BSc (Anrh)

Nyrsio (Plant): Dysgu Hyblyg

Mae'r cwrs nyrsio plant rhan-amser hyblyg yn rhoi cyfle i weithwyr cymorth gofal iechyd profiadol (HCSWs) ddod yn Nyrs Gofrestredig wrth barhau i weithio ac ennill cyflog. Mae ceisiadau ar gyfer Medi 2025 bellach wedi cau. Gallwch wneud cais o hyd ar gyfer Medi 2026.

Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £785*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs hwn sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn galluogi ymgeiswyr cymwys i weithio tuag at statws Nyrs Gofrestredig, ennill cymhwyster gradd mewn un o bedwar maes nyrsio arbenigol, wrth barhau â'u horiau dan gontract mewn cyflogaeth fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.

DYLUNIWYD AR GYFER

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n chwilio am lwybr cyffrous i gamu ymlaen yn eu gyrfa.

Achredir gan

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Sgiliau a addysgir

  • Gwneud Penderfyniadau Gwybodus
  • Hyder mewn Ymarfer
  • Arwain a Rheoli Gofal o Safon

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cyfleoedd lleoliad

Mae lleoliadau dan oruchwyliaeth yn rhan annatod o'r radd nyrsio ran-amser. Mae'r rhain yn ein byrddau iechyd partneriaeth, yn ogystal ag yn y sector cymunedol ac annibynnol.

Cyfleusterau rhagorol

Fel rhan o'ch gradd nyrsio ran-amser, byddwch chi'n dysgu yn ein cyfleusterau iechyd trawiadol. Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol yn efelychu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Dysgu achrededig

Mae Prifysgol De Cymru’n Sefydliad Addysg Cymeradwy y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Gall graddedigion o radd nyrsio wneud cais i ymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor a dechrau ymarfer yn y DU.

Trosolwg

Byddwch yn astudio'r un modiwlau â'n myfyrwyr nyrsio llawn amser, ond mae'r ddarpariaeth yn cael ei hymestyn dros bedair blynedd yn hytrach na'r tair blynedd arferol. Mae myfyrwyr yn parhau mewn cyflogaeth yn un o'n darparwyr gofal iechyd cysylltiedig ac fel rhan o'u hastudiaeth contract gwaith yn astudio am 23 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel myfyriwr nyrsio.

Hanfodion Ymarfer Nyrsio 

Hybu Iechyd ac Atal Afiechyd

Asesu Anghenion a Chreu Cyfleoedd Therapiwtig 

Datblygu Hyder mewn Ymarfer 

Gwella Asesu ac Ymyriadau ar sail Tystiolaeth 

Materion Cyfreithiol a Moesegol Proffesiynol ym maes Nyrsio

Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth: Gwerthuso Gofal yng Nghyd-destun Ymarfer

Gwneud Penderfyniadau Gwybodus wrth Ymarfer

Hyrwyddo Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymyriadau Therapiwtig  

Arwain a Rheoli Gofal o Safon ar draws Lleoliadau

Y Nyrs fel Addysgwr

Dod yn Ymarferydd Hyfedr 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae astudiaethau'n cynnwys cymhareb 50:50 o leoliadau clinigol ac amser theori. Mae llawer o hyn yn cynnwys e-Ddysgu ond mae myfyrwyr yn mynychu ambell ddiwrnod astudio gorfodol, 15 yn y flwyddyn gyntaf ac yna 10 ym mhob blwyddyn olynol. Fel rhan o hyn, bydd myfyrwyr yn manteisio ar ddysgu clinigol efelychiadol yn ein canolfan efelychu o'r radd flaenaf.

Staff addysgu

Mae gan ein darlithwyr nyrsio amrywiaeth eang o arbenigedd clinigol mewn gofal yn yr ysbyty ac yn y gymuned, gan gynnwys meddygaeth, llawfeddygaeth, rheoli poen, gofal cardiaidd, gofal trawma, gofal critigol a rheoli heintiau yn ogystal â nyrsio practis, nyrsio ardal cymunedol, gofalu am y person hŷn, nyrsio gofal lliniarol a gofal canser.

Mae myfyrwyr nyrsio’n mwynhau cefnogaeth eithriadol yn PDC. Mae ein polisi drws agored yn sicrhau bod rhywun wrth law bob amser i'ch cynorthwyo pan fydd problem yn codi ac mae hyn yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr yn ei werthfawrogi'n fawr.

Lleoliadau

Byddwch yn cael cyfleoedd ymarfer mewn pob math o leoliadau gofal iechyd sy'n cynnwys y gymuned, ysbyty, gofal lliniarol, cartrefi nyrsio a meddygfeydd, gan ddatblygu sgiliau allweddol a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.

Pan fyddwch chi'n gweithio gyda'ch mentor mewn practis clinigol, rhaid i chi weithio patrymau shifft y maes clinigol rydych chi wedi'ch dyrannu iddo.

Cyfleusterau

Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol yn efelychu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Mae'r rhain yn cynnwys dwy gilfan pedwar gwely i efelychu lleoliad ysbyty, cyfleusterau pediatreg a mamolaeth pwrpasol, gan gynnwys uned gofal arbennig i fabanod, amgylchedd gofal dwys ac adran achosion brys gydag efelychydd ambiwlans gyda’r holl gyfarpar. Mae yna fflat dwy ystafell wely hefyd i efelychu darparu gofal iechyd mewn amgylchedd cartref.

Defnyddir y Ganolfan ar gyfer addysg gofal iechyd a hyfforddiant nyrsys, gan ymdrin â phopeth o sgiliau clinigol hanfodol i senarios clinigol cymhleth, amlddisgyblaethol. Byddwch yn defnyddio'r un offer ag y byddwch chi'n ei weld mewn lleoliadau gofal iechyd, ac yn gweithio ar efelychwyr cleifion sy'n dynwared ymatebion y corff i salwch, gofal a thriniaeth.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae ein graddau nyrsio yn eich paratoi ar gyfer heriau gofal iechyd modern drwy'r gymysgedd gywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiad. Atgyfnerthir y theori rydych chi'n ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth gan ddysgu ymarferol ar y campws a dysgu yn y gwaith. Mae cyflogwyr yn awyddus i recriwtio ein graddedigion nyrsio oherwydd eu bod yn gwybod eu bod yn ymarferwyr hyderus, cymwys a diogel sydd wedi'u paratoi'n dda.

Yn dibynnu ar brofiad a hyfforddiant, gall graddedigion graddau nyrsio gyrraedd lefelau uchaf y GIG. Ar ôl cymhwyso, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflogi fel Nyrsys Cofrestredig gan eu darparwr gofal iechyd sy'n noddi.

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 120 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BBB i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
  • Bagloriaeth Cymru: Gradd B a BB ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth  Rhagoriaeth  Teilyngdod.
  • Mynediad i AU: Rhaid cwblhau 120 credyd yn gyffredinol gydag o leiaf 45 ar Lefel 3 a 15 ar Lefel 2. O'r 45 credyd ar Lefel 3, byddwch angen o leiaf 24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 Pasio.

Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar y cyngor sydd ar gael ar-lein, o ddangos bod gennych y cymwysterau neu brofiad perthnasol, awgrymiadau ar ysgrifennu eich datganiad personol i gyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad, mae gennym gyfoeth o gefnogaeth ac arweiniad ar gael i ymgeiswyr i sicrhau eich bod yn gallu dangos bod gennych yr hyn sydd ei angen a gwneud eich cais y gorau y gall fod. Darllenwch ein cyngor ymgeisio

Gofynion Ychwanegol:

  • Mae gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad. I gael cymorth pellach ar baratoi ar gyfer cyfweliad a beth i'w ddisgwyl yn y cyfweliad, darllenwch ein Cyngor cyn Ymgeisio.
  • Un geirda boddhaol gan rywun sy’n gallu rhoi sylwadau ar eich agwedd a’ch dull o ymdrin â dysgu mewn ystyr broffesiynol neu academaidd.Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
  • Bydd angen prawf meddygol boddhaol unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at eich dyddiad dechrau gyda manylion sut i gael y rhain.
  • Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
  • Y cymwysterau cyfwerth a ystyrir yw Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Swyddogaethol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg. (Rhaid bod wedi ei gyflawni ers 2016).

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell.

Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.