Y Pethau Gorau i'w Gwneud ym Mhontypridd

Dyma restr o'r 10 peth gorau y gallwch chi eu gwneud ym Mhontypridd.

A group of students happily chatting over a drink in sunny window of a restaurant in Pontypridd.
Two students look at the different bicycles on sale at a shop in Pontypridd Market.
A student smiles while walking with their friends next to the grassy riverbank of the river Taff in Pontypridd

Mae Pontypridd yn lleoliad perffaith os ydych chi'n chwilio am fwrlwm y ddinas ond tawelwch cefn gwlad gwyrdd hardd. Wedi'i leoli yn Rhondda Cynon Taf, mae Ponty yn llawn siopau a hanes cerddorol.


Gwnewch sblash yn y Lido 

Os ydych chi'n mwynhau'r dŵr, beth am gael sblash yn Lido Pontypridd? Yn cynnwys tri phwll nofio - prif bwll, pwll gweithgareddau, a phwll sblash - ynghyd â theganau gwynt, Aqua Scooterz a Peddlers a Water Walkers, mae'r Lido yn wych i bobl o bob oed a gallu corfforol. 

Mae’r Lido yn brofiad nofio unigryw, felly cadwch lygad ar eu gwefan am amseroedd agor a phrisiau. 

Archwiliwch y dref hanesyddol a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â Taff Street yn ystod eich amser ym Mhontypridd i weld yr amrywiaeth o siopau sydd gan y dref i’w cynnig. Mae’r stryd yn cynnwys mynedfa i Barc Ynysangharad a llefydd i fwyta, yn ogystal ag amrywiaeth o siopa yn gwerthu popeth o ffrwythau a llysiau ffres i ddillad a gemau fideo. 

Mae Stryd Taf yn ffordd hir sy'n arwain trwy Bontypridd a fydd yn mynd â chi heibio'r hen bont ac ymlaen i'r Stryd Fawr. 

Mwynhewch ffigurau artistig yn World of Groggs 

Un lle arall y mae'n rhaid ymweld ag ef yn Ponty yw World of Groggs sydd wedi bod yn ffefryn mawr yn Nhrefforest ers ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl. Mae'r busnes teuluol unigryw hwn yn enwog am ei ffigurynnau o chwedlau rygbi, teledu a ffilm wedi'u cerflunio â llaw - meddyliwch am Funkopops vintage. 

Sefydlwyd Siop Grogg gyda brics coch am y tro cyntaf yn 1965 gan John Hughes ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae’r Siop Grogg yn darparu addurniadau a chofroddion Cymreig hynod i lawer o ymwelwyr a phreswylwyr.  

Porwch drwy'r eitemau rhyfedd a rhyfeddol ym Marchnad Dan Do Pontypridd 

Ni fyddai ymweliad â’r dref yn gyflawn heb ymweld â’i marchnad dan do enwog. Mae gan Farchnad Dan Do Pontypridd amrywiaeth o fusnesau unigryw sy'n gwerthu popeth o lestri hynafol a melysion hen ffasiwn i fagiau llaw ac addurniadau anarferol. 

Gallwch hefyd gael tamaid i’w fwyta o un o’r lleoedd bwyd niferus, sy’n cynnwys bwyty Tsieineaidd arobryn a stondin eiconig ar y maen. 

Cloddiwch i hanes glofaol dwfn Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda 

Mae mwyngloddio yn rhan annatod o hanes Cymru drwy’r chwyldro diwydiannol a hyd at yr 1980au. Bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn adrodd hanes bywyd y glowyr wrth iddynt weithio dan ddaear. 

Wedi’i leoli ar hen safle Glofa Lewis Merthyr, mae gan y parc treftadaeth Daith Profiad Aur Du efelychiadol yn ogystal â reid rithwir i’ch helpu i ail-fyw hanes yng nghymoedd De Cymru. 

Mwynhewch yr awyr iach ym Mharc Ynysangharad 

Os ydych chi'n chwilio am beth amser mewn lleoliad hardd i ffwrdd o'r traffig a bywyd prifysgol, mae'n werth ymweld â Pharc Coffa Ynysangharad. Mae'r parc yn gartref i'r Lido yn ogystal â'r cerflun enwog o'r tad a'r mab Evan James a James a ysgrifennodd Hen Wlad Fy Nhadau yn y dref. 

Yn ogystal â’r golygfeydd hardd a’r mannau agored i fwynhau rhediadau mewn parc a cherdded cŵn, mae’r parc yn lle gwych i gwrdd â ffrindiau i fwynhau’r haul a phicnic.  

Ewch ar antur yn y wlad hardd 

Mae Pontypridd yn ardal wych os ydych chi am fwynhau byd natur wrth wneud eich ymarfer corff. Mae Taith Taf enwog yn rhedeg drwy’r dref, a gallwch grwydro ar Gomin Pontypridd – a bydd y ddau yn eich arwain at olygfeydd hardd y gallwch eu harchwilio wrth gerdded, beicio neu redeg. Mwynhewch fentro ar feiciau cwad neu drwy gerdded ceunentydd gyda Chanolfan Beiciau a Gweithgareddau Cwad Dyffryn Taf neu archwiliwch un o'r nifer o lwybrau beicio mynydd yn yr ardal. 

Mae llawer i’w weld yng nghefn gwlad o amgylch Pontypridd, gan gynnwys Rockingstones hanesyddol ar y comin sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer cynulliadau cyhoeddus a seremonïau barddol lleol ers 1814. 

Dilynwch yn ôl traed un o eiconau cerddorol Cymru 

Pryd bynnag y bydd unrhyw un yn meddwl am Gymru, mae'r eicon canu Syr Tom Jones yn sicr o ddod i'r meddwl. Wedi'i eni a'i fagu yn Nhrefforest, daeth Syr Tom Jones i enwogrwydd gyda chaneuon fel Delilah, Sex Bomb, It's Not Unusual, a'i berfformiad o'r Green Grass of Home. 

Dewch i weld taith Tom Jones drwy Drefforest, gan gychwyn yn Laura Street, i weld lle magwyd y Cymro enwog a darganfod ei ddawn canu anhygoel. 

Mwynhewch gigs personol gan fandiau sydd i ddod 

Yn y dref, sy'n enwog am yr Anthem Genedlaethol, Tom Jones, cyn ddrymiwr AC/DC Chris Slade a chyn gitarydd Motorhead Phil Campbell, does dim syndod fod yr ardal yn llawn digwyddiadau bychain. 

Ewch i’r Ystafelloedd Gwyrdd chwedlonol yn Nhrefoest neu Glwb y Bont ar Styd Taf i weld y dalent gerddorol amrwd, leol sydd gan Dde Cymru i’w chynnig. Mae yna hefyd ddigonedd o ddigwyddiadau bach eraill yn digwydd ym Mhontypridd yn y tafarndai a bariau niferus. 

Byddwch yn glyd wrth i chi ail-lenwi yn un o'r lleoedd blasus i fwyta 

Mae gan Bontypridd amrywiaeth wych o lefydd i fwyta ac yfed i ymlacio unwaith y byddwch wedi gorffen archwilio. Mae yna amrywiaeth o dafarndai gwahanol i fwynhau eich noson yn ogystal â rhai opsiynau gwahanol ar gyfer bwyd. 

P'un a ydych chi eisiau bwyd bistro yn defnyddio cynhwysion Cymreig yn y Bunch of Grapes, sleisen o gacen flasus yng Nghaffi'r Princes neu ychydig o goginio Eidalaidd cartref yn Trattoria, mae yna lawer o ddewis yn y dref. Wrth gwrs, os ydych chi awydd noson allan fwy crand, mae'n hawdd cyrraedd Caerdydd a Chasnewydd ar drafnidiaeth gyhoeddus.