Datganiad Hygyrchedd: UniLearn

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:
unilearn.southwales.ac.uk


 

Prifysgol De Cymru sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon  

Mae nifer o adrannau i’n gwefan, sy'n cael eu darparu gan wahanol systemau. Rydym wedi casglu’r materion rydym yn ymwybodol ohonynt o dan yr adrannau perthnasol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. 

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Nid yw peth o'r testun ar ein gwefan mor hawdd ei ddarllen ag y gallai fod oherwydd cyferbyniad gwael. 
  • Nid oes labeli na thestun defnyddiol ar rai o'n helfennau rhyngweithiol fel ffurflenni a botymau, sy'n eu gwneud yn anoddach i'w defnyddio. 
  • Weithiau nid yw strwythur ein tudalen mor eglur ag y gallai fod, gan ei gwneud yn anoddach gwneud synnwyr o'r wybodaeth yn seiliedig ar ei strwythur. 
  • Mae ein testun amgen ar ddelweddau weithiau'n ddryslyd. 

Adborth a sut I gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:  

  • Os ydych chi'n profi problemau gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan  
  • Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn  
  • Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.  

Wrth gysylltu â ni, a wnewch chi ddarparu:   

  • Cyfeiriad gwe'r dudalen lle daethoch o hyd i'r broblem.   
  • Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn o ddyfais symudol neu fwrdd gwaith).   
  • Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe sy'n cael ei ddefnyddio.   
  • Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol sy'n cael ei defnyddio (er enghraifft, darllenydd sgrin).  

Cysylltwch trwy   

E-bost [email protected] 

Cysylltwch â Ni - Cysylltu â ni | Prifysgol De Cymru 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon  

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, Cysylltwch â Ni.  

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).  

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni  

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018  

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon fersiwn 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.  

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn ffurfiol yn rheolaidd yn erbyn safonau WCAG 2.1 AA.  

Efallai na fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio i bawb. Isod mae materion hysbys y mae angen i ni naill ai eu trwsio, na allwn eu trwsio, neu nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Os dewch chi o hyd i rywbeth nad yw'n gweithio y gwnaethon ni ei fethu, cofiwch gysylltu â ni.  

Hygyrchedd Digidol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.

[email protected]