Digwyddiadau Agored Ôl-raddedig
Ymunwch â ni ar 5 Chwefror, o 4yp tan 6yh, ar gyfer sgyrsiau a sesiynau pwnc i roi dealltwriaeth fanylach i chi am astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Byddwch yn cwrdd ag academyddion o'ch dewis gwrs, ac yn cael cyfle i ofyn eich cwestiynau wyneb yn wyneb.
-
Dydd Mercher 5 Chwefror - Dydd Mercher 5 Chwefror
Ymunwch â ni ar 5 Chwefror, o 4yp tan 6yh, ar gyfer sgyrsiau a sesiynau pwnc i roi dealltwriaeth fanylach i chi am astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Byddwch yn cwrdd ag academyddion o'ch dewis gwrs, ac yn cael cyfle i ofyn eich cwestiynau wyneb yn wyneb.
Archwiliwch eich opsiynau ôl-raddedig yn PDC
Mae ymuno ag un o’n Digwyddiadau Agored yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod mwy am ein cyrsiau ôl-raddedig rhan-amser a llawn amser, yn ogystal â chymwysterau ôl-gofrestru ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Darganfyddwch yr ystod o gyrsiau, cyfleusterau, ein campysau a phrofiadau sydd ar gael. Byddwch yn cael cyfle i weld cyrsiau, siarad â'n staff academaidd a chael gwybod am agweddau eraill ar astudio, fel cyllid myfyrwyr ac ysgoloriaethau.