Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Cadwyn Gyflenwi)
Gwella eich cyflogadwyedd rhyngwladol ac agor drysau i rolau rheoli lefel uchel trwy gwblhau ein rhaglen MBA Byd-eang gyda ffocws arbenigol ar Reoli’r Gadwyn Gyflenwi.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/business-and-management/mba-global.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£14,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar draws pob maes busnes, gan archwilio popeth o farchnata arloesol i weithrediadau cadwyn gyflenwi effeithlon. Rhowch eich sgiliau ar waith gydag wyth mis o brofiad gwaith, prosiect CAPSTONE a arweinir gan gleientiaid, a chyfleoedd rhwydweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y diwydiant lleol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Pobl sydd wedi'u cymell i feithrin eu sgiliau arwain, datblygu'n broffesiynol, a deall rheoli busnes a chadwyn gyflenwi o safbwynt byd-eang.
Llwybrau Gyrfa
- Dadansoddwr Busnes
- Swyddog Adnoddau Dynol
- Rheolwr gweithrediadau
- Cynllunydd ariannol
- Rheolwr datblygu busnes
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Cyfathrebu
- Rheoli prosiectau
- Arloesi a datrys problemau
- Gwaith tîm
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-mba-global.png)
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Datblygwch eich sgiliau ar draws pob maes busnes gan gynnwys rheoli, marchnata ac adnoddau dynol. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, bydd gennych well dealltwriaeth o wahanol swyddogaethau busnes a sut maent yn cydberthyn yn ogystal â bod gam yn nes at ddod yn arweinydd mwy hyderus a chyflawn.
Heriau Byd-eang
Archwiliwch y prif mega-dueddiadau byd-eang, grymoedd gyrru a heriau ar gyfer busnes byd-eang heddiw, a'r ffyrdd y maent yn effeithio ar reoli busnes byd-eang a chadwyni gwerth byd-eang.
Marchnata a Chyfathrebu Byd-eang
Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r offer sydd eu hangen arnoch i ddylunio strategaethau ac arferion cyfathrebu marchnata sydd wedi'u hintegreiddio'n fyd-eang.
Ymddygiad Sefydliadol, Rheoli Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth
Ennill dealltwriaeth feirniadol ac integredig o arweinyddiaeth, ymddygiad sefydliadol a HRM mewn cyd-destun byd-eang.
Strategaeth Fyd-eang a Gwneud Penderfyniadau
Byddwch yn datblygu eich gallu i ddeall a gwerthuso'n feirniadol ystod o opsiynau strategol ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol sy'n gyson mewn marchnad fyd-eang ddeinamig ac amrywiol.
Rheolaeth Ariannol Strategol
Mae’r modiwl yn rhoi trosolwg o reolaeth ariannol strategol sefydliad, o safbwyntiau rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Rheoli Gweithrediadau yn yr Oes Ddigidol
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o egwyddorion, arferion, a methodolegau rheoli gweithrediadau a'u haddasiad yn yr oes ddigidol ar gyfer gwell perfformiad gweithredol a'r gadwyn gyflenwi.
Datblygu Sgiliau Personol a Phroffesiynol 1
Yn seiliedig ar arfer proffesiynol cyfoes ac yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr yn y diwydiant, mae’r gweithdai’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr proffesiynol gwydn, moesegol a byd-eang.
Bydd eich ail flwyddyn o astudio yn eich galluogi i roi eich holl sgiliau ar waith ac arbenigo yn eich llwybr dewisol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect CAPSTONE dan arweiniad diwydiant ac yn cwblhau hyd at wyth mis o brofiad gwaith.
Prosiect Capstone (Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi)
Gan weithio mewn tîm o fyfyrwyr byddwch yn paratoi adroddiad ac argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer cleient go iawn gan ddefnyddio'r offer, y safbwyntiau a'r theorïau a astudiwyd ym mlwyddyn un.
Datblygu Sgiliau Personol a Phroffesiynol 2 (Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi)
Cyfle cyffrous i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a chyflogadwyedd ymhellach trwy weithdai sgiliau ymarferol.
Lleoliad Gwaith
Enillwch brofiad gwerthfawr yn y gweithle gyda hyd at wyth mis ar leoliad. Rhaid i chi ddewis rhwng lleoliad gwaith allanol, lleoliad ymgynghori mewnol, lleoliad mewnol ar sail entrepreneuriaeth neu efelychiad busnes ar-lein mewnol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd anrhydedd ail ddosbarth o leiaf yn y DU neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol cydnabyddedig.
Mae profiad rheoli perthnasol yn ddelfrydol a byddai pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£14,800
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Wedi iddynt gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr sydd wedi pasio’r modiwlau gofynnol wneud cais i ennill Diploma Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth. Codir £250 ar fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hyn (y pris yn gywir adeg ysgrifennu).
Cost: £250
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd a gweithdai, gyda ffocws ar brosiectau diwydiant go iawn ac enghreifftiau ymarferol i gysylltu theori ag ymarfer. Mae ein tîm cwrs yn cynllunio ystod o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi dysgu myfyrwyr gan gynnwys sgyrsiau gwadd gan arbenigwyr diwydiant, ymweliadau busnes, a chydweithio â myfyrwyr o gyrsiau eraill i rannu eu gwybodaeth. Nid oes unrhyw draethodau nac arholiadau traddodiadol - mae pob asesiad wedi'i gynllunio i'ch helpu i adeiladu portffolio o sgiliau a chymwyseddau. O baratoi adroddiadau a briffiau, i gyflwyno, sesiwn sylw a mynd i'r afael â heriau dilys sy'n gysylltiedig â gwaith, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/02-accommodation/accommodation-home-living-placeholder.jpg)
Staff addysgu
Daw ein staff MBA Byd-eang o bob rhan o’r byd, a rhyngddynt, maent yn siarad dros 15 o ieithoedd. Maent yn arbenigwyr mewn meysydd craidd megis rheoli gweithrediadau, dadansoddeg busnes, trawsnewidiadau ynni, HRM a marchnata digidol. Mae ganddynt brofiad o astudio a gweithio mewn gwledydd ar draws y byd, o Awstralia, India ac UDA drwodd i Japan, Nigeria a’r Ffindir, ac felly maent yn dod â dull gweithredu sy’n seiliedig ar brofiadau diwylliannol amrywiol i’r MBA Byd-eang.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-staff-andrew-thompson-50483.jpg)
Lleoliadau
Gall myfyrwyr MBA Byd-eang gwblhau naill ai ‘interniaeth gweithle’ neu ‘interniaeth sy’n seiliedig ar brosiectau’, gan gynnig cyfle iddynt gymhwyso gwybodaeth ystafell ddosbarth mewn lleoliadau busnes byd go iawn a datblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae interniaethau yn rhoi cipolwg buddiol ar sut mae sefydliadau'n gweithredu a'r heriau y maent yn eu hwynebu - profiad a fydd yn eich helpu i sefyll allan yn ystod cyfweliadau a chryfhau eich CV. Gydag interniaeth yn y gweithle byddwch yn rhan annatod o gyflogwr, ac mae'n debygol y bydd gennych ystod o wahanol gyfrifoldebau. Gyda'n interniaethau sy’n seiliedig ar brosiectau, byddwch yn gweithio ar brosiect ffocysedig i'r cyflogwr. Yn ystod eich astudiaethau, byddai gennych yr opsiwn i gwblhau dau o'r interniaethau hyn sy’n seiliedig ar brosiectau, gan roi gwerth ychwanegol i'ch CV. Mae llwybrau interniaeth yn dibynnu ar argaeledd a bydd myfyrwyr yn gwneud dewisiadau gyda chymorth tîm y cwrs.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/business-services/business-services-business-generic.jpg)
Cyfleusterau
Mae’r MBA Byd-eang wedi’i leoli ar ein campws yng Nghasnewydd yng nghanol y ddinas ac ar lannau Afon Wysg - dim ond ychydig funudau o waith cerdded o hyb manwerthu’r ddinas, ac mae ganddo gysylltiadau da â chyflogwyr mawr. Ar y campws, gall myfyrwyr elwa o gyfleusterau gan gynnwys ein llyfrgell ac Undeb Myfyrwyr yn ogystal â'n Canolfan Ymchwil Hydra drawiadol, lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â dysgu ac asesiadau efelychiedig sy'n eu paratoi i wynebu heriau'r byd go iawn. Y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae myfyrwyr yn elwa ar fynediad am ddim i LinkedIn Learning ac mae'n ofynnol iddynt gwblhau hyfforddiant fel rhan o fodiwlau amrywiol ar y cwrs i gryfhau eu portffolio busnes.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/business-services/Newport-Campus-Welcome-Week-2017_29747.jpg)
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.