Nyrsio (Anableddau Dysgu): Dysgu Hyblyg
Mae'r cwrs nyrsio anableddau dysgu rhan-amser hyblyg yn rhoi cyfle i weithwyr cymorth gofal iechyd profiadol (HCSWs) ddod yn Nyrs Gofrestredig wrth barhau i weithio ac ennill cyflog.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu Lle ar Diwrnod Agored Sgwrsio â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-bsc-nursing-flexible-learning-learning-disabilities.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs hwn sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn galluogi ymgeiswyr cymwys i weithio tuag at statws Nyrs Gofrestredig, ennill cymhwyster gradd mewn un o bedwar maes nyrsio arbenigol, wrth barhau â'u horiau dan gontract mewn cyflogaeth fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.
DYLUNIWYD AR GYFER
Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n chwilio am lwybr cyffrous i gamu ymlaen yn eu gyrfa.
Achredir gan
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Sgiliau a addysgir
- Gwneud Penderfyniadau Gwybodus
- Hyder mewn Ymarfer
- Arwain a Rheoli Gofal o Safon
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg
Byddwch yn astudio'r un modiwlau â'n myfyrwyr nyrsio llawn amser, ond mae'r ddarpariaeth yn cael ei hymestyn dros bedair blynedd yn hytrach na'r tair blynedd arferol. Mae myfyrwyr yn parhau mewn cyflogaeth yn un o'n darparwyr gofal iechyd cysylltiedig ac fel rhan o'u hastudiaeth contract gwaith yn astudio am 23 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel myfyriwr nyrsio.
Blwyddyn Un
Hanfodion Ymarfer Nyrsio
Hybu Iechyd ac Atal Afiechyd
Asesu Anghenion a Chreu Cyfleoedd Therapiwtig
Datblygu Hyder mewn Ymarfer
Blwyddyn Dau
Gwella Asesu ac Ymyriadau ar sail Tystiolaeth
Materion Cyfreithiol a Moesegol Proffesiynol ym maes Nyrsio
Blwyddyn Tri
Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth: Gwerthuso Gofal yng Nghyd-destun Ymarfer
Gwneud Penderfyniadau Gwybodus wrth Ymarfer
Hyrwyddo Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymyriadau Therapiwtig
Blwyddyn Pedwar
Arwain a Rheoli Gofal o Safon ar draws Lleoliadau
Y Nyrs fel Addysgwr
Dod yn Ymarferydd Hyfedr
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Mae astudiaethau'n cynnwys cymhareb 50:50 o leoliadau clinigol ac amser theori. Mae llawer o hyn yn cynnwys e-Ddysgu ond mae myfyrwyr yn mynychu ambell ddiwrnod astudio gorfodol, 15 yn y flwyddyn gyntaf ac yna 10 ym mhob blwyddyn olynol. Fel rhan o hyn, bydd myfyrwyr yn manteisio ar ddysgu clinigol efelychiadol yn ein canolfan efelychu o'r radd flaenaf.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/00-miscellaneous/misc-person-using-laptop-1.jpg)
Staff addysgu
Mae gan ein darlithwyr nyrsio amrywiaeth eang o arbenigedd clinigol mewn gofal yn yr ysbyty ac yn y gymuned, gan gynnwys meddygaeth, llawfeddygaeth, rheoli poen, gofal cardiaidd, gofal trawma, gofal critigol a rheoli heintiau yn ogystal â nyrsio practis, nyrsio ardal cymunedol, gofalu am y person hŷn, nyrsio gofal lliniarol a gofal canser.
Mae myfyrwyr nyrsio’n mwynhau cefnogaeth eithriadol yn PDC. Mae ein polisi drws agored yn sicrhau bod rhywun wrth law bob amser i'ch cynorthwyo pan fydd problem yn codi ac mae hyn yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr yn ei werthfawrogi'n fawr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-clinical-simulation-centre-24143.jpg)
Lleoliadau
Byddwch yn cael cyfleoedd ymarfer mewn pob math o leoliadau gofal iechyd sy'n cynnwys y gymuned, ysbyty, gofal lliniarol, cartrefi nyrsio a meddygfeydd, gan ddatblygu sgiliau allweddol a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.
Pan fyddwch chi'n gweithio gyda'ch mentor mewn practis clinigol, rhaid i chi weithio patrymau shifft y maes clinigol rydych chi wedi'ch dyrannu iddo.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-generic-49330.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol yn efelychu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant.
Mae'r rhain yn cynnwys dwy gilfan pedwar gwely i efelychu lleoliad ysbyty, cyfleusterau pediatreg a mamolaeth pwrpasol, gan gynnwys uned gofal arbennig i fabanod, amgylchedd gofal dwys ac adran achosion brys gydag efelychydd ambiwlans gyda’r holl gyfarpar. Mae yna fflat dwy ystafell wely hefyd i efelychu darparu gofal iechyd mewn amgylchedd cartref.
Defnyddir y Ganolfan ar gyfer addysg gofal iechyd a hyfforddiant nyrsys, gan ymdrin â phopeth o sgiliau clinigol hanfodol i senarios clinigol cymhleth, amlddisgyblaethol. Byddwch yn defnyddio'r un offer ag y byddwch chi'n ei weld mewn lleoliadau gofal iechyd, ac yn gweithio ar efelychwyr cleifion sy'n dynwared ymatebion y corff i salwch, gofal a thriniaeth.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-nursing-patient-simulator27403.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 120 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBB i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- Bagloriaeth Cymru: Gradd B a BB ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Rhagoriaeth Teilyngdod.
- Mynediad i AU: Rhaid cwblhau 120 credyd yn gyffredinol gydag o leiaf 45 ar Lefel 3 a 15 ar Lefel 2. O'r 45 credyd ar Lefel 3, byddwch angen o leiaf 24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 Pasio.
Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar y cyngor sydd ar gael ar-lein, o ddangos bod gennych y cymwysterau neu brofiad perthnasol, awgrymiadau ar ysgrifennu eich datganiad personol i gyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad, mae gennym gyfoeth o gefnogaeth ac arweiniad ar gael i ymgeiswyr i sicrhau eich bod yn gallu dangos bod gennych yr hyn sydd ei angen a gwneud eich cais y gorau y gall fod.
Gofynion Ychwanegol:
- Mae gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad.
- Un geirda boddhaol gan rywun sy’n gallu rhoi sylwadau ar eich agwedd a’ch dull o ymdrin â dysgu mewn ystyr broffesiynol neu academaidd.
- Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
- Bydd angen prawf meddygol boddhaol unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at eich dyddiad dechrau gyda manylion sut i gael y rhain.
- Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
- Y cymwysterau cyfwerth a ystyrir yw Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Swyddogaethol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg. (Rhaid bod wedi ei gyflawni ers 2016).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell.
Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.