Llety Caerdydd
O safleoedd hanesyddol I sinemau to, alfeydd bwyd stryd dros dro, theatr fyw, siopau coffi, chwaraeon byd-eang, cerddoriarth, gwyliau, a chymaint mwy, fyddwch chi byth yn diflasu!
Gweld ein hopsiynau llety Ymweld â N Archwilio Caerdydd LletyMae eich arian yn mynd ymhellach yma - Caerdydd oedd dinas fwyaf fforddiadwy'r DU i fyfyrwyr. (Mynegai Myfyrwyr NatWest 2022)
Gwarant Llety
Mae croeso i bawb ym Mhrifysgol De Cymru, ac rydym yn cynnig Llety Gwarantedig i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn y Brifysgol.
Llety Myfyrwyr Yng Nghaerdydd
Llety Hygyrch
Mae ystafelloedd hygyrch cyfyngedig yng Nghanol Dinas Caerdydd. Fodd bynnag, mae Mezzino, Collegiate a CRM Student yn cynnig ystafelloedd hygyrch. Sicrhewch eich bod yn cysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd PDC a'r Tîm Llety cyn gynted â phosibl, fel y gellir rhoi'r gefnogaeth briodol i chi.
Canllaw Llety
Mae ein Canllaw Llety yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i'ch cartref oddi cartref. O'r opsiynau llety amrywiol ar draws ein lleoliadau i ddarganfod beth sydd angen i chi ei bacio, mae'r holl wybodaeth yma i chi. Mae eich arian yn mynd ymhellach yma hefyd. Rydym yn falch o fod yn un o ddarparwyr llety prifysgol mwyaf cystadleuol o ran pris yn Ne-orllewin Lloegr a Chymru.
Gweld neu lawrlwytho'r canllaw