Sgiliau Cwnsela Integreiddiol
Cyflwyniad cyffrous i'r sgiliau, theori a hunanymwybyddiaeth sydd eu hangen i fod yn wrandäwr a chyfathrebwr effeithiol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/psychotherapy-and-counselling/psychotherapy-and-counselling-postgraduate-certificate-integrative-counselling-skills-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Ionawr
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Bydd y cwrs yn helpu i wella eich potensial o ran cyflogadwyedd drwy wella eich sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â’ch helpu i baratoi ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ac academaidd pellach.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Gall y cymhwyster cwnsela hwn hefyd helpu pobl mewn proffesiynau cysylltiedig fel gwaith cymdeithasol, nyrsio neu addysgu i ddatblygu a gwella eu sgiliau gwrando a chyfathrebu ymhellach.
Llwybrau Gyrfa
- GIG
- Ymarferydd Iechyd Preifat
- Athro/Athrawes
- Ymchwilydd
Y sgiliau a addysgir
- Cyfathrebu
- Ymholiadau a Dadansoddi
- Datrys Problemau
- Cydweithio
- Myfyrio’n Feirniadol
Trosolwg o’r Modiwl
Sgiliau Cwnsela Integreiddiol Cychwynnol ac Ymwybyddiaeth
Nod y modiwl hwn yw hwyluso'r defnydd moesegol o sgiliau cwnsela cychwynnol o fewn fframwaith integreiddiol o theori cwnsela ac ennyn diddordeb y myfyriwr mewn datblygiad personol drwy ymarfer myfyriol beirniadol.
Datblygu Sgiliau Cwnsela Integreiddiol
Nod y modiwl hwn yw hwyluso'r defnydd bwriadol a moesegol o ystod o sgiliau cwnsela uwch o fewn fframwaith integreiddiol theori cwnsela. Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar ddatblygiad eu sgiliau eu hunain ac eraill.
Ymwybyddiaeth a Mewnwelediad mewn Cyd-destun
Nod y modiwl hwn yw hwyluso integreiddio sgiliau, mewnwelediad a theori i ymarfer a hynny mewn modd beirniadol a myfyriol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Gradd israddedig a / neu gymwysterau proffesiynol perthnasol
- Mae cymwysterau Sgiliau Cwnsela Lefel 2 yn ddymunol
- Profiad o weithio gyda phobl yn y maes gofalu
- Dau dystlythyr wedi'u llwytho i fyny gyda'ch cais *
*Rhaid i'r tystlythyrau fod ar bapur â phennawd llythyr neu gall y canolwr eu hanfon yn uniongyrchol o gyfeiriad e-bost proffesiynol / gwaith i [email protected].
Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol
Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig Sgiliau Cwnsela Integreiddiol hyn yn 60 credyd ar Lefel 7.
Byddwch yn dysgu drwy ymarferion yn seiliedig ar brofiad, ymarfer sgiliau, gwaith ymarfer myfyriol personol ac addysgu ffurfiol. Byddwch yn gweithio mewn parau, grwpiau bach a grwpiau mwy.
Disgwylir i chi fynychu'r holl sesiynau addysgu ac mae’n ofynnol i chi fod yn bresennol mewn o leiaf 80% ohonynt.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Lleoliadau
Er nad oes lleoliadau ffurfiol fel rhan o'r PG Cert, mae myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cwnsela mewn grŵp ymarfer wythnosol. Yn y lleoliad hwn, maent yn gweithio mewn triawdau gyda'u cyfoedion o'r cwrs. Mae ymarfer sgiliau yn cael ei gynnal mewn grwpiau bach, a arsylwir gan diwtor. Yna gall myfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu mewn grŵp ymarfer myfyriol wedi'i hwyluso gan diwtoriaid.
Mae pob tiwtor ar y cwrs yn cwnselwyr a seicotherapyddion gweithredol. Maent yn defnyddio eu profiad clinigol sylweddol yn rheolaidd i gyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/psychotherapy-and-counselling/psychotherapy-and-counselling-ma-intergrative-counselling-and-psychotherapy-placeholder-01.jpg)
Staff addysgu
Katy Tozer, Arweinydd y Cwrs
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Cewch eich addysgu mewn cyfleusterau modern gydag ystafelloedd dosbarth pwrpasol, gan ddefnyddio cyfarpar recordio digidol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.