Peirianneg Fecanyddol
Cyfle i baratoi ar gyfer gyrfa ym maes Peirianneg Fecanyddol. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.
Gwneud Cais yn Uniongyrchol Gwneud Cais Drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H304
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,000*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,260*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£740*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r radd BSc Peirianneg Fecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae gan beirianwyr mecanyddol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw am ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn. Mae atebion cynaliadwy i feysydd pwysig fel diogelwch ynni, cyflenwadau bwyd a dŵr, trafnidiaeth gynaliadwy ymhlith y meysydd lle mae Peirianwyr Mecanyddol yn cyfrannu eu gwybodaeth.
Achredir gan
- Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), gan ffurfio'r sylfaen addysgol ar gyfer Peiriannydd Corfforedig a, gyda dysgu pellach, statws Peiriannydd Siartredig.
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Cynhyrchu
- Peiriannydd Biofeddygol
- Rheoli Prosiect
- Peiriannydd Modurol
Sgiliau a addysgir
- Datblygu gwybodaeth am dechnoleg arloesol
- Cydweithio, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol fel cynaliadwyedd a moeseg
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Bydd eich astudiaethau’n cael eu hategu gan bynciau peirianneg allweddol - mathemateg, dylunio a gweithgynhyrchu, gwyddoniaeth fecanyddol, thermohylifau, technegau peirianneg proffesiynol a systemau rheoli. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir dan oruchwyliaeth, gan eich galluogi i reoli prosiect sylweddol mewn maes peirianneg sy'n gweddu i'ch uchelgais o ran gyrfa.
Blwyddyn Un:
- Mathemateg Peirianneg 1 - 20 credyd
- Dylunio a Gweithgynhyrchu - 20 credyd
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 1 - 20 credyd
- Thermohylifau 1 - 20 credyd
- Technegau Peirianneg Broffesiynol* - 20 credyd
- Systemau Mesur - 20 credyd
*Gallwch astudio hanner y modiwl hwn yn Gymraeg.
Blwyddyn Dau:
- Offeryniaeth a Systemau Rheoli - 20 credyd
- Dylunio Peirianneg Gynaliadwy - 20 credyd
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 2 - 20 credyd
- Thermohylifau 2 - 20 credyd
- Prosesau Cynhyrchu - 20 credyd
- Hanfodion Peirianneg a Rheolaeth Busnes - 20 credyd
Blwyddyn Tri:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu - 20 credyd
- Rheoli Gweithrediadau - 20 credyd
- Dadansoddi Cyfrifiadurol - 20 credyd
- Dynameg Peirianneg - 20 credyd
- Prosiect Unigol - 40 credyd
- Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth - 120 credyd (dewisol)
Blwyddyn Un:
- Mathemateg Peirianneg 1 - 20 credyd
- Dylunio a Gweithgynhyrchu - 20 credyd
- Technegau Peirianneg Broffesiynol - 20 credyd
Blwyddyn Dau:
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 1 - 20 credyd
- Systemau Mesur - 20 credyd
- Thermohylifau 1 - 20 credyd
Blwyddyn Tri:
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 2 - 20 credyd
- Thermohylifau 2 - 20 credyd
- Prosesau Cynhyrchu - 20 credyd
Blwyddyn Pedwar:
- Offeryniaeth a Systemau Rheoli - 20 credyd
- Dylunio Peirianneg Gynaliadwy - 20 credyd
- Hanfodion Peirianneg a Rheolaeth Busnes - 20 credyd
Blwyddyn Pump:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu - 20 credyd
- Rheoli Gweithrediadau - 20 credyd
- Dylunio a Dadansoddi - 20 credyd
Blwyddyn Chwech:
- Dynameg Peirianneg - 20 credyd
- Prosiect Unigol - 40 credyd
- Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth - 120 credyd (dewisol)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC ar Lefel A i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Mathemateg (mae hyn yn gyfwerth â 96 pwynt tariff UCAS).
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mynediad Uwch: Mae ymgeiswyr mewnol (PDC a Cholegau Partner) sy'n cymryd y HND Peirianneg Fecanyddol sy'n cyflawni proffil gwahaniaeth gyda mwy na 70% mewn gwyddoniaeth fecanyddol a hylifau thermo yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad 3edd flwyddyn i'r BEng Peirianneg Fecanyddol Llawn Amser. Gall ymgeiswyr sy'n meddiannu HND gan brifysgolion neu golegau eraill sydd â phroffiliau gradd is ymuno â 3edd flwyddyn y BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol Llawn Amser neu flwyddyn 5 y BSc Rhan Amser.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,000
fesul blwyddyn*£740
fesul blwyddyn*£15,260
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Byddwch yn dysgu trwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau. Yn ogystal â hyn, byddwch yn treulio amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol yn y diwydiant peirianneg. Byddwch yn dysgu drwy waith ymarferol, prosiectau grŵp a phrosiect blwyddyn olaf hefyd, ynghyd ag ymweliadau â'r diwydiant.
Asesir y radd trwy aseiniadau, gwaith cwrs, profion dosbarth parhaus ac arholiadau. Caiff cyflwyniadau eu cynnwys fel elfennau o asesiadau mewn rhai modiwlau, er mwyn datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno allweddol.
Staff addysgu
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau arbenigedd eang yn eu meysydd pwnc.
Mae rhai wedi datblygu'r arbenigedd hwn trwy ymchwil o ansawdd uchel. Mae'r meysydd ymchwil yn rhyngwladol o ran eu cwmpas ac yn berthnasol yn lleol hefyd, gan weithio'n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy'n gweithredu'n lleol.
Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd trwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maen nhw’n defnyddio'r wybodaeth honno bellach i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd sydd gan y staff academaidd yn sicrhau bod profiad y myfyriwr yn un eang ac yn eu datblygu'n dechnegol ac yn broffesiynol.
Lleoliadau
Rydym yn gwybod beth yw gwerth lleoliad a phrofiad gwaith ac rydym yn awyddus iawn i weld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn cydweithio ag amryw o gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn helpu myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Peirianneg Fecanyddol yn rhagorol. Maent yn cynnwys:
- Ystafelloedd cyfrifiadurol gyda chyfarpar o safon a meddalwedd dylunio a dadansoddi o'r radd flaenaf (safon diwydiant). (SolidWorks, Ansys, FEA a CFD, LS-Dyna, SolidCAM, Simul8, ac ati), gyda chlwstwr (Super Computer) i'w ddefnyddio ar weithgareddau cyfrifiadurol lefel uwch.
- Ystafelloedd prosiect pwrpasol ar gyfer pob carfan, mynediad at dorrwr laser a llwybrydd CNC pedair echelin.
- Cyfleusterau gweithgynhyrchu cyfansawdd, gan gynnwys awtoclafau.
- Cyfleusterau gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D), sganiwr laser, twnnel gwynt, cyfleusterau profi deunydd helaeth, yn ogystal â labordai gydag offer ar gyfer ategu addysgu ym mhob pwnc craidd, mecaneg, dynameg, deunyddiau, thermodynameg, dynameg hylif a rheolaeth.
- Cyfleusterau profi annistrywiol (NDT).
- Mynediad at staff technegol yn ein gweithdai sy'n cynnwys canolfan beiriannu CNC, turnau a pheiriant melino, driliau, ac ati, i'w defnyddio ar yr holl waith prosiect a wneir.
- Ardal fawr amlddisgyblaeth mynediad agored a adeiladwyd ar gyfer prosiectau.
- Ardal adeiladu Fformiwla Myfyriwr (Agor mewn tab newydd) llawn cyfarpar.