MSc

Rheoli Caffael Strategol

Os ydych chi eisiau gyrfa mewn rheoli caffael, mae'r MSc Rheoli Caffael Strategol arbenigol yn cynnig addysgu strategol lefel uchel ym mhob maes o'r pwnc hwn sy’n tyfu.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol, mae angen i reolwyr prynu a'r gadwyn gyflenwi ddatblygu a dangos amrywiaeth o gymwyseddau allweddol. Mae'r MSc Rheoli Caffael Strategol wedi'i achredu CIPS, sy'n golygu y gallwch fod yn sicr eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cyd-fynd yn agos ag anghenion diwydiant.

Trosolwg o'r Modiwl

Egwyddorion a Rheolaeth Prynu 

Mae’n cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion caffael, prynu a chyflenwi ac yn datblygu eu gallu i bennu'r nwyddau a'r gwasanaethau angenrheidiol sy'n ofynnol gan y sefydliad.

Rheoli Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy 

Mae’n darparu golwg integreiddiol ar y ddynameg gymhleth sy'n cyfrannu at lwyddiant sefydliadol parhaus yng nghyd-destun pwysau cynyddol i amddiffyn buddiannau cymdeithasol-ecolegol byd-eang. 

Strategaeth Fyd-eang a Marchnadoedd Datblygol 

Mae’n ymchwilio a dadansoddi prosesau strategol cwmnïau byd-eang a rhyngwladol ar gyfer gwneud penderfyniadau. 

Cysylltiadau Masnachol 

Mae'n rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o gyd-destun damcaniaethol dulliau masnachol a dulliau rheoli contractau sy'n ymwneud â pharatoi a gweithredu perthynas cwsmer/cyflenwr.

Gweithrediadau a Rheoli Prosiectau 

Meithrin gwerthfawrogiad o brosesau gweithredol ac archwilio gwaith rheoli prosiectau mewn cyd-destun busnes a chadwyn gyflenwi. 

Caffael Cyfoes

Archwilio effaith a chyfraniad strategol posibl prynu a chyflenwi tuag at gystadleurwydd cyffredinol y sefydliad sy'n gweithredu yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector dielw.

Dulliau Ymchwil 

Mae'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer yr agweddau ymarferol ar gynllunio, cyflawni a chynhyrchu gwaith lefel meistr. 

Traethawd hir 

Mae'r traethawd hir yn ddarn sylweddol o ddysgu a arweinir gan y myfyriwr, yn seiliedig ar ymchwiliad manwl i ffenomen sy'n gysylltiedig â busnes.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae'r dull addysgu’n cynnwys cyfuniad o arddulliau gyda phwyslais ar amgylchedd rhyngweithiol. Byddwch yn dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, gwaith grŵp, astudiaethau achos, a dadansoddiadau o faterion cyfoes wrth reoli caffael strategol. Mae'r ddarpariaeth ran-amser wedi'i chynllunio o amgylch anghenion gweithwyr proffesiynol sy’n ymarfer yn y diwydiant ac mae'n digwydd ar benwythnosau, lle byddwch yn dod i Gampws Trefforest y Brifysgol am un penwythnos bob chwe wythnos. Mae pob aelod staff llawn amser yn y tîm prynu a chyflenwi yn gymrodyr neu'n uwch gymrodyr yr Academi Addysg Uwch.

Asesu

Ar hyn o bryd, mae'r asesiadau'n seiliedig ar aseiniadau heb unrhyw arholiadau ysgrifenedig. Gall nifer geiriau aseiniadau amrywio ond mae'n tueddu i fod yn ddau aseiniad 3,000 ar gyfer pob modiwl 20 credyd

Canolfan Datblygu Rheolaeth (MDC)

Os oes gennych chi brofiad rheoli sylweddol neu gymwysterau gan sefydliad proffesiynol (fel CMI neu ILM), efallai y byddwch yn gymwys i astudio'r MSc Rheoli Caffael Strategol llwybr carlam yn y Management Development Centre Ltd, ein partner cydweithredol. Cynhelir y cwrs ddwywaith y flwyddyn, yn y gwanwyn a'r hydref. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.procurementmasters.co.uk

Astudiaeth llwybr carlam

Os oes gennych gymhwyster proffesiynol perthnasol a thair i bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer eithriadau i gyflymu'ch astudiaethau. Sylwch nad yw'r llwybr carlam yn denu cyllid myfyrwyr y llywodraeth oherwydd bydd angen i chi fod yn astudio'r cwrs cyfan, nid nifer is o gredydau oherwydd astudiaethau/profiad blaenorol.

Achredu

Mae'r MSc Rheoli Caffael Strategol wedi'i achredu gan nifer o gyrff proffesiynol, sy'n golygu y gallwch fod yn sicr eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cyd-fynd yn agos ag anghenion diwydiant. Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS). Bydd graddedigion yn gymwys i gael eu heithrio rhag arholiadau CIPS a chyda phrofiad perthnasol gallant wneud cais am aelodaeth CIPS. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Gall graddedigion o'r MSc Rheoli Caffael Strategol weithio fel rheolwyr gan arddangos gwybodaeth arbenigol i'w helpu i gydlynu ac addasu eu gweithgareddau prynu a chadwyn gyflenwi, gan ymateb i anghenion dynamig amgylchedd busnes yr 21ain Ganrif. Mae graddedigion yn arloesi hefyd ym maes prynu a rheoli cadwyn gyflenwi yn y maes hwn sy'n tyfu, gan drosglwyddo eu gwybodaeth arbenigol mewn gyrfa barhaus a gwerth chweil. Mae llawer o'n graddedigion wedi dod yn uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector dielw.

Cymorth Gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb wedi'u rhestru yn southwales.ac.uk/gyrfaoedd ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes yna gyrsiau pwysig eraill neu fentrau penodol i bwnc yn cael eu cynnal yn lleol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. Boed hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a'u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi'r hyder, yr anogaeth a'r cymhelliant i ddarpar fyfyrwyr wneud cais. 

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn amgylchiadau eithriadol, tair blynedd neu fwy o brofiad rheoli arwyddocaol.

Os oes gennych gymhwyster CIPS eisoes, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael eithriadau o'r cwrs.

Gofynion Ychwanegol:

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddod am gyfweliad.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Mae gan y Brifysgol gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr, byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.

Cost: I fyny at £250

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.