Cyrsiau, Gweithdai a Digwyddiadau Llesiant Meddyliol

Cefnogi eich llesiant.

Cyrsiau PDC

Mae'r Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau unigol, cyrsiau aml-sesiwn a chyfarfodydd grŵp rheolaidd sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiant - rhestrir pob sesiwn ar wahân o dan Digwyddiadau.

Cyrsiau Allanol

Darperir y cyrsiau hyn gan sefydliadau allanol ac nid PDC.

Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen am ddim ar gael yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. 

Cyflwynir gan Valleys Steps. Mae gan Valleys Steps raglen helaeth o weithdai ar-lein, gallwch weld y rhestr a chofrestru yma

Cyrsiau Rheoli Straen a Gweithredu dros Fyw am ddim yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Cyflwynir gan Stepiau.

Cyrsiau Rheoli Straen a Bywyd ACTif am ddim ar gael yng Nghasnewydd. Yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Mae’r Cwrs Bywyd ACTif a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwrs hunangymorth ar-lein am ddim i helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch llesiant. Gall y cwrs hwn eich helpu i gymryd mwy o reolaeth ar eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus.

Straen, gorbryder ac iselder - Cwrs ar-lein yw SilverCloud a ddarperir gan y GIG i'ch helpu i reoli straen, gorbryder ac iselder. Rydych chi'n gweithio trwy gyfres o bynciau a ddewiswyd gan therapydd i fynd i'r afael ag anghenion penodol.  Cynlluniwyd y cwrs wyth wythnos i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. I gofrestru mae angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.

Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR) – cwrs ar-lein am ddim 8 wythnos, gyda thema wahanol pob wythnos.

Ariennir y prosiect State of Mind gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dysgu cyfuniad o sgiliau a strategaethau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.  Ewch i Platfform i gael mwy o wybodaeth am y prosiect.