Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad
Trowch eich angerdd am rygbi yn yrfa mewn datblygu chwaraewyr ac optimeiddio perfformiad gyda chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Archebu Lle Ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio Gyda Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/sport/bsc-rugby-coaching-and-performance.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
C611
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae swyddi sy’n ymwneud â pherfformiad rygbi yn gofyn am raddedigion sy’n barod at ddibenion y gwaith. Dyna pam mae ein cwrs unigryw’n darparu cyfleoedd helaeth i chi hogi eich crefft a phrofi amgylchedd rygbi elitaidd. Datblygwch sgiliau neilltuol, dysgwch sut i fordwyo’r diwydiant rygbi a byddwch barod i wireddi eich potensial.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych yn anelu at dreiddio i’r byd rygbi ar y lefel uchaf, unai’n hyfforddi timau elitaidd, yn meithrin y gêm ar lawr gwlad neu drwy ddefnyddio technegau a thechnoleg flaengar i ddadansoddi perfformiad, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi tuag at hynny drwy roi profiad ystyrlon, ymarferol i chi, achrediad uwch ac arweinyddiaeth arbenigol.
Achredir y cwrs gan
- Undeb Rygbi Cymru
Llwybrau Gyrfaol
- Hyfforddwr/ wraig Academi
- Hyfforddwr/ wraig cryfder a chyflyru
- Dadansoddwr perfformiad rygbi
- Swyddog datblygu rygbi
- Cefnogaeth gwyddor chwaraeon
- Athro / athrawes addysg gorfforol
Sgiliau a ddysgir
- Sgiliau hyfforddi technegol
- Cyfathrebu a meithrin perthynas
- Cyflwyniadau
- Cynllunio a rheoli
- Hyblygrwydd a rheoli sefyllfa
- Dadansoddi Perfformiad
- Codi pŵer/Cryfder a Chyflyru
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Datblygu sgiliau allweddol a’r wybodaeth fydd ei hangen arnoch ar gyfer gyrfa lefel uchel yn y byd rygbi, cyn defnyddio’r sgiliau hyn ar leoliadau gwaith o fewn y gymuned a lleoliadau rygbi elitaidd, ac ennill achrediad hyfforddi a dyfarnu rhyngwladol yn y broses.
Blwyddyn un
Cyflwyniad i Ddadansoddi Perfformiad ar gyfer Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad
Hyfforddi Rygbi: Perfformwyr Ifainc
Rheoli a Datblygu Rygbi yn y Gymuned
Datblygiad Athletaidd
Ymchwil Academaidd a Sgiliau Proffesiynol*
Blwyddyn dau
Hyfforddi Rygbi: Perfformwyr Glasoed
Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol 20 credyd – (dewisol)
Dadansoddi Perfformiad Rygbi
Codi pwysau 20 credyd – (dewisol)
Dulliau Ymchwilio
Lleoliad Chwaraeon*
Blwyddyn tri
Hyfforddi Rygbi: Perfformwyr sy’n Oedolion
Cryfder a Chyflyru – 20 credyd (dewisol)
Dadansoddiad mewn Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad
Dysgu Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles yn Greadigol – 20 credyd (dewisol)
Prosiect Proffesiynol Cymhwysol
Traethawd Estynedig
Dysgu Seiliedig ar Waith(dewisol)*
*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Dysgwch am hanfodion hyfforddi rygbi, cryfder a chyflyru, dadansoddi perfformiad, a rheoli gweithrediadau, defnyddiwch eich gwybodaeth ddamcaniaethol mewn ystod o amgylcheddau arwyddocaol a realistig wrth i chi ennill eich cymwysterau hyfforddi cyntaf, a datblygwch y sgiliau proffesiynol a phersonol craidd fydd yn eich paratoi chi at astudiaeth bellach a chyflogaeth.
Cyflwyniad i Ddadansoddi Perfformiad ar gyfer Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad
Dysgwch sut gall gwaith camera alluogi dadansoddiad perfformiad effeithiol ac enillwch y sgiliau technegol i osod a rheoli offer camera er mwyn dal rygbi byw er mwyn ei ddadansoddi.
Hyfforddi Rygbi: Perfformwyr Ifainc
Dysgwch ‘Sut i Hyfforddi’ rygbi undeb mewn cyd-destun cyfnod allweddol 1 a 2 (5-12 mlwydd oed), drwy astudio Rygbi Byd Eang / ‘Rygbi TAG’ rhyngwladol Undeb Rygbi Cymru, ‘Cyflwyniad i Gyswllt’ a chymwysterau ‘Hyfforddi Rygbi Undeb Lefel 1’ ac enillwch eich cymhwyster Dyfarnu lefel 1.
Rheoli a Datblygu Rygbi yn y Gymuned
Bydd darlithwyr gwadd sy’n siaradwyr proffil uchel yn dangos i chi beth sydd ei angen er mwyn rheoli cyfleusterau rygbi a digwyddiadau cymunedol yn effeithiol, a bydd gennych y cyfle i ddefnyddio’ch gwybodaeth a chreu cysylltiadau o fewn y diwydiant.
Datblygiad Athletaidd
Dysgwch am y gwahanol baramedrau ffitrwydd o fewn perfformiad rygbi elitaidd, megis cryfder, sefydlogrwydd, symudoledd, pŵer, cyflymdra, ystwythder a gwytnwch a bydd cyfle i chi ymarfer darparu sesiynau sy’n datblygu’r agweddau hyn.
Ymchwil Academaidd a Sgiliau Proffesiynol*
Gosodwch y sylfeini academaidd, cymdeithasol a rhyngbersonol sy’n hanfodol i lwyddiant ar y cwrs, a datblygwch y sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol fydd yn eich cynorthwyo i ffynni yn y swyddi fyddwch yn eu dewis o fewn rygbi.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Defnyddiwch wybodaeth, offer a thechnegau hyfforddi, cryfder a chyflyru a dadansoddiad dyfnach, dwysewch eich adnabyddiaeth o feysydd penodol o berfformiad rygbi a chymerwch ran mewn lleoliad gwaith uwch o fewn rygbi cymunedol yn unol â’ch cymhwyster hyfforddi lefel 2.
Hyfforddi Rygbi: Perfformwyr Glasoed
Datblygwch y grefft o ‘Beth i’w Hyfforddi’ mewn cyd-destun ysgol uwchradd neu grŵp ieuenctid (12 mlwydd oed-oedolion), byddwch yn dysgu cwrs Undeb Rygbi Cymru Hyfforddi Lefel 2. Dwysewch eich dealltwriaeth o rygbi yn ystod sesiynau ymarferol ac enillwch brofiad gwerthfawr mewn ysgolion a chlybiau.
Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol 20 credyd – (dewisol)
Dysgwch am rôl yr athro / athrawes Addysg Gorfforol a’r hyfforddwr chwaraeon mewn addysg gynradd ac uwchradd. Archwiliwch y problemau sy’n wynebau cymryd rhan mewn chwaraeon a’r modd y gallwch ddylunio rhaglen astudio effeithiol.
Dadansoddi Perfformiad Rygbi
Dwysewch eich dealltwriaeth o fesur a phrosesu gwybodaeth o fewn dadansoddi perfformiad, a dyluniwch, profwch a chyflwynwch system nodiant gyfrifiadurol er mwyn dadansoddi perfformiad rygbi.
Codi pwysau 20 credyd – (dewisol)
Dysgwch sut i adnabod buddion codi pwysau mewn hyfforddiant rygbi, gloywch eich techneg eich hunain yn y gwahanol ddulliau o godi ac enillwch y cymhwysedd ymarferol i gynllunio, darparu a monitro rhaglenni codi pwysau.
Dulliau Ymchwilio
Ehangwch a dwysewch eich dealltwriaeth o’r gwahanol ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol, gan ddadansoddi'n feirniadol y materion moesegol a methodolegol.
Lleoliad Chwaraeon*
Enillwch sgiliau rygbi diwydiannol ymarferol Lefel 2 ac arferion myfyriol drwy leoliadau gwaith hyfforddi mewn ysgolion/ yn y gymuned, trefnu digwyddiadau, cryfder a chymhwysedd a Dadansoddi Perfformiad.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Paratowch at rôl hyfforddi uwch o fewn rygbi, byddwch yn cael cip olwg o gynnwys Lefel 3 ac yn defnyddio egwyddorion hyfforddi uwch. Byddwch yn ennyn profiad o’r byd rygbi elitaidd go iawn, neu brofiad o rygbi cymunedol ac yn dadansoddi data ar gyfer eich traethawd estynedig neu brosiect proffesiynol cymhwysol.
Hyfforddi Rygbi: Perfformwyr sy’n Oedolion
Datblygwch eich gallu i hyfforddi rygbi a’ch athroniaeth drwy ddyfeisio rhaglenni, drwy greu amgylchedd effeithiol, cyflwyno sesiynau a gwerthuso perfformiad yn unol â’r hyn a ddisgwylir yn Lefel 3.
Cryfder a Chyflyru – 20 credyd (dewisol)
Enillwch wybodaeth ddamcaniaethol a’r profiad ymarferol i asesu anghenion cryfder a chyflyru chwaraewyr rygbi, gan ddarparu hyfforddiant sydd wedi ei selio ar wyddoniaeth er mwyn cynyddu’r ffactorau ffitrwydd allweddol ar gyfer perfformiadau rygbi.
Dadansoddiad mewn Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad
Enillwch sgiliau ymarferol dadansoddi perfformiad wrth i chi ddatblygu system fydd yn cynnwys arsylwi gwyddonol, casglu tystiolaeth a thechnegau adborth er mwyn cyflwyno gwybodaeth i chwaraewyr a hyfforddwyr.
Dysgu Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles yn Greadigol – 20 credyd (dewisol)
Datblygwch eich sgiliau dysgu proffesiynol, egwyddorion addysgeg a gwybodaeth am y gwahanol feysydd o fewn pynciau Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn i chi allu eu dysgu mewn dull effeithiol.
Prosiect Proffesiynol Cymhwysol
Gwellha effeithiolrwydd eich profiad yn y gweithle ac ennill sgiliau galwedigaethol hanfodol trwy ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sy'n archwilio maes allweddol o ddatblygiad rygbi.
Traethawd Estynedig
Fel dewis arall i’r Prosiect Proffesiynol Cymhwysol, gallwch ymchwilio, dylunio, datblygu a gwerthuso astudiaeth annibynnol sy’n berthnasol i’ch maes chi o arbenigedd, lle byddwch yn gwerthuso mewn dull beirniadol gwyddonol y data a’r llenyddiaeth.
Dysgu Seiliedig ar waith (dewisol)*
Datblygwch a dangoswch y sgiliau a’r ymddygiad sydd eu hangen arnoch yn y gweithle rygbi ac ystyriwch eich profiad mewn lleoliad sy’n berthnasol i’ch diddordebau a’ch uchelgais o fewn rygbi.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Mae eich profiad o ddysgu wedi ei ddylunio i atgynhyrchu’r prosesau a’r arferion byddwch yn dibynnu arnynt fel gweithiwr proffesiynol o fewn maes perfformiad rygbi. Golyga hyn y byddwch yn dysgu gan fwyaf drwy ‘wneud’. Mae darlithoedd yn aml yn efelychiad o sefyllfaoedd go iawn, o ddatrys problemau fyddech yn eu profi mewn swydd a defnyddio technoleg megis yr Ystafelloedd Efelychu Hydra, y platfform fusnes Simply Do, a’n ystafelloedd dadansoddi nodiant. Mae’r ochr ymarferol yn anferthol gyda phlant Cyfnod Allweddol 1 a 2 yn ymweld â’r campws yn rheolaidd er mwyn darparu profiad hyfforddi ystyrlon ‘ar y campws’. Nid oes arholiadau ffurfiol, mae’r asesiadau gan fwyaf ar ffurf perfformiadau ymarferol, cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau, gwaith prosiect a hunan asesiadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/sport/subject-sport-3g-pitch-rugby-45237.jpg)
Staff addysgu
Mae ein darlithwyr rygbi’n dod â phrofiad o frig y gêm, boed hynny’n hyfforddiant/dadansoddi gyda thimau rhyngwladol a rhanbarthol Cymru, yn cydlynu rygbi o fewn cyrff llywodraethu cenedlaethol, neu’n gwthio ffiniau dadansoddi perfformiad trwy eu hymchwil. Mae’r ehangder hwn o brofiadau’n bywiogi’ch profiad dysgu ac yn sicrhau nid yn unig y byddwch yn derbyn cefnogaeth academaidd ragorol ond hefyd arweiniad wrth lywio byd deinamig rygbi. Mae ein darlithwyr yn parhau i fod yn weithgar o fewn y byd rygbi, mewn swyddi allweddol mewn timau perfformiad, ar fyrddau a grwpiau strategol, ac mae rhai ohonynt yn cyhoeddi ymchwil yn rheolaidd sy'n ffurfio theori gyfredol ynghylch hyfforddi a dadansoddi perfformiad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/sport/subjects-sports-rugby-students-32689.jpg)
Lleoliadau gwaith a phrofiadau gwaith
Mae gan staff ein cwrs gysylltiadau hynod o dda yn y byd rygbi ac maent yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ystod o leoliadau gwaith a chyfleoedd hygred ac ystyrlon ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys rolau hyfforddi a dadansoddi yng nghlybiau Uwchgynghrair Cymru, yn ogystal ag Undeb Rygbi Cymru a nifer o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol rhyngwladol megis tîm cenedlaethol Rwmania ac ystod o glybiau rhanbarthol yng Nghymru. Rydym y cydweithio’n agos gydag Undeb Rygbi Cymry er mwyn cynnig ystod o gyfleoedd mewn lleoliadau gwaith o fewn y maes datblygu cymunedol. Mae cysylltiadau’n allweddol yn yr ymgais i sicrhau swydd o fewn y byd rygbi proffesiynol, ac mae nifer o’n cyn-fyfyrwyr yn sicrhau swyddi yn yr un clybiau a sefydliadau y maent yn treulio’u lleoliadau gwaith terfynol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/sport/subjects-sport-rugby-placement-9839.jpg)
Cyfleusterau
Bydd cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, ein cyfleuster perfformiad chwaraeon a ddyluniwyd yn arbennig at ddibenion y cwrs ar Gampws Trefforest. Defnyddir ein cyfleusterau’n aml gan dimau rhyngwladol proffesiynol, megis sgwadiau rygbi Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia. Byddwch yn treulio digonedd o amser ar ein cae 3G dan do, maint llawn. Fe’i hadeiladwyd i safon Rygbi Byd Eang 22, nid oes yno gyfleuster o’i fath o fewn unrhyw brifysgol yng Nghymru a Lloegr. Byddwch hefyd yn gweithio yn ein canolfan sy’n arbenigo mewn Cryfder a Chyflyru a'n ystafelloedd dadansoddi nodiant o ansawdd uchel. Mae gennym bum maes dan lifoleuadau ymhlith ein mannau chwarae glaswelltog ac artiffisial niferus.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/163-sport-park-facilities/campus-facilities-sport-park-rugby-team-31022.jpg)
Pam PDC?
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/163-sport-park-facilities/campus-facilities-sport-park-indoor-pitch.jpg)
Roedd 100% o'n Myfyrwyr BSc (Anrh) Hyfforddi a Pherfformiad Rygbi yn fodlon â'u cwrs (NSS 2024).
Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru.
Pam PDC?
Mae Gwyddor Chwaraeon yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu.
(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)Roedd 100% o'n Myfyrwyr BSc (Anrh) Hyfforddi a Pherfformiad Rygbi yn fodlon â'u cwrs (NSS 2024).
Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBC i gynnwys un Lefel A mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol neu Seicoleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC:
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BB ar Lefel A i gynnwys un Lefel A mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol neu Seicoleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£785
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
*Gorfodol
Mae'r ffi hon yn cynnwys £40 am y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa'r Post a'r ffi weinyddu ar-lein.
Cost: £53.20
Mae angen tanysgrifiad ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs am ffi flynyddol o £13. Sylwch fod yn rhaid ymuno â'r gwasanaeth cyn pen 30 diwrnod ar ôl derbyn eich tystysgrif DBS gwell.
Cost: £13
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ar leoliad ariannu eu costau teithio a chynhaliaeth eu hunain. Mae'r costau'n amrywio, yn dibynnu ar y lleoliad.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.