Gwirionedd gynau Taser: yr hyn y mae’r ystadegau ac ymchwil yn ei ddweud wrthym
4 Medi, 2024
Yn ddiweddar, bu i’r Prif Weinidog, Keir Starmer, erfyn ar yr heddlu i gymryd “camau angenrheidiol” i ymateb i derfysg ledled dinasoedd a threfi yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Un o’r adnoddau mwyaf cynhennus yn nefnydd yr heddlu yw gynau Taser - dyfais drydanol sydd â’r nod o analluogi pobl dros dro drwy roi sioc trydanol.
Yn felyn, yn llachar ac yn cael eu gweithredu â llaw, gellid defnyddio Taser mewn dwy ffordd: drwy gyswllt uniongyrchol neu saethu o bellter. Mae prociau’r ddyfais wedi’u dylunio i dyllu dillad a chroen rhywun, gan roi sioc trydanol. Eu nod yw lliniaru sefyllfaoedd darpar-dreisgar.
Cyflwynwyd gynau Taser i’r heddlu ym Mhrydain am y tro cyntaf yn 2003, i gau’r bwlch rhwng defnyddio chwistrelli a gynau i ymdrin â digwyddiadau difrifol a threisgar. Cafodd defnydd gynau Taser, a oedd wedi’i gyfyngu i swyddogion gynau cymwys, ei ymestyn yn 2008 gan alluogi pob swyddog i gael hyfforddiant arbenigol ar eu defnyddio.
Erbyn 2019, roedd 14% o swyddogion ledled Cymru a Lloegr wedi cael hyfforddiant i gario a defnyddio gynau Taser. Ac erbyn 2023, roedd 22% o swyddogion Heddlu Metropolitan wedi cael hyfforddiant i’w cario a’u defnyddio.
Ers 2019, mae swyddogion heddlu dan hyfforddiant wedi cael cymeradwyaeth i gario gynau Taser, yn dilyn argymhelliad gan Gyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Heddlu. Bu i’r cyngor gydnabod bod swyddogion heddlu dan hyfforddiant yn wynebu’r un risgiau â chydweithwyr cymwys. Maen nhw hefyd eisoes yn cario batonau a chwistrell llidiog, ac yn cynrychioli cyfran sylweddol o swyddogion heddlu rheng flaen.
Dengys yr ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar bod gynau Taser wedi’u defnyddio rhwng mis Ebrill 2022 a Mawrth 2023 (gan gynnwys eu hanelu at berson) 33,531 o weithiau yng Nghymru a Lloegr, ac wedi’u saethu 2,978 o weithiau. Mae hyn yn ostyngiad o gymharu â 2021 i 2022, pan cafodd gynau Taser eu defnyddio 34,276 gwaith a’u saethu 3,212 o weithiau.
Yn yr Alban, dim ond swyddogion heddlu sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol all ddefnyddio gynau Taser. Rhwng 2018 a 2021, cawsant eu defnyddio 782 o weithiau mewn digwyddiadau yn yr Alban. Bu i’r sefydliad hawliau dynol, Amnesty, feirniadu Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon eleni am ei ddefnydd cynyddol o rym, gan gynnwys cynnydd o 40% mewn defnydd o ynau Taser.
Mae canllawiau ar sut ddylai’r heddlu yng Nghymru a Lloegr ddefnyddio gynau Taser wedi’u cyhoeddi gan y Coleg Heddlua. Mae’n nodi y dylent ond gael eu defnyddio fel ymateb cyfrannol i fygythiad amlwg. Dylai swyddogion roi rhybudd clir ar lafar, gan ddweud “Taser, Taser”, ac os yw’r amgylchiadau’n caniatáu, dangos y ddyfais cyn ei saethu.
Mae’r heddlu yn defnyddio gynau Taser fwyaf aml mewn ymateb i bobl yn meddiannu arfau, defnydd o gyffuriau neu’r angen i amddiffyn eu hunain neu eraill. Er hyn, mae oed a rhyw hefyd yn chwarae rhan. Pobl rhwng 18 a 34 yw targedau mwyaf cyffredin gynau Taser, ac mae bod yn fenyw yn lleihau’r tebygolrwydd o gael eich saethu gan wn Taser gan 80%.
Fodd bynnag, mae’r data ar ddefnydd o ynau Taser a hil yn anghyson. Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod gynau Taser wedi’u defnyddio ar bobl o liw ddwywaith yn amlach na phobl wyn, tra bod eraill heb ddod o hyd i gydberthynas sylweddol.
Beth yw barn y cyhoedd?
Mae llawer o’r cyhoedd yn cefnogi’r heddlu yn cario gynau Taser. Bu i arolwg o fwy na 9,000 o bobl yn 2016 ddod i’r casgliad bod 79% yn cefnogi’r syniad o ragor o swyddogion yn gallu defnyddio gynau Taser. Bu i arolwg yn 2019 o fwy na 4,000 o bobl ddatgelu y byddai 66% yn teimlo yn fwy diogel pe byddai pob swyddog yn y gymuned yn cario gwn Taser, ac roedd 69% yn ymddiried yn yr heddlu i’w defnyddio’n gyfrifol.
Roedd pleidlais YouGov a gynhaliwyd yn ystod terfysgoedd yr haf yn nodi bod 75% o bobl Prydain yn credu y dylai gynau Taser gael eu defnyddio mewn sefyllfaoedd o’r haf. Ymysg yr heddlu, mae cefnogaeth defnydd o’r gynau Taser hyd yn oed yn gryfach - roedd 90% o fwy na 8,000 o swyddogion yr heddlu a arolygwyd yn 2016 yn cytuno y dylai mwy o’u cydweithwyr allu defnyddio’r ddyfais.
Fodd bynnag, rhybuddia’r Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) y gallai’r defnydd o ynau Taser effeithio’n sylweddol hyder y cyhoedd yn yr heddlu, yn rhannol oherwydd camddealltwriaeth ynghylch sut mae a phryd y’u defnyddir. Mae’r IOPC wedi amlygu bwlch rhwng disgwyliadau’r cyhoedd a’r sefyllfaoedd gwirioneddol lle defnyddir gynau Taser, yn enwedig pan fo unigolion agored i niwed ynghlwm.
Pryderon am ddefnyddio gynau Taser
Gall gynau taser achosi poen ac anallu niwrogyhyrol, gan arwain at unigolyn yn caledu a chwympo, yn methu â rheoli eu symudiadau. Gall y diffyg rheolaeth hwn, sy’n digwydd yn gyflym, arwain at anafiadau.
Yn ogystal, mae’r prociau sy’n pigo’r croen yn cario risg o haint, ac o bosibl, yn gallu cludo clefydau. Mewn achosion prin, gall gynau Taser gynnau fflam ar ddillad fflamadwy ac achosi llosgiadau. Mae risg hefyd o drawiad ar y galon, a hyd yn oed marwolaeth.
Er mai bwriad gynau Taser yw lleihau bygythiadau neu analluogi pobl ar sail dros dro, mae’r IOPC wedi archwilio achosion lle defnyddiwyd gynau Taser am gyfnodau hir.
Mae problemau iechyd meddwl neu anawsterau ymddygiadol acíwt yn aml yn bresennol mewn achosion lle defnyddir gwn Taser am 20 eiliad neu fwy. Dengys ymchwil bod pobl â phroblemau iechyd meddwl 80% yn fwy tebygol o gael eu saethu gan wn Taser.
Mae’r heddlu hefyd wedi defnyddio gynau Taser mewn sefyllfaoedd gyda phlant, gyda mwy na 3,000 o achosion ynghlwm wrth blant 11 i 17 oed rhwng 2022 a 2023 yng Nghymru a Lloegr. Yn 88 o’r achosion hynny, saethwyd yr arf.
Yn yr un cyfnod, dangoswyd gwn Taser i chwech o blant dan 11 oed. Tra bod defnydd o ynau Taser yn aml ynghlwm wrth feddiannu arfau, mae Cynghrair Hawliau Plant Lloegr wedi galw am wahardd defnyddio’r ddyfais yn erbyn plant.
Ystyrir bod gynau Taser yn ddefnydd grym mwy diogel i swyddogion yr heddlu a’r bobl ynghlwm, gan achosi llai o anafiadau na chŵn, batonau, grym corfforol neu chwistrellau. Ond mae rhai achosion proffil uchel - megis dynes feichiog yn ne Cymru a wnaeth golli’r babi ddyddiau ar ôl cael ei saethu gan wn Taser - wedi dangos bod y risgiau sylweddol yn parhau.
Mae 17 o argymhellion yr IOPC o’i archwiliad yn 2021 yn pwysleisio’r angen am well hyfforddiant a chanllawiau, rhagor o graffu a monitro, a mwy o ymgysylltiad cymunedol.
Gan Dr Sophine Chambers, Uwch Darlithydd Troseddeg
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.