Diwrnod Agored Israddedig

Diwrnodau Agored yw’r ffordd ddelfrydol o ddarganfod y cyfleoedd sy’n aros amdanoch ym Mhrifysgol De Cymru, yn broffesiynol ac yn bersonol.

  • Dydd Sadwrn 28 Medi - Dydd Sadwrn 28 Medi

Neilltuwch eich lle ar diwrnod agored
Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Diwrnodau Agored yw’r ffordd ddelfrydol o ddarganfod y cyfleoedd sy’n aros amdanoch ym Mhrifysgol De Cymru, yn broffesiynol ac yn bersonol.

Mewn diwrnod agored PDC, cewch gyfle i archwilio ein campysau a llety, cyfarfod â staff academaidd a myfyrwyr presennol, cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy’n ymwneud â’ch cwrs a chael llawer o gyngor ar gefnogaeth, arian, gyrfaoedd, ac opsiynau astudio.

Beth i'w ddisgwyl mewn Diwrnod Agored

Mae mynychu Diwrnod Agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi archwilio popeth sydd gan Brifysgol De Cymru i’w gynnig.

O fynychu sgyrsiau gydag academyddion i fynd ar daith o amgylch y cyfleusterau a'r llety sydd ar gael ar draws y campws, nid oes ffordd well i ddychmygu'ch hun fel rhan o'r Teulu PDC.

Ni fyddwch am golli:

  • Sgyrsiau pwnc-benodol gydag academyddion a thaith o amgylch y cyfleusterau.
  • Sesiynau galw heibio gyda gwasanaethau prifysgol gan gynnwys Derbyniadau, Cyllid Myfyrwyr a Gwasanaethau Lles.
  • Cyfleoedd i sgwrsio â Llysgenhadon Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr am fywyd fel myfyriwr PDC.
  • Teithiau o amgylch ein campysau a'n llety.

Cofrestru a thocynnau

Mae cofrestru ar gyfer Diwrnod Agored yn hanfodol, a gallwch archebu eich lle ar-lein. Dim ond angen i chi gofrestru eich hun; nid oes angen i chi archebu tocynnau ar gyfer eich gwesteion.

Byddwch yn derbyn cod QR trwy e-bost cyn y digwyddiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw hwn yn ddiogel fel y gallwn eich cofrestru ar y diwrnod!

Cyrraedd y digwyddiad

Byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys eich rhaglen ar gyfer y diwrnod cyn y digwyddiad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod pryd mae cofrestru'n agor a chynlluniwch eich taith yn unol â hynny.

Mae'n hawdd cyrraedd ein campysau mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar ein tudalennau.

Bwrsari Teithio PDC

Gallwch gael cymorth gyda chost mynychu digwyddiadau ym Mhrifysgol De Cymru. Cymerwch olwg ar ein tudalennau gwe am fwy o wybodaeth.

Gallwch gael help gyda chost mynychu digwyddiadau ym Mhrifysgol De Cymru. Edrychwch ar ein tudalennau gwe Bwrsariaeth Teithio am ragor o wybodaeth.

 

Mae bysiau'n cymryd lle trenau rhwng Radur a Threherbert / Aberdâr / Merthyr Tudful o ddydd Sadwrn 28 Medi tan ddydd Sul 6 Hydref

Mae gwaith peirianneg yn digwydd rhwng Radur a Threherbert / Aberdâr / Merthyr Tudful, a fydd yn cau pob llinell.

O 00:25 dydd Sadwrn 28 Medi i 22:00 ddydd Sul 6 Hydref, bydd bysiau’n cymryd lle trenau rhwng Radur a Threherbert / Aberdâr / Merthyr Tudful.

Gwiriwch cyn i chi deithio:
Gallwch gynllunio eich taith drwy ddefnyddio Cynllunydd Taith National Rail.

Cyngor Teithio ar Fws yn lle Trên:
I gael cyngor defnyddiol os oes angen i chi deithio ar wasanaeth bws yn lle trên, gan gynnwys hygyrchedd a gwybodaeth am feiciau, defnyddiwch y dudalen hon.

Gallwch ddod o hyd i leoliad eich bws yn lle trên trwy wirio arwyddion gorsafoedd neu drwy chwilio am eich gorsaf ar ein tudalennau gwybodaeth gorsafoedd.

Cofiwch y gallai cerbydau sy’n cymryd lle trenau fod yn brysurach na'r arfer, a dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith.

Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i wirio'ch taith.


Digwyddiadau cysylltiedif