Peirianneg Fodurol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Cyfle i baratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant modurol. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.
Sut i wneud cais Gwneud Cais Drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-automotive/beng-automotive-engineering-foundation-year.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H333
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Os nad yw’r cymwysterau cywir gennych chi i ddechrau ein gradd BEng Peirianneg Modurol, fe allech ddewis cychwyn ar eich astudiaethau gyda chwrs sylfaen. Byddwch yn astudio modiwlau rhagarweiniol sy'n berthnasol i'r cwrs gradd a bydd cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i BEng (Anrh) Peirianneg Modurol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae gan beirianwyr modurol gariad at bob math o gerbydau, datrys problemau a gwaith ymarferol. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i'r rhai sydd am ddechrau gyrfa yn y diwydiant, ac mae ein campws yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddysgwyr ymarferol fireinio eu sgiliau.
Achredir gan
.
Llwybrau Gyrfa
Peiriannydd Modurol
Peiriannydd Graddedig
Peiriannydd Electronig
Peiriannydd Dylunio
Sgiliau a addysgir
Datrys problemau
Rheolaeth
Cyfathrebu
Cyflogadwyedd
Sgiliau Digidol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Bydd y Flwyddyn Sylfaen yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'n cyrsiau peirianneg ac yn rhoi cefndir rhifiadol da i chi i'ch cynorthwyo chi drwy gydol gweddill y radd. Yn dilyn eich blwyddyn sylfaen gychwynnol, byddwch yn symud ymlaen i'r modiwlau a astudir fel rhan o'ch dyfarniad.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn modiwlau sydd i gyd yn gyffredin i fyfyrwyr peirianneg drydanol a pheirianneg fecanyddol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen ymlaen llaw ar gyfer peirianneg modurol fodern yn cael ei chynnwys.
Mathemateg i Beirianwyr Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i wahanol dechnegau mathemategol a ddefnyddir mewn peirianneg.
Cymwysiadau Cyfrifiadura Peirianneg Cyflwyniad i beirianneg drwy raglennu a dylunio â chymorth cyfrifiadur
Mecaneg Peirianneg 1 Cyflwyniad i egwyddorion peirianneg ym meysydd statig a deinamig.
Egwyddorion Trydanol Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau deallusol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i fodelu a dadansoddi systemau trydanol ac electronig gan ddefnyddio theori cylched.
Cymwysiadau Peirianneg Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad wrth ddefnyddio gwahanol gyfarpar mesur ac wrth ddewis deunyddiau.
Rhaglennu ar gyfer Peirianneg Electroneg Mae myfyrwyr yn dysgu sut i raglennu gan ddefnyddio iaith C/C ++, ac yn cael cyflwyniad i systemau corfforedig.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio elfennau o reolaeth, busnes ac ymarfer proffesiynol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach mewn electroneg a mecaneg drwy waith theori ac ymarferol gyda phwyslais cryfach ar y diwydiant modurol. Bydd eich sgiliau newydd yn cael eu profi drwy brosiect grŵp.
Dylunio Modurol Datblygu a dysgu theori dylunio a sgiliau datrys problemau sy'n berthnasol i beirianneg modurol. Dysgu dylunio peirianneg gan ddefnyddio pecyn CAD.
Gwyddoniaeth Modurol Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion peirianneg ym meysydd mecaneg peirianneg, thermohylifau a dynameg cerbydau.
Pŵer, Peiriannau a Rheolaeth Dysgu egwyddorion gweithredu peiriannau trydanol a chydrannau sylfaenol systemau pŵer, gan ddefnyddio modelau priodol a dulliau mathemategol.
Ffurfweddu a Rhaglennu Systemau Corfforedig Dysgu sut i ffurfweddu a datblygu systemau corfforedig a bodloni cyfyngiadau amser real drwy ddefnyddio'r perifferolion ar sglodion/oddi ar sglodion gan ddefnyddio'r iaith raglennu C.
Prosiect Grŵp a Rheolaeth i Beirianwyr
Electroneg ar gyfer Systemau Modurol Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r technolegau sylfaenol a ddefnyddir mewn cylchedau analog a digidol a sut mae'r technolegau hyn yn cael eu defnyddio yn y diwydiant modurol.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio elfennau o reolaeth, busnes ac ymarfer proffesiynol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach mewn electroneg a mecaneg drwy waith theori ac ymarferol gyda phwyslais cryfach ar y diwydiant modurol. Bydd eich sgiliau newydd yn cael eu profi drwy brosiect grŵp.
Dylunio Modurol
Datblygu a dysgu theori dylunio a sgiliau datrys problemau sy'n berthnasol i beirianneg modurol. Dysgu dylunio peirianneg gan ddefnyddio pecyn CAD.
Gwyddoniaeth Modurol
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion peirianneg ym meysydd mecaneg peirianneg, thermohylifau a dynameg cerbydau.
Pŵer, Peiriannau a Rheolaeth
Dysgu egwyddorion gweithredu peiriannau trydanol a chydrannau sylfaenol systemau pŵer, gan ddefnyddio modelau priodol a dulliau mathemategol.
Ffurfweddu a Rhaglennu Systemau Corfforedig
Dysgu sut i ffurfweddu a datblygu systemau corfforedig a bodloni cyfyngiadau amser real drwy ddefnyddio'r perifferolion ar sglodion/oddi ar sglodion gan ddefnyddio'r iaith raglennu C.
Prosiect Grŵp a Rheolaeth i Beirianwyr
Electroneg ar gyfer Systemau Modurol
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r technolegau sylfaenol a ddefnyddir mewn cylchedau analog a digidol a sut mae'r technolegau hyn yn cael eu defnyddio yn y diwydiant modurol.
Yn y drydedd flwyddyn rydych yn cymhwyso mwy o'ch gwybodaeth ddamcaniaethol ar sesiynau ymarferol ac astudiaethau achos. Bydd eich sgiliau newydd yn cael eu profi ymhellach drwy brosiectau ymchwil a dylunio unigol.
Prosiect Unigol (Craidd) BEng: Bwriedir i fyfyrwyr gynnal ymchwil/prosiectau manwl sy'n berthnasol i'w pwnc. Mae'n gwella gwybodaeth, yn hyrwyddo gwaith annibynnol, ac yn annog dysgu gydol oes.
Dynameg Cerbydau Mae'n rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth ddadansoddol i fyfyrwyr o ddynameg cerbydau modurol, ac yn rhoi gwybodaeth am egwyddorion gweithredu rheolaeth dynameg cerbydau.
Electroneg a Gyriannau Pŵer Mae'r modiwl yn ymdrin ag egwyddorion gweithredu dyfeisiau electronig pŵer a thrawsnewidyddion electronig pŵer. Mae myfyrwyr yn dysgu hefyd sut i ddadansoddi cynlluniau gyrru modur a chymhwyso technegau rheoli.
Technoleg Cerbydau Hybrid / Trydan
Mae'r modiwl hwn yn darparu profiadau a gwybodaeth gynhwysfawr a throchol am gysyniadau, theori, a chymwysiadau peirianneg cerbydau hybrid a thrydan sy'n berthnasol i HEV, PHEV a BEV ar gyfer y diwydiant ceir teithwyr.
Synwyryddion a Thechnoleg Cerbydau Clyfar
Mae myfyrwyr yn dysgu am synwyryddion modurol gwahanol a thechnolegau eu systemau cyfathrebu gwifr oddi ar y bwrdd o fewn system gysylltiedig a/neu awtonomaidd, eu hegwyddorion gwaith, eu manteision, eu hanfanteision a'u cyfyngiadau.
Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Yr oriau cyswllt nodweddiadol ar gyfer modiwl 20 credyd yw 48 awr o ddarlithoedd fesul modiwl (dwy awr yr wythnos) ynghyd â 24 awr o waith labordy (awr yr wythnos). Fel rheol, mae disgwyl i fyfyrwyr dreulio tua 72 awr yn astudio’n annibynnol fesul modiwl 20 credyd y flwyddyn.
Mae amrywiaeth o ddulliau asesu. Mae dwy flynedd gyntaf y radd peirianneg hon yn cyfuno arholiadau ac asesiadau yn seiliedig ar waith labordy, ond yn y blynyddoedd diweddarach mae arholiadau ar gyfer opsiynau technegol a gwaith cwrs neu adroddiadau ar gyfer gwaith rheoli a phrosiect.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-automotive/meng-automotive-engineering.png)
Staff Addysgu
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau arbenigedd eang yn eu meysydd pwnc.
Mae rhai wedi datblygu'r arbenigedd hwn drwy ymchwil o ansawdd uchel. Mae'r meysydd ymchwil yn rhyngwladol o ran eu cwmpas ond yn berthnasol yn lleol hefyd, yn aml gan weithio gyda chwmnïau rhyngwladol sy'n gweithredu'n lleol.
Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd drwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maen nhw’n defnyddio'r wybodaeth honno bellach i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd sydd gan y staff academaidd yn gwneud profiad y myfyrwyr yn ehangach ac yn eu datblygu'n dechnegol ac yn broffesiynol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-engineering-automotive-engineering-sian-edwards-50164-1-804X800.jpg)
Lleoliadau
Anogir myfyrwyr i dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant. Bydd y flwyddyn hon yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o weithio yn y sector.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-automotive/beng-automotive-engineering.png)
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau peirianneg yn ardderchog. Maent yn cynnwys: cyfleusterau gwneud deunyddiau cyfansawdd, cyfleusterau gweithgynhyrchu ychwanegion, sganiwr laser, cyfleuster castio alwminiwm, twnnel gwynt, cyfleusterau profi deunydd, cyfleusterau annistrywiol yn ogystal â labordai gydag offer ar gyfer ategu addysgu mewn mecaneg, dynameg, thermodynameg, dynameg hylif a rheolaeth.
Mae gennym ardal adeiladu Fformiwla Myfyrwyr llawn offer hefyd. Mae ein labordai electroneg yn cynnwys cyfleusterau o safon diwydiant yn eich helpu i drosglwyddo o'r ystafell ddosbarth i leoliad cyflogaeth.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-automotive/subject-automotive-engineering-facilities-42001-1-805X800.jpg)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS
- Safon T: Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol:
Gallwn hefyd ystyried cyfuniadau o gymwysterau, ac efallai y bydd cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma hefyd yn dderbyniol. Weithiau gallwn ystyried credydau a enillwyd mewn prifysgolion eraill a'ch profiad gwaith/bywyd trwy asesiad o ddysgu blaenorol. Gall hyn fod ar gyfer mynediad blwyddyn un, neu fynediad uwch i flwyddyn dau neu dri o gwrs lle bo hyn yn bosibl.
I ddarganfod pa gymwysterau sydd â phwyntiau tariff, cyfeiriwch at gyfrifiannell tariff UCAS.
Os oes angen mwy o help neu wybodaeth arnoch neu os hoffech siarad â'n tîm mynediadau cyfeillgar, cysylltwch â ni yma.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.