Mae'r Tîm Cyngor ar Anabledd yn helpu pobl ag anableddau i drosglwyddo i fywyd yn y Brifysgol, ac yn eu cefnogi yn ystod eu hamser fel myfyrwyr PDC.

Os ydych yn niwrowahanol neu os oes gennych anabledd corfforol, synhwyraidd, iechyd meddwl neu anweledig, byddwn yn gweithio gyda chi i ystyried eich anghenion unigol, darparu gwybodaeth, trafod 'addasiadau rhesymol', a'ch helpu i wneud cais am y cymorth sydd ei angen arnoch.

Myfyrwyr Newydd PDC

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn sicrhau bod addasiadau a chymorth priodol ar waith o ddechrau eich cwrs.

Cysylltwch â ni cyn i'ch cwrs ddechrau drwy e-bostio [email protected], neu archebwch Apwyntiad Cyngor ar Anabledd ar ôl i chi gael eich cyfrif TG PDC wrth gofrestru.

Myfyrwyr Coleg Partner - cysylltwch â'ch coleg partner yn uniongyrchol i gael cymorth anabledd.

Cysylltu â ni

E-bost: [email protected]
Apwyntiadau: Apwyntiad Cyngor ar Anabledd

Datganiad Preifatrwydd - rydym yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein ar gyfer trefnu apwyntiadau a pheth rhyngweithio cefnogi. Gweler Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol.

Blodyn Haul Anableddau Cudd – mae PDC yn falch o gefnogi Blodyn Haul Anableddau Cudd. Gellir casglu laniard o'r Ardal Gynghori.