MSc

Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (Nyrsio Ysgol)

Rydym yn rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth sy'n torri ar draws ffiniau disgyblu, proffesiynol a sefydliadol.

Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Noson Agored Sgwrsio â ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Ebrill

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Ebrill

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

Mae'r cwrs Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol hwn wedi'i ddatblygu i fodloni maes iechyd y cyhoedd sy'n newid yn gyflym, gan ddarparu cymhwyster proffesiynol i chi sy'n cydnabod eich arbenigedd.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer nyrsys a/neu fydwragedd cofrestredig sydd â diddordeb mewn gweithio yn y gymuned gyda phoblogaethau oed ysgol, teuluoedd a chymunedau, gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau a hyrwyddo a gwella canlyniadau iechyd.

Achredir gan

Cymeradwyir gan yr NMC

Mae PDC yn Sefydliad Addysg a Gymeradwyir (AEI) gan yr NMC.

Llwybrau Gyrfa

  • Nyrs Ysgol
  • Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol

Sgiliau a addysgir

  • Rhyngbersonol
  • Rheoli

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Trosolwg o'r Modiwl

Mae cwblhau'r modiwlau’n llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth am gofrestriad Rhan Tri fel nyrs iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol gofrestredig (mewn nyrsio ysgol) a gadael â'r cwrs gyda Diploma Ôl-raddedig ar ddiwedd blwyddyn os yn astudio'n llawn amser.

  • Sylfeini Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol 
  • Datblygiadau Cyfoes mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
  • Iechyd Cyhoeddus Seiliedig ar Dystiolaeth
  • Hyrwyddo Iechyd Cyhoeddus Poblogaethau
  • Y Gyfraith, Moeseg a Diogelu
  • Llywodraethu ac Arweinyddiaeth 

Os ydych chi'n dymuno dychwelyd ac ychwanegu at eich credydau i gyrraedd 180 a chwblhau'r MSc, rydym yn cynnig tri modiwl 20 credyd yn benodol ar gyfer y myfyriwr nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol. 

  • Dadansoddiad Polisi ar Ddatblygiad Ymarfer
  • Effaith Ymchwil ar Ddatblygiad Ymarfer
  • Lledaenu Datblygiad y Prosiect

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Cynlluniwyd y cwrs MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Nyrsio Ysgol) i
fodloni gofynion nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol y Cyngor Nyrsio a
Bydwreigiaeth (2004) o gymhareb 50/50 o theori ac ymarfer.
Bydd dysgu ac asesu’n digwydd yn y Brifysgol ac mewn amrywiaeth o amgylcheddau clinigol, ac mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau damcaniaethol a chlinigol gyda phwysoliad cyfartal.

Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig,
cyflwyniadau llafar, cyflwyniad poster, arholiadau, cyflwyniad wedi'i recordio ac asesiadau ymarfer clinigol.

Staff addysgu

  • Dwynwen Spargo, arweinydd y cwrs
  • Michelle Thomas

Cyfleusterau

Bydd myfyrwyr yn defnyddio Ystafell Hydra Minerva a'r Ganolfan Efelychu Clinigol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae graddedigion yn cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd lleol y GIG fel arfer ac mae
cyfleoedd cyflogaeth ehangach yn datblygu.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r cwrs nyrsio ysgol hwn yn paratoi nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol i
weithio mewn lleoliadau cymhleth ac amrywiol ac mae’r wybodaeth, y sgiliau rhyngbersonol a'r galluoedd rheoli ganddynt i ymarfer yn effeithiol yn y gwasanaeth iechyd heddiw.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Mae angen cymwysterau proffesiynol ac academaidd ar ymgeiswyr. Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol gyda'r NMC ar Ran Un a/neu Ran Dau o Gofrestr yr NMC fel Nyrs Gofrestredig a/neu Fydwraig Gofrestredig.
  • Dylai fod gan ymgeiswyr radd Anrhydedd fel arfer, er y rhoddir ystyriaeth trwy fecanwaith achredu dysgu blaenorol a thrwy brofiad (APEL) os nad oes gennych y cymwysterau hyn.

Gofynion Ychwanegol:

Bydd darpar ymgeiswyr yn cael eu cyfweld gan dîm y cwrs, a fyddai yn y rhan fwyaf o achosion yn cynnwys aelod o'r ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu lleoliadau myfyrwyr am 50% o hyd y cwrs a defnyddiwr gwasanaeth.

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol

Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Gwybodaeth Bellach

Fel rheol, cefnogir y cyrsiau hyn gan gomisiynwyr Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Byrddau Iechyd Prifysgol GIG Cymru .

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein.

Cost: £64.74

Blwyddyn 1 FT a Blwyddyn 1 a 2 PT. Bydd costau lleoli yn amrywio yn dibynnu ar ble mae'r myfyriwr yn cael ei leoli, ond gellir adennill rhai costau.  

Mae costau presenoldeb mewn cynadleddau a gweithgareddau allgyrsiol yn gyfnewidiol, gyda rhai am ddim. Fodd bynnag, mae'r rhain yn gyfleoedd dewisol ac allgyrsiol. Mae'r costau'n amrywio, yn dibynnu ar y gweithgaredd a'r lleoliad. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.