eang o ffotograffiaeth, ac yn ogystal â ffurfiau ffotograffiaeth ddogfennol mwy traddodiadol, mae'n cynnwys delweddau wedi'u rhwydweithio, data, deunydd archif, sain a delweddau symudol.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r MA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol wedi datblygu enw da am arloesi, ac mae wedi sefydlu dull hynod unigryw o addysgu, gwneud gwaith ymchwil a datblygu ymarfer proffesiynol. Bydd y rhaglen ar-lein ddwy flynedd, sy'n cynnwys dosbarthiadau meistr dewisol ar y campws ac yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn darparu hyblygrwydd i fyfyrwyr, gan ddibynnu ar eu gofynion, eu gallu i deithio a pha mor agos maen nhw'n byw at y campws. Mae'r awydd i ddysgu o bell yn arwydd o sut mae myfyrwyr ffotograffiaeth ddogfennol gyfoes yn dymuno astudio ac ymgysylltu ag arbenigwyr yn y maes. Mae'r athroniaeth hon yn cefnogi myfyrwyr cyfoes ac yn dileu rhai rhwystrau sy'n gysylltiedig ag astudio ôl-raddedig.
Adolygu Ymarfer
Yn ystod y modiwl rhagarweiniol hwn, bydd myfyrwyr yn archwilio meysydd penodol o ffotograffiaeth ddogfennol wrth adolygu a myfyrio ar eu gwaith eu hunain a gwaith sy'n cael ei wneud gan eu cyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl yn dechrau gyda chyfres o sesiynau tiwtorial i ddarparu hyfforddiant technegol a hyfforddiant ar sut i ddefnyddio offer. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â chyfres o arddangosiadau a gweithdai gan arbenigwyr yn y diwydiant sy'n gweithio'n broffesiynol ym maes arferion dogfennol. Yn ogystal, bydd darlithoedd a chyflwyniadau yn ymdrin â themâu rhagarweiniol arferion dogfennol.
Ymarfer Ymchwilio
Nod y modiwl hwn yw archwilio a thrafod syniadau, materion ac arferion sy'n gysylltiedig â hanesion a damcaniaethau arferion dogfennol, ac mae'n ategu'r Modiwl Adolygu Ymarfer. Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael cyfres o ddarlithoedd gan arbenigwyr i'w cyflwyno i fethodolegau ymchwil. Byddant yn cwblhau adolygiad llenyddiaeth ac yn datblygu cynnig ar gyfer prosiect mawr.
Diffinio Ymarfer
Yn ystod yr ail fodiwl hwn bydd myfyrwyr yn dechrau'r broses o ddiffinio eu hymarfer gan ganolbwyntio ar ymarfer cydweithredol ac ymgysylltu moesegol â'r gymuned. Byddant yn deall sut i negodi, cynnig, datblygu, gosod cyd-destun, creu a gwerthuso prosiectau wrth ddechrau creu corff o waith. Bydd y cyflwyniad ar ffurf ffolder datblygu a phortffolio 'gwaith sy'n mynd rhagddo'.
Cyd-destunau Ymchwil
Mae dealltwriaeth o hanes a theori ffotograffiaeth yn ganolog i astudiaethau ôl-radd yn ogystal â gallu myfyrwyr i osod eu gwaith mewn cyd-destun. Bydd y modiwl hwn yn hwyluso'r broses hon trwy gyflwyno ystod eang o ddeunydd i fyfyrwyr gan arbenigwyr o'r diwydiant ac arbenigwyr academaidd o feysydd ffotograffig ac artistig amrywiol. Yn ogystal, bydd y modiwl yn hyrwyddo awdurdod wrth werthuso a gwneud asesiad beirniadol o arteffactau eraill sy'n berthnasol i'r ymarfer ac yn cryfhau gafael ar y nodweddion deallusol sy'n sbarduno eu hymarfer.
Lleoli Ymarfer
Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn parhau â'u prosiectau mawr ochr yn ochr â dysgu pwysigrwydd lleoli eu hymarfer. Bydd myfyrwyr yn dod i gysylltiad â phlatfformau a ddefnyddir i ledaenu prosiectau ac yn dysgu sgiliau cymhwyso ychwanegol sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu delwedd symudol a Web Doc. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn atgyfnerthu eu gwaith ymchwil trwy roi cyflwyniad a fydd yn gosod eu gwaith ym maes eang arferion dogfennol.
Ymarfer Proffesiynol
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o arferion busnes sy'n berthnasol i'w hymarfer eu hunain. Bydd adroddiad sy'n seiliedig ar gyfweliadau a gwaith ymchwil annibynnol gan y diwydiant yn sylfaen i strwythur y modiwl gan ganolbwyntio ar rwydweithio ac arferion busnes, gan gynnwys cyfweliadau ag ymarferwyr, awduron neu guraduron perthnasol a/neu astudiaethau achos yn ymwneud â nhw. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu canfyddiadau.
Testun Beirniadol
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â'r materion a'r syniadau allweddol a godwyd gan yr ymarfer. Dylai'r testun ysgrifenedig terfynol fynegi syniadau'r myfyriwr mewn ffordd hyderus ac awdurdodol. Mae'r modiwl yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr nodi arfer neu arferion cynrychioliadol (Astudiaethau Achos) sy'n gysylltiedig â'u diddordebau craidd eu hunain ac yn eu llywio. Trwy nodi ac ystyried yr arferion hyn, bydd myfyrwyr yn archwilio cwestiynau canolog safle, cynulleidfa, sefydliad ac awduraeth.
Y Ddogfen wedi'i Gwireddu
Cyflwyno deunydd penodol a baratowyd gan y myfyriwr yn ystod y cwrs sy'n gwireddu ei brosiectau. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar wireddu prosiect/prosiectau unigol i'w asesu/eu hasesu ar ddiwedd y modiwl ac yn archwilio canlyniad posibl gwaith ymarferol mewn perthynas â chynulleidfa, safle a dull dosbarthu.
Gofynion mynediad
Cymwysterau a phrofiad
Fel rheol mae angen gradd Anrhydedd mewn pwnc cysylltiedig. Fodd bynnag, os oes gennych brofiad cadarn yn y diwydiant proffesiynol yn hytrach na chyflawniad academaidd, gallai hyn fod yn dderbyniol i fynediad i astudio ar y lefel hon trwy broses o'r enw Achredu Dysgu Profiadol Blaenorol (APEL).
Gofynion portffolio
Rhowch dystiolaeth o wefan neu unrhyw fath arall o bortffolio digidol yn eich cais. Rydym yn chwilio am ymgysylltiad â ffotograffiaeth ddogfennol neu ffotonewyddiaduraeth gyda ffocws penodol ar gyfresi o ddelweddau yn hytrach na ffotograffau unigol. Dylai'r portffolio ddangos tystiolaeth o'ch diddordebau mewn ffotograffiaeth ddogfennol neu ffotonewyddiaduraeth a dangos eich awydd i astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol ar lefel Meistr ym Mhrifysgol De Cymru.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£7,800
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Er mwyn caniatáu i fyfyrwyr sydd wedi'u lleoli yn y DU gael mynediad i/benthyg offer yn yr Atrium, rydym yn argymell bod y myfyrwyr hyn yn talu'r ffi flynyddol hon trwy Storfa Ar-lein PDC - bydd arweinydd eich cwrs yn rhoi mwy o fanylion am sut i wneud hyn ar ddechrau'ch cwrs.
Cost: £1500
Yn ystod cyfnod y cwrs, bydd cyfleoedd dewisol mewn gweithdai preswyl gyda darlithwyr, cyd-fyfyrwyr ac arbenigwyr diwydiant, a gynhelir naill ai yng Nghaerdydd neu leoliadau Rhyngwladol eraill. (yn amodol ar niferoedd myfyrwyr)
Cost: £400
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu trwy amrywiaeth o fodiwlau a addysgir gan y brifysgol. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch chi'n dysgu'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i fod yn ymarferydd proffesiynol.
Ochr yn ochr â'r modiwlau, byddwch yn mynychu gweithdai ar ddelweddau symudol gydag arbenigwyr y diwydiant, gan arwain at gynhyrchu ffilm fer, datblygu Webdoc a chreu cyhoeddiad o'ch gwaith eich hun.
I ddechrau, byddwch yn cael eich asesu trwy waith arbrofol sy'n mynd rhagddo, a disgwylir i chi gwblhau darnau o waith gorffenedig mewn modiwlau diweddarach. Ochr yn ochr â'ch gwaith, gofynnir i chi ddatblygu safbwynt trwy destunau ysgrifenedig, gan osod eich gwaith yn ei gyd-destun ffotograffig a chymdeithasol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Lisa Barnard, Athro Cyswllt ac Arweinydd y Rhaglen MA Ffotograffiaeth Ddogfennol
I gael sgwrs anffurfiol am y cwrs hwn:
- Siaradwch â Lisa Barnard trwy ein platfform LiveChat 'Unibuddy'
- E-bostiwch Lisa Barnard: [email protected]
David Barnes, Uwch Ddarlithydd
Eileen Little, Uwch Ddarlithydd
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.