Gwella Ymarfer Clinigol
Mae'r MSc Gwella Ymarfer Clinigol yn gwrs ôl-raddedig a gynigir i amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gan gynnwys rhai o wahanol feysydd nyrsio.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â niManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Bydd y dyfarniad yn canolbwyntio ar baratoi amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol i reoli anghenion cymhleth defnyddwyr gwasanaethau mewn lleoliadau gofal iechyd dynamig, gan ddatblygu naill ai fel addysgwr ymarferol neu reolwr clinigol neu wasanaeth hefyd.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â chofrestriad proffesiynol gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol.
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Gwasanaeth Clinigol
- Nyrs Datblygu Ymarfer
Sgiliau a addysgir
- Asesu
- Cynllunio gofal
- Diagnosis
Trosolwg o'r Modiwl
Gellir cwblhau'r cwrs dros gyfnod o flwyddyn, os astudir yn llawn amser, neu dros dair blynedd os astudir yn rhan-amser.
Dulliau ymchwil
Bydd y modiwl yn darparu sylfaen gynhwysfawr mewn cynllunio ymchwil, dulliau a'r broses ymchwil ac yn helpu myfyrwyr i ystyried yn feirniadol y berthynas rhwng cyd-destun ymchwil, cwestiwn ymchwil, dull a datblygu gwybodaeth.
Asesiad clinigol a diagnosteg
Bydd y modiwl yn galluogi'r myfyrwyr i ddefnyddio dulliau beirniadol, systematig a chynhwysfawr o archwilio clinigol, asesu cleifion a diagnosis.
Arwain timau effeithiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i archwilio'n feirniadol ddatblygiad perthnasoedd tîm effeithiol a'r effaith ar gyflenwi gwasanaeth mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwella Ymarfer Clinigol
Yn y modiwl hwn, bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi'n feirniadol a chymhwyso amrywiaeth o ddulliau systematig a threfnus i bennu anghenion cymhleth cleifion a gallu dangos dealltwriaeth feirniadol o'r prosesau pathoffisiolegol sy'n gysylltiedig â meysydd ymarfer.
Prosiect Ymarfer Proffesiynol (dewisol)
Nod y modiwl yw galluogi’r myfyriwr i archwilio’n feirniadol fater allweddol a nodir trwy ei brofiad a’i ymarfer ei hun, gan ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd drwy fodiwlau cydamserol, a gwneud argymhellion yn seiliedig ar werthusiad beirniadol o lenyddiaeth a phrofiad y myfyriwr ei hun.
Neu
Hwyluso Dysgu ac Addysgu ac Asesu yn y Cyd-destun Ymarfer (Dewisol)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r cyfranogwr i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i gymhwysedd i hwyluso a chefnogi dysgu’n effeithiol a chynnal asesiad o fyfyrwyr ac eraill o fewn cyd-destun maes ymarfer y cyfranogwyr.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy ddull dysgu hybrid gydag amrywiaeth o ddarlithoedd a sesiynau tiwtorial wyneb yn wyneb, pecynnau dysgu ar-lein, addysgu efelychu a sgiliau, ac efallai y bydd rhai sesiynau’n cael eu recordio ymlaen llaw hefyd ac ar gael ar yr amgylchedd dysgu rhithwir.
Staff addysgu
- Sara Morgan
Bydd myfyrwyr ar y dyfarniad hwn yn cael eu cynorthwyo gan arweinydd y Dyfarniad a rheolwr y modiwl, gyda hyfforddiant academaidd ar gael. Bydd gan fyfyrwyr oruchwyliwr penodol ar gyfer pob aseiniad ysgrifenedig hefyd.
Cyfleusterau
Bydd y modiwlau clinigol yn cynnwys efelychiad yn y Ganolfan Efelychu Clinigol gan ddarparu cyfleoedd dysgu trochol i roi damcaniaethau yn eu cyd-destun a’u cymhwyso i senarios ymarferol, dilys.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- RHAID i bob myfyriwr gael cofrestriad proffesiynol gyda’r corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol h.y. NMC a HCPC.
- Gradd berthnasol ar lefel 2:2 neu uwch, Neu fyfyrwyr heb radd gyntaf wedi ymgymryd ag o leiaf 100 Credyd Lefel 6 a thystiolaeth briodol bellach o brofiad (RPL) yn y maes ymarfer perthnasol.
- Rhaid i bob myfyriwr fod o leiaf blwyddyn ar ôl cofrestriad proffesiynol gwreiddiol.
- Rhaid i fyfyrwyr allu dangos cymhwysiad y cwrs i'w maes ymarfer clinigol trwy ddatganiad personol priodol a manwl yn eu cais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.