PDC a Heddlu De Cymru yn dylunio darn arian i nodi blwyddyn gyntaf partneriaeth
3 Ebrill, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/03-march/SWP-pass-out-2025.jpg)
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) a Heddlu De Cymru yn nodi un flwyddyn o bartneriaeth sydd wedi gwella addysg plismona’n sylweddol.
Mae Heddlu De Cymru wedi dylunio darn arian coffaol y bydd swyddogion yn ei dderbyn pan fyddant yn cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol. Mae'r darn arian wedi'i ysgythru gydag arfbais Heddlu De Cymru ar un ochr ac arfbais PDC ar y llall.
Yn 2024, dechreuodd PDC gyflwyno rhaglenni addysg gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Fe wnaethant ymuno â phartneriaethau addysg plismona presennol PDC gyda Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Hedddlu Dyfed Powys, Heddlu Dorset, Cwnstabliaeth Swydd Gaerloyw, a Heddlu Wiltshire.
Mae pob un o'r saith heddlu yn darparu dau lwybr mynediad allweddol i faes plismona: Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PGCH) a'r Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd (RhMDG) ôl-raddedig. Mae'r ddau yn cael eu darparu mewn cydweithrediad â'r heddluoedd.
Mae'r PGCH yn caniatáu i recriwtiaid heb radd gwblhau prentisiaeth lefel gradd wrth ymgymryd â’u cyfnod prawf, tra bod y RhMDG wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sydd eisoes â gradd, ac yn eu paratoi â'r sgiliau plismona angenrheidiol yn ystod eu cyfnod prawf.
Esboniodd swyddog Heddlu De Cymru, sydd wedi cwblhau ei hyfforddiant cychwynnol gyda PDC yn ddiweddar, yr oedd yn rhaid iddo oresgyn heriau, ond talodd ei ddyfalbarhad ar ei ganfed. Dywedodd:
"Roedd hyfforddiant i fod yn swyddog heddlu yn newid gyrfa llwyr i mi, felly doedd gen i ddim profiad plismona. Ar ben hynny, nid Saesneg yw fy iaith gyntaf, felly roedd astudio ar y lefel hon yn anodd. Fodd bynnag, gweithiais yn galed a chefais gefnogaeth anhygoel gan fy narlithwyr a'm cydweithwyr. Fe wnaeth eu harweiniad roi hwb mawr imi. Roedd cydbwyso fy astudiaethau â bywyd teuluol yn anodd, ond unwaith y datblygais drefn arferol, dechreuodd y cyfan deimlo'n rhwyddach.
"Penderfynais ddod yn swyddog heddlu pan oeddwn i'n gwneud rhywfaint o waith cymunedol. Roedden ni'n ceisio rhoi ffordd gadarnhaol i blant lleol mynegi eu hun, a'u cadw oddi ar y strydoedd. Roedd yr heddlu yn ein cefnogi, a dywedodd un o'r swyddogion wrthyf y byddwn i'n gwneud swyddog heddlu da. Ar y dechrau, fe wnes i chwerthin, ond po fwyaf yr oeddwn i'n meddwl amdano, y mwyaf yr oedd yn gwneud synnwyr. Roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned, ac roedd plismona yn teimlo fel y ffordd iawn o wneud hynny."
Dywedodd Peter Vaughan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch: "Mae'r bartneriaeth wedi hwyluso cydweithrediad cryf rhwng PDC a Heddlu De Cymru. Mae llwyddiant y fenter hon yn amlwg yn llwyddiannau'r swyddogion.
"Wrth edrych ymlaen, byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, gan wella hyfforddiant plismona ymhellach a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o swyddogion. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu swyddogion medrus, hyderus, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n barod i wasanaethu De Cymru a thu hwnt."
Mae PDC yn falch o barhau i fod yr unig brifysgol yn y DU sydd â phartneriaethau â heddluoedd yng Nghymru a Lloegr sy’n darparu'r hyfforddiant hwn i recriwtiaid newydd, a'r unig brifysgol i fod yn unig ddarparwr y rhaglenni addysg hyn mewn cydweithrediad â saith heddlu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd ar gyfer Dysgu a Datblygu, Dave Gordon: "Mae Heddlu De Cymru a PDC yn rhannu'r un ymrwymiad i ddarparu rhaglen hyfforddi ac addysg o safon uchel, sy'n rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau cywir i'n swyddogion dan hyfforddiant er mwyn iddynt allu gwasanaethu cymunedau De Cymru’n effeithiol.
"Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Brifysgol trwy gydol cyfnod hyfforddi ein swyddogion dan hyfforddiant, gan sicrhau bod sgiliau academaidd ac ymarferol o safon uchel yn cael eu cynnal. Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu ein partneriaeth ac i ddarparu hyfforddiant o'r ansawdd gorau i'n myfyrwyr gyda chymorth PDC."
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/03-march/SWP-coin.png)