Is-Ganghellor yn cyhoeddi ei ymddeoliad

3 Mehefin, 2025

Dr Ben Calvert

Mae Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Prifysgol De Cymru, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol yn haf 2026 ar ddiwedd ei dymor cyntaf.

Mae Dr Calvert wedi arwain y Brifysgol drwy gyfnod o newid sylweddol a thrawsnewid parhaus. Drwy gydol ei gyfnod yn y swydd, mae Ben wedi cael ei ysgogi gan ymrwymiad dwfn i ehangu mynediad a chyfleoedd – ar sail ei brofiad ei hun fel yr aelod cyntaf o’i deulu i fynd i’r brifysgol, a’i gred gref ym mhŵer trawsnewidiol addysg. Mae wedi chwarae rhan allweddol wrth siapio dull blaengar o ddylunio cwricwlwm a chryfhau partneriaethau rhwng y byd academaidd a diwydiant.

Cyn cael ei benodi’n Is-Ganghellor yn 2021, bu Dr Calvert yn cyflawni nifer o swyddi yn y Brifysgol ers ymuno â ni yn 2015 gan gynnwys fel Dirprwy Is-Ganghellor a Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr.  

O ran cefnogi’r sector Addysg Uwch yn ehangach a datblygiad economaidd, mae Dr Calvert yn Gadeirydd Cymru Fyd-eang, yn Is-gadeirydd Prifysgolion Cymru, ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr UCAS, Cynghrair y Prifysgolion, a Chyngor CBI Cymru.

“Ar ôl ystyriaeth ofalus, rydw i wedi penderfynu ymddeol yr haf nesaf ar ddiwedd fy nhymor cyntaf yn y swydd,” meddai Dr Ben Calvert.

“Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu’r Brifysgol anhygoel hon, ac rwy’n falch o’r effaith rydyn ni’n ei chael, ddydd ar ôl dydd, ar y bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Meddai Louise Evans, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr PDC: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ben am ei arweinyddiaeth, ei ymroddiad a’i weledigaeth drwy un o’r cyfnodau allanol anoddaf mae’r sector Addysg Uwch wedi’i wynebu. Bydd ei gyfraniad i Brifysgol De Cymru yn cael effaith barhaol, a dymunwn y gorau iddo yn y dyfodol.”

Bydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol De Cymru nawr yn dechrau chwilio am Is-Ganghellor newydd i arwain y Brifysgol ac mae’n bwriadu penderfynu ar benodiad yn yr hydref.