DPsych

Seicoleg Cwnsela

Mae’r rhaglen DPsych yn seiliedig ar athroniaeth a sylfaen gwerthoedd Perthynol a Phlwraliaethol, gyda ffocws cryf ar gyfiawnder cymdeithasol

Sut i wneud cais Archebu Lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

Y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela sydd wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant mewn tri dull therapiwtig, sef Seicotherapi Perthynol Dyneiddiol, Seicotherapi Ymddygiad Gwybyddol, ac Ymarfer Systemig.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Lleoliadau

Fel rhan o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela byddwch yn cwblhau 450 o oriau clinigol dan oruchwyliaeth.

Cysylltiadau cryf â diwydiant

Mae gan y cwrs gysylltiadau cryf ag Is-adran Seicoleg Cwnsela Cymru yng Nghymdeithas Seicolegol Prydain ac mae myfyrwyr yn ei gynyrchioli ar y pwyllgor hwn.

Datblygu sgiliau ymchwil

Bydd eich gwaith ymchwil yn cael ei oruchwylio gan dîm o ddau oruchwyliwr ymchwil, sy’n arbenigo y

Trosolwg o’r Modiwl

Mae’r rhaglen ar gael fel cwrs amser llawn (tair blynedd) a rhan-amser (pum mlynedd). Mae’r cwrs Doethuriaeth yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, sy’n sail i ymarfer proffesiynol seicoleg cwnsela:

  • Gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau meddwl yn feirniadol, sy’n rhoi pwys ar berthynas therapiwtig ac amrywiaeth a phlwraliaeth ymarfer. 
  • Hyfforddiant mewn tri dull therapiwtig, yn seiliedig ar ethos perthynol a phlwraliaethol a defnyddio’r dulliau hyn wrth ymarfer.
  • Ffocws cadarn ar ddatblygiad personol a phroffesiynol a hunanymwybyddiaeth drwy ddatblygu sgiliau myfyriol beirniadol am yr hunan a’r ymarfer. 
  • Cyflawni darn cynhwysfawr o ymchwil, gyda’r nod o wneud cyfraniad gwreiddiol at ymarfer. 
  • Seicotherapi Integreiddiol - Seicodynameg Perthynol 
  • Theori ac Ymarfer Seicoleg Cwnsela 1 
  • Uwch Ddulliau Ymchwil mewn Seicoleg Cwnsela 
  • Seicotherapi Integredig – Dyneiddiol 
  • Seicotherapi Ymddygiad Gwybyddol mewn Seicoleg Cwnsela 
  • Theori ac Ymarfer Seicoleg Cwnsela 2  
  • Cyflwyniad i Theori ac Ymarfer Systemig 
  • Theori ac Ymarfer Seicoleg Cwnsela 3 
  • Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Glinigol mewn Seicoleg Cwnsela 
  • Gweithio mewn Perthynas â Grwpiau, Teuluoedd, Cyplau, Pobl Ifanc 
  • Traethawd Ymchwil Doethuriaeth 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Bydd yr addysgu fel arfer yn digwydd dros un diwrnod yr wythnos, gydag un neu ddau ddiwrnod yr wythnos ar gyfer lleoliad. Bydd rhywfaint o ddysgu a darllen anghydamserol a pharatoi aseiniadau hefyd. Bydd angen i chi fod ar gael i fynychu Campws Dinas Casnewydd ar gyfer eich sesiynau addysgu. Mae lleoliadau ar gael mewn amrywiaeth o leoedd.

Bydd y cwrs Doethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau addysgu a dysgu, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau grŵp ac ymarferion drwy brofiad, grwpiau datblygiad personol, ymarfer sgiliau, gwaith grŵp a grwpiau trafod achosion.

Staff addysgu

Mae’r tîm craidd y cwrs yn seicolegwyr cwnsela sydd â phrofiad o ymarfer, ymchwil ac addysgu.

  • Dr Nicky Lewis, arweinydd y cwrs
  • Dr Rachel Davies, arweinydd ymarfer
  • Dr Annie Beyer, arweinydd ymchwil
  • Dr Shelley Gait
  • Dr Gina Dolan
  • Dr Phil Tyson
  • Dr Mason Neely

Mae’r addysgu sy’n rhan o’r rhaglen yn cael ei gryfhau gan gyfraniadau rheolaidd gan ddarlithwyr gwadd sy’n seicolegwyr cwnsela ac ymarferwyr perthnasol eraill. Mae defnyddwyr gwasanaethau hefyd yn cyfrannu at yr addysgu fel Arbenigwyr drwy Brofiad. 

Lleoliadau

Mae gan Brifysgol De Cymru gysylltiadau cryf gyda sefydliadau’r GIG, sefydliadau’r trydydd sector, ac amrywiaeth eang o asiantaethau cwnsela, cyflogwyr a gwasanaethau cwnsela lleol.  Er y bydd cefnogaeth ar gael gan yr Arweinydd Ymarfer a’r Swyddog Lleoliadau i’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau, cyfrifoldeb y myfyriwr fydd trefnu lleoliad.

Gofynnir i fyfyrwyr am eu syniadau am leoliad yn y cyfweliad ac fe’ch anogir i ddechrau meddwl am leoliadau posibl cyn gynted ag y bo modd.  Nid oes disgwyl i chi drefnu lleoliad cyn i’r rhaglen ddechrau.

Wedi'i achredu gan BPS
Cymeradwywyd gan HCPC

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yw’r cam cyntaf yn eich gyrfa fel Seicolegydd Cwnsela. 

Ar ôl i chi gwblhau a llwyddo ym mhob elfen o’r rhaglen, gan gynnwys 450 awr o waith clinigol dan oruchwyliaeth a’r traethawd ymchwil, gallwch wneud cais i gofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC, sef y corff rheoleiddio ar gyfer seicoleg). Bydd hyn yn rhoi’r teitl proffesiynol Ymarferydd Seicoleg i chi.

Byddwch hefyd yn gymwys i gofrestru ar gyfer statws siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.

Llwybrau gyrfa posibl

Ar ôl i chi gymhwyso, gallwch weithio gydag amrywiaeth o grwpiau cleientiaid, gan gynnwys oedolion, grwpiau, teuluoedd a chyplau mewn amrywiaeth eang o leoliadau, er enghraifft, y GIG a sefydliadau’r trydydd sector.  Gallwch ddefnyddio eich sgiliau goruchwylio ac arweiniad i weithio gyda thimau ac asiantau amlddisgyblaethol a chyfrannu at ddatblygu gwasanaethau ac arloesi ym maes gwasanaethau clinigol.

 

Gofynion mynediad

Er mwyn gwneud cais bydd angen:

  • Sail Graddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig gyda'r BPS
  • Ail ddosbarth uwch neu radd dosbarth cyntaf mewn seicoleg / neu gwrs trosi Seicoleg. Gellir ystyried ymgeiswyr â dosbarthiad is o hyd os gallant ddangos tystiolaeth o gyflawniadau academaidd uwch dilynol, megis gradd Meistr y dyfarnwyd teilyngdod neu ragoriaeth iddo.
  • Tystysgrif 100 Awr mewn Sgiliau a Theori Cwnsela.
  • Tystiolaeth o weithio mewn rôl gynorthwyol un i un (e.e. profiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y meysydd cyhoeddus, preifat neu wirfoddol) wedi’i gefnogi gan eirda clinigol.
  • Y gallu i wneud ymchwil ar lefel Doethuriaeth - wedi'i gefnogi gan eirda academaidd.
  • Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
  • Aeddfedrwydd a chadernid i wneud gwaith sy'n heriol yn emosiynol ac yn academaidd, parodrwydd i ymgysylltu ag adborth ar eich datblygiad ac ymrwymiad i'ch hunan a thwf proffesiynol.

Mae hwn yn hyfforddiant proffesiynol ymestynnol ac mae'n ofynnol i chi allu cael digon o brofiad academaidd ac ymarferol.

Dylai eich cais gynnwys yr eitemau canlynol:

  • Tystiolaeth o Sail Graddedig ar gyfer Siarteriaeth (GBC) neu Sail Gofrestru Graddedig (GBR) gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
  • Copïau o'r holl drawsgrifiadau a thystysgrifau academaidd perthnasol, neu dystiolaeth o gywerthedd
  • Un geirda academaidd, yn ddelfrydol i roi sylwadau ar eich gallu academaidd, a'ch addasrwydd i ymgymryd â hyfforddiant lefel doethuriaeth
  • Un geirda proffesiynol, yn ddelfrydol yn ymwneud â’ch profiad cwnsela neu ymarferwr, gwaith gwirfoddol, neu gyflogaeth mewn rôl helpu ffurfiol
  • Datganiad personol sy’n manylu ar y canlynol sut rydych yn bodloni’r gofynion mynediad, unrhyw brofiad gwaith, addysg, hyfforddiant neu brofiad ymchwil perthnasol yr ydych wedi’i wneud hyd yma, pam y cwrs hwn a pham PDC
  • Cynnig Ymchwil Gymhwysol (1,000 o eiriau) sy'n berthnasol i seicoleg cwnsela (gweler yr awgrymiadau ymgeisio isod)
  • Darn Myfyriol (1,000 o eiriau) “Pam rydw i eisiau hyfforddi fel Seicolegydd Cwnsela” (gweler awgrymiadau ymgeisio isod)

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Gwybodaeth Bellach

Myfyrwyr cartref - £8,220 y flwyddyn Llawn amser, £4,932 y flwyddyn Rhan-amser.

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

* Rhwymedig

Mae hyn yn ofynnol ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs Doethuriaeth.

Cost: £48 - £48

(Aelod graddedig BPS = £36 + Aelodaeth o'r Is-adran Seicoleg Cwnsela = £12)

Bydd cost y sesiwn yn dibynnu ar y goruchwyliwr unigol. Mewn llawer o achosion, mae gofynion goruchwylio ar gael trwy ddarparwr y lleoliad. (£0 - £70 yr awr o leoliad)

Cost: £0 - £70

Mae'r gost fesul sesiwn a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y therapydd unigol. Mae angen i fyfyrwyr ymgymryd ag o leiaf 40 awr, fel arfer yn ymestyn dros gyfnod yr hyfforddiant.

Cost: £25 - £70

Yn ofynnol ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs.

Cost: £45 - £75

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Mae angen i fyfyrwyr ariannu eu costau teithio eu hunain i'w lleoliad. Mae costau'n amrywio, yn dibynnu ar leoliad.

Dyfais recordio a chofbin wedi'i amgryptio.

Cost: £45 - £55

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.