Menter Gemau
Mae’r MA Menter Gêmau yn gwrs arloesol a fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau artistig, dylunio, technegol, cynhyrchu a menter. Mae’n adeiladu ar yr addysgu llwyddiannus presennol ar lefel gradd israddedig yn y maes pwnc hwn, ac mae wedi cynhyrchu datblygwyr gemau, busnesau bach a chanolig, artistiaid a dylunwyr sydd wedi ennill gwobrau.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/animation-and-games/animation-games-ma-games-enterprise-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Fel rhan o’r daith i ddod yn feistr ar greu gêmau fideo, byddwch yn datblygu sawl prosiect gêmau sydd â dogfennaeth gadarn, strategaeth fusnes manwl ac, wrth gwrs, gêm i ymfalchïo ynddi.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Anelir y cwrs Meistr Menter Gêmau at y rhai sy’n dymuno ehangu eu sgiliau presennol a datblygu eu hymarfer o fewn amgylchedd sy’n gweithredu fel cwmni datblygu bach, ond sydd hefyd am deilwra eu dysgu i’w harbenigedd eu hunain. Mae brwdfrydedd dros y diwydiant yn hanfodol ar bob cam o’r broses a thrwy gydol y cwrs; bydd angen adlewyrchu arferion proffesiynol y diwydiant o ran agwedd a chynhyrchiant.
Llwybrau gyrfa
- Dylunydd Gemau
- Artist Gemau
- Rheolwr Prosiect
- Rheolwr Cymunedol
- Mentor, Hyfforddwr a Darlithydd
- Sicrhau Ansawdd
- Rhaglennydd
- Dylunydd UI
Mewn partneriaeth â
- Epic Games
- Unreal Engine
Sgiliau a ddysgwyd
- Datblygu ymchwil diwydiannol a chreadigol
- Ymarferion cydweithredol
- Cyflwyno cysyniadau a syniadau
- Technegau cynhyrchu a phrototeipiau
- Dadansoddiad prosiect manwl a beirniadol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd y cwrs MA Menter Gêmau yn gwthio myfyrwyr i ddatblygu eu hymarfer fel datblygwyr gêmau - archwilir meysydd dadansoddol, artistig, cysyniadol, dylunio, entrepreneuraidd, myfyriol a thechnegol. Anogir ichi ddefnyddio ystod eang o offer meddalwedd ar gyfer datblygu a rheoli prosiectau, a fydd hefyd yn hwyluso’r dasg o gasglu tystiolaeth ddatblygiadol ar gyfer cyfnodolion ymchwil a datblygu, a myfyrio.
- Gêmau Arloesol Gauntlet
- Entrepreneuriaeth Greadigol
- Archwilio ac Arloesi
- Arbenigaeth Gêmau
- Gêm Derfynol
Gofynion mynediad
Gradd Anrhydedd mewn maes cysylltiedig a/neu brofiad proffesiynol sylweddol mewn maes cysylltiedig.
Disgwylir i chi feddu ar rywfaint o brofiad o brosesau dylunio, datblygu a chynhyrchu, megis cynhyrchu asedau, dylunio gwastad, rhaglennu neu weithgaredd menter/cynhyrchu. Byddwch yn cael eich cyfweld a disgwylir ichi ddod â phortffolio o waith gyda chi.
Mae cymwysterau rhyngwladol achrededig cyfatebol yn dderbyniol. Mae angen i fyfyrwyr rhyngwladol gyflenwi dolen i'w portffolio ar-lein neu wefan bersonol, i ddangos eu gallu. Ystyrir ymrwymiad i astudio. Lle bo modd, defnyddir fideo-gynadledda, Skype neu ddull cyfathrebu arall i gysylltu â chi.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Addysgir y cwrs MA Menter Gêmau trwy amrywiaeth o seminarau, trafodaethau a chyflwyniadau. Gan roi ffocws ar ddysgu gweithredol a seiliwyd ar ymarfer, byddwch yn defnyddio prosiectau byw a chydweithredol.
Byddwch yn astudio trwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a phrosiectau a oruchwyliwyd. Bydd siaradwyr gwadd o fewn y diwydiant yn gwella’ch profiad - gallai’r rhain hanu o feysydd dylunio, rhaglennu, datblygu neu fenter.
Tua diwedd y cwrs, byddwch yn cynhyrchu gêm derfynol gyda dogfennaeth sy’n amlygu’r broses ddylunio, yn profi ac yn gwerthuso’r gêm, yn hyrwyddo’r fenter ac, ar ben hynny, efallai y cewch gyfleoedd i arddangos eich gwaith wrth ichi baratoi ar gyfer cyhoeddi’ch gêm derfynol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff Addysgu
Mae’r holl staff yn weithgar yn y meysydd ymchwil neu ymgynghori, neu’n gyflogedig yn y diwydiant gêmau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein myfyrwyr yn elwa o sawl labordy gêmau sy’n cyrraedd safon y diwydiant. Mae’r rhain yn darparu mynediad i injans gêmau cyffredin fel Unreal Engine, Unity 3D, ac offer megis Adobe CS, Maya, 3DS Max, Substance a ZBrush ynghyd â phecynnau meddalwedd mwy arbenigol eraill.
Mae ein labordai gêmau wedi’u ffurfweddu i gefnogi’r technolegau diweddaraf fel VR ac mae gan ein cyfrifiaduron personol ddigon o RAM, cardiau graffeg, gyriannau cychwyn SSD, a storfa eilaidd i drin eich uchelgeisiau creadigol. Mae gan lawer o’n cyfrifiaduron fonitorau eang iawn hefyd, sy’n ardderchog ar gyfer gwella’ch cynhyrchiant a’ch llif gwaith.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.