PGCert

Gofal Acíwt a Chritigol

Datblygu gwerthfawrogiad mwy cyflawn a phenodol o'ch ymarfer clinigol wrth ddelio â chleifion sydd â salwch acíwt neu salwch critigol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio â ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £885*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd y cwrs Gofal Acíwt a Chritigol yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i chi asesu, gofalu a rheoli cleifion gan ddefnyddio ymarfer presennol seiliedig ar dystiolaeth a ffisioleg gymhwysol, gan fanteisio ar yr agweddau cyfreithiol a phroffesiynol sy'n effeithio ar eich rôl a'ch cyfrifoldebau.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r radd BSc (Anrh) Gofal Acíwt a Chritigol rhan-amser hon ar gyfer Parafeddygon, Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaethau a nyrsys sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth amn gleifion sydd â salwch acíwt neu salwch critigol.

Llwybrau Gyrfa

  • Nyrs Uned Gofal Dwys
  • Cynorthwyydd Theatr
  • Nyrs Uned Asesu Meddygol / Llawfeddygol

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau
  • Sgiliau asesu
  • Ymchwil
  • Ysgrifennu academaidd
  • Dadansoddiad beirniadol

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau'r Cwrs

Gwella ymarfer seiliedig ar dystiolaeth

Cynyddu eich gwybodaeth ddamcaniaethol drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu.

Cyfleusterau rhagorol

Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol o'r radd flaenaf yn efelychu amgylchedd gofal acíwt y GIG.

Dod yn ymarferydd medrus

Dysgu ac ymarfer sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel.

Cynyddu defnydd ymarferol

Cymhwyso gwybodaeth newydd yn eich maes gwaith.

Trosolwg o'r Modiwl

Ffisioleg Gymhwysol Salwch Acíwt a Chritigol
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddadansoddi'n feirniadol effaith pathoffisioleg ar gleifion sy'n oedolion â salwch acíwt a salwch critigol ac i ddeall ffisioleg wedi'i newid. Byddwch yn archwilio canlyniadau salwch acíwt a chritigol ar homeostasis gan ddefnyddio sylfaen wybodaeth eang o ffisioleg normal ac wedi’i newid i ddeall triniaethau allweddol. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar ffisioleg cardio-anadlol, rheolaeth niwrolegol a chyflyrau meddygol acíwt hefyd.

Gofal a Rheolaeth y Rhai â Salwch Acíwt a Chritigol
Byddwch yn gwerthuso'n feirniadol gymhlethdod materion gofal mewn perthynas â chleifion sy'n oedolion â salwch acíwt a salwch critigol ac yn dadansoddi cyd-destun y gofal hwnnw. Dadansoddir effeithiolrwydd gweithredu gofal ar draws amrywiaeth o gyflyrau cleifion gan roi ystyriaeth i'r prosesau asesu, monitro ac ymyrraeth.

Materion Cyfreithiol a Phroffesiynol wrth Ofalu am y Rhai â Salwch Acíwt a Chritigol
Yn y modiwl hwn, byddwch yn cynnal gwerthusiad beirniadol o systemau darparu gwasanaethau o safbwyntiau cyfreithiol a phroffesiynol. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i ofal iechyd; cynnal hawliau dynol; dyletswydd a safonau gofal; esgeulustod proffesiynol a chymhwysor rhain i ymarfer proffesiynol mewn cyd-destunau gofal acíwt a chritigol. Mae pynciau fel bywyd a marwolaeth, ewthanasia, diffiniadau cyfreithiol o farwolaeth, rhoi organau a meinwe yn cael eu hystyried hefyd o ran y goblygiadau ar ymarferwyr sy'n gofalu am gleifion â salwch acíwt a chritigol.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch yn astudio drwy gymysgedd o ddarlithoedd, gwaith grŵp, senarios cleifion, tiwtorialau rhyngweithiol a chyflwyniadau seminar.

Bydd angen i chi fynychu'r Brifysgol un diwrnod yr wythnos, ar hyn o bryd mae ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Asesir modiwlau drwy gwestiynau amlddewis, viva voce (arholiad llafar), aseiniadau, Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol a thystiolaeth ysgrifenedig o ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Staff addysgu

  • Bridie Jones
  • Dr Ray Higginson
  • Meirion Williams

Cyfleusterau

Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol o'r radd flaenaf yn efelychu amgylchedd gofal acíwt y GIG, gan ddarparu cyfleusterau clinigol realistig i'n myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r cwrs gofal critigol blwyddyn hwn yn addas os ydych chi'n gweithio mewn uned gofal dwys, uned gofal cardiaidd, uned dibyniaeth uchel, adran damweiniau ac achosion brys, theatrau, unedau asesu meddygol/llawfeddygol, gofal cyn ysbyty a wardiau acíwt
cyffredinol.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion ychwanegol:

Mae angen i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), neu'r HCPC(Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd) ac mae ganddynt radd Anrhydedd berthnasol. 

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£885

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.