Illi yn ymgymryd â her enfawr Everest i dorri record y byd ym maes beicio
18 Awst, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/08-august/Illi_Gardner_2.jpeg)
Torrodd y feicwraig Illi Gardner, sydd newydd raddio o Brifysgol De Cymru (PDC) gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, record byd mewn beicio dros y penwythnos – gan dorri bron 20 munud oddi ar yr amser cyflymaf blaenorol.
Illi, sy’n 21 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yw'r fenyw gyflymaf yn holl gofnodion Everesting – ras sy'n gofyn i seiclwyr deithio i fyny ac i lawr bryn nes bod cyfanswm cynnydd y gweddlun yr un uchder â Mynydd Everest. Mae Illi yn ymuno ag enillwyr medalau Olympaidd a’r Tour de France ar y rhestr nodedig o ddeiliaid y record byd, ac fe orffennodd y ras 19 munud a 49 eiliad yn gyflymach na'r bencampwraig feicio Emma Pooley.
Dewisodd Fwlch y Groes yn Eryri ar gyfer y gamp, ac fe ddringodd yr 8,848 metr gofynnol mewn 8 awr, 33 munud a 47 eiliad. Mae bryn Blwch y Groes yn llai na chilomedr o hyd a dyma ail fwlch mynydd cyhoeddus uchaf Cymru, yn 545m (1,788 troedfedd) ar ei gopa.
Ar ôl tyfu i fyny yn nofio a rhedeg, a gwneud triathlonau sbrint yn yr ysgol, penderfynodd Illi ychwanegu beicio at ei rhestr o hobïau, a dechreuodd rasio yn 2016.
Dywedodd: "Rydw i wedi eisiau rhoi cynnig ar Everesting ers blynyddoedd - rydw i wastad wedi dwlu ar ddringo a phan glywais am yr her yn 2015, dyma feddwl y byddai’n wych rhoi cynnig arni ryw ddiwrnod.
"Daeth Everesting yn boblogaidd iawn y llynedd yn ystod y cyfnod clo, ond dim ond eleni y bu gen i’r amser a’r lefelau ffitrwydd i fynd amdani.
"Mae torri record byd yn teimlo'n anhygoel, yn enwedig gan fod llawer o adegau lle nad oeddwn i'n meddwl y byddwn i’n gorffen hyd yn oed!
"Fe wnes i hanner-Everesting y mis diwethaf ond doeddwn i ddim yn gwybod a fyddai’n bosibl torri’r record tan y diwrnod ei hun."
Ar hyn o bryd mae Illi yn gweithio yn BBC Cymru, ar effeithiau gweledol Doctor Who, ac mae'n cyfuno beicio â'i swydd.
"Rwy'n hoffi gallu cydbwyso beicio â phopeth arall gan mai hobi yw e mewn gwirionedd, un rwy’n ei fwynhau'n fawr," meddai.
"Fy nghynllun yw parhau i feicio a rasio eleni. Dydw i erioed wedi fy nghaniatáu fy hun i ystyried beicio fel gyrfa bosibl, ond rwy'n mwynhau fy hun nawr yn aros i weld sut y bydd pethau’n datblygu
"Mae gweithio yn y diwydiant effeithiau gweledol yn gyffrous iawn. Roeddwn i wrth fy modd yn astudio yn PDC; mae'r cwrs wedi fy mharatoi at y diwydiant ond hefyd wedi rhoi cyfleoedd gwych i fi, fel gyda’r swydd rwyf newydd ei dechrau gyda BBC Cymru.
"Roedd yn wych gallu dilyn cwrs oedd yn caniatáu i fi ddilyn gyrfa mewn maes oedd wedi bod o ddiddordeb mawr i fi ers blynyddoedd, ac roedd bod yng Nghaerdydd, lle mae cynyrchiadau anhygoel yn digwydd, yn fonws arbennig."