Gwyddor yr Amgylchedd
Mae’r heriau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill yn bygwth ein hamgylchedd naturiol a’n hiechyd, ein heconomi a’n isadeiledd, ond mae angen i ni ddarparu datrysiadau ymarferol.
Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
F742
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,000*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,260*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
F740
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,000*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,260*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£740*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae’r cwrs hwn yn rhaglen sy’n ffocysu ar y dyfodol ac ar ddatrysiadau. Mae’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau a datrys problemau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, adnoddau adnewyddadwy, llygredd amgylcheddol, cadwraeth ar gyfer bioamrywiaeth a rheoli amgylcheddol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Ydych chi’n frwd dros yr amgylchedd? A oes gennych nod i wneud cyfraniad hanfodol at fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, adnoddau adnewyddadwy, llygredd amgylcheddol, cadwraeth ar gyfer bioamrywiaeth a rheoli amgylcheddol, a’u datrys? Ydych chi eisiau dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn yr economi werdd sy’n tyfu’n gyflym, a chael effaith fel rhan o agendâu cynaliadwyedd amgylcheddol lleol, cenedlaethol a byd-eang?
Llwybrau Gyrfa
- Ymgynghorydd amgylcheddol neu ecolegol
- Rheolwr rhaglen hinsawdd a gwytnwch
- Ymgynghorydd ynni a charbon
- Ymgynghorwyr polisi llywodraethol ac anllywodraethol
- Swyddog cynaliadwyedd neu ailgylchu
Y sgiliau a addysgir
- Asesu effeithiau amgylcheddol
- Modelu hinsawdd y dyfodol
- Arolygu ecolegol ac amgylcheddol
- Dadansoddi llygredd mewn labordy
- Archwilio cynaliadwyedd
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn seiliedig ar atebion mewn gwyddor amgylcheddol a newid hinsawdd. Bydd yn eich galluogi i gael effaith gadarnhaol a thrawsnewidiol wrth i chi ymgysylltu â chymdeithas, busnes a llywodraeth mewn datrysiadau ar gyfer datblygu cynaliadwy yn y dyfodol. Fe'i cynlluniwyd gyda diwydiant i ganolbwyntio ar gyflogaeth a rhoi gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad i chi yn y sectorau amgylcheddol allweddol.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhoi cyflwyniad i themâu allweddol y cwrs gradd, pob un yn gysylltiedig â’r sector cyflogaeth amgylcheddol. Mae’r themâu hyn yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, adnoddau adnewyddadwy ac ynni, bioamrywiaeth a chadwraeth, llygredd amgylcheddol, datblygu cynaliadwy, a rheoli amgylcheddol.
Y System Hinsawdd
Byddwch yn ystyried y system hinsawdd a systemau’r Ddaear sy’n effeithio ar brosesau atmosfferig a hinsawdd, gan gynnwys cyfansoddiad atmosfferig, cylchrediad a systemau tywydd, ynghyd â chylchoedd geocemegol pwysig, gan gynnwys y gylchred garbon.
Adnoddau a Deunyddiau
Byddwch yn astudio ein hadnoddau naturiol allweddol, gan gynnwys mwynau, priddoedd a dŵr, ynghyd â datblygu syniadau ym maes adnoddau adnewyddadwy. Bydd yn cynnwys eu defnydd, cynaliadwyedd, ailddefnyddio/ailgylchu, gwaredu, a chysyniadau economi gylchol.
Egwyddorion Ecoleg
Byddwch yn astudio ecoleg y boblogaeth a’r gymuned, gan gynnwys deinameg y boblogaeth, strategaethau a strwythur cynefinoedd, gweoedd bwyd, olyniaethau ecolegol, a rheolyddion amgylcheddol. Yn ogystal, bydd gwaith maes a labordy yn cyflwyno sgiliau adnabod ymarferol.
Effeithiau ar yr Amgylchedd
Byddwch yn astudio effeithiau gweithgarwch dynol ar systemau naturiol. Bydd hyn yn cynnwys newid tirwedd, difodiant, echdynnu a chamddefnyddio adnoddau. Bydd yn ystyried llygryddion a halogiad, gan gynnwys llygredd dŵr a microblastigau, ynghyd ag effeithiau ar iechyd.
Y Gymdeithas Gynaliadwy
Byddwch yn ystyried y cysyniadau a’r heriau sy’n gysylltiedig ag integreiddio buddiannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd o raddfa leol i raddfa fyd-eang, gyda’r sefydliadau a’r polisïau sy’n gyfrifol am gyflawni datblygu cynaliadwy.
Datblygu Sgiliau Amgylcheddol
Byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch profiad yn y maes, gydag asesiadau safle amgylcheddol ac asesiadau o’r effaith amgylcheddol. Byddwch yn ystyried cynhyrchu data ac yn defnyddio methodolegau ymchwil, ynghyd â Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS), i ddelweddu’r data.
Datblygir gwybodaeth, sgiliau a phrofiad ymhellach yn yr ail flwyddyn, i’ch paratoi ar gyfer y flwyddyn olaf.
Newid yn yr Hinsawdd
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o gofnodion o newid yn yr hinsawdd i ystyried eu hachosion naturiol a dynol, a’u canlyniadau ar wahanol raddfeydd. Yna, byddwch yn modelu newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol ac yn ystyried effeithiau.
Systemau Ynni
Byddwch yn ystyried y cyflenwad a’r galw am ynni i ymchwilio i dechnolegau ynni anadnewyddadwy ac adnewyddadwy, asesu a defnyddio adnoddau, ynghyd ag effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys ar gyfer ffynonellau solar, gwynt, tonnau, llanw, biomas a geothermol.
Ymgynghori Ecolegol
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a thechnegau cyfoes y diwydiant at ddiben cynnal arolygon ac asesiadau ecolegol, ac i wneud argymhellion. Byddwch yn dysgu sut i asesu rhywogaethau, cynefinoedd a chyflwr y dirwedd, ac yn ystyried cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth a pholisïau amgylcheddol.
Halogyddion Amgylcheddol
Byddwch yn cael eich hyfforddi sut i asesu tir halogedig, gan gynnwys y camau asesu safle, nodweddion ffynonellau llygryddion, strategaethau samplu a dulliau dadansoddi labordy. Byddwch hefyd yn asesu strategaethau adfer amrywiol i reoli amgylcheddau halogedig.
Cynhyrchiant a Defnydd Byd-eang
Byddwch yn edrych ar ganologrwydd defnydd i fywyd bob dydd a sut mae’n cysylltu pobl a lleoedd ar draws y byd yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, er mwyn ystyried effeithiau amgylcheddol a chynaliadwyedd yn y dyfodol.
Gwaith Prosiect Cyfranogol
Byddwch yn cyfrannu at ddylunio a gweithredu prosiectau cynaliadwyedd amgylcheddol cydweithredol gyda grwpiau cymunedol, a phartneriaid diwydiannol neu sefydliadol. Bydd yn datblygu eich sgiliau rheoli prosiectau, gwaith tîm ac arwain.
Yn y flwyddyn olaf, caiff y themâu eu cymhwyso i ganolbwyntio ar ddatrysiadau a darparu hyfforddiant ar gyfer llwybrau gyrfa penodol y gallech fod am eu dilyn.
Addasu a Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd
Byddwch yn ystyried strategaethau rheoli risg a chydnerthedd i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol drwy strategaethau lliniaru ac addasu cyfannol mewn amrywiaeth o amgylcheddau naturiol a sectorau dynol.
Adnoddau ar gyfer y Dyfodol
Byddwch yn ystyried strategaethau ar gyfer dyfodol carbon isel cynaliadwy a’r anghenion materol ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol, gan gynnwys ailgylchu a deunyddiau adnewyddadwy a strategaethau i reoli gwastraff yn well.
Heriau Ecolegol Byd-eang
Byddwch yn ystyried dulliau o reoli tirweddau a rhywogaethau mewn ymateb i newidiadau byd-eang ac yn defnyddio monitro ecolegol rhywogaethau a chymunedau biolegol i nodi anghenion ymchwil i’w diogelu yn erbyn newidiadau ecolegol a ragwelir yn y dyfodol.
Fforenseg Amgylcheddol
Drwy waith prosiect, byddwch yn cael hyfforddiant ar gasglu a rheoli data, gan gynnwys ar gyfer ymchwiliadau cyfreithiol amgylcheddol. Bydd yn cynnwys agweddau ar y gyfraith, samplu lleoliadau trosedd, dadansoddi labordy a dulliau ar gyfer adrodd ar dystiolaeth.
Gwleidyddiaeth yr Amgylchedd
Byddwch yn archwilio rôl a dylanwad mudiadau amgylcheddol, sefydliadau protestio ac ymgyrchu, cyrff anllywodraethol, llywodraethau, dinasyddion a chymdeithas, wrth gynrychioli, datblygu a chynllunio amgylcheddau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Prosiect Annibynnol
Bydd eich prosiect ymchwil yn deillio o waith ymchwil annibynnol yn y maes neu yn y labordy, neu o leoliad gwaith perthnasol. Byddwch yn datblygu dadansoddiad beirniadol a manwl ar gyfer maes o'r cwrs sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC i gynnwys o leiaf un pwnc Gwyddoniaeth fel Daearyddiaeth neu Fathemateg ac i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod Rhagoriaeth mewn pwnc Gwyddoniaeth perthnasol
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC Lefel A i gynnwys pwnc Gwyddoniaeth gan gynnwys Daearyddiaeth neu Fathemateg ac i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Gwyddoniaeth gydag o leiaf 104 pwynt Tariff UCAS i gynnwys modiwlau Gwyddoniaeth, Mathemateg neu Ddaearyddiaeth.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,000
fesul blwyddyn*£9,000
fesul blwyddyn*£740
fesul blwyddyn*£15,260
fesul blwyddyn*£15,260
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Rhaid i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau sy’n cynnwys elfennau o waith maes awyr agored wisgo dillad awyr agored addas, sy’n cynnwys offer tywydd gwlyb addas, bŵts/esgidiau garw.
Mae gwaith maes gorfodol yn y DU yn cael ei dalu gan yr adran ond bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am eu bwyd eu hunain.
Mae’r adran yn rhoi cymhorthdal i waith maes tramor ond bydd costau ychwanegol yn berthnasol.
Mae’n bosib y bydd angen fisas a brechiadau ar gyfer rhai mathau o waith maes, a bydd rhaid i’r myfyriwr dalu am hyn, ac mi fydd yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau a lleoliad unigol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Cyflwyno ac Asesu
Addysgir y cwrs drwy gymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, seminarau, tiwtorialau, gwaith labordy ymarferol, gwaith maes, a dysgu rhyngddisgyblaethol mewn tîm, ar y cyd â diwydiant ac ochr yn ochr â chymunedau, sy'n cynnig y cyfle delfrydol i chi ennill profiad a datblygu eich sgiliau. Mae'r cwrs gradd yn darparu hyfforddiant mewn meddalwedd safon diwydiant mewn GIS, synhwyro o bell, ac mewn casglu a dadansoddi data meintiol ac ansoddol. Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio ystod o ddulliau, gan gynnwys adroddiadau maes, posteri, cyflwyniadau llafar, adroddiadau labordy, eco-ddogfennau, adroddiadau amgylcheddol arddull diwydiant, podlediadau, gwneud gwaith maes ymarferol ac arholiadau. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect manwl ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n cael eu hasesu’n gyfan gwbl drwy waith cwrs.
Staff addysgu
Byddwch yn cael eich addysgu gan ystod eang o arbenigwyr. Byddwn yn darparu ystod o fecanweithiau cymorth i chi ar gyfer gofal academaidd a bugeiliol, drwy ein system diwtorial unigol ar gyfer Hyfforddiant Academaidd Personol, tiwtoriaid modiwl ac arweinydd y cwrs. Mae gennym bolisi “drws agored” ar gyfer pob myfyriwr sydd angen cymorth, cyngor neu gefnogaeth ar unwaith.
- Dr Tony Harris (Arweinydd y Cwrs, rheoli newid yn yr hinsawdd a rheoli amgylcheddol)
- Ms Niamh Breslin (modelu amgylcheddol a GIS)
- Dr Anthony Caravaggi (bioleg cadwraeth)
- Yr Athro Richard Dinsdale (ynni adnewyddadwy a thrin dŵr)
- Dr Sorcha Diskin (geocemeg ac esblygiad tirwedd)
- Dr Jonathan Duckett (datblygu cynaliadwy a chymdeithas)
- Yr Athro Sandra Esteves (adennill adnoddau ynni a deunyddiau)
- Dr Amelia Grass (bioleg cadwraeth a geneteg bywyd gwyllt)
- Yr Athro Alan Guwy (gwastraff ac adennill adnoddau ynni)
- Dr Thomas Lambourne (datblygu cynaliadwy a chymdeithas)
- Dr Christian Laycock (ynni a deunyddiau adnewyddadwy)
- Dr David Lee (ecoleg bywyd gwyllt a bioleg cadwraeth)
- Dr Natalie Lubbock (bioleg forol a dŵr croyw)
- Dr Angela Morris (newid hinsoddol a rheoli amgylcheddol)
- Dr Tim Patterson (dadansoddi cynaliadwyedd)
- Dr Duncan Pirrie (gwyddorau daear fforensig)
- Dr Gareth Powell (effeithiau amgylcheddol a’r gyfraith)
- Dr James Reed (ynni adnewyddadwy a charbon isel)
- Dr Ian Skilling (fylcanolegydd)
Lleoliadau
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys yr opsiwn i ymgymryd ag Ymarfer Proffesiynol a Lleoliad Gwaith. Gallwch ddewis cwblhau blwyddyn ryngosod mewn diwydiant neu waith haf, lleoliad gwirfoddol neu leoliad ar-lein, a fydd yn eich galluogi i roi theori ar waith ar yr un pryd â meithrin eich cysylltiadau â diwydiant. Byddwch hefyd yn ymrestru yn ein Hacademi Ymarfer Proffesiynol, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai gwaith tîm. Bydd hyn yn eich arfogi â’r sgiliau i reoli amgylchedd y gweithle yn llwyddiannus. Mae gan Brifysgol De Cymru dîm lleoliadau gwaith ymroddedig sy’n cynnig amrywiaeth o leoliadau yn seiliedig ar wyddoniaeth drwy borth Cyswllt Gyrfaoedd y Brifysgol. Yn ystod eich cyfnod yn cwblhau eich lleoliad, byddwch yn cael mentor academaidd, a fydd yn eich helpu a'ch cefnogi drwy'r broses.
Cyfleusterau
Yn ogystal â defnyddio’r awyr agored, mae myfyrwyr yn gweithio yn ein labordai a’n hystafelloedd dosbarth modern sydd â chyfarpar da. Mae ein myfyrwyr yn defnyddio amrywiaeth o systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS), golygu cyfryngau a labordai TG, gyda phob un yn cynnwys meddalwedd ymchwil ac arbenigol o safon diwydiant. Mae ein Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) wedi bod yn ganolfan flaenllaw a gydnabyddir yn rhyngwladol ers dros 30 mlynedd, gan gynnal gwaith ymchwil o'r radd flaenaf i drin gwastraff a chynhyrchu ynni cynaliadwy o wastraff a biomas sydd wedi'i dyfu. Mae’n dod ag arweinwyr o feysydd gwyddoniaeth a pheirianneg ynghyd i gyfuno eu hadnoddau a’u sgiliau i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol ac ynni mawr.
Pam Prifysgol De Cymru?
Pedwerydd yn y DU ar gyfer addysgu yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Môr (Guardian University Guide 2024)
Y gorau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylcheddol (Complete University Guide 2023)
Pam Prifysgol De Cymru?
Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol De Cymru yw’r gorau yng Nghymru o ran addysgu ac adnoddau dysgu – Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr
-
Pedwerydd yn y DU ar gyfer addysgu yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Môr (Guardian University Guide 2024)
-
Y gorau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylcheddol (Complete University Guide 2023)