Olivia Breen, Enillydd Pedwar Medal Paralympaidd, yn ennill Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan PDC

24 Ionawr, 2025

Mae Olivia Breen yn gwenu wrth y camera mewn cap graddio a gwn

Mae Olivia Breen - Paralympiwr sydd wedi ennill sawl gwobr mewn cystadlaethau sbrint a naid hir – wedi ennill Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol De Cymru ym mis Ionawr, i gydnabod ei chyfraniadau i fyd chwaraeon.

Cafodd Olivia ei chydnabod yn rhyngwladol am ei thalentau yng Ngemau Paralympaidd 2012 lle, pan oedd ond yn 16 oed, enillodd fedal efydd i Brydain Fawr yn y gystadleuaeth ras gyfnewid T35-38 4x100m.

Cafodd Olivia ddiagnosis o barlys yr ymennydd yn ystod plentyndod, ac mae'n fyddar, ond nid yw erioed wedi gadael i hyn rwystro ei hangerdd am athletau. Mae hi'n eiriolwr brwd dros gynwysoldeb a dathlu amrywiaeth cyrff ym maes chwaraeon ac mae hefyd yn siaradwr ysbrydoledig.

Mae hi wedi rhagori'n gyson ar y llwyfan byd-eang, gan ennill sawl medal ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop, gan ennill medal aur yng nghystadleuaeth naid hir T38 ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd 2017 yn Llundain, a medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018.

Yng Ngemau Paralympaidd 2020 yn Tokyo, enillodd Olivia fedal efydd yng nghystadleuaeth naid hir T38. Yn nodedig, enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn y gystadleuaeth T38 100m, gan ddod y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal aur mewn digwyddiad trac mewn 32 mlynedd.

Enillodd gyda record bersonol o 12.83 eiliad ac yn dilyn yr uchafbwynt gyrfaol hwn, cafodd ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2022 - gwobr a ddyfarnwyd yn unfrydol gan banel arbenigol o weithwyr proffesiynol ym maes chwaraeon Cymru.

Wrth dderbyn ei Cymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Olivia: “Mae’n anrhydedd y tu hwnt i dderbyn y gymrodoriaeth hon gan Brifysgol De Cymru. Ennill medal aur i Gymru yn y 100m yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 oedd eiliad balchaf fy mywyd a phinacl fy ngyrfa athletaidd. Doeddwn i byth yn disgwyl derbyn unrhyw fath o wobr gan brifysgol gan fy mod bob amser yn cael yr ysgol yn anodd, felly mae derbyn y gydnabyddiaeth hon gan Brifysgol De Cymru yn golygu'r byd. Diolch yn fawr iawn!”