Y cwrs Ffotograffiaeth ar-lein sy'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd
16 Mehefin, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/06-june/Dominique_Arieu_4.jpg)
Mae egin ffotograffwyr o bob rhan o’r byd wedi dewis astudio ar yr MA Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) – un o’r unig gyrsiau sydd ar gael a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein.
Mae PDC yn fyd-enwog am astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol, ac mae ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr yn uchel eu parch yn y gymuned ffotograffig: gan ennill gwobrau, arddangosfeydd, a chynigion cyhoeddi llyfrau.
Mae myfyrwyr mor bell i ffwrdd ag UDA, Tsieina ac Affrica yn ogystal ag Ewrop a’r DU wedi ymuno â’r cwrs, i gyd yn elwa o dalu’r un ffioedd, yn hytrach na chael costau uwch i fyfyrwyr rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Cyswllt Lisa Barnard, Arweinydd Cwrs: “Ers Brexit, ystyrir myfyrwyr Ewropeaidd yn fyfyrwyr rhyngwladol – ond nid ar ein cwrs; mae pob myfyriwr yn talu'r un ffioedd. Ac oherwydd bod pawb yn astudio am yr un cyfnod o amser, nid oes angen fisa rhyngwladol. Mae hwn yn ddatblygiad mawr o ran sut y gall astudio weithio, a hyd yn hyn mae'n mynd yn dda iawn."
Gyda ffocws ar ymgysylltu â’r byd go iawn â materion cymdeithasol a gwleidyddol, mae'r MA Ffotograffiaeth Ddogfennol yn cynnig ymgysylltiad archwiliadol a bywiog â'r pwnc. Fe'i nodweddir gan ddealltwriaeth eang o ffotograffiaeth; yn ogystal â'i ffurfiau dogfennol mwy traddodiadol, mae'n cwmpasu delweddau rhwydwaith, data, deunydd archifol, sain, a delweddau symudol.
Mae myfyrwyr yn cwblhau’r cwrs ar-lein gyda’r opsiwn o gael llwybr mynediad at gyfleusterau, ar Gampws Caerdydd pwrpasol PDC. Mae yna hefyd ddosbarthiadau meistr dewisol yn cael eu darparu ar y campws ac yn rhyngwladol gan siaradwyr gwadd, ac mae dysgu rhwng cymheiriaid a rhwydweithio yn rhan bwysig o’r cwrs.
Ychwanegodd yr Athro Cyswllt Barnard: “Mae myfyrwyr ar y cwrs yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â’n carfan o ysgolheigion sy’n gwneud PhD mewn ffotograffiaeth fel rhan o’n Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Ddogfennol (ECDR).
“Y nod yw datblygu ymarfer dogfennol cryf, eang a chynaliadwy sy’n uno meddwl beirniadol trwyadl â chorff o waith y gall myfyrwyr ei arddangos a’i gyhoeddi’n hyderus. Bydd yr MA yn darparu sylfaen gref ar gyfer datblygu gyrfa fel ymarferydd dogfennol annibynnol o fewn y diwydiant ffotograffiaeth. Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais ar oblygiadau athronyddol a damcaniaethol ffotograffiaeth, gan ein bod yn credu ei bod yn bwysig rhoi ymarfer yn ei gyd-destun a galluogi cyfathrebu clir i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.”
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud
Daw Dominique Arieu, 28, o Buenos Aires, ac mae bellach yn byw yng Ngorllewin Sussex. Penderfynodd astudio ffotograffiaeth ar ôl diddordeb gydol oes yn y pwnc.
“Rydw i wedi bod yn tynnu lluniau erioed, ers pan oeddwn i'n blentyn bach,” meddai Dominique.
“Mae gen i radd mewn Dylunio Delwedd a Sain, lle rydw i wedi canolbwyntio ar gyfeiriad camera a ffotograffiaeth, felly rydw i'n awyddus i wneud delweddau. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at wneud mwy o brosiectau a gwella fel ffotograffydd.
“Ers i mi ddarganfod PDC, gwyddwn ei fod yn lle posibl i astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol. Rwy'n hoff iawn o waith y graddedigion a'r ymagwedd at raglenni dogfen y mae'r rhaglen yn ei chynnig. Rhan orau'r cwrs yw rhannu gyda phobl a ffotograffwyr anhygoel, fy ffrindiau yn ogystal â'n hathrawon, y gallwn ddysgu llawer ganddynt. Hefyd, mae'r ffaith ei fod ar-lein ac y gallwch ei ddilyn o gartref yn help mawr. Yn y dyfodol hoffwn barhau i weithio ar fy mhrosiectau, arddangos mwy ac efallai golygu llyfr.”
Mae Jack Wrigley, 38, yn wreiddiol o Preston ond bellach yn byw yn Glasgow. Ysbrydolodd ei lysdad, a oedd yn ffotograffydd y wasg leol ef i fynd i'r afael â'r pwnc.
“Ar ôl fy Lefel A, astudiais BTEC mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Blackburn, a arweiniodd at wneud gradd mewn Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Glasgow,” meddai Jack.
“Ers hynny rwyf wedi gweithio fel dylunydd theatr, technegydd laser ac artist, felly er nad ydw i bob amser wedi defnyddio ffotograffiaeth yn fy ymarfer celf, rydw i bob amser wedi gwneud lluniau i mi fy hun.
“Pan oeddwn yn y coleg clywais am y cyrsiau sydd ar gael yn PDC gan fy nhiwtor, John Harrison, a oedd wedi astudio’r radd BA Ffotograffiaeth. Fy mwriad erioed oedd astudio gradd Meistr mewn Ffotograffiaeth, ond roedd yn anodd i mi adleoli o'r Alban i wneud hyn.
"Felly pan ddaeth cwrs PDC ar gael fel cwrs dysgu o bell, penderfynais ei fod yn gyfle perffaith. Mae’r cwrs wedi cynhyrchu cymaint o ffotograffwyr yr wyf yn edmygu eu gwaith, ac ynghyd ag ansawdd y staff addysgu, dyma’r unig berswâd yr oeddwn ei angen mai hwn oedd y cwrs iawn i mi.
“Rhan orau’r cwrs yn bendant yw’r addysgu o safon uchel. Mae gennym ystod amrywiol o ddarlithwyr, sy’n cynnig mewnwelediad a gwybodaeth ragorol am ystod eang o arferion a theori ffotograffig. Mae’r cwrs yn drylwyr ac wedi’i strwythuro’n dda, ac mae dysgu o bell wedi fy ngalluogi i aros yn Glasgow lle mae gen i swydd ran-amser i helpu i ariannu fy astudiaethau.
“Rwy’n gobeithio ar ôl y cwrs y byddaf yn gallu sefydlu fy hun fel ffotograffydd dogfennol, gan ganiatáu i mi ymgymryd â phrosiectau ffotograffig ffurf hir. Mae bod yn rhan o gymuned o ffotograffwyr newydd ar fy nghwrs wedi gwthio a herio fy ngwaith. Rwy’n mwynhau’r cwrs yn fawr a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu eu hymarfer.”
Dilynwch MA Ffotograffiaeth Ddogfennol ar Instagram: MADocPhotoUSW a Facebook: MADocPhotoUSW