Campws Pontypridd
Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth galon ein Campws Pontypridd. Mae’r dysgu wedi’i ledaenu dros dri safle: Trefforest, Glyn-taf a Pharc Chwaraeon PDC. O adeiladau rhestredig i strwythurau modern newydd, mae Pontypridd yn adlewyrchu treftadaeth ac uchelgais y Brifysgol.
Ein Campysau Ymweld â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-treforest-aerospace-centre-40504.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/testing/arianex27s-testing-images/Glyntaff-Campus_48630.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/163-sport-park-facilities/campus-facilities-sport-park-indoor-pitch.jpg)
Yma, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch chi – eich dosbarthiadau, y llyfrgell, canolfan chwaraeon, caffis a bariau i fwyta ac yfed, a’ch ffrindiau i dreulio amser gyda nhw.
Darganfod Pontypridd
-
Mae campws Trefforest yng nghalon cymoedd y de, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae undeb myfyrwyr, canolfan chwaraeon, bwytai, siopau a mwy ar y safle, sy’n cynnig cymuned wych i fyfyrwyr.
-
Glyn-taf yw cartref ein myfyrwyr Iechyd, Nyrsio, Heddlu, Chwaraeon a Gwyddoniaeth. Rydyn ni wedi buddsoddi yn y dechnoleg, y feddalwedd a’r offer diweddaraf i sicrhau eich bod yn barod i neidio i’r yrfa o’ch dewis yn hyderus.
-
Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir cryf ym maes chwaraeon, gydag enw ardderchog am raddau chwaraeon a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt. Mae ganddon ni rai o’r cyfleusterau gorau ym Mhrydain sy’n cynnig clybiau, cyrsiau a chymwysterau.
Trawsnewid addysgu trwy fuddsoddiadau campws
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Bywyd Campws Pontypridd
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-360-pontypridd-campus-life.png)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/12-assets/testimonial-dezire-mambule.png)
Bywyd Myfyrwyr
Yn PDC byddwch chi'n gwneud ffrindiau am oes, yn rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen. Byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol ar gyfer astudio a byw, lle mae myfyrwyr newydd yn teimlo'n gartrefol yn gyflym.