BA (Anrh)

Hyrwyddo Ffasiwn

Mae hyrwyddo ffasiwn yn fwy na dillad; mae'n siapio effaith y diwydiant ar ddiwylliant a chymdeithas. Byddwch yn dysgu am ffyrdd brandiau o gyfathrebu drwy eiriau a delweddau. Datblygwch i fod yn unigolyn creadigol hybrid, gan gyfuno strategaeth, syniadaeth a delweddu ar gyfer ymgyrchoedd dylanwadol ar draws gofodau manwerthu, argraffu, digidol a ffisegol.

Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    WNF5

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,250*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Côd UCAS

    WN25

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,250*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Hyrwyddo Ffasiwn yw’r maes sy’n cyfuno ffasiwn, marchnata a’r cyfryngau. Byddwch yn astudio ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyffrous hwn lle mae technoleg, diwylliant a thueddiadau yn rhoi ysbrydoliaeth i ymgyrchoedd hysbysebu a ffyrdd eiconig o gyfathrebu.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Dysgwch sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ffasiwn. Dysgwch sut i adeiladu brand, delio â’r cyfryngau, deall ymddygiad cwsmeriaid a defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer ymgyrchoedd. Mae Hyrwyddwyr Ffasiwn yn creu ymgyrchoedd aml-ddimensiwn ar gyfer cyfryngau ffisegol, print a digidol, gan wneud ffasiwn yn arf pwerus ar gyfer mynegiant a newid.

Llwybrau Gyrfa

  • Cyfarwyddwr creadigol
  • Cydgysylltydd cyfryngau cymdeithasol a chynnwys
  • Swyddog marchnata digidol
  • Swyddog cysylltiadau cyhoeddus
  • Rheolwr ymgyrchoedd
  • Dylanwadwr
  • Newyddiadurwr ffasiwn

Sgiliau a addysgir

  • Creu cynnwys ysgrifenedig a chynnwys ar ffurf delweddau
  • Ffotograffiaeth, fideo, a golygu
  • Dylunio graffeg
  • Seicoleg cwsmeriaid
  • Cydweithio

Lecturer sat in front of a red backdrop in fashion studios

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Profiad yn y diwydiant

Mae sawl cyfle i chi fynd ar leoliad gwaith a gweithio ar brosiectau byw gan eich paratoi ar gyfer y byd gwaith o'r diwrnod cyntaf.

Partneriaethau â brandiau

Yn unigryw i Gymru, mae ein prosiect maes llafur Size? yn meithrin talent greadigol newydd gyda briffiau gan frandiau dillad ar y stryd fawr.

Sgiliau ar gyfer dyfodol

Rydym yn sicrhau bod gan raddedigion y sgiliau ar gyfer y dyfodol drwy addysgu sgiliau datrys problemau, llythrennedd ddigidol, cydweithio a chyfathrebu.

Cyfleusterau rhagorol

Manteisiwch ar offer ffotograffiaeth proffesiynol a meddalwedd broffesiynol ar gyfer dylunio yn ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.

Canlyniadau arolwg rhagorol

Ymysg y 10 uchaf ar gyfer ffasiwn a thecstilau yn The Guardian UK Good University Guide 2024. Roedd 92% o fyfyrwyr BA (Anrh) mewn Hyrwyddo Ffasiwn PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)

Trosolwg o'r Modiwl

Byddwch yn adeiladu sgiliau sylfaenol trylwyr yn y diwydiant ffasiwn, ynghyd â’r sgiliau a'r cysyniadau hollbwysig y bydd eu hangen arnoch i hyrwyddo ffasiwn yn effeithiol. Byddwch yn mireinio eich sgiliau technegol ac yn dod i wybod beth yw eich arbenigedd cyn adeiladu portffolio a chael profiad yn y byd go iawn sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Bydd y flwyddyn gyntaf yn gwella eich dealltwriaeth a'ch dulliau dysgu. Cewch brofi amryw o ddosbarthiadau theori a dosbarthiadau ymarferol, dysgu brandio, seicoleg cwsmeriaid, steilio, a dulliau cyfathrebu gweledol, gan gynnwys creu sesiynau tynnu lluniau a chreu cysyniadau ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu.

Cyflwyniad i'r Diwydiant Ffasiwn
Mae Cyflwyniad i'r Diwydiant Ffasiwn yn ymdrin â hanes ffasiwn, dylunio, cynhyrchu, marchnata ac effaith ddiwylliannol. Mae'n archwilio byd deinamig dillad a thueddiadau, o'r creu i'r defnyddiwr.

Seicoleg a Thueddiadau Defnyddwyr
Mae Seicoleg a Thueddiadau Defnyddwyr yn astudio sut mae meddyliau, emosiynau ac ymddygiadau unigolion yn dylanwadu ar benderfyniadau prynu. Mae tueddiadau'n cynnwys cynaliadwyedd, twf e-fasnach, profiadau personol, a defnydd moesegol sy'n llywio dewisiadau defnyddwyr modern.

Steilio Ffasiwn
Mae Steilio Ffasiwn yn golygu curadu gwisgoedd, ategolion, a delweddau i gyfleu estheteg neu neges ddymunol. Mae'n cyfuno dillad, colur, ac ategolion i greu edrychiadau cymhellol a chydlynol.

Cyfathrebu Gweledol ar gyfer Ffasiwn
Mae Cyfathrebu Gweledol ar gyfer Ffasiwn yn archwilio sut mae gwybodaeth, syniadau ac emosiynau yn cael eu cyfleu trwy elfennau gweledol fel delweddau, graffeg a dylunio. Mae'n dysgu sut i gyfathrebu cysyniadau cymhleth yn effeithiol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd gan ddefnyddio ciwiau gweledol a chreadigedd.

Brandio Ffasiwn
Mae Brandio Ffasiwn yn ymdrin â sut mae hunaniaeth, gwerthoedd a chanfyddiad brand yn siapio'r farchnad. Mae'n cyfuno dylunio, marchnata ac adrodd storïau i ddangos sut mae brandiau nodedig yn atseinio â defnyddwyr ac yn meithrin teyrngarwch.

Astudiaethau Ffasiwn 1
Mae Astudiaethau Ffasiwn yn archwilio arwyddocâd diwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol dillad a thueddiadau. Mae'n archwilio dylunio, cynhyrchu, defnydd, a ffordd o fyw, gan gynnig mewnwelediad i'r cydadwaith deinamig rhwng ffasiwn a hunaniaeth.

Mae'r ail flwyddyn wedi'i chynllunio i ddatblygu eich sgiliau damcaniaethol ac ymarferol o ran cyfryngau’r byd ffasiwn, cysylltiadau cyhoeddus, ysgrifennu, ffotograffiaeth ddigidol a chreu fideos. Byddwch yn magu profiad yn y diwydiant drwy fynd ar leoliad gwaith a gallwch ystyried cymryd blwyddyn ryngosod i roi hwb i'ch rhagolygon gyrfa.

Profiad o'r Diwydiant Ffasiwn

Byddwch yn cael profiad ymarferol, yn datblygu sgiliau proffesiynol, ac yn sefydlu cysylltiadau o fewn y diwydiant wrth ymgymryd â lleoliad gwaith 70 awr mewn cwmni sy’n eich ysbrydoli.

Cyfryngau’r Byd Ffasiwn a Chysylltiadau Cyhoeddus

Byddwch yn dysgu sut i reoli delwedd brandiau drwy’r cyfryngau a thrwy gyfathrebu, gan ystyried sut i wella gwelededd, creu naratif, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws nifer o lwyfannau a digwyddiadau.

Ffotograffiaeth a Fideos Ffasiwn

Byddwch yn dysgu mwy na sgiliau camera yn unig; byddwch yn meistroli sgiliau cyfarwyddo creadigol a chynllunio fel y gallwch gyfleu union hanfod, steil ac emosiwn dillad a chynhyrchion, a hynny drwy naratif gweledol atyniadol.

Cyfathrebu wrth Farchnata ar gyfer Ffasiwn

Byddwch yn creu negeseuon sy’n argyhoeddi i hyrwyddo brandiau dillad drwy hysbysebu, ar y cyfryngau cymdeithasol, drwy gysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau. Byddwch yn ymchwilio i sut y mae adrodd straeon yn ysgogi pobl i ymgysylltu â’r brand a bod yn deyrngar iddo.

Rheoli Ymgyrchoedd

Byddwch yn dysgu sut i greu ymgyrchoedd marchnata digidol gan ddefnyddio ffyrdd strategol o feddwl. Bydd angen i chi ddiffinio amcanion, fframweithiau, a metrigau i lansio ymgyrchoedd llwyddiannus.

Astudiaethau Ffasiwn 2

Golwg ddyfnach ar arwyddocâd diwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol dillad a thueddiadau ffasiwn, gyda chyfleoedd i ymchwilio ac ysgrifennu am faterion yr ydych yn teimlo’n angerddol amdanynt.

Diploma cyflogaeth a phrofiad

Mae'r flwyddyn ryngosod yn pontio'r bwlch rhwng theori a defnyddio eich sgiliau ymarferol, gan wella eich dealltwriaeth o'ch maes ac agor drysau i gyflogaeth yn y dyfodol.

Byddwch yn diffinio eich hunaniaeth greadigol ac yn adeiladu portffolio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar brosiect byw ar gyfer brand ffasiwn ac yn creu prosiect mawr terfynol sy'n dangos eich diddordebau a'ch dealltwriaeth o gwsmeriaid cyfoes a chynulleidfaoedd ffasiwn y dyfodol.

Prosiect Ffasiwn Mawr

Fel rhan o’ch prosiect, byddwch yn creu cysyniadau, ac yn eu datblygu a’u gwireddu, gan ymchwilio’n sylweddol a dangos eich creadigrwydd, gan amlygu eich diddordebau, eich sgiliau a’ch gwybodaeth i wella eich rhagolygon swyddi.

Prosiect Byw i Asiantaeth

Byddwch yn ymgymryd â phrosiect byw wedi'i osod gan frand ffasiwn, sy'n eich herio i greu cysyniadau, dylunio a chyflawni prosiect ffasiwn yn seiliedig ar dueddiadau a gofynion cyfredol y diwydiant.

Dyfodol y Diwydiant Ffasiwn

Paratowch ar gyfer graddio a’ch dyfodol entrepreneuraidd drwy greu eich portffolio, datblygu ‘eich brand chi’ ac ystyried eich cyfleoedd gyrfa.

Astudiaethau Ffasiwn 3

Anelwch yn uchel wrth ddatblygu prosiect traethawd hir uchelgeisiol gyda gwaith ymchwil manwl a chanfyddiadau gwreiddiol ar bwnc penodol yr ydych yn teimlo’n angerddol amdano.

Co Lab (Cydweithio ac Arloesi)

Yn y prosiect hwn, cewch gyfuno eich sgiliau a’ch creadigrwydd i ddylunio a chreu ymgyrch ffasiwn ar y cyd, gan ddathlu’r hyn yr ydych wedi ei gyflawni wrth i chi baratoi i raddio.

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BCC
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
  • Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C/B yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CC Lefel A
  • Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS

Gofynion Ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad efallai y bydd gofyn i chi hefyd fynychu cyfweliad i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£9,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig 

  • Deunyddiau ym Mlwyddyn 1: £50
  • Blynyddoedd 1 a 2: Cyrchu, argraffu a gorffen allbynnau: £ 0 - £ 100 
  • Blwyddyn 3: Costau ymchwil ac argraffu: £ 0 - £ 500 

  • Blynyddoedd 1 a 2: £50
  • Blwyddyn 3: £350

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

“YN FY AIL FLWYDDYN, ES I AR LEOLIAD GWAITH I COWSHED COMMUNICATION, AR ÔL GWEITHIO GYDA’R CWMNI AR BROSIECT BYW YN Y FLWYDDYN GYNTAF. AETH YR INTERNIAETH MOR DDA NES IDDYN NHW OFYN I MI AROS YMLAEN AR ÔL GRADDIO!”

Ananya Dcruz

Ymhlith y deg uchaf yn y DU ar gyfer asesu Ffasiwn a Thecstilau (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024).

  • Mae Ffasiwn a Thecstilau yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025).

Roedd 92% o'n myfyrwyr BA (Anrh) Hyrwyddo Ffasiwn yn fodlon ar eu cwrs (ACF 2024).

  • Mae Ffasiwn a Thecstilau yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025).


Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Caiff y modiwlau eu creu gyda mewnbwn gan y diwydiant, sy'n golygu eich bod yn dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Caiff y radd hon ei hasesu’n gyfan gwbl drwy waith cwrs. Byddwch yn meithrin sylfaen ddamcaniaethol drwy ddarlithoedd a gweithdai ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn cynnwys prosiectau yn y byd go iawn gan ddefnyddio ein cyfleusterau blaenllaw, cysylltiadau â’r diwydiant, ac interniaethau. Mae’r asesiadau'n amrywiol, gan gwmpasu dealltwriaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol drwy gyflwyniadau, adroddiadau, portffolios a phrosiectau creadigol. Bydd y dull cynhwysfawr hwn yn helpu i’ch gwneud yn gyfathrebwr ffasiwn cyflawn, sy'n barod i gael effaith fasnachol.

Staff addysgu

Mae gan ein tîm addysgu gyfuniad unigryw o brofiad yn y diwydiant a rhagoriaeth academaidd. Mae ehangder eu harbenigedd yn golygu eu bod nid yn unig yn darparu cefnogaeth academaidd wych, ond hefyd yn eich helpu i gysylltu â’r diwydiant, adnabod eich cryfderau a'ch diddordebau, a mynd ar drywydd eich nodau. Mae arweinydd y cwrs wedi arwain ymgyrchoedd enwog ac wedi bod yn Bennaeth Creadigol mewn cwmnïau cyfarwydd yn ystod gyrfa ugain mlynedd. Mae ein tîm hefyd yn cynnwys arbenigwyr marchnata a ffotograffiaeth sy’n datblygu eich sgiliau, ac mae gan ddarlithydd arall ar y cwrs radd ddoethur mewn Theori Ddiwylliannol a Beirniadol, a fydd yn helpu i gyfoethogi eich dysgu wrth adrodd straeon o safbwynt beirniadol, diwylliannol, hanesyddol a chreadigol.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Mae cyflogadwyedd a mentergarwch wrth wraidd ein cwricwlwm. Mae tasgau yn y byd go iawn a chydweithio â’r diwydiant yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth, y profiad, yr ymddygiad, y cysylltiadau a'r nodweddion sydd eu hangen i gyflawni a llwyddo ar ôl graddio. Ar ôl yr ail flwyddyn o astudio, gallwch fynd ar leoliad gwaith blwyddyn o hyd gyda chefnogaeth y Tîm Gyrfaoedd a darlithwyr. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn gweithio mewn lleoliad proffesiynol sy'n gysylltiedig â'ch diddordeb yn y diwydiant ffasiwn, gan fagu profiad ymarferol ac yn aml yn ennill cyflog. Mae rolau nodweddiadol ar leoliad yn cynnwys creu cynnwys, marchnata gweledol a steilio.

Cyfleusterau

Mae pob math o gyfleusterau, gofod a chyfarpar o'r radd flaenaf ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Mae gennym amrywiaeth o stiwdios ffotograffiaeth a dylunio ffasiwn, yn ogystal â nifer o gypyrddau dillad ar gyfer steilio a phum ffenestr siop ffug. Bydd gennych fynediad llawn at feddalwedd greadigol fel Adobe Suite. Gallwch ddefnyddio camerâu o’r radd flaenaf, cyfarpar goleuo a mwy o'n storfa benthyciadau helaeth, ac mae ein llyfrgell yn rhoi mynediad i chi at y prif gyhoeddiadau ffasiwn. Byddwch wedi eich lleoli yn yr Atrium yng Nghaerdydd, ac felly wrth galon un o hybiau creadigol y DU, gyda chyfleoedd diddiwedd i gydweithio â myfyrwyr ar gyrsiau creadigol eraill.

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein cwrs amrywiol yn cynnig nifer o wahanol lwybrau gyrfa yn y byd ffasiwn. Efallai y byddwch yn codi ymwybyddiaeth pobl o frand fel marchnatwr, strategydd brand, neu arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus, neu’n gweithio mewn rôl ymarferol fel crëwr cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, steilydd, neu farsaindïwr gweledol. Gallech hefyd oruchwylio tîm fel cyfarwyddwr creadigol. Mae'r cwrs yn eich cyflwyno i wahanol arbenigeddau ac yn eich paratoi ar gyfer eich rôl ddewisol. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio mewn cwmnïau fel Reef, Boden, y BBC, Fashion Revolution, Harper’s Bazaar, Primark, Peacocks, Next, Dazed, John Lewis, ac Alexander McQueen.

Cymorth gyrfaoedd

Byddwch yn gallu manteisio ar gyngor gan ein tîm cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau, pan fyddwch yn graddio, ac ar ôl graddio. Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau un-i-un gyda chynghorwyr gyrfa yn yr adran naill ai wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo. Mae gennym ystod o adnoddau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ystyried opsiynau gyrfa, ac offer i'ch helpu wrth wneud cais am swyddi a chyfweliadau. Nod y cwrs yw sicrhau eich bod yn ‘barod ar gyfer y diwydiant’. Rydym yn cyd-greu ac yn ail-ddilysu ein modiwlau gyda phartneriaid yn y diwydiant fel bod ein cwrs yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant ynghyd â gofynion cyflogwyr, gan wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr yn ymwybodol o’r diweddaraf am y diwydiant cyffrous hwn.

Partneriaid yn y diwydiant

Diolch i gysylltiadau ein staff addysgu a’n lleoliad delfrydol, mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant. Mae brandiau fel Size?, Oxfam, Cowshed Communications, LUSH, Next, a Hiut Denim yn cyfoethogi ein cwrs drwy helpu i ddatblygu modiwlau, darparu siaradwyr gwadd a chyflwyno tasgau ar gyfer y byd go iawn. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau mynd ar leoliadau gwaith yn genedlaethol ac yn lleol mewn adrannau marchnata, manwerthu a chreadigol brandiau ac asiantaethau ar draws diwydiant creadigol Cymru a Gorllewin Lloegr. Rydym hefyd yn aelodau o Gyngor Ffasiwn Prydain.

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.