Y Gaplaniaeth
Beth bynnag fo'ch rhywioldeb, rhywedd, hil, oed, gallu, diwylliant neu gred, mae croeso i chi fod yn rhan o deulu enfys y Gaplaniaeth.
Gwasanaethau/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/73-outside-shots/student-life-outside-shots-treforest-52703.jpg)
Mae’r Gaplaniaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn wasanaeth agored a chynhwysol i’r gymuned gyfan. Mae’n cynnig cymorth cyfrinachol ac anfarnol i staff a myfyrwyr beth bynnag fo’u ffydd, eu diwylliant, eu rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol.
Y Tŷ Cwrdd
Y Tŷ Cwrdd yw cartref y Gaplaniaeth ar gampws Trefforest. Rydym ar ffin ogleddol y campws, ychydig i fyny o adeilad Ferndale a giât Brook Street.
Mae’r Tŷ Cwrdd yn fan lle gallwch ymlacio, anghofio am bwysau bywyd Prifysgol am gyfnod, a mwynhau bod gyda phobl eraill, neu os yw’n well gennych, eistedd yn dawel ar eich pen eich hun.
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl!
Cynghorwyr Ffydd
Mae'r Gaplaniaeth hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth a phartneriaeth tîm o gynghorwyr ffydd o'r crefyddau Bwdhaidd, Hindŵaidd, Iddewig a Sicaidd sydd bob amser ar gael i gynnig cyngor:
- Bwdhaidd: Leshan Uggalla
- Bwdhaidd: Nick Swann
- Hindŵaidd: Radhika Kadaba
- Iddewig: Rabi Rose
- Sicaidd: Surinder Channa